Beth yw ‘Credu’ a beth i’w gredu?

Mae’r ysgrif yma wedi’i seilio ar anerchiad a draddodwyd yng nghapel Cribyn fel rhan o ddathliadau cydenwadol wythnos y Pasg ardal Dyffyrn Aeron.

Beth yw ‘Credu’ a beth i’w gredu?

Yn y sylwadau yma mi fyddaf yn dibynnu’n drwm ar waith Karen Armstrong ac yn enwedig ei llyfr The Case for God. Fe gafodd yr ysgolhaig disglair yma ei magu’n Babydd o Gristion traddodiadol. Ar ôl cyfnod yn lleian, fe ymadawodd, a chefnu ar gredo’i magwraeth. Yna, yn rhannol drwy astudio traddodiadau eraill, fe sylweddolodd o’r newydd bwysigrwydd crefydd ym mhrofiad dyn.

Ces innau brofiad tebyg; magwraeth grefyddol iawn, er nad yn gul nac yn ormesol; cyfnod o anffyddiaeth lwyr; ac yna gael fy nhynnu’n ôl, yn rhannol drwy gyfrwng Undodiaeth; a sylweddoli fwyfwy gymaint o gysur, ystyr a chyfoeth profiad y gall crefydd gynnig.

Logos a Mythos

Mae Karen Armstrong yn tynnu sylw at y ffaith fod y Groegiaid gynt yn defnyddio dau air gwahanol i gyfleu dwy agwedd sylfaenol ar fywyd dyn:

Prif ystyr y gair logos yw rheswm ac mae’n ymwneud a materion ffeithiol ac ymarferol a gwyddonol. Hwn sy’n galluogi dyn i gael trefn ar ei fywyd, i ddatrys problemau, gwneud ei waith bob dydd, dilyn ei grefft, esbonio byd natur ac ati.

Peth gwahanol iawn yw mythos. Hwn yw’r allwedd i fyw’n dda, yn fwy dwys ac angerddol; i ymdeimlo a rhyfeddod bodolaeth; i ddygymod a galar a dioddefaint ac i wynebu marwolaeth.

I bwrpasau felly mae dyn drwy’r oesoedd wedi dyfeisio defodau, megis penlinio, treulio cyfnodau o ddistawrwydd a llonyddwch, myfyrdod, ymprydio ac (i roi enghraifft gyfarwydd) rannu bara a gwin.

O ymarfer defodau felly mae modd i ni gael profiadau sy’r tu hwnt i fywyd bob dydd: ymdeimlo’n ddwysach â’n perthynas â’n cyd-ddyn neu’r bydysawd; hyd yn oed weithiau fwynhau profiadau cyfriniol neu ecstatig, neu’r llonyddwch dwfn y mae’r Bwdiaid yn ei alw’n Nirfana.

Meddai Pantycelyn
‘Datrys, datrys fy nghadwynau
gad i’m hysbryd fynd yn rhydd;
rwyf yn blino ar y twyllwch,
deued, deued golau’r dydd.
Yn y golau
mae fy enaid wrth ei fodd’

I Karen Armstrong felly, nid gorfod derbyn hyn-a-hyn o ddamcaniaethau yw hanfod crefydd, ond disgyblaeth ymarferol i weithredu’r defodau a thrwy hynny feithrin y ddawn (‘knack’ yw ei gair hi) o gyrraedd at hanfod y profiad crefyddol. O wneud hynny, mae dyn hefyd yn dysgu tosturio a chydymdeimlo, sy’n angenrheidiol er mwyn byw yn dda.

Un o broblemau’n hoes ni yw ein bod wedi colli’r ddawn yna drwy fod logos wedi ennill y dydd mor llwyr yn ein gwareiddiad ni. Serch hynny mae yna ddyhead yn parhau am ryw fath o ddimensiwn ysbrydol, weithiau drwy ddilyn crefyddau a sectau amgen ac weithiau, yn anffodus, adweithio yn erbyn gwyddoniaeth e.e. gan rai mudiadau efengylaidd

‘Credu’ a ‘Ffydd’

Mae Karen Armstrong yn olrhain ystyron y geiriau yma, sy mor ganolog i grefydd, i’w tarddiad.

