Agora 41 mis Medi – Hyfref 2020

Agora rhif 41 mis Medi – Hydref 2020

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Apêl Ariannol C21

Piwritaniaeth hen a newydd
Gethin Rhys

Adeiladu’n well – adferiad gwyrdd Cymru
John P Butler

Trefnu Cymunedol Cymru – dathlu chwarter canrif
Nia Higginbotham

Diolch, Emyr Humphreys
Pryderi Llwyd Jones

Amserau da, amserau gwael
Gwilym Huws

Gair o’r Unol Daleithiau
Ann Griffith

Grym a Gwleidyddiaeth (3)
Enid Morgan 

Rhown ei le teilwng i’r emyn mewn oedfa – ond…
Dr Neville Evans

Nid llenwi bwlch … diolch, Elfed
Pryderi Llwyd Jones

Rho inni ras i daenu’r wawr
gan y meddyg teulu, Dr Catrin Elis Williams

Byw ar ffiniau (2)
Enid Morgan

Diwinyddiaeth Paul (Adolygiad)
Glyn Tudwal Jones

  • Piwritaniaeth hen a newydd

    Piwritaniaeth hen a newydd

    Eleni yw 400 mlwyddiant hwylio’r Mayflower i America, yn cludo piwritaniaid Prydeinig oedd yn awyddus i addoli a byw yn eu ffordd eu hunain yn y Byd Newydd. Fe drefnwyd pob math o ddathliadau ar gyfer yr achlysur, ond wrth gwrs – yn groes i bob disgwyl – fe brofodd yn anos dathlu yn 2020 nag y bu i hwylio yn 1620.

    Un peth fu’n bosibl bryd hynny a heddiw yw cyhoeddi llyfrau, ac es i ati i ddarllen cyfrol arbennig Stephen Tomkins, The Journey of the Mayflower: God’s Outlaws and the Invention of Freedom (Hodder & Stoughton, ...

    Rhagor
  • Adeiladu’n well – adferiad gwyrdd i Gymru

    Ailadeiladu’n well: adferiad gwyrdd i Gymru

    Daeth y byd oddi wrth Dduw – neu o rywle o leiaf – ac mae ein rhywogaeth ni wedi canfod y gallwn wneud fel y mynnwn ag o. Ond rydyn ni bellach yn cyfrif y gost. Rydyn ni wedi llygru’r awyr, wedi ysbeilio’r ddaear, a chreu anghyfartaledd dwys sy’n arwain at fudo mawr. Rydyn ni wedi gormesu rhywogaethau eraill a gwenwyno’r moroedd. Mae ein chwant a’n hawydd am ryddid dilyffethair wedi achosi difrod byd-eang.

    Ond mae natur bellach yn talu ’nôl. Nid cosb yw Covid – mae’n ganlyniad ein teithio direol, ein triniaeth dreisgar o anifeiliaid gwyllt, ein bod mor farus, chwalfa amgylcheddol a’r ...

    Rhagor
  • Amserau da, amserau gwael

    AMSERAU DA,
                        AMSERAU GWAEL

    Dyna, o’i gyfieithu i’r Saesneg, oedd teitl llyfr dadlennol gan Syr Harold Evans yn cloriannu ei brofiadau fel golygydd y Sunday Times rhwng 1967 a 1981. Yn ystod yr wythnos hon cyhoeddwyd teyrngedau lu iddo yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth yn 92 mlwydd oed. Er mai yn Eccles ar bwys Manceinion y cafodd ei eni yn 1928, roedd ei daid, John Evans, yn hanu o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Disgrifiodd Harold ei rieni fel aelodau parchus o’r dosbarth gweithiol – ei dad, Frederick Evans, yn yrrwr ...

