Athrawiaeth y Drindod

Mewn llythyr yn Y Cymro pa ddydd, holodd rhywun a oedd rhai ohonom ni a sefydlodd y wefan hon, Cristnogaeth 21, yn Sosiniaid. Eidalwyr oedd Lelio Sozzini (1525–1562), a’i nai Faustio, a gredai mai dyn oedd Iesu. Y cwestiwn felly yw, hyd y gwelaf, a yw rhai ohonom ni, sefydlwyr Cristnogaeth 21, yn gwadu Athrawiaeth y Drindod, sy’n rhoi Iesu yn y Duwdod. Mae mater y Drindod wedi codi hefyd mewn cyfraniadau i’r Bwrdd Clebran ar y wefan.

(Ni allaf siarad dros neb arall. Nid gwthio unrhyw safbwynt yw amcan y wefan, chwaith, ond agor man trafod i bob barn, mewn ymateb i’r unffurfiaeth meddyliol brawychus sy’n llesteirio Cristnogaeth Cymru ar hyn o bryd.)

BRASLUN
Athrawiaeth y Drindod oedd yr Athrawiaeth gyntaf i gael ei llunio gan Gyngor Eglwysig. Dechreuwyd ei llunio hi yn Nicea (Iznik yn Nhwrci nawr), yn 328, mewn Cyngor a alwyd gan yr Ymherawdr Rhufeinig, Cystennin, i setlo dadl rhwng Cristnogion a oedd yn rhannu ei Ymerodraeth. Gwahoddodd tua 1800 o esgobion, ond tua 300 a ddaeth (mae’r ffigurau’n ansicr), y mwyafrif ohonynt o Ddwyrain yr Ymerodraeth

Nid yw’r Athrawiaeth, na’r gair ‘trindod’, yn y Beibl. Mae ‘personau’ yr athrawiaeth ynddo, y Tad, y Mab, a’r Ysbryd, ond nid oes disgrifiad cyson o’u perthynas ynddo Yn Efengyl Luc, er enghraifft, mae’r Ysbryd yn danfon y Mab, ond yn Efengyl Ioan y Mab sy’n danfon yr Ysbryd. Cafwyd disgrifiad ‘swyddogol’ o leiaf, o berthynas y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd, pan dderbyniwyd Athrawiaeth y Drindod yn derfynol yng Nghyngor Caergystennin yn 381 – Theodosius oedd yr Ymherawdr erbyn hynny.

Ond bu dadl ynglŷn â pha bryd y dechreuodd Duw fod yn ‘dri’. A yw’n ‘dri’ yn ei anian, yn ‘dri’ erioed, cyn cychwyn amser, neu ai dod yn ‘dri’ a wnaeth Ef, er mwyn ein hiachawdwriaeth ni, pan ddanfonodd Iesu i’n hachub, a’r Ysbryd i’n cynnal. Cytunwyd iddo fod yn ‘dri’ yn ei anian! Ond oherwydd hynny, collodd yr Athrawiaeth ei chyswllt â’n hiachawdwriaeth, ac aeth yn osodiad ynghylch bywyd mewnol Duw. Wedi i ddiwinyddion sgolastaidd manwl yr Oesoedd Canol weithio arni, aeth yn Athrawiaeth gwbl ddirgel, annealladwy ac amherthnasol.

Pan ddaeth yr Oes Olau yn y ddeunawfed ganrif, a’i phwyslais ar fesur pob dim gan resymeg glir, ystyriwyd Athrawiaeth y Drindod yn ddiystyr a dibwrpas, ac yng ngolwg llawer hyd yn oed o Gristnogion, peidiodd Duw a bod yn ‘dri’, aeth yn ‘un’. (Dyma’r ‘Duw’ y sonia rhai fel Dawkins a Hitchens amdano.)

