Agora 40 mis Gorffennaf-Awst 2020

Agora rhif 40 mis Gorffennaf – Awst 2020

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Apêl Ariannol C21

Credo’r Mewnfudwr
José Luis Casal. Cyf Anna Jane Evans

Myfyrdod am ddod allan o’r Cloi-lawr
John Gwilym Jones

Gobaith gobaith
Pryderi Llwyd Jones

Byw ar ffiniau (1)
Enid Morgan

Epynt
Angharad Tomos

Gweddi ar gyfer heddiw
Nadia Bolz-Weber

Gwirioneddau consensws y 70au
Geraint Rees

  • Credo’r Mewnfudwr

    Credo’r Mewnfudwr

    Credaf yn Nuw Hollalluog,
    a arweiniodd y bobl mewn alltudiaeth ac mewn ecsodus,
    Duw Joseff yn yr Aifft a Daniel ym Mabilon,
    Duw’r estroniaid a’r mewnfudwyr.

    Credaf yn Iesu Grist, Galilead wedi ei ddadwreiddio,
    a anwyd ymhell o’i bobl a’i gartref,
    a ffodd o’i wlad gyda’i rieni pan oedd ei fywyd mewn perygl.
    Pan ddychwelodd i’w wlad fe ddioddefodd dan ormes Pontius Pilat,
    gwas i rym estron.
    Dioddefodd orthrwm, cafodd ei guro, ei arteithio a’i roi i farwolaeth anghyfiawn.
    Ond ar y trydydd dydd cododd Iesu o farw,
    nid fel estron dirmygedig ond er mwyn cynnig i ni ddinasyddiaeth yn nheyrnas Dduw.

    Credaf yn yr ...

    Rhagor
  • Gobaith gobaith

    Gobaith gobaith
    Pryderi Llwyd Jones

    Oes, mae dwy enfys. Edrychwch yn fwy manwl. Diwrnod angladd John Lewis oedd hi ac yr oedd Nancy Pelosi yn honni bod y ddwy yn adewyrchu ar ei arch. Ers misoedd bellach yr ydym wedi

    gweld llun o’r enfys ym mhobman fel arwydd o obaith wedi’r Cofid 19. Ond mae dwy enfys yn wahanol. I lawer o Gymry – ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu yn y diffyg sylw a roddwyd iddo ar ein cyfryngau Cymraeg pan fu farw – byw yng nghysgod Martin Luther King a wnaeth John Lewis. Yr oedd yn un o’r chwech (a’r ieuengaf) a orymdeithiodd ar ...

    Rhagor
  • Apêl Ariannol Cristnogaeth 21

    Apêl Ariannol Cristnogaeth 21

    Fel y gwyddoch, does dim tâl aelodaeth am gael ymuno â Cristnogaeth 21, ac ni fyddem yn dymuno i bethau fod yn wahanol. Mae’n bwysig bod ein holl ddeunyddiau ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn i bawb gael cyfle i ddarllen yr erthyglau ar y wefan a medru mwynhau’r negeseuon sy’n cael eu rhannu yn yr e-fwletin ac ar y dudalen Facebook. Y nod yw cyrraedd y nifer mwyaf posibl o gefnogwyr, ond byddai codi tâl aelodaeth yn eithrio rhai pobl ac yn cyfyngu ar y niferoedd. Yr unig dro y byddwn yn gorfod ...

    Rhagor
  • Gweddi ar gyfer heddiw

    Gweddi ar gyfer heddiw gan Nadia Bolz-Weber

    Duw a’n gwnaeth ni oll,

    Mae ein cysurwyr wedi hen ymlâdd. Rho orffwys i’r rhai sy’n gofalu am y cleifion.

    Mae ein plant wedi diflasu, Dduw. Rho fwy o greadigrwydd i’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw.

    Mae ein ffrindiau yn unig, Dduw. Helpa ni i estyn llaw.

    Mae ein bugeiliaid yn gwneud y gorau y gallan nhw, Dduw. Helpa nhw i wybod fod eu gofal yn ddigon.

