Beth yw Duw?

Beth yw Duw?

gan Cynog Dafis

(Papur a gyflwynwyd i Grŵp Cristnogaeth 21 yn Aberystwyth)

Pe baech chi’n gofyn i’r ‘dyn yn y stryd’ beth yw ystyr ‘Duw’ rwy’n tybio, os caech chi ateb o gwbl, mai rhywbeth tebyg i’r canlynol fyddai fe:

‘Bod goruwchnaturiol hollalluog a chariadus a greodd ac sy’n goruchwylio’r byd(ysawd)’

 Meddai John Calfin: ‘Nid oes dim yn digwydd ond drwy orchymyn neu ganiatâd Duw.

Mae’n ddiffiniad sy wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein hymwybyddiaeth. Dyma’n sicr Dduw’r ffwndamentalwyr, a dyma wrthych ymosodiadau atheisitiaid milwriaethus megis Richard Dawkins, AC Grayling a Christoper Hitchins, y mae ganddyn nhw ganlynwyr brwd yn y byd Cymraeg.

O ddarllen Byw’r Cwestiynau a gorchestwaith Karen Armstrong, A History of God, fodd bynnag, mi gawn ni fod y pwnc beth wmbredd yn fwy cymhleth.

Meddai Byw’r Cwestiynau:  ‘Cynigia’r Beibl amrywiaeth o syniadau a delweddau am Dduw’ a ‘Mae cymeriad y Duw y rhown ein ffydd ynddo’n llunio’n cymeriad ni yn unigolion ac fel pobl Dduw’.

O ddarllen The History of God (Karen Armstrong), fel y gwnes i wrth baratoi hyn o lith mi welwn y gwahanol fersiynau o ‘Dduw’ a luniwyd drwy’r oesoedd. Meddai’r awdur, ‘Rhaid i bob cenhedlaeth greu ei hamgyffrediad dychmyglawn ei hunan o Dduw’

Gan ddibynnu’n drwm ar ddadansoddiad Karen Armstrong (KA) rwyf-i am drafod yn fyr rai o’r fersiynau yna cyn dod at ystyron posibl Duw yn y 21fed ganrif a’r cwestiwn sy yn nheitl pennod olaf Karen Armstrong, ‘Oes gan Dduw ddyfodol?’

Dyma ddau fersiwn i gychwyn:

Fersiwn 1: y Duw Pellennig

I’r athronydd Groegaidd Aristoteles, Duw oedd yr Ysgogydd Disygog. Nid Crëwr y byd oedd hwn er y gellid dyfalu i bob peth darddu (anetio’) ohono. Doedd ganddo ddim diddordeb yn hynt a helynt dynol-ryw: tragwyddol syllu arno’i hunan oedd ei ddiléit.

I Platon, doedd pethau’n byd ni yn ddim ond cysgodion y byd tragwyddol lle roedd popeth yn berffaith ac yn ddigyfnewid. Y realiti uchaf oedd y Da – fersiwn o Dduw, gellid dadlau.

Serch bod y math yma o Dduw yn bellennig ac yn gyfangwbl y tu hwnt i’n dirnadaeth ni, roedd modd i ddyn ymgyrraedd at y dwyfol drwy ymdrechu i ddeall ac i fyw yn dda, a thrwy arfer defodau crefyddol a allai godi dyn i lefel uwch o ymwybyddiaeth a phrofiad.

Bu dylanwad Aristotles a Phlaton yn enfawr drwy’r canrifoedd ac mae’r syniad o Dduw sy’n gyfangwbl y tu hwnt i’n dirnadaeth yn gyffredin mewn gwahanol draddodiadau, gan gynnwys rhai Cristnogol. Byddai rhai meddylwyr yn awgrymu nad oedd diben yn y byd i ni ddyfalu am natur y Duwdod, heb son am ei fwriadau, ac mai rheitiach peth yw i ni ymroi i fyw’n dda, mewn cytgord â’n cyd-ddyn, a/neu feithrin y bywyd mewnol. Yn nyfnder ein bodolaeth ni ein hunain y gellid dod o hyd i gyfoeth ysbrydol. Datblygodd y Cyfrinwyr ym mhob traddodiad ymarferion corfforol a meddyliol i’r union bwrpas hwn.