    Rhagor
  • Grym a Gwleidyddiaeth

    Grym a Gwleidyddiaeth: Duw ar y Ffin
    Enid R Morgan

    Maen nhw’n dweud nad oes unrhyw werth ‘hanesyddol’ yn y casgliad o straeon a elwir yn ‘Bucheddau’r Saint’. Dydyn nhw ddim o werth i neb, yn ddim ond propaganda eglwysig yn y frwydr o hawlio tir, awdurdod neu ddysgu gwersi moesol. Ond, am y tro, gadewch i ni’n syml fwynhau stori o’n gorffennol pell. Awn yn ôl i’r cyfnod cythryblus hwnnw a ddilynodd ymadawiad y Rhufeiniaid pan oedd trefn cyfraith wedi darfod a mân lwythi a gangiau treisgar yn ymladd ei gilydd fel gangiau rhyfel yn Afghanistan neu ddinasoedd Ewropeaidd.

    Dywedir bod Gwynllyw Farfog yn ‘dywysog’. Yr ...

    Rhagor
  • Nid llenwi bwlch

    Nid llenwi bwlch …

    Diolch, Elfed.

     Mae Epilogau’r Ifanc, a gyhoeddwyd yn 1969 gan Elfed ap Nefydd Roberts, yn gyfrol arwyddocaol iawn. Mae’n wir iddi ennill gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol am arweiniad i weithgarwch ieuenctid yn yr eglwysi, ond ffrwyth naw mlynedd o weinidogaeth mewn eglwys Saesneg yn Llanelli ydoedd mewn gwirionedd. Hon oedd yr eglwys gyntaf yng ngweinidogaeth Elfed. Roedd yr epilog ar ddiwedd y Clwb Ieuenctid yn bwysig iawn iddo. Mae’n siŵr i’w arweinaid yn yr addoli o Sul i Sul fod yn gyfoethog a’i fod yn bregethwr arbennig yn y cyfnod cynnar hwnnw – ond ni chyhoeddwyd ei bregethau, a dim ond yr epilogau sy’n ...

    Rhagor
  • Rho inni ras i daenu’r wawr

    “Rho inni ras i daenu’r wawr”

    gan y meddyg teulu, Dr Catrin Elis Williams

    Oherwydd y pandemig, mae llawer ohonom wedi bod yn treulio llawer mwy o amser na’r arfer yn ein cartrefi. I’r rhan fwyaf ohonom, mae’r cartref a’r aelwyd yn fan diogel – noddfa’n wir, sy’n egluro pam bod noddfa yn rhan o enwau cymaint o dai yng Nghymru – ac yn enw ar ambell i gapel hefyd. Pan euthum i oddi cartref am y tro cyntaf, yn ddwy ar bymtheg oed i’r brifysgol, roedd Capel Noddfa, Didsbury, ym Manceinion, yn fan lle deuthum i o hyd i rywle cartrefol, lle roeddwn i’n teimlo’n ddiogel yng nghwmni Cymry ...

    Rhagor
  • Trefnu Cymunedol Cymru – dathlu chwarter canrif

    Ddechrau’r mis cynhaliwyd cyfarfod arbennig iawn – efo dros 150 o bobl ar Zoom i ddathlu chwarter canrif o waith TCC (Trefnu Cymunedol Cymru). Er mai yn siroedd Wrecsam, Fflint a Dinbych y mae’r gwaith yn digwydd yn bennaf, mae ei effeithiau wedi’u gweld ledled Cymru (e.e. Cymru Masnach Deg, a’r ymgyrch ddiweddar Dysgu nid Llwgu sydd wedi sicrhau ymrwymiad gan Senedd Cymru i gynyddu’r lwfans prydau ysgol am ddim er mwyn galluogi plant i brynu brecwast a chinio yn yr ysgol bob dydd). Yn y cyfarfod dathlu, yng nghwmni Mark Drakeford, dyma glywed ychydig o ...

    Rhagor
  • Diolch, Emyr Humphreys

    Diolch, Emyr Humphreys

    Mae hen bobl yn broblem.

    Nid oes amheuaeth nad Emyr Humphreys oedd y Cymro Cymraeg a gyhoeddodd fwyaf o gyfrolau Saesneg erioed, fel nofelydd, dramodydd, bardd a hanesydd. Bu farw ar 29 Medi yn 101 oed. Ef yn wir, fel hanesydd, sydd wedi olrhain ein hanes (yn arbennig yn y Taliesin Tradition) gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol mewn ffordd ddifyr a goleuedig i’r di-Gymraeg ac ef fel nofelydd, yn arbennig yn ei nofel Outside the House of Baal, sydd wedi portreadu dirywiad ein traddodiad anghydffurfiol. Cyhoeddwyd y nofel honno yn 1965, ac er bod ei bortread o gyflwr anghyffurfiaeth ...

