Agweddau ar fydd a chredu

Agweddau ar ‘Ffydd’ a ‘Chredu’

Catrin H. Williams
Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant

Mae amryw o’r trafodaethau diwinyddol ar ‘grefydd’ a ‘ffydd’ yn ystod y deng mlynedd diwethaf wedi ceisio ymateb i’r llu o lyfrau ac erthyglau a gyhoeddwyd gan awduron sydd yn galw eu hunain yn ‘atheistiaid newydd’.[1] Nid gormodiaith yw dweud bod dadleuon a rhethreg rhai fel Richard Dawkins a’r diweddar Christopher Hitchens wedi bod yn gyfrifol am greu darlun syml a stereotypaidd o ‘grefydd’ fel ffenomen ffwndamentalaidd a gwrth-ddeallusol. Gwelir hyn yn y modd y mae Dawkins yn crynhoi ei ddadl ar ddechrau ei gyfrol, The God Delusion: ‘I’r mwyafrif o gredinwyr ar draws y byd, mae crefydd yn debyg i’r hyn a ddysgir gan bregethwyr fel Jerry Falwell  … a rhai fel Osama bin Laden neu’r Ayatollah Khomeini’.

Nid yw Dawkins am gydnabod ei fod yn delio â ffenomen sy’n llawer mwy cymhleth mewn gwirionedd. Iddo ef, gellir rhannu’r cyfan a drafodir yn ddau gategori taclus: ffydd gibddall a digwestiwn ar y naill law ac yna, ar y llaw arall, yr hyn y gellir ei brofi y tu hwnt i bob amheuaeth ar sail tystiolaeth a rheswm. Mewn ‘atheistiaeth newydd’ dim ond yr hyn y gellir ei brofi y dylid ‘credu’ ynddo. Beth bynnag fo’r ymateb i safbwynt Dawkins a’i gyfeillion – ac mae llu o awduron wedi dadlau’n chwyrn yn eu herbyn – mae ‘atheistiaeth newydd’ yn symbol o rywbeth llawer mwy arwyddocaol yn y drafodaeth gyfoes ar grefydd, sef bod y disgwrs yn aml wedi’i barlysu gan begynu digyfaddawd rhwng dau fath o ‘gred’, sef sicrwydd ffydd ar y naill law (a gysylltir â thueddiadau ffwndamentalaidd, yn enwedig o fewn Cristnogaeth ac Islam), a sicrwydd anghrediniaeth ac anffyddiaeth ar y llaw arall. Ac ynghanol y fath bolareiddio, yr hyn sydd wedi mynd ar goll yw’r gwahanol raddfeydd o fewn y sbectrwm rhwng ‘ffydd’ a ‘diffyg ffydd’ – rhwng credu a pheidio â chredu. Y duedd, ar y naill begwn a’r llall, yw troi Duw – neu’r syniad o Dduw – yn wrthrych all lenwi bwlch neu ei droi’n ffigur y gellir ei osod o’r neilltu yn llwyr.[2]

A’r hyn sydd yn rhedeg fel llinyn arian drwy’r naill safbwynt a’r llall yw’r angen am sicrwydd ac eglurder, heb unrhyw le i gwestiynu a mynegi amheuon. Mynegir hyn yn effeithiol gan Verna Dozier yn ei chyfrol, Confronted with God: ‘We resist living with the doubt, incompleteness, confusion and ambiguity that are inescapable parts of the life we are called to live. Living by faith means living by unsureness. We cannot bear the uncertainties with which the gospel message calls us to live. We cannot bear having to take a risk that this is the way to go. We cannot bear our inability to know absolutely. So we hurry up and create some certainties that will relieve us of that anxiety’.[3]

Beth yw ‘Ffydd’?

