Agora rhif 44 mis Mawrth – Ebrill 2021
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Eglwys fy mreuddwydion
Anna Jane Evans
Edifeirwch y ddwy ddyletswydd 😉
Pa fath o ddiwygiad a ddaw nesaf (rhan 2)
John Gwilym Jones
Cennad a Thyst
Pryderi Llwyd Jones
Pa fath ddiwygiad a ddaw nesaf?
John Gwilym Jones
Fe Ddylem fod wedi gwrando ar JP
Pryderi Llwyd Jones
Crefydd, Moeseg a Chyfraith: perygl ceidwadaeth grefyddol
Stephen J Preston
Emyn Gŵyl Dewi
(John Pinion Jones)
Edifeirwch y ddwy ddyletswydd (gydag ymddiheuriad i Luc 18)
RhagorEdifeirwch y ddwy ddyletswydd (gydag ymddiheuriad i Luc 18)
Dau ŵr aeth i fyny i’r deml i wneud eu gwaith, y naill yn offeiriad a’r llall yn blisman.
Yr offeiriad o’i sefyll a weddïodd: “O Dduw, rwy’n diolch nad wyf i fel y plisman hwn, yn ddigywilydd ac yn ddiedifar. Rwy’n arwain gwasanaeth ddwywaith yr wythnos, ac mae hawl gen i i anwybyddu mân reolau dynol am wisgo masg a chadw pellter.”
Eithr y plisman, wedi iddo fynd yn ôl i’r stesion, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef, eithr efe a gurodd ei ddwyfron a dywedyd wrth yr Inspector, “O bòs, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.”
Prun ...
Pa fath ddiwygiad (2)
RhagorPa fath ddiwygiad (2)
Un arall a oedd yn amlwg yn y cyfnod yn arwain at y Diwygiad oedd Seth Joshua. Roedd ef a’i frawd Frank wedi eu hachub yn un o gyfarfodydd Byddin yr Iachawdwriaeth, ac yn eu gweithgarwch cenhadol cynta yn gweddïo, a chanu a gwerthu beiblau. Byddai yn erbyn rhoi gormod o bwys ar athrawiaeth. Roedd pobol wedi blino, meddai, ar gael diwinyddion yn gwisgo’r efengyl mewn dillad athrawiaethol newydd. Mae yna lawer porth i’r deyrnas meddai. Ac roedd Seth Joshua o hyd yn uniongyrchol ei ddull a pharod ei ateb. Mae hanes amdano fe’n gofyn yn sydyn ryw noson i’w wraig: “Mary, wyt ti wedi ...
Pa fath ddiwygiad a ddaw nesaf?
RhagorPa fath ddiwygiad a ddaw nesaf?
(Rhan 1)
Yn wyneb y chwalfa ddifaol a achoswyd gan yr haint hwn, mae’n rheidrwydd arnom holi beth fydd hynt Cristnogaeth yn ystod y ganrif hon. Un o’r posibiliadau yw y gwelwn eglwysi yn gafael yn yr hanfodion, ac yn wynebu her Iesu i fod yn ddisgyblion a gweision Teyrnas Dduw. Bydd rhai eraill yn fuan iawn yn ystyried posibiliadau diwygiad emosiynol, sy’n medru dod fel corwynt ysbrydol. Dyna paham y gallem ystyried eto beth yw natur y math yna o brofiad. Felly, dyma fynd dros ambell hanesyn o ddwy ganrif ddiweddar ym mywyd Cymru “pan welwyd yr Ysbryd yn meddiannu eneidiau”.
Mae ...
Crefydd, Moeseg a Chyfraith – perygl ceidwadaeth grefyddol
RhagorMagwyd Steve Preston yn y Beddau, ger Pontypridd, ac yno mae ei gartref o hyd. Wedi gyrfa fel cerddor proffesiynol ar lwyfannau Cristnogaeth Bentecostaidd, gan gynnwys gweithio gyda Mission England, fe aeth Steve i astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers hynny, mae wedi cael gyrfa fel athro ysgol a pherfformiwr, a pherchennog ysgol gerdd a stiwdios cerdd. Mae’n aml yn cyfuno’i ddiddordebau fel cerddor a diwinydd, a thrwy briodas mae ganddo ddiddordeb byw iawn yn yr hyn sy’n digwydd yn yr Unol Daleithiau. Dros y blynyddoedd diwethaf mae e wedi dysgu Cymraeg. Y dylanwadau pennaf arno ar hyn o bryd yw Richard Rohr, Marcus Borg, ...