    Mae ein gweithwyr mor aml nawr yn ddi-waith, Dduw. Caniatâ i ni ddatblygu moeseg gymunedol i ni gydofalu am ein gilydd.

    Mae cymaint o rieni wedi diflasu wrth fod yn gaeth i’w cartrefi gyda’r plant. Dduw, rho i ...

    Rhagor
  • Myfyrdod am ddod allan o’r Cloi-lawr

    Myfyrdod am ddod allan o’r Cloi-lawr

    Ni wyddom beth fydd pen draw’r pla sydd wedi ymosod ar ein byd ni. Mae fel rhyw anifail rheibus sydd hefyd yn anifail cyfrwys. Mae fel petai’n llechu’n guddiedig, yn barod i neidio o’i guddfan, fel y gwnaeth rai dyddiau yn ôl ym Manceinion, ac wedyn mewn mannau eraill. Ond mae’r mannau ar hyn o bryd yn ymddangos yn bell o Gymru fel na theimlwn ni ddychryn y posibilrwydd. Mae’r to iau hefyd yn sylweddoli mai ninnau’r hen a’r methedig sy’n cael eu taro’n angheuol; felly teimlant y gallant hwy gwmnïa’n ddihidio, gan ...

    Rhagor
  • Byw ar ffiniau

    BYW AR FFINIAU
    Traethodau gan Enid Morgan

    Croesi Ffiniau

    Mae’n syndod na chafodd yr Eglwys Fore ei llongddryllio yn ei hanner can mlynedd cyntaf. Mae’r dadleuon tanbaid yn edrych yn ddigon od i ni – naill ai’n astrus a dibwys, neu hyd yn oed yn ddoniol. A oedd angen i Gristnogion newydd ufuddhau i ddeddfau bwyd yr Iddewon? Oedd angen rhoi’r gorau i fwyta cig moch a chimwch? Ai brad oedd i Gristion Iddewig fynd i dŷ Rhufeiniwr? A ellid caniatáu paentio darlun o’r Iesu? A ddylai gwragedd guddio’u gwallt? Ac a oedden nhw’n aflan ar ddyddiau misglwyf? Yn benodol a phoenus, a oedd enwaediad yn rheidrwydd i ...

    Rhagor
  • Gwirionedd consensws y 70au

    Gwirioneddau consensws y 70au …

    Rwy’n blentyn y chwedegau, ac o ganlyniad i’r wlad fach lle’n magwyd, y teulu a’r capel fu’n aelwydydd i mi a’r ffrindiau lluosog oedd gan fy rieni ar hyd a lled y wlad, fe gyflwynwyd rhai pethau i mi fel plentyn fel gwirioneddau tu hwnt i amheuaeth. Y gwirionedd canolog diwinyddol yn ein tŷ ni oedd hawl pawb i holi cwestiynau, heb setlo am atebion fformiwla parotaidd. Y gwirioneddau eraill non-negotiable oedd bod pob person yn gydradd, pob hil yn gydradd, bod bywyd yn well wrth wasanaethu nag wrth eistedd yn ôl a gadael i eraill wneud y gwaith. Eiconau ein cartref oedd Donald Soper ...

    Rhagor
  • Epynt

    BETH I’W WNEUD AG EPYNT?
    neu
    ‘GO HOME, SAVE LIVES’

    Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tipyn o sylw wedi ei roi ar y cyfryngau ac yn y wasg i gofio Epynt a’r 80 mlynedd ers y ‘Chwalu’. Un o’r cyfryngau mwyaf effeithiol fu tudalen Facebook, ‘Atgofion Epynt’, a sefydlwyd ddiwedd Mawrth ac sydd bellach efo 800 o ddilynwyr.

    I’r sawl na ŵyr yr hanes, aeth y Weinyddiaeth Amaeth i gymdogaeth Epynt ym Mawrth 1940 a rhoi gwybod i aelodau’r gymdogaeth fod angen iddynt symud o’u tai o fewn deufis, gan fod eisiau’r tir ar y Fyddin fel maes tanio. Cwynodd y trigolion fod hyn yn amhosib oherwydd ei bod ...

    Rhagor