Y gair Groeg am ‘gredu’ yn y Testament Newydd gwreiddiol oedd ‘pisteo’, a’i ystyr oedd ymddiried, rhoi teyrngarwch, ymrwymo i rywbeth. Pan gyfieithwyd y Testament Newydd i Ladin, y gair a ddefnyddiwyd oedd ‘credo’, sy’n tarddu o ‘côr do’, sy’n golygu ‘rwy’n rhoi fy nghalon’. Dewisodd y cyfieithydd Lladin ddefnyddio ‘credo’ yn hytrach nag ‘opinior’ sy’n golygu ‘rwy i o’r farn bod’. Adeg cyfieithu’r Beibl i’r Saesneg roedd ‘believe’ yn cario ystyr tebyg, sef ‘rhoi teyrngarwch’.

Mae’n bwysig deall felly nad ‘Rwy o’r farn fod rhywbeth yn ffaith’ oedd ystyr y geiriau a gyfieithwyd fel ‘credu’ yn y lle cyntaf

Os sylwn ni ar y defnydd o’r gair ‘credu’ yng Nghymraeg heddiw, mi ddown ni o hyd i ddau ystyr gwahanol.

(1) Un ystyr yw meddwl bod rhywbeth yn ffaith, ee ‘Dwy i ddim yn credu mewn ysbrydion’, neu ‘Rwy’n credu mewn esblygiad’. Fe glywch ambell ffwndamentalydd yn dweud, ‘Rwy’n credu bod Iesu Grist wedi cerdded ar y dŵr’ yn yr ystyr yma. Ynghylch ofergoelion mi glywch rywun efallai yn dweud, ‘Beth sy’n bod arno fe’n credu rhyw ddwli felna!’

(2) Mae’r ail ystyr i’w weld mewn ymadroddion megis, ‘Rwy’n credu mewn hunanlywodraeth i Gymru’, neu fel arall ‘ym Mhrydain Fawr’; neu ar lefel uwch ‘Rwy’n credu yng ngrym cariad’ neu ‘Dwy i ddim yn credu mewn rhyfel’. Ystyr ‘credu’ yma yw bod yn angerddol o blaid rhywbeth, bod wedi ymrwymo i, hyd yn oed yn caru, y peth hwnnw.

Gwyddoniaeth a Chrefydd

Mae Karen Armstrong yn dadlau bod ystyr (2) wedi shifftio’n gryf tuag at ystyr (1) erbyn tua’r flwyddyn 1700, yn sgil y chwyldro gwyddonol. E.e roedd Newton yn mynnu bod Ffiseg a’i ddarganfyddiadau wedi profi bodolaeth Duw, nad oedd modd esbonio’r bydysawd heb fodolaeth Duw fel ffaith. Fe ddaeth ‘credu yn Nuw’ yn gyfystyr a derbyn bodolaeth Duw fel ffaith. (Erbyn hyn mae rhesymeg Newton wedi’i wrthod gan wyddonwyr.)

I’r gwyddonydd mae derbyn bodolaeth rhywbeth yn dibynnu ar dystiolaeth a phrawf. Mae arbrofion trwyadl yn cael eu cynnal er mwyn darganfod a yw rhywbeth yn ffaith. Oherwydd dylanwad mawr y dull yma o feddwl fe aeth crefyddwyr hefyd i weld cwestiynau megis bodolaeth Duw a’r hanesion am fywyd yr Iesu yn nhermau tystiolaeth a phrawf. A dyna ddechrau ar y ddadl rhwng crefydd a gwyddoniaeth sydd wedi para hyd heddiw.

I gawlio pethau ymhellach, gan ddechrau yn America’r 19eg ganrif, fe ddatblygodd ffwndamentaliaeth, sy’n gwrthod darganfyddiadau gwyddonol megis esblygiad ac yn dehongli storïau megis y Creu yn Llyfr Genesis fel ffeithiau hanesyddol.

Barn Karen Armstrong, a ’marn innau, yw bod y ddadl hon yn misio’r pwynt yn llwyr, ac yn wastraff amser.

Beth i’w Gredu?

Fel hyn y gwelaf i’n bersonol bethau.