Mae’r ffactorau a’r ystyriaethau hyn yn codi cwestiwn sylfaenol gyda golwg ar thema’r gynhadledd hon: ai dyma mewn gwirionedd yw ‘credu’, ai dyma sut mae diffinio ‘ffydd’? Ar gyfnodau penodol yn ei hanes, mae’r Eglwys Gristnogol wedi ceisio egluro’i safbwynt ar faterion cred gan lunio datganiadau craidd a ddiffinnir fel credoau neu gyffesion ffydd. Y cyntaf o’r credoau hyn oedd Credo’r Apostolion, er iddo gael ei lunio o leiaf ganrif ar ôl disgyblion/apostolion Iesu,[4] ac yna – rai canrifoedd yn ddiweddarach – lluniwyd Credo Nicea (325 OC) a Chredo Chalcedon (451 OC).[5] Anghofiwn yn aml mai dyma oedd y drefn, oherwydd ein tuedd yw cymryd yn ganiataol fod Cristnogaeth wedi rhoi mynegiant i’w chreodau creiddiol o’r cychwyn cyntaf ac mai dim ond yn ddiweddarach y cawsant eu cymhwyso i fywyd yr Eglwys. Dyma godi cwestiwn sylfaenol ynghylch sut mae diffinio ‘credu’ a ‘ffydd’.

Os rhoddir ystyriaeth i’r eirfa Roeg berthnasol yn y Testament Newydd, y gair a gyfieithir fel ‘cred’ neu ‘ffydd’ yw pistis, er mai gair ydyw a ddefnyddir yn bennaf i gyfleu’r syniad o deyrngarwch, ymddiriedaeth, ac ymlyniad. Mewn cyfrol ddiweddar ar y pwnc hwn,[6] pwysleisia Teresa Morgan nad yw’r eirfa yn y Testament Newydd wedi’i chyfyngu i’r hyn a gysylltir yn aml heddiw â ffydd, sef argyhoeddiad cadarn y gall rhywbeth ‘amhosibl’ ddigwydd. Dyma fu’r duedd, er enghraifft, wrth geisio dehongli geiriau Iesu yn Efengyl Luc: ‘Pe bai gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe allech ddweud wrth y forwydden hon, “Coder dy wreiddiau a phlanner di yn y môr”, a byddai’n ufuddhau i chwi’ (17:6).

Ond yn holl lyfrau’r Testament Newydd, swyddogaeth y gair ‘ffydd’ (pistis) a’r ferf ‘credu’ (pisteuō) yn anad dim arall yw cyfleu’r syniad o berthynas o ansawdd arbennig. Pan fo awduron fel Paul ac Ioan yn sôn am ffydd yn Nuw, nid credu ynddo fel gwrthrych sydd ganddynt mewn golwg (na chredu mewn cyfres o ffeithiau a chyffesion) ond ymddiried yn Nuw a cheisio dod i berthynas ag ef: ‘Pistis and fides are fundamentally relational concepts and practices, centring on trust, trustworthiness, faithfulness, and good faith.’[7] Awgryma rhai diwinyddion, o ganlyniad, y gall hyd yn oed pobl ‘agnostig’ arddangos ffydd. Gallant fynegi ansicrwydd ynghylch bodolaeth Duw neu sicrwydd nad ydynt yn gwybod y cyfan amdano, ond ar yr un pryd gallant ymddiried yn nysgeidiaeth Iesu ac arddangos ymlyniad at gymuned o gredinwyr. Nid yw ‘ffydd’ o angenrheidrwydd yn golygu derbyn cyfres o osodiadau, ac nid yw’r syniad o ‘gredu’ yn gyfystyr â meddu gwybodaeth ‘sicr’ ond yn hytrach ddysgu byw gyda’r hyn nad ydym yn ei wybod. Nid oes ffin gadarn rhwng ffydd ac amheuaeth.

