Anghofio a chofio, cofio ac anghofio.

Mae anghofio yn boen bywyd, ac mae colli cof yn ddolur enaid; mae cofio ac anghofio yn allweddol bwysig i bobl.

Mae’r ymennydd dynol yn ryfeddol gymhleth; perthyn iddo’r gallu anhygoel i brosesu a chadw pentwr o wybodaeth, ond mae anghofio’n anhepgor i’w lwyddiant. Buasai’r ymennydd yn chwythu ei blwc yn reit sydyn pe bai’n gorfod cofio pob peth!

Er yn anhepgor i’n hiechyd ymenyddol, nid hoff gennym anghofio, a buom yn brysur, ers dechrau’r dechrau yn ceisio sicrhau fod ryw bethau’n cael eu cadw’n ddiogel yn y cof; ond o’r dechrau, ‘roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio. Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!

Yn y dechreuadau cynnar, ‘roedd y cof yn gyfyngedig i’r unigolyn. Yr unig ffordd i gadw rhyw bethau ar gof a chadw oedd trosglwyddo’r pethau hynny o berson i berson. Er mor bwysig a buddiol eich gwybodaeth, anodd iawn oedd rhannu’r wybodaeth hwnnw’n effeithiol dros bellter ffordd ac amser. O’r herwydd, ‘roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio. Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!

Mae rhannu yn allweddol bwysig yn y broses o gofio, a gyda datblygiad iaith, daeth rhannu gallu a dawn, defnyddio gwybodaeth a rhyddhau grym dychymyg yn haws o lawer. Ond, nid digon iaith i gynnal cof, ac o’r herwydd ‘roedd anghofio yn parhau i fod yn llawer mwy cyffredin na chofio. Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!

Dechreuwyd paentio lluniau i gadw’r hyn a ddylid ei gofio’n ddiogel, a bu lluniau, am ganrifoedd, yn fodd i gynnal a chadw’r cof; ond oherwydd natur llun, ‘roedd anghofio o hyd, yn llawer mwy cyffredin na chofio. Gellid defnyddio llun i gadw’r cof am un digwyddiad mewn stori, ond mae llun yn methu cadw’r stori i gyd. Ni all llun gyfleu syniadau a damcaniaethau cymhleth; ac eiddo’r arbenigwyr, a’r sawl a fedrai dalu am eu harbenigedd oedd y llun, ac felly…erys anghofio’n arferol a chofio’n eithriadol!

Datblygwyd ysgrifen, a maes o law, llyfrau. Dyma ddatblygiad rhyfeddol yn ein hymdrech i gofio. Gyda datblygiad ysgrifennu daeth modd i gadw ein profiad, gallu a gwybodaeth yn ddiogel a chywir, ar femrwn. Ond eiddo’r ychydig dethol bu’r gallu i ysgrifennu a pherchenogi’r hyn a ysgrifennwyd am ganrifoedd lawer eto. ‘Roedd y gwaith o gofnodi ar bapur yn anferth ac araf. Amcangyfrifir fod cwmni o ysgrifellau mewn mynachlog yn Lloegr yn yr unfed ganrif ar ddeg wedi cynhyrchu chwedeg chwech o lyfrau mewn…dwy flynedd ar hugain o lafur di-dor! Ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, ‘roedd llyfrgell Prifysgol Caergrawnt yn cynnwys 122 o lyfrau! Ym 1450, daeth newid byd, daeth gwasg argraffu Gutenberg. Daeth llyfrau’n bethau llawer llawer fwy cyffredin, llaciwyd gafael y dethol rhai ar wybodaeth, ond yn sgil pris uchel llyfrau, ac anllythrennedd lled gyffredin, ‘roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio o hyd. Ie, anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol!

Gyda’r papur newyddion beunyddiol, daeth modd i bobl cael gwybod beth oedd yn digwydd yn eu cymuned a’u byd. ‘Roedd gwybodaeth ar gael i fwy a mwy o bobl, ond mae’r newyddion beunyddiol yn troi’n hen dros nos! ‘Roedd y pwyslais ar heddiw – rhyw edrych ar bethau fesul diwrnod – mae’r papur newyddion. Mae’r pwyslais ar ddeall, nid cofio, ac o’r herwydd parhaodd anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol.

