Hafan

Hafan

Croeso i wefan Cristnogaeth 21
Mae’r dewisiadau uchod yn eich arwain i wahanol adrannau o fewn y wefan.

cristnogaeth21logocul

Amdanom Ni:
Dewch yma i ddysgu rhagor am Cristnogaeth21

 

    bwrddclebranbachBwrdd Clebran:
Yma y byddwn yn cyfnewid negeseuon. Mae’r adran Y Fforwm yn cynnwys yr e-fwletin wythnosol, ac yn rhoi cyfle i chi ymateb i’r neges. Ar y llaw arall, mae’r adran Materion Cyfoes yn gyfle i godi unrhyw bwnc dan wyneb haul.

 

Agora 2016 04Agora:

Dyma lle y gwelwch ein cylchgrawn digidol misol. Medrwch ei ddarllen fel pdf neu ddilyn pob erthygl unigol drwy wasgu ar y dolenni perthnasol.

 

 

 Newspapers 2 Newyddion:    

Bob hyn a hyn, byddwn yn trefnu encil, cynhadledd flynyddol neu gyfarfod arall. Bydd yr holl fanylion yn ymddangos yma. Mae croeso i fudiadau eraill anfon eitemau newyddion atom i gael eu cynnwys yn yr adran hon.

 

 Archif:     Ar y botwLlyfraum Archif, rydym wedi cynnwys pedair adran. Cewch weld yr holl erthyglau sydd wedi ymddangos ar ein gwefan yn y gorffennol, yn ogystal â’r negeseuone-fwletin a ddosbarthwyd dros y blynyddoedd, a chasgliad o ddolenni a fedrai fod yn ddefnyddiol. Yn olaf, fe welwch yma hefyd gasgliad o negeseuon a ddaeth i law am y wefan yn gyffredinol.

Croeso atom, a gobeithio y byddwch yn mwynhau’r wefan.  

Y LLUN AR FRIG Y WEFAN

Dywedwyd gennym wrth lansio’r wefan newydd y byddem, o dro i dro, yn newid y ddelwedd sydd ar y brig.  Rydym felly’n ffarwelio â’r llun o Abaty Iona oedd yn canolbwyntio ar gerflun Lipchitz, ac yn cyflwyno darlun o’r arfordir yma yng Nghymru, gyda’r adar yn ymgasglu adeg y machlud.  

Tynnwyd y llun gan y ffotograffydd Iestyn Hughes, Bow Street, ac rydym yn ddiolchgar iddo am ganiatâd i’w ddefnyddio.

 

CEFNDIR CRISTNOGAETH 21

Sefydlwyd Cristnogaeth 21 yn y flwyddyn 2007, a dilynwyd hynny gyda chreu gwefan a lansiwyd yn swyddogol ar Ragfyr 1af 2008. Denodd hynny gryn sylw ar y radio, ar deledu, yn y cylchgronau enwadol ac mewn papurau dyddiol ac wythnosol. Y bwriad oedd cyhoeddi erthyglau ar wahanol bynciau fel bod modd cael llwyfan i safbwyntiau nad ydynt yn cael sylw yn y papurau enwadol.

Maes o law, dechreuwyd dosbarthu neges wythnosol drwy e-bost i bawb sydd wedi mynegi dymuniad i’w  derbyn, sef cyfanswm o tua 250 o bobl i gyd. Dyma’r e-fwletin wythnosol fel y byddwn ni’n cyfeirio ato. Caiff y neges hon ei hysgrifennu gan griw o tua 30 o unigolion sy’n cymryd eu tro i’w llunio, ac mae’r ymateb i’r negeseuon hyn yn gynnes a chefnogol iawn, hyd yn oedd os nad yw pawb yn cytuno â’r cynnwys bob tro. Os hoffech chi dderbyn yr e-fwletin, neu fod yn un o’r awduron, rhowch wybod i ni.

Efallai mai’r cam mwyaf cyffrous ar y wefan oedd agor y Bwrdd Clebran, sef fforwm i drafod gwahanol safbwyntiau yn onest ac agored, heb i unrhyw un deimlo ei fod ef neu hi yn cael eu beirniadu am beidio coleddu syniadau sydd, fel arfer, yn perthyn fwy i’r brif ffrwd ddiwinyddol yng Nghymru.

Facebook-create

Erbyn hyn, mae dros 180 o bobl yn ein dilyn ar Facebook, ac rydym yn ddiolchgar i’r criw bach diwyd sy’n cynnal y presenoldeb hwnnw.

 

Os hoffech chi ymuno â’r grŵp hwn, ewch draw i dudalen Facebook i ymuno yn y sgwrs.

https://www.facebook.com/groups/673420236088661/?fref=ts