Beth ar y ddaear sy’n bod arnom ni?

Nid dim ond crefyddwyr sy’n holi “ Beth sy’n bod arnom ni? Pam ydyn ni mor chwannog i drais a chasineb?” Mae Cristnogion yn honni eu bod yn gwybod pam, ac yn defnyddio’r gair Pechod. Nid yw’r ffaith fod y gair hwnnw’n annerbyniol gan anffyddwyr yn golygu ei fod yn anghywir, ond y mae’n creu problem gyfathrebu sylweddol. A oes cysyniadau a geirfa ar gael a’i gwna’n bosibl i Gristnogion drafod problem trais a chasineb gydag anffyddwyr, heb fradychu eu ffydd trwy ei gwagio o’i chynnwys?Beth sy’n gyffredin i gredinwyr ac anffyddwyr pan geisiant ateb y cwestiwn ‘Pam ydyn ni mor chwannog i drais a chasineb? Dywed Freud mai mygu ein gwir ddymuniadau fel unigolion yw’r broblem. Mynnai Marx, mai strwythurau pŵer sy’n ystumio dymuniadau cymdeithas a’r unigolion ynddi. Dyna ddau feddyliwr a luniodd y drafodaeth gyhoeddus yn y ganrif ddiwethaf. Heddiw y mae hen ŵr, Ffrancwr, sydd yn ôl ei edmygwyr lawer, yn cynnig set o ddamcaniaethau ynghylch beth sy’n bod ar y ddynoliaeth, sy’n mynd llawer yn ddyfnach na Freud ac ymhellach na Marx – dweud go fawr.

Rene Girard

Treuliodd Rene Girard y rhan helaethaf o’i yrfa academaidd yn America, ac y mae’n dal ei gysylltiad â phrifysgol Stanford, yn Califfornia. Ym 1990 sefydlodd rhai cyfeillion a disgyblion iddo o ddisgyblaethau gwahanol, grŵp a elwir yn Colloquium on Violence and Religion i ymchwilio i mewn i’w ddamcaniaethau, ac i’w trafod. Mae ei ddamcaniaethau yn y maes hwn, sy’n perthyn i’w gilydd fel llechi ar do, yn egluro pam mae crefyddau mor aml yn ymddangos yn rhan o broblem trais yn hytrach nag yn ateb iddi, fel y carai credinwyr gredu.

Nôl yn 1972 bu ei gyfrol La Violence et le Sacré (Trais a’r Sanctaidd) yn destun trafod brwd yn Ffrainc am ei fod yn cynnig eglurhad ynddi o beth yw aberth. I anthropolegwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg ( James Frazer, Evans Pritchard ac eraill), yr oedd aberth (a chrefydd yn gyffredinol) yn perthyn i fyd cyntefig, ofergoelus nad oedd yn haeddu ystyriaeth resymol feddylgar. Ond mae aberthu, medd Girard, sef lladd creadur byw, yn ffenomenon byd-eang sydd i’w gael mewn diwylliannau cyntefig o bob math. Ac mae’r ffenomenon o erlid grwpiau o bobl, ffenomenon sy’n gysylltiedig, fel y cawn weld, a’r syniad o aberth, yn gweithredu mewn diwylliannau llawer mwy ‘gwareiddiedig’. Rhaid bod ystyr iddo, yn wir rhaid bod swyddogaeth iddo.

Y Pedair Elfen

Mae ‘na bedair elfen neu lechen, yn gorwedd yn dwt gyda’i gilydd, sy’n adlewyrchu taith bersonol meddwl ac ysbryd Girard ei hun.

1. Mimesis
Gair a ddefnyddia Girard ei hun yw mimesis, a’i ystyr ywefelychiad, neu ddynwarediad. Mae llawer o feddylwyr wedi sylwi ar bwysigrwydd dynwared mewn diwylliant. Eithr yr ydym yn dynwared ein gilydd, nid yn unig yn gyffredinol, yr ydym hefyd yn dynwared dyheadau ein gilydd. Os yw hi yn ffansïo’r llanc acw, rhaid bod rhywbeth amdano i beri i minnau ei lygadu! Dyna pam mae plant yn ymladd dros degan, dyna sut mae ffasiwn yn gafael, a sut mae hysbysebu’n gweithio. Byddwn yn chwennychu rhywbeth am fod rhywun arall yn gweld gwerth ynddo.