Diwinydda ynghylch ‘Ffydd’

Ers dyddiau cynnar yr Eglwys Gristnogol, bu ei diwinyddion yn myfyrio ar amrywiol agweddau o ‘ffydd’ a ‘chredu’. Yr oedd Awstin Sant, er enghraifft, yn gwahaniaethu rhwng dau gategori neu ddull o ‘wybod’: scientia (gwyddoniaeth) a sapientia (doethineb) (De Trinitate xii). Tra bod y meddwl, mewn scientia, yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei amgyffred yn ddiriaethol neu y ceisir ei feistroli, mewn sapientia mae’r meddwl yn creu perthynas â’r gwirionedd hwnnw sydd y tu hwnt i ddirnadaeth ddynol.[8] I Awstin, a nifer o feddylwyr cynnar eraill, nid oedd diwinydda yn gyfystyr â sicrwydd a dogmatiaeth, sef yr union elfennau all gau’r meddwl i gwestiynau newydd ac atebion newydd. Yn hytrach, yr oeddent yn eu hystyried eu hunain fel rhan annatod o drefn y greadigaeth ac, oherwydd eu statws fel bodau creëdig, yr oeddent yn barod i gydnabod na allent wybod y cyfan. Nid ffenomen estron mewn Cristnogaeth, felly, mo ansicrwydd ac amheuaeth. Yr oedd y tadau cynnar yn aml yn trafod ‘arwahanrwydd’ neu drosgynoldeb Duw ac yn cyfaddef na allent ei amgyffred a’i ddiffinio yn fanwl. [9] Mewn traddodiadau canoloesol yn ogystal, mae ffigurau dylanwadaol fel Tomos Acwin yn dadlau nad yw’n bosibl trafod Duw yn nhermau ‘bodolaeth’ ffigur personol ond yn hytrach fel energeia – egni bywiol a dirgel.[10] Mae’r agwedd hon yn wahanol iawn i’r darlun diriaethol ac anthropomorffaidd o Dduw a ddaeth yn boblogaidd yn llawer diweddarach.

 Ond mae ffydd – a diwinydda ynghylch ffydd – yn gyfystyr â mynd ar daith, a bod yn chwilfrydig ac yn ymchwilgar yn ystod y daith honno. Dyma paham mae amryw o ddiwinyddion, yn enwedig yn ystod y degawd diwethaf, yn dadlau nad pwrpas crefydd yw chwilio am atebion terfynol i gwestiwn bodolaeth Duw – fel petai’n ‘wrthrych’ y gellir ei drafod a’i ddofi – ond codi cwestiynau nad ydynt o angenrheidrwydd yn cau’r drws ar ansicrwydd.

Un sydd wedi rhoi sylw arbennig i gwestiynau o’r fath yw Alex Wright yn ei gyfrol Exploring Doubt,[11] lle mae’n cynnig cyfres o fyfyrdodau ar ‘golled’ – colli perthynas, colli ffydd, colli sicrwydd – yn dilyn cyfnod arbennig o anodd yn ei fywyd personol. Trafodir yr holl elfennau hyn yng nghyd-destun llanw a thrai arfordir Norfolk, sef tirlun a ddefnyddir fel symbol o’r hyn sydd yn amwys, yn annelwig, yn ansefydlog ac yn newidiol mewn bywyd. Nid oes unrhyw beth yn sicr, meddai Wright, yn enwedig yng nghyswllt cwestiwn ffydd: ‘It is in hiddenness, not transparency, that life’s meanings may most eloquently be expressed. It is in doubt, not certainty, that we are led towards a proper sense of our true worth and humanity’.[12]