Credodd rhai yn Athrawiaeth y Drindod, wrth gwrs, heb ymholi nac amau. Iddynt hwy, mae’n un o Athrawiaethau’r Eglwys, a dyna ni. Eithr yr oedd Duw nad oedd yn Drindod yn broblem i lawer o Gristnogion a oedd bob Sul wrth addoli yn adrodd credoau’n dweud bod Duw yn ‘dri’. Araf iawn y cafwyd unrhyw ymateb i hynny, oherwydd cafodd Athrawiaethau’r bedwaredd a’r bumed ganrif barch rhyfedd erioed. Heriodd Martin Luther nifer o athrawiaethau eglwysig, ond dim un o’r cyfnod hwnnw. Ond ers amser nawr bu llawer iawn, iawn o feddwl ac ysgrifennu ynghylch y Drindod, ac mae llawer o broblemau ynghylch yr Athrawiaeth wedi eu hwynebu.

Sylweddolwyd bod y berthynas rhwng y Tad a’r Mab a’r Ysbryd, oherwydd y son, er enghraifft, yn y Testament Newydd am Iesu’n ‘ufudd’ i’w Dad, wedi cyfleu darlun o berthynas hierarchaidd yn y Duwdod. Ac yn waeth, am fod bob un o ‘bersonau’ y Drindod yn wrywaidd, hierarchaeth batriarchaidd oedd hi! Yr oedd hyn oll, wrth gwrs, yn gwbl groes i feddylfryd yr ugeinfed ganrif.

Trafod
Erbyn heddiw disgrifia diwinyddion trindodaidd berthynas fewnol y Drindod fel un gydradd, a dywedant mai’r hyn sy’n llywio’r berthynas honno yw, nid hierarchaeth, ond pregethu Iesu am y Deyrnas, a’i bwyslais ar barch cydradd i bawb. Benthyciodd diwinyddiaeth y Gorllewin air oddi wrth ddiwinyddiaeth y Dwyrain, sef y gair Groeg ‘perichoresis’, gair sy’n golygu troi fel olwyn, i ddisgrifio perthynas ‘personau’ y Drindod,. Nid oes hierarchaeth yn y Drindod meddent, troi o gwmpas ei gilydd fel petai y mae’r ‘tri’. Defnyddiwyd y cysylltiad rhwng y gair hwnnw a ‘coreograffi’ hefyd i awgrymu nad perthynas statig sydd rhwng ‘personau’ y Drindod, ond perthynas fel mewn dawns – sy’n awgrymu bywyd a llawenydd hefyd. Rhydd y darlun newydd hwn y neges mai perthynas yw Duw yn ei hanfod, a honno’n berthynas gydradd, fywiol, lawen!

O ran gwrywdod ‘personau’ y Drindod, tynnodd rai sylw at y ffaith bod y Beibl weithiau’n disgrifio Duw mewn termau di-ryw, fel golau, a thân, a dŵr. Yn yr unfed ganrif ar ddeg, disgrifiodd Hildegarde o Bingen y Drindod fel disgleirdeb, a fflachio, a thân, ac yn y ganrif ddiwethaf disgrifiodd Dorothy L.Sayers y Drindod fel llyfr wedi ei ddychmygu, wedi ei ysgrifennu, ac wedi ei ddarllen! Aeth rhai ymhellach drwy ddefnyddio termau benywaidd am y Drindod. Soniodd Jurgen Moltmann a Leonardo Boff am dad mamol, am Iesu o blaid y tlawd, ac am Ysbryd mewn cytgord a’r symbolau Beiblaidd a benywaidd, Doethineb, a Shekinah (gair Hebraeg yn golygu presenoldeb Duw).

Dylai pob Cristion lawenhau yn y ffaith bod diwinyddion a lleygwyr Cristnogol ‘uniongred’ ein cyfnod ni wedi teimlo’n rhydd i adolygu Athrawiaeth mor hen a chanolog a ‘chysegredig’ ag un y Drindod! A llawenhau bod Athrawiaeth y cysylltir Cristnogion i gyd a hi yng ngolwg pobl eraill, yn fwy ystyrlon nag y bu, ac yn llai o anghysur i rai sy’n ei hadrodd bob Sul. Ond erys cwestiynau ymarferol.