Fersiwn 2: Y Duw sy’n Ymwneud â’r Byd

Dyma yw Duw Israel, El neu Iawe, sy’n sylfaenol i’n canfyddiadau ni. Mae’n dduw personol sy’n meddu ar nodweddion dynol ac mae’n barhaus yn ymyrryd mewn hanes

Yn llyfrau Josua, Barnwyr a Samuel, Duw rhyfel yw e – dyna ystyr y term ‘Arglwydd y Lluoedd’. Mae’n eiddigus, yn gwobrwyo ufudd-dod ac ymddarostwng ac yn cosbi anufudd-dod, weithiau’n ddidostur, megis yn hanes arswydus y brenin Saul. Mae’n rhoi buddugoliaeth filwrol a thiriogaeth i’w genedl etholedig, cyhyd â’u bod yn deyrngar iddo, ac yn eu hannog i ddifa’u gelynion yn ddidrugaredd. Does fawr o foesoldeb yn perthyn iddo ac unig wrthrych ei gariad yw plant Israel, ei ddewis bobl

Mae Duw’r proffwydi mawr, er yn dal yn Arglwydd y Lluoedd, yn wahanol iawn. I’r genedl a gafodd ei choncro a’i chaethgludo, doedd yr addewid o fuddugoliaeth filwrol ddim yn tycio. Rhwng y seithfed a’r nawfed ganrif CC, dyma broffwydi megis Jeremeia, y ddau Eseia, Amos a Hosea yn creu darlun o Dduw y mae cyfiawnder cymdeithasol yn ganolog i’w gonsyrn. Mae’n collfarnu gormes ble bynnag y bo, yn tosturio ac yn fawr ei ofal dros y difreintiedig, yn mawrygu heddwch, yn rhagweld dydd pan fydd y cenhedloedd yn byw yn gytûn ac yn diffinio buddugoliaeth yn nhermau dioddef. Mae’r Duw hwn yn dduw i’r ddynoliaeth gyfan.

Mae KA (yn ei llyfr nodedig The Great Awakening) yn gosod y proffwydi yng nghyd-destun Oes yr Acsis (The Axial Age) a welodd ddatblygu moeseg newydd y mae’r egwyddor y dylen ni drin pobl eraill fel y caren ni’n hunain gael ein trin yn ganolog iddi. Yn y Dwyrain roedd Gawtama’r Bwda, a Chonfucius ymhlith y ffigyrau allweddol.

Gwerthoedd y proffwydi mawr a welwn ni yn nysgeidiaeth a bywyd Iesu, fel y manylir ar y rheini yn yr efengylau a’r epistolau. Nhw yw hanfod Cristnogaeth.

Yma wrth gwrs rydyn ni’n dal gyda’r Duw sy’n ymyrryd yn y byd. Yn wir, mae’r Duw hwn yn dod i’r byd, yn ymgnawdoli, syniad sy’n ganolog, er nad yn unigryw, i Gristnogaeth. Honnodd rhai o feddylwyr Islam fod Dyn Perffaith a oedd yn amlygu nodweddion y dwyfol i’w gael ym mhob cenhedlaeth. Fe welen nhw Muhammad mewn termau felly, er na fuasai hwnnw yn honni’r fath beth. (Yn ôl yr athronydd Moslemaidd Luria, roedd Duw yn anghyflawn heb ddynion – roedd arno fe angen eu gweithredoedd da a’u gweddïau). Ganrifoedd wedi ei farw, dyrchafodd ei ddilynwyr Gautama i’r un math o statws.

Rheswm v Dychymyg

1 Duw Rheswm

Drwy’r canrifoedd, ac yn enwedig dan ddylanwad athroniaeth gwlad Groeg, bu dadlau ynghylch dichonoldeb darganfod, a phrofi bodolaeth Duw, drwy reswm. Cynigiodd Thomas o Acwin bum prawf i fodolaeth Duw.

Cyrhaeddodd y dynesiad yma’i anterth gyda’r Chwyldro Gwyddonol a’r Goleuo o’r 16ed ganrif ymlaen.  Mynnodd Isaac Newton fod ei theori e’n profi bodolaeth Duw, yr Ysgogydd Cyntaf nad oedd modd esbonio bodolaeth y bydysawd hebddo ond nad oedd yn ymyrryd dim yn ei Greadigaeth wedi iddi ddod i fod. Roedd Pantycelyn yn gyfarwydd â syniadau gwyddonol Newton ac yn Golwg ar Deyrnas Crist roedd Pantycelyn yn dilyn yr elfen gyntaf ac yn bendant iawn yn gwrthod yr ail.

