Agora 33 mis Mehefin-Gorffennaf 2019

Agora rhif 33 mis Mehefin – Gorffennaf  2019

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Ar drothwy’r cynadleddau…
Pryderi Llwyd Jones

Cynhadledd Flynyddol C21

Yr Ysbryd ar Waith
Addaswyd o waith Richard Rohr a Mike Morrell, The Divine Dance: The Trinity and Your Transformation

Aramaes grwydrol oedd fy mam
Mother Thunder Mission, UDA
cyf. Rwth Tomos

Credo gwragedd
cyfieithiad o waith Rachel C. Wahlberg, UDA 

Credo Iona

Gweddi cyn darlith

Treigla ymaith y maen
Janet Morley, cyf. Mair Bowen

  • Treigla ymaith y maen

    TREIGLA YMAITH Y MAEN

    Pan gyrhaeddwn ben ein tennyn;
    pan fo’r byd yn llawn gofidiau;
    pan na welwn y ffordd ymlaen
    a’n gobaith wedi pylu:
                 Treigla ymaith y maen.

    Er inni ofni newid;
    er mai amharod ydym;
    er mai gwell fyddai gennym wylo
    a rhedeg i ffwrdd;
                Treigla ymaith y maen.

    Am inni ddod gyda’r gwragedd;
    am inni obeithio lle mae gobaith yn gwegian;
    am i ti’n galw ni o’r bedd a dangos inni’r ffordd;
                Treigla ymaith y maen.

    Janet Morley, cyf. Mair Bowen

    Rhagor
  • Credo Iona

    CREDAF

    Credaf yn y Duw byw,
    rhiant holl deulu’r ddaear,
    sy’n creu ac yn cynnal
    y bydysawd mewn nerth ac mewn cariad.

    Credaf yn Iesu Grist,
    Duw yn gnawd ar y ddaear,
    a dangosodd i ni drwy

                ei eiriau a’i waith

                ei ddioddefaint gydag eraill

                ei goncwest dros farwolaeth

    sut y dylai bywyd fod
    a sut un yw Duw.

    Credaf fod Ysbryd Duw
    gyda ni
    yn awr a phob amser,
    ac y cawn brofiad ohoni
    mewn gweddi, mewn maddeuant,
    yn y Gair, yn y Sacramentau,
    yng nghymdeithas yr eglwys
    ac ym mhob peth a wnawn.

    Amen.

     

    Rhagor
  • Aramaes grwydrol oedd fy mam

    ARAMAES GRWYDROL OEDD FY MAM

    Aramaes grwydrol oedd fy mam,
    Esgorodd ar gaethweision yn yr Aifft
    Galwodd wedyn ar Dduw ein mamau,
    Sara, Hagar, Rebeca, Rahel, Lea,
    Molwch Dduw sy’n gwrando am byth.

    Rhyfelwraig, barnwraig, putain oedd fy mam.
    Defnyddiodd Duw hi yn achlysurol.
    Rhoddodd beth oedd ganddi yn fodlon,
    Raheb, Jael, Debora, Judith,
    Molwch Dduw sy’n derbyn am byth.

    Gwyryf o Galilea oedd fy mam.
    Esgorodd ar ein Bywyd a’n Gobaith.
    Trywanwyd ei henaid hithau gan gleddyf hefyd.
    Mair, bendigedig ymhlith gwragedd, mam Duw,
    Molwch Dduw, sy’n caru, am byth.

    Tyst i Atgyfodiad Crist oedd fy mam.
    Adroddodd beth ddwedodd yr angylion,
    Chwedl ddi-sail ym marn yr apostolion,
    Mair, Mair Magdalen, ...

    Rhagor
  • Kairos

    Ar drothwy Cynadleddau Blynyddol yr enwadau Cymraeg

    Kairos

    Detholiad o Ddarlith Goffa Lewis Valentine a draddodwyd yn Undeb y Bedyddwyr, 11 Mehefin 2018

     Rwyf am ddechrau â dau ddatganiad.

    1 Yr Almaen, 1934

    Ym Mai 1934 cyhoeddodd nifer o Gristnogion yn yr Almaen Ddatganiad Barmen. Karl Barth oedd awdur y drafft terfynol, ond fe fu Bonhoeffer hefyd yn cyfrannu tuag at ei lunio. Mewn chwe chymal yr oedd yn datgan mewn iaith glir mai eiddo Crist yw’r eglwys ac nad oes gan neb na dim arall awdurdod arni na’r hawl i’w meddiannu. Mae’r datganiad yn safiad dewr yn erbyn Hitler, ond mae hefyd yn dweud ...