2. Cystadlu Mimetig
Y drafferth yw bod chwennych yr un peth yn golygu dwy law yn estyn am yr un peth, a dyna ddechrau cystadlu, a thrwy hynny ymryson, oherwydd gall dynwared cystadleuol ddwysau’n gyflym. Ond nid pethau da’n unig y byddwn yn eu dynwared. Dynwaredwn rywbeth sy’n sarhad neu’n fygythiad hefyd. Dywed y seicolegydd Anthony Storr, nad oes dim tebycach i ddyn wedi colli ei limpyn na dyn arall wedi colli ei limpyn! Felly wrth i bobl ddynwared ei gilydd mewn materion sy’n ymwneud a sarhau neu fygwth rhywun gall cymdeithas gyfan gael ei heintio gan drais. ‘Does dim ond angen edrych yn y papur newydd i weld hyn yn digwydd, yng Ngogledd Iwerddon, yn Gaza, neu mewn gwrthdaro rhwng Shia a Sunni, a gangiau llanciau yn ein dinasoedd.

3. Y Ddyfais Aberthu Dirprwyol
Dywed Girard bod proses felly wedi digwydd mewn diwylliannau gwahanol iawn i’w gilydd. Ei ddamcaniaeth ef yw mai’r peth sy’n peri arswyd i’r gymdeithas gyntefig heb gyfraith a threfn, yw dialedd. Felly pan fyddai cymdeithas yn dymchwel mewn pla o drais cystadleuol, byddai gelynion, rhag ofn i’r cwbl gael ei ddinistrio, yn troi o ymladd â’i gilydd, i ymladd a rhywun newydd, dieithr, od y gellid ei feio, ei fwrw allan. Mae ein gwreiddiau diwylliannol mewn lladd torfol. Geilw Girard y broses hon yn ddyfais aberthu dirprwyol(mimetic victimage mechanism, a dengys bod hynny’n ennill heddwch, dros dro beth bynnag – ond mae ailadrodd y trais gwreiddiol mewn defodau yn sicrhau parhad yr heddwch.

Ond trais yn unig a all roi terfyn ar drais – neu felly yr ymddengys. Eithr swyddogaeth gyntaf crefydd oedd cadw rheolaeth ar drais drwy wahardd cystadlu mimetig, a thrwy ddefodau. Yn y profiad o effeithiolrwydd aberth y genir y diwylliant aberthol sydd yn dibynnu ar ail-drodd mewn defod yr hyn a wnaed yn y lladd gwreiddiol. Y mae datblygu cyfundrefn grefyddol yn ateb y galw am ddyfais i gadw heddwch. Mae’r cysylltiad rhwng crefydd a thrais yn anochel felly. Dyma’r eglurhad anthropolegol a gynigiodd Girard, ac a barodd dramgwydd i’r anthropolegwyr sy’n gwrthod cydnabod bod ystyr i ddefodau crefyddol. Dyna seiliau anthropolegol Girard, a dyna oedd fframwaith ei feddwl pan aeth ati i edrych ar yr ysgrythurau Hebreig a Christnogol.

4. Goleuni newydd ar y Groes
Yr oedd anthropolegwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi mynnu bod Cristnogaeth a’r crefyddau paganaidd yn union yr un fath, yn delio â’r un ofnau am ffrwythlondeb ac ati. Aeth Girard ati felly i edrych ar y dystiolaeth Gristnogol. Cytunodd fod croeshoelio Crist mewn sawl ffordd yn cyfateb yn gywir iawn i’r aberthau paganaidd. Ond sylwodd ar un gwahaniaeth mawr, sef bod y crefyddau paganaidd yn ceisio cuddio’r trais ac yn dal i roi’r bai ar yr ysglyfaeth. Mae eu mythau hwy’n cyfiawnhau’r llofruddio ac yn adrodd yr hanes o safbwynt y llofruddwyr. Ond bwriad cwbl wahanol sydd gan yr ysgrythurau Iddewig a Christnogol, yn ôl Girard. Y mae’r ysgrythurau hyn ar ochr yr ysglyfaeth. Nid oes gwadu’r trais. Y mae Cain yn llofrudd.

