AGORA

AGORA

AgorabBydd pob rhifyn o’r cylchgrawn yn ymddangos yma.
Medrwch ei weld yn ddigidol, fesul erthygl rhyngweithiol.
 

 

Agora mis Rhagfyr 2017 YMA

Agora mis Tachwedd 2017 YMA

Agora mis Hydref 2017 YMA

Agora mis Medi 2017 YMA

Agora mis Awst 2017 YMA

Agora mis Mehefin 2017 YMA

Agora mis Mai 2017 YMA

Agora mis Ebrill 2017 YMA

Agora mis Mawrth YMA

Agora mis Chwefror YMA

 Agora mis Ionawr YMA

Agora mis Rhagfyr YMA

Agora mis Tachwedd  YMA

Agora mis Hydref  YMA

Agora mis Medi  YMA

Agora mis Gorffennaf / Awst  YMA

Agora mis Mehefin YMA

Agora mis Ebrill:  YMA

Agora mis Mai:   YMA

 

Pam Agora?  

Man agored, medd y geiriadur; man cyfarfod yn yr iaith Roeg, y man lle’r aeth Paul ati i geisio mynegi’r newyddion da mewn iaith seciwlar, sef iaith ei gyfnod. Mae’n disgrifio’n dda amcan y fenter hon i greu cylchgrawn digidol Cymraeg fydd o ddiddordeb a bendith i bawb y mae enw Iesu yn bwysig iddyn nhw (er bod capel ac eglwys yn eu digalonni). Y gobaith yw y daw yn fan agored a diogel i bobl holi a thrafod, man lle y gellir anghytuno heb ddigio, heb ymosod, heb gondemnio, ac yn sicr heb sarhau na bwrw neb allan. Yn yr hen Agora yr ymdrechodd Paul i gyfathrebu â chymdeithas amlddiwylliannol Athen, lle roedd yn bosibl i bawb a phob un fynegi ei syniadau a chael gwrandawiad.

O newid pwyslais o’r sill cyntaf i’r ail, mae ystyr pellach i Agora sydd hefyd yn ferf orchmynnol Gymraeg. Agora ddrws i fyd sy’n newid yn garlamus, agor meddyliau i ddulliau mynegiant newydd, ac agor calonnau i’n profiadau tra amrywiol ni, Gymry Cymraeg a’n cyfeillion heddiw. Mae fel gyrru car: mynd ymlaen, ond gan gadw llygad ar y drych sy’n dangos beth ddigwyddodd y tu cefn i ni.

Rydyn ni’n mentro lansio ‘cylchgrawn digidol’ ar wefan Cristnogaeth21 gan obeithio y gallwn ddatblygu a gwneud y gorau o’r posibiliadau technegol newydd sy’n agored i ni.

Yn ei erthygl i rifyn cyntaf Agora, roedd Aled Jones Williams yn rhoi cip i ni ar y gymdeithas sy’n bod yng Nghymru heddi, Cymru dra gwahanol i’r Gymru draddodiadol fytholegol a fu’n llawer iawn mwy amrywiol ei haelodau nag yr oedd y myth yn caniatáu. A ninnau Gristnogion wedi colli’r hawl i orchymyn a deddfu, be wnawn ni i godi amgenach pabell pan yw’r cyfundrefnau eglwysig yn glynu wrth ieithwedd y bymthegfed ganrif a ninnau, er gwell neu er gwaeth, yn meddwl sut y gall Iesu gael ei glywed un ganrif ar hugain ers ei groeshoelio gan rymoedd crefydd ac ymerodraeth?

 

Bwrdd Golygyddol:

Enid Morgan, Pryderi Llwyd Jones,

Marian Beech Hughes, Emlyn Davies.