    Rhagor
  • Gweddi cyn darlith

    Gweddi cyn darlith

     Arglwydd, dyma ni.
    Ein pennau’n llawn gwybodaeth,
    Yn tybio’n bod ni’n gwybod amdanom ni’n hunain,
    Yn ymhonni gwybod amdanat Ti.

    Cofleidiwn ein credoau a’n hargyhoeddiadau
    Amdanat.
    Rydyn ni’n byw orau y medrwn ni
    gan dy gadw Di led braich,
    draw oddi wrth ein duwioldebau bach,
    Ein mân ddefodau,
    Ein hathrawiaethau,
    Ein moesau a’n hideoleg
    A’n rhagfarnau cuddiedig.
    Ond mae ofn arnom ni, ofn cywilydd, ofn ein dicter,ofn ein bod wedi adeiladu tŷ ar dywod,

    Ond dyma Ti eto.
    Ti sy’n galw, yn dysgu, yn cywiro,

    Allwn ni ddim dy gadw Di led braich am byth.
    Dy bresenoldeb Di – y tu hwnt, yr Arall-arall,
    yr Ydwyf tragwyddol
    Yn ein ...

    Rhagor
  • Credo gwragedd

    CREDO GWRAGEDD

    Credaf yn Nuw, a greodd wraig a gŵr ar ddelw Duw,
    a greodd y byd ac a roddodd i’r ddau ryw ofal dros y ddaear.

    Credaf yn Iesu, plentyn i Dduw, a aned o’r eneth Mair;
    a wrandawodd ar wragedd ac a’u hoffai hwy,
    a ddilynwyd ac a ymgeleddwyd gan disgyblion benywaidd.

    Credaf yn Iesu a drafododd ddiwinyddiaeth gyda dynes gerllaw ffynnon,
    ac a rannodd gyda hi, gyntaf, gyfrinach ei alwedigaeth fel Meseia,
    a’i hanogodd i fynd a chyhoeddi’r newyddion da yn y ddinas.

    Credaf yn Iesu a dderbyniodd ei eneinio gan ddynes yn nhŷ Seimon,
    ac a geryddodd y gwahoddedigion gwrywaidd a’i sarhaodd.
    Credaf yn Iesu a ddwedodd y ...

    Rhagor
  • Yr Ysbryd ar Waith

    Yr Ysbryd ar Waith

     Anfonir yr Ysbryd Glan i’r bydysawd cyfan ac ers y creu bu’n trawsnewid y cwbl, gan ei symud ymlaen i’w atgyfodiad terfynol … Yr un ysbryd sy’n adnewyddu’r ddynoliaeth … Rhaid i’r ddynoliaeth newydd hon gyffroi’r holl genhedloedd, pob un yn ôl ei hamrywiaeth. Mae’r Ysbryd yn undod nad yw’n mynnu unffurfiaeth.

    Jose Comblin, The Holy Spirit and Liberation (Wipf & Stock Publishers, 1989), 75

    O’r Canoloesoedd i’r Aroleuo a’r diwygiadau i gyd bu Cristnogion yn frwd yn disgwyl ‘Oes yr Ysbryd’. Ond rwy’n credu bod pob cyfnod hanesyddol wedi bod yn oes yr Ysbryd. Mae’r cread yn dal i ymagor (Rhufeiniaid 8:19–25). Nid yw esblygiad y sêr, y ...

    Rhagor
  • Cynhadledd Flynyddol C21

    Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21

    ‘Wynebu Yfory mewn Ewrop Newydd’

    Dydd Sadwrn, 6 Gorffennaf
    Capel Salem, Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QF

    Cyfranwyr:
    Dr Aled Eirug
    Y Parchg Gethin Rhys
    Dr Elin Royles

    Tâl Cofrestru: £10 ar y dydd
    Gofynnir i bawb ddod â’u cinio eu hunain

     

    Trefn y Dydd

    10:00 Cyrraedd, Cofrestru a Choffi
    10:30 Defosiwn Agoriadol: Y Parchg T. Evan Morgan, Ysgrifennydd C21
    10:40 Gair o groeso gan y Parchg Ganon Enid Morgan, Cadeirydd C21
    10:45 Dr Aled Eirug
    11:45 Dr Elin Royles

    12:45 Cinio

    13:30 Y Parchg Gethin Rhys
    14:30 Seiat Holi (Cadeirydd: Geraint Rees)
    15:15 Cyfarfod Blynyddol Cristnogaeth 21
    15:45 Ymadael

    Rhagor