    Rhagor
  • Gair o’r Unol Daleithiau

    Gair o’r Unol Daleithiau 

    Heb os nac oni bai, dyma’r cyfnod anoddaf yn fy mywyd i: Covid, gorllewin yr Unol Daleithiau’n llosgi a’r aer yn afiach i’w anadlu ac yn amhosibl gweld drwyddo mewn mannau, celwyddgi yn arlywydd, a chelwydd yn cael ei hybu ym mhob man, gwyddoniaeth yn cael ei hanwybyddu, cwestiynau mawr am yr etholiad a dyfodol democratiaeth ym mhob man. Heb sôn am hiliaeth, yr heddlu’n cam-drin pobl liw, plant yn dal i gael eu cadw mewn caets, diweithdra, addysg …

    Yn wyneb hyn i gyd, mae’r capel rydw i’n aelod ohono yn dal ei dir: tydi maint y gynulleidfa ddim wedi lleihau, na maint y casgliad ...

    Rhagor
  • Rhown ei le teilwng i’r emyn mewn oedfa, ond …

    Dr Neville Evans yn mynegi barn

    “Rhown ei le teilwng i’r emyn mewn oedfa, ond …”

    Ym mis Ionawr eleni, yn unol â hen arfer, anfonodd y Parchedig Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, lythyr Blwyddyn Newydd at eglwysi’r Undeb. Ymhlith ei gyfarchion estynnodd her, sef i bob eglwys arloesi trwy wneud un peth newydd a gwahanol. Yn ôl Mr Rees, hyn sy raid neu farw.

    Mewn ymateb, anfonais lythyr a gyhoeddwyd yn Y Tyst. Byrdwn fy sylwadau oedd y dylem, wrth arloesi, ganu llai ar emynau a darllen mwy arnynt; gall hyn olygu canu llai o emynau. Y gwir yw doeddwn i ddim ar ...

    Rhagor
  • Diwinyddiaeth Paul

    GWERTHFAWROGIAD AC ADOLYGIAD

    Diwinyddiaeth Paul, gan gynnwys sylw arbennig i’w ddehonglwyr Cymreig, John Tudno Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 2020, 230tt, £17.99

    ‘Gair o werthfawrogiad sydd eisiau,’ meddai Golygydd hynaws Y Goleuad wrth iddo geisio fy mherswadio i adolygu’r gyfrol hon: gwerthfawrogiad o gyfraniad sylweddol yr Athro John Tudno Williams i fywyd academaidd Cymru ac i’r Cyfundeb dros y blynyddoedd. Ar yr amod hwnnw y cytunais i dynnu sylw at y gyfrol, oherwydd mae yna rai llawer mwy cymwys na mi i ysgrifennu adolygiad teilwng o waith ysgolheigaidd fel hwn, ac edrychwn ymlaen at ddarllen eu sylwadau mewn cylchgronau eraill maes o ...

    Rhagor
  • Byw ar ffiniau 2

    Byw ar ffiniau ii

    Y Boncyff Magu: Coed a Phobl

    Cefais wahoddiad ym 1997, fel llawer o weinidogion eraill, i bregethu yng Nghymanfa Ganu Cymry Gogledd America. Seattle oedd y man dewisol y flwyddyn honno. Profiad od i Gymraes oedd cyrraedd y Gymanfa a’i chael ei hun ynghanol Americaniaid o dymer reit Republican. (Nid gweriniaethwyr yn yr ystyr Gymraeg mohonynt!) Nid ydynt mor danbaid ynglŷn â’u gwreidddiau â’r Gwyddyl Americanaidd, ond pan maen nhw’n canu emynau, fe wyddocch chi mai Cymreig ac ymneilltuol yw eu tras. Maen nhw’n canu emynau fel yr oedd pobl yn eu canu drigain mlynedd yn ôl. Mae eu Cymreictod fel petai wedi cael ei hidlo ...

    Rhagor