Eglwys fy mreuddwydion
RhagorEglwys fy mreuddwydion
AJE
Y diwrnod o’r blaen cefais hyd i’r myfyrdod hwn gan John Milton Moore, a dyma gynnig rhydd gyfieithiad ohono.
Hon yw eglwys fy mreuddwydion:
eglwys y galon gynnes,
y meddwl agored,
yr ysbryd mentrus;
yr eglwys sy’n gofalu,
sy’n iacháu bywydau briwedig.
sy’n cysuro’r hen,
ac yn herio’r ifanc;
nad yw’n gweld rhaniadau diwylliant na dosbarth;
dim ffiniau daearyddol na chymdeithasol;
yr eglwys sy’n holi yn ogystal â honni,
sy’n edrych ymlaen yn ogystal ag yn ôl;
eglwys y Meistr
eglwys y bobl,
mor uchel â delfrydau Iesu,
mor isel â’r person mwyaf gostyngedig;
eglwys sy’n gweithio,
eglwys sy’n addoli,
eglwys sy’n ...Cennad a Thyst
RhagorCenn@d a Thyst
Gŵyl Ddewi eleni lansiwyd dau gylchgrawn wythnosol Cymraeg. Un oedd Cenn@d, cylchgrawn newydd y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid, yn cyfuno’u papurau enwadol, sef Seren Cymru (1856) a’r Goleuad (1869).
Yr un wythnos yr oedd yr Annibynwyr yn ail-lansio Y Tyst, eu papur wythnosol, gyda sôn am ddatblygiadau cyffrous ar gyfer y papur a’u gwefan. Nid oeddynt am ymuno â’r Bedyddwyr a’r Presbyteriaid i gyhoeddi un papur wythnosol ar lein.
Fel arfer, testun llawenydd fyddai cylchgrawn Cymraeg newydd, heb sôn am ddau (er mai ail-lansio oedd un) ond, i’r rhai a ŵyr y cenfndir, cymysgedd o ddiolch heb ddathlu, tristwch a siom yw’r digwyddiad i mi ac i ...
Fe ddylem fod wedi gwrando ar JP
RhagorFe ddylem fod wedi gwrando ar JP (Lewis Valentine)
(Meddyliau Gŵyl Ddewi)
Beth sy’n gyffredin rhwng Martin Luther King, Dorothy Day, Daniel Berrigan, a J. P. Davies? Eu bod yn heddychwyr fyddai un ateb. Ie, ond beth oedd sylfaen eu heddychiaeth? Yr ateb yw mai pobl o ysbrydolrwydd dwfn oeddynt i gyd ac mai o’r ysbrydolrwydd hwnnw y tarddodd eu gweledigaeth o Gristnogaeth fel cerdded y ffordd ddi-drais wrth ddilyn Iesu o Nasareth. Y lleiaf adnabyddus o’r rhai a enwyd (hyd yn oed i Gymry erbyn hyn) yw J. P.Davies. Prin, os o gwbwl, fu’r cyfeiriad ato wrth gofio hanner canmlwyddiant ei farwolaeth yn 2020. Fe ddywedodd Lewis Valentine, ei ffrind, y ...
Emyn Gŵyl Dewi
RhagorEmyn Gŵyl Dewi
Bu rhai ohonom sy’n gysylltiedig ag Agora yn ceisio meddwl tybed a oes yna emyn addas at Ddydd Gŵyl Dewi sy’n llai cyfarwydd na’r rhai a gynhwysir yn Caneuon Ffydd, ond eto’n werth cofio amdano.
Yr un a ddaeth i’r amlwg oedd emyn o eiddo’r Parchedig John Pinion Jones a gynhwysir yn y gyfrol ‘Mil a Mwy o Emynau’ (Gol: Y Parchg. Ddr Edwin Courtney Lewis) dan y teitl ‘Emyn Dros Gymru’
Tywynned haul dy gariad, Iesu mawr,
Ac arwain di ein gwlad â’th lewyrch clir,
Gad inni deimlo gwres dy ddwyfol wawr
Yn ...