Barn KA yw i Gristnogaeth y cyfnod deimlo dan bwysau i i’w chyfiawnhau ei hun yn nhermau rheswm a ffeithiau gwrthrychol.

 

Erbyn y 19fed ganrif roedd syniadau Newton am yr Ysgogydd Cyntaf yn dechrau ymaddatod, ond fe ddaliodd y meddylfryd hwnnw ei dir, yn rhyfedd ddigon yn y mudiad Ffwndamentalaidd, sydd ar y naill law yn ymwrthod â llawer o ddarganfyddiadau gwyddoniaeth ac yn mynnu ar yr un pryd drafod diwinyddiaeth yn nhermau prawf a thystiolaeth wrthrychol. Mae’r ymwrthod ag Esblygiad a’r gefnogaeth i Ddyluniad Deallus er mwyn esbonio natur a lle dyn ynddi yn enghraifft berffaith o hynny.

 

Yn yr 19fed ganrif fe ddaeth atheistiaeth yn gredadwy am y tro cyntaf. Cyn hynny, beth bynnag y gwahanol fersiynau o Dduw, roedd ffaith ei fodolaeth i’w gweld yn ddiamheuol. Roedd atheistiaid yr oes newydd ar y llaw arall yn dadlau (i) nad oedd angen y cysyniad o Dduw i esbonio’r bydysawd a (ii) nad oedd modd cysoni Duw daionus â natur y bydysawd hwnnw. I lawer o Iddewon achosodd pogroms Dwyrain Ewrop ac yna’r Holocost ei hun argyfwng cred sylfaenol ac ymwrthod â’r syniad o Dduw.

 

2. Duw’r Dychymyg

Yn y traddodiad yma, iaith dychymyg, myth, symbol, trosiad a sythwelediad sy’n briodol wrth son am Dduw. I KA profiad goddrychol, nid cyfres o ddaliadau am wirioneddau gwrthrychol, yw crefydd. Iddi hi, adeiladwaith symbolaidd yw Duw, rhan o ymdrech dyn i wneud synnwyr o’r byd a rhoi ystyr i fywyd. Nid esbonio yw pwrpas crefydd ond dysgu dygymod ag anawsterau a’u goresgyn, i lawenhau mewn gorthrymder, i gyfoethogi bywyd a’i gael yn helaethach.

 

Dyrchafwyd yr olwg yma ar Dduw yn rhan o’r adwaith yn erbyn Rhesymiadaeth er enghraifft yn y Diwygiad Methodistaidd ac hefyd yng ngwaith beirdd Rhamantaidd Lloegr megis Wordsworth a Coleridge. Iddyn nhw roedd y dychymyg yn gallu canfod presenoldeb Duw ym mhob peth. Uwchlaw Abaty Tindyrn canfu Wordsworth

 

‘A presence that disturbs me with the joy

 Of elevated thoughts; a sense sublime

Of something far more deeply interfused

Whose dwelling is the light of setting suns,

And the round ocean and the living air’

 

Gwahanol ac eto tebyg yw profiad Pantycelyn

 

‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell

Amdanat bob yr awr

Tyrd, fy anwylyd, mae’n hwyrhau

A’m haul bron mynd i lawr’

 

Gwelodd yr 20fed ganrif, yn sgîl y syniad bod y Duw goruwchnaturiol ‘wedi marw’, ymdrechion i’w ailddiffinio mewn termau newydd.

 

I rai, adeiladwaith symbolaidd i gynrychioli’r gwerthoedd aruchelaf oedd E. Roedd Alfred Adler yn derbyn ‘mai tafluniad yw Duw ond yn credu iddo fod o gymorth i ddynoliaeth, symbol disglair o ragoriaeth’. Felly hefyd Hermann Cohen: ‘syniad wedi’i ffurfio gan feddwl dyn, symbol o’r delfryd moesegol’. I Bloch, ‘y delfryd dynol na ddaeth o fod eto’ oedd Duw. (dyfyniadau gan KA)

 

 Datblygodd eraill y syniad o Dduw, nid fel rhywbeth ‘allan fanna’ ond fel gwreiddyn Bod. Dyna weledigaeth Jung, Paul Tillich, John Robinson, Esgob Woolwich, yn Honest to God, JR Jones yn Ac Onide ac wrth gwrs Waldo Williams:

 

‘Nid oes yng ngwreiddyn Bod un wywedigaeth,

Yno