Yn ystyr (1) y gair, dwyf i ddim yn credu yn y goruwchnaturiol. Welaf i ddim sut y gallu unrhyw beth fodoli, a siarad yn ffeithiol, y tu fas i drefn natur.

Mae’n dilyn oddi wrth hyn nad wyf i ddim yn credu mewn Bod Mawr goruwchnaturiol sy wedi creu’r bydysawd ac sy rywsut yn ei reoli. Felly mae cwestiynau megis pam y mae Duw yn caniatáu swnamis, neu glefyd motor-neurone, neu gant a mil o erchyllterau eraill, yn ddiystyr.

Yr hyn rwyf yn credu ynddo (yn ystyr 2) yw’r rhinweddau hynny a fyddai’n cael eu galw ers llawer dydd yn ‘bedair merch y Drindod’: trugaredd, gwirionedd, cyfiawnder a thangnefedd, gwerthoedd sy’n cael eu cwmpasu yn y syniad o gariad. Ystyr dweud bod y gwerthoedd hynny i’w cael ar eu ffurf berffeithiaf yn Nuw yw datgan mai nhw a ddylai fod yn rheoli’r byd. Ac yn y Duw symbolaidd yna, creadigaeth dyn wrth gwrs, rwy’n fodlon ‘credu’, ymrwymo wrthyn nhw gyda hynny o argyhoeddiad ag sy’n bosibl i weiniad fel fi.

Ac yn ogystal â chredu yn y pethau yna, rwyf am ymrwymo i ymarfer y defodau sy’n help i fi gael yn ysbrydoli ganddyn nhw, tra’n rhoi rhyw brofiad i fi hefyd o’r ‘llawenydd uwch’ y mae `Pantycelyn yn cyfeirio ato ac o ‘dangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall’. Y defodau sydd ar gael i fi yw: mynd i’r cwrdd, cyd-ganu, gwrando ar y darlleniadau, cymryd rhan yn yr ymatebion, penlinio a gweddïo, derbyn y cymun. Y cyfan wrth gwrs yng nghwmni ’nghyd-ddyn.

Wythnos y Pasg

Mae’r ychydig sylwadau yma wedi’u llunio yn ystod wythnos y Pasg, a ninnau’n
cael ein hatgoffa o’r newydd o un o’r storïau mwyaf rhyfeddol a adroddwyd erioed, o fynediad gorfoleddus Iesu i Jerwsalem, drwy’r disgrifiad o’r brad a’r gwadu a’r dioddefaint erchyll i fuddugoliaeth yr Atgyfodiad.

Nid hanes ffeithiol mo hyn oll wrth gwrs ond myfyrdod mewn stori a chwedl am brofiadau dyfnaf dyn: am ddewrder ac aberth, am greulondeb bwystfilaidd a dioddefaint, am ffyddlondeb a brad, am iachawdwriaeth, am adfer gobaith a hyder wedi trallod a dadrithiad. Nid logos yw hyn oll, ond mythos.

Dwyn y Traddodiadau Ynghyd

Peth gwych iawn yw gweld y gwahanol enwadau’n dod ynghyd i ddathlu’r Pasg yn ardal Dyffryn Aeron. Mae i bob un o’r enwadau hyn eu cryfderau. Yr Undodiaid a’u pwyslais ar reswm, rhyddid a diwygiad cymdeithasol. Yr anghydffurfwyr eraill a’u pwyslais ar angerdd, parchedig-ofn a dwyster profiad personol. Yr eglwyswyr a’u pwyslais ar ddefod a litwrgi, ar ffurf ac addurn. Ond mae i bob un o’r traddodiadau yma eu diffygion hefyd. Mae yna gyfle mawr iddyn nhw yn awr ddysgu oddi wrth ei gilydd. Fe fu amser pan oedd gwahaniaethau sylfaenol yn golygu bod rhaid iddyn nhw fod ar wahân. Ond os cywir fy honiad i mai dadl ddoe yw’r gwrthdaro rhwng rheswm a chrefydd, ac os derbyniwn ni fod i logos a mythos ill dau eu lle, welaf ddim bod angen iddyn nhw fod ar wahân ddim mwy.

Cynog Dafis