Cwestiynau

Yn gyntaf. Un o ganlyniadau Athrawiaeth y Drindod yw dyrchafu Iesu i’r Duwdod. Yn ôl Cyngor Calcedon (451) mae’r Iesu hwnnw yn ogystal â bod yn ‘wir Dduw’, hefyd yn ‘wir ddyn’. Ond cafodd Athrawiaeth y Drindod lawer mwy o sylw nag Athrawiaeth Person Crist, a thuedd Athrawiaeth y Drindod fu pwysleisio duwdod Iesu ar draul ei ddyndod. (Cafodd ei ddyndod ei anghofio’n llwyr yn fynych ar hyd y canrifoedd – gan Drindodwyr!)

I rai a gredodd bod Iesu wedi marw’n aberth drostynt ar Galfaria, bu’r duedd honno’n naturiol, oherwydd iddynt hwy ei dduwdod sydd bwysicaf, gan mai hynny a wna’r ‘aberth’ drostynt yn bosibl, yn weithredol. Rhaid i’r Oen fod yn ‘ddi-fai’! Ond i’r rhai ohonom sy’n credu mai dehongliad diwylliannol o’r gorffennol yw’r syniad o farw Iesu fel aberth drosom, dehongliad sy’n niweidiol erbyn hyn, nid yw pwysleisio duwdod Iesu’n wasgfa ddiwinyddol arnom, yr ydym yn fwy rhydd wedyn efallai i gymryd dyndod Iesu fwy o ddifrif hefyd!

Yn ail, fe’m magwyd i mewn traddodiad a gred y gall athrawiaethau ein helpu, ond nad yw’n credu y dylid eu gwneud yn amod aelodaeth mewn eglwys. Yn fy enwad i, yr Annibynwyr, sail aelodaeth eglwysig yw’r hyn a gredwn ni yw sylfaen pobl Dduw yn y Beibl, sef cyfamod a Duw ac a chyfamodwyr eraill. Y berthynas gyfamodol sy’n sylfaenol, nid credo. Mae pethau yn y traddodiad Annibynnol yr wyf wedi ei hamau, ond nid wyf wedi amau hwn erioed.

I mi felly, nid yw’n iawn gadael i Athrawiaeth y Drindod – nac un Athrawiaeth anFeiblaidd arall – gadw pobl allan o’r Eglwys. Ni fynnwn i i’r Athrawiaeth hon felly fod yn fodd cadw Byddin yr Iachawdwriaeth, er enghraifft, na’r Undodiaid hyd yn oed, allan o deulu Iesu. Yr wyf fi’n bersonol felly’n hapus i adrodd Athrawiaeth y Drindod, er nad yn or-aml – mae hyd yn oed yr Annibynwyr yn gorddefnyddio’r ‘Weddi Apostolaidd’ – ond nid wyf yn hapus pan ddefnyddir hi i wahanu cyfeillion Iesu.

Soniodd un diwinydd am Athrawiaeth y Drindod fel model i ni o berthynas sy’n barchus o eraill. A chan fod Iesu, a bwysleisiodd pobl ymylol yn ei bregethu, yn y Drindod, mae’r pwyslais ar yr ymylol, meddai, ymhlyg yn y berthynas hefyd. Dyma fi felly’n gorffen yr ysgrif fer hon drwy dynnu sylw at ddisgrifiad un grŵp anrhydeddus iawn o Gristnogion ‘ymylol’, y Crynwyr, o ddiffinio manwl y tu hwnt i ryw bwynt, fel yn Athrawiaeth y Drindod o’u safbwynt hwy – ‘a conceptual stretch’. Mae eu safbwynt o leiaf yn ganllaw i Gristnogion ei gadw mewn cof weithiau.

Vivian Jones