Ond nid syniad newydd a drafodir gan Alex Wright, er mai ef yw un o’r diwinyddion prin i roi mynegiant llawn a chreadigol i’w botensial. Hyd yn oed o fewn cloriau’r Testament Newydd ceir awgrym o arwyddocâd ansicrwydd ac amwyster. Mewn fersiynau cynnar o Efengyl Marc, sef y cyntaf o blith y pedair efengyl, ni chynhwysir naratif benodol sydd yn cyfateb i’r adroddiadau yn Mathew, Luc ac Ioan ynghylch ymddangosiadau’r Crist atgyfodedig. Yn hytrach mae Efengyl Marc, os derbynnir y diweddglo byr (16:1–8) yn hytrach na’r un estynedig (16:1–20),[13] yn cloi ar nodyn amwys. Mae’r disgyblion wedi dianc, tra mae’r gwragedd sydd yn nesáu at y bedd yn llawn ofn o ganfod ei fod yn wag ac eto’n dweud dim ynghylch yr hyn a welwyd ganddynt: ‘Daethant allan a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt’ (16:8). Hyd adnod olaf y naratif, mae Marc yn darlunio pobl fel rhai sydd yn llawn ofn a theimlad o fethiant. Ond paham diweddu ar y fath gywair? Ai bwriad Marc yw bwrw ei ddarllenwyr oddi ar eu hechel, a chodi cwestiynau newydd ynghylch natur a phwrpas ffydd? Ai’r nod yw awgrymu mai mewn absenoldeb (yn y cyswllt hwn, absenoldeb corff Iesu) y mae gwreiddio ffydd? Yn ôl pob tebyg, cymer Marc yn ganiataol fod darllenwyr a gwrandwyr ei efengyl eisoes yn gwybod am yr atgyfodiad, ac – yng ngoleuni hynny – mae cloi ar nodyn o ansicrwydd yn troi’r cyfan wyneb i waered: mae presenoldeb mewn absenoldeb. Mewn geiriau eraill, fe bwysleisia Marc ar ddiwedd ei naratif mai diffyg gwybodaeth ac amheuaeth yn aml yw mangre ffydd, a’r unig ddewis mewn sefyllfa o’r fath yw dysgu byw gydag ansicrwydd. Yn hytrach na chynnig ateb i holl gwestiynau dyrys bywyd, gall ffydd herio pobl i fyw gyda’r realiti bod rhai pethau na ellir eu dirnad yn llwyr.   

Yn ddiweddarach o fewn Cristnogaeth datblygodd y traddodiad fod Duw gymaint y tu hwnt i ddealltwriaeth ac amgyffrediad dynol fel nad yw’n bosibl adnabod Duw yn gyflawn; yn wir, dadleuir mai dim ond trwy gydnabod diffyg gwybodaeth am Dduw y gellir dod i adnabod Duw. Dyma a elwir y via negativa – yn llythrennol, y ffordd neu’r llwybr negyddol (o ddiwinydda).[14] Dim ond ar sail y paradocs hwn, sef adnabyddiaeth trwy ddiffyg adnabyddiaeth, y gall pobl symud y tu hwnt i’w dulliau cyfyngedig ac annigonol o roi mynegiant i’w profiad o Dduw. Mynegir y traddodiad hwn yng ngweithiau diwinyddion megis Dionysius yr Aeropagydd o’r chweched ganrif, sydd yn datgan bod Duw mor wahanol i’r greadigaeth fel na ellir dweud unrhyw beth amdano gydag unrhyw fesur o gywirdeb: Duw yw’r Un Dienw sydd yn meddu nifer o enwau. Mae cyfrinwyr diweddarach, yn enwedig rhai o’r unfed ganrif ar bymtheg megis Teresa o Avila (1515–82) ac Ioan y Groes (1542–91), hefyd yn dweud bod siarad am Dduw yn golygu rhoi mynegiant i’r hyn sydd mewn gwirionedd yn anesboniadwy, yn annirnadwy ac yn annealladwy. Dyma paham yr oeddent yn cyfeirio mewn modd enigmatig (‘iaith apoffataidd’) at elfennau gwrthgyferbyniol fel tywyllwch ac absenoldeb, nid yn yr ystyr eu bod yn gwadu bodolaeth Duw ond ar sail y gred fod Duw y tu hwnt i ddealltwriaeth dynol a daearol; ni ellir ei amgyffred ond mewn sibrydiad, mewn amrantiad, mewn ‘llef ddistaw fain’. Mae syniadau o’r fath wedi dod yn boblogaidd unwaith eto mewn diwinyddiaeth gyfoes[15] – ac yn ddull effeithiol o gywiro’r math o grefyddoldeb sydd yn argyhoeddedig ei bod yn bosibl gwybod y cyfan am Dduw. 

Delweddu Duw

Mewn atheistiaeth newydd, ac yn enwedig yn y modd y’i cyflwynir gan Richard Dawkins, rhywbeth dros dro yw ansicrwydd – gwacter a lenwir maes o law gan ddarganfyddiadau gwyddonol newydd. Ond mae ffwndamentaliaeth o bob math, crefyddol a digrefydd, yn gwrthod y syniad o ‘absenoldeb’ Duw. I’r ffwndamentalydd crefyddol, mae sicrwydd ynghylch bodolaeth a phresenoldeb Duw yn cau allan bob cwestiwn a phob arwydd o amheuaeth. Awgryma Tina Beattie yn y cyswllt hwn nad oes rhyddid yn perthyn i Dduw mewn ffwndamentaliaeth o’r fath, ac o’r herwydd nid oes rhyddid ychwaith yn perthyn i’r sawl sy’n meddu sicrwydd. Mae ffwndamentaliaeth atheistaidd hefyd yn troi cefn ar y dychymyg a’r math o greadigrwydd all ddeillio o’r rhyddid hwn. Ffydd, nid sicrwydd, medd Beattie, sydd yn esgor ar ddychymyg creadigol.[16]

Y syniad o berthyn i rywbeth llawer mwy na’r byd o’u cwmpas all egluro yn ogystal paham mae diwinyddion ac awduron crefyddol ar hyd y canrifoedd wedi ceisio ‘delweddu’ Duw gan ddefnyddio iaith ffigurol i roi mynegiant i’w hymchwil am Dduw a’u profiad o Dduw. Sail hyn yw’r ddealltwriaeth fod Duw yn wahanol i bopeth arall ond, ar yr un pryd, y dylid gwneud ymgais i siarad amdano mewn modd y gall pobl ei ddeall. Fodd bynnag, nid yw iaith ar ei phen ei hun yn ddigonol; mae angen dychymyg hefyd. Golyga hyn fod delweddaeth yn gwbl allweddol i bwrpas diwinyddiaeth, oherwydd mae delweddau a symbolau yn gyfryngau pwerus wrth roi mynegiant i’r ymchwil am y trosgynnol a’r ymgais i gyfleu’r profiad dynol/daearol o’r dirgelwch dwyfol/nefol. Mae amryw o destunau’r Testament Newydd eisoes yn tystio i’r ‘strategaeth’ ddiwinyddol yma, yn enwedig Efengyl Ioan a gweledigaethau apocalyptaidd Llyfr Datguddiad.[17]

Mae geiriau barddonol a delweddol yn gwbl angenrheidiol wrth drafod beth a phwy yw Duw, beth yw cariad, a beth yw dechrau a diwedd pob peth. Dyma’r cwestiynau a gyfyd yn aml wrth i bobl geisio canfod ystyr i’w bywydau, a hynny am eu bod yn gwrthod derbyn bod ffeithiau ‘gwyddonol’ a thystiolaeth empeiraidd yn gallu cynnig ateb boddhaol i’w cwestiynau dyfnaf. Ac mae defnyddio iaith ddelweddol wrth geisio mynegi’r dirgelion pennaf yn dangos y gall ansicrwydd, amhendantrwydd ac amwyster hefyd esgor ar greadigrwydd.

Lle Ansicrwydd ac Amhendantrwydd

Anghofir yn aml nad yw hanfodion ‘creadigol’ ffydd, ar y naill law, a gwybodaeth wyddonol, ar y llaw arall, yn gorfod cystadlu yn erbyn ei gilydd. Ni all gwyddoniaeth gynnig atebion i bob cwestiwn oherwydd nid yw’n llwyddo i gwmpasu’r cyfan. Mae argyhoeddiadau cadarn hefyd yn gallu arwain at ffug obeithion, ac mae’r un peth yn wir am y sicrwydd a ddaw yn sgil credu ei bod yn bosibl canfod yr ateb i bob cwestiwn.

Ni ddylid difrïo amheuaeth ac ansicrwydd. Rhaid bod yn agored i drafod materion annisgwyl ond hefyd i wynebu’r cwestiynau hynny na ellir eu hateb yn derfynol. Mae angen chwilfrydedd ac amynedd, dyfalbarhad a gostyngeiddrwydd – i drafod cwestiynau ffydd ond hefyd er mwyn gallu magu digon o hyder i fyw gydag ansicrwydd.

[1] Gweler yn enwedig Richard Dawkins, The God Delusion (Llundain: Bantam Press, 2006); Christopher Hitchens, God Is Not Great: The Case Against Religion (Llundain: Atlantic Books, 2007). Gweler hefyd Daniel C. Dennett, Breaking the Spell: Religion as a Natural Phenomenon (Llundain: Allen Lane, 2006).

[2] Gweler ymhellach Peter Rollins, The Idolatry of God: Breaking the Addiction to Certainty and Satisfaction (Llundain: Hodder & Stoughton, 2013).

[3] Confronted by God: The Essential Verna Dozier, gol. Cynthia Shattuck a Fredrica Harris Thompsett (Efrog Newydd: Seabury Books, 2006), t. 49.

[4] R. Tudur Jones (gol.), Ffynonellau Hanes yr Eglwys: 1. Y Cyfnod Cynnar (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1979), tt. 52–4.

[5] Ffynonellau Hanes yr Eglwys, tt. 126–7;

[6] Teresa Morgan, Roman Faith and Christian Faith (Rhydychen: Oxford University Press, 2015).

[7] Morgan, Roman Faith and Christian Faith, t. 503.

[8] Gweler Mark A. McIntosh, Divine Teaching: An Introduction to Christian Theology (Llundain: Wiley-Blackwell, 2007), t. 156.

[9] Frances Young, God’s Presence: A Contemporary Recapitulation of Early Christianity (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2013), 65.

[10] Thomas Aquinas: Commentary on Aristotle’s Metaphysics, ix:5 (cyf. John P. Rowan, 1995).

[11] Alex Wright, Exploring Doubt: Landscapes of Loss and Longing (Llundain: Darton, Longman and Todd, 2016).

[12] Exploring Doubt, t. 12.

[13] Nodir yn aml gan ysgolheigion fod geirfa ac arddull 16:9–20 yn wahanol i’r hyn a geir yn 16:1–8. Gweler Larary W. Hurtado, Mark: New International Biblical Commentary (Peabody: Hendrickson, 1983), tt. 283–5; Morna D. Hooker, A Commentary on the Gospel According to St Mark (Llundain: A&C Black, 1991), tt. 382–3, 88–9.

[14] Gweler, er enghraifft, Charles M. Stang, ‘Negative Theology from Gregory of Nyssa to Dionysius the Aeropagite’, yn Julia A. Lamm (gol.), The Wiley Blackwell Companion to Christian Mysticism (Rhydychen: Blackwell, 2017), 161–76.

[15] E.e., Karen Armstrong, The Case for God (Efrog Newydd: Random House, 2009).

[16] Tina Beattie, The New Atheists: The Twilight of Reason and the War on Religion (Llundain: Darton, Longman and Todd,2007), tt. 170–73.

[17] Gweler, er enghraifft, Craig R. Koester, Symbolism in the Gospel of John: Meaning, Mystery, Community (Minneapolis: Augsburg Press, 2003).