Pan ddywed Iesu am y milwyr Rhufeinig “Ni wyddant beth y maent yn ei wneuthur “ yr hyn a olyga yw na wyddant eu bod yn cymryd rhan mewn gweithred lofruddiol aberthol, yn ôl Girard. Ond dywed fod Caiaphas, pan ddywed mai gwell yw i un farw na dinistrio cenedl gyfan, wedi deall. Y mae croeshoelio Iesu o Nasareth felly yn datguddio ‘pethau a fu’n guddiedig er seilio’r byd’, ac yn egluro pam y mae’r groes yn dangos ‘yr Oen a groeshoeliwyd cyn seiliad y byd.’ Y mae’r groes yn dangos trais cynhenid y ddynoliaeth.

Terfyn ar grefyddau aberthol

Wrth wneud hyn y mae Girard yn dangos bod y Groes yn rhoi terfyn ar fyd y crefyddau aberthol. Yn hyn y mae’n gosod allan y dystiolaeth (anthropolegol) i farn Karl Barth bod Cristnogaeth yn dod â chrefydd i ben. Gwna hyn yn y gyfrol “Things Hidden From the Foundation of the World” nas cyhoeddwyd yn Saesneg tan 1987. Erbyn hynny yr oedd Girard wedi hen fynd trwy dröedigaeth yn ôl i ffydd ei fagwraeth yn Eglwys Rufain, ac mewn trafodaethau gyda Raimund Schwager, Iesüwr o’r Almaen, gweithiodd ei ffordd drwy ddryswch yr iaith aberthol sydd yn y Testament Newydd a dehongliad yr Epistol at yr Hebreaid. Ond am fod y duedd at ladd aberthol yn rhan hanfodol o’r meddwl dynol y mae Cristnogion hwythau’n llithro’n fuan i newid Cristnogaeth nôl yn grefydd aberthol, ac nid yn gyfrwng i ddod â’r holl gyfundrefnau gwaedlyd i ben.

Gwêl Girard hanes alaethus yr Eglwys, a datblygiad llawer o’i diwinyddiaeth fel llithrigfa enbyd yn ôl i’r crefydda aberthol treisgar y mae Crist mewn gwirionedd yn ei ddinoethi. Mae goblygiadau amlwg yma ar gyfer Athrawiaeth yr Iawn, ac mae grŵp o ddiwinyddion yn dechrau defnyddio’r syniadau hyn.

Enid R Morgan

Cwestiynau

1. Ystyriwyd yn y gorffennol mai gwahaniaethau rhwng pobl sy’n achosi anghydfod. Ond pwyslais Girard yw mai awydd i ymdebygu, ac felly i ddymuno’r un pethau sy’n achosi anghydfod. A yw pwyslais Girard yn nes ati?

2. Beth yw goblygiadau’r hyn a ddywed Girard am aberth, i Athrawiaeth yr Iawn?

DARLLEN PELLACH
Dyma rai o weithiau pwysicaf Rene Girard:
Violence and the Sacred John Hopkins University Press 1977
Things Hidden since the Foundation of the World Stanford Unviersity Press 1987 (gyda Jean Michel Ougourlian a Guy Lefort)
The Scapegoat John Hopkins University Press 1986,
I see Satan Fall Like Lightening Maryknoll 2001
Job, The Victim of his People Stanford University Press 1987
A Theater of Envy, William Shakespeare St Augustine’s Press Indiana 1991

Cyflwyniad i’w waith
Discovering Girard gan Michael Kirwan Cambridge 2005

I rai a hoffai weld effaith y syniadau hyn ar Astudiaethau Beiblaidd a phregethu mae adnoddau diddorol ar y we trwy www.textweek.com ac ar www.girardianlectionary.net