Maes o law, daeth ffotograffiaeth, recordiau a ffilm. A ydych yn cofio eich camera cyntaf tybed? Er yn ddigon o ryfeddod ar y pryd, gwyddom erbyn heddiw mae gwaith digon anodd a chymharol ddrud oedd prosesu’r lluniau hyn, ac o’r herwydd ‘roedd gofyn i bobl bwyllo wrth gymryd llun, rhag gwastraffu un o’r 36 llun a berthyn i’r ffilm arferol! Arhoswyd am yr amser iawn i wasgu’r botwm, gosodwyd pobl mewn trefn, a gofynnwyd iddynt wenu’n ddel er mwyn argraffu’r lluniau a’u gosod yn dwt mewn albwm trwm a thrwchus. Mawr bu’r newid! Gall cof bach y camera digidol cadw miloedd o luniau, ond y cyfnod analog hwnnw y’n ganed ni iddo, gwaith anoddach o lawer oedd cadw atgofion a chynnal y cof, a do, parhaodd anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol hyd nes yn gymharol ddiweddar.

At hyn dwi’n dod! O’r dechrau, ‘roeddem yn anghofio llawer mwy o bethau nag ‘roeddem yn gallu cofio. ‘Roedd maint ein byd, natur ein cymdeithas â’n gilydd yn sicrhau fod anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol. Gyda datblygiad technoleg digidol a rhwydweithiau rhyngwladol mae’r sefyllfa wedi newid yn llwyr. Erbyn hyn, mae cofio’n arferol, ac anghofio’n eithriadol. Yn 2007, cyfaddefodd Google fod pob un cais o eiddo ei ddefnyddwyr, a phob un canlyniad a gliciwyd arno wedi ei gofnodi’n gymen gan y cwmni. Cystal cyfaddef felly, fod Google yn cofio trwch o bethau amdanom, am ein bywyd, ac am ein ffordd o fyw, sydd wedi hen fynd yn angof gennym! Mae Google yn gwybod fwy amdanom ni na fedrwn gofio amdanom ein hunain! Mae polisïau Google wedi gorfod newid yn ddiweddar, ond erys hyn fel esiampl o beryglon enbyd y cofio dwfn sydd mor nodweddiadol o’r oes ddigidol hon.

Mae goblygiadau y cofio dwfn hwn yn bwysig i bawb, ond yn eithriadol bwysig i bobl ffydd. Wrth wraidd ein ffydd mae maddeuant Duw; hanfod maddeuant Duw yw ei barodrwydd i ‘anghofio’ ein pechod – i osod ein pechod o’r neilltu: Yn awr, ynteu, ymresymwn â’n gilydd, medd yr ARGLWYDD. Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â’r eira; pe baent cyn goched â phorffor, fe ânt fel gwlân (Eseia 1:18). Heb y gosod hwn o’r neilltu – yr anghofio hwn – mae maddeuant yn amhosibl. ‘Rydym yn palmantu’r ffordd i ddyfodol heb y gallu i anghofio, ac felly heb fedru gosod ein pechodau o’r neilltu, ac o’r herwydd heb y gallu i faddau’n iawn a llawn.

Bellach, mae’r hyn oll a wnawn ar gof a chadw digidol, ac mae hynny, wrth gwrs yn newid y ffordd yr ydym yn ymwneud â’n gilydd. Yr ydym yn cofio, ac anghofio fel cymunedau, mae ein hanallu i anghofio yn yr oes ddigidol hon yn golygu nad oes gwir gyfle i’r sawl a droseddodd yn erbyn y gymuned i symud ymlaen ac ailddechrau wedi iddo ateb am ei drosedd. Mae ein ddoe, a’n hechdoe fel tatŵ ar fraich ein byw. Ni ellir dianc rhagddo.

Nid wyf am eiliad yn annog agwedd Canute (985 – 1035) debyg – nid oes troi llawn technoleg yn ôl! Ond, fe ddylem, yn union oherwydd hynny, sylweddoli fod anghofio troseddau a chamgymeriadau, a phob cyfle i ailddechrau ac ailgydio a ddaw yn sgil yr anghofio hwnnw, yn mynd yn anoddach o hyd fyth. Heb ein bod ni a’n tebyg ym mynd i’r afael a hyn, bydd ein plant, a phlant ein plant yn byw a’u ddoe a’u heddiw yn gymysg gawl! Yng ngeiriau T.S.Eliot (1888-1965): “If all time is eternally present, all time is unredeemable.” (Burnt Norton. No.1 Four Quartets. 1943, Harcourt Press).
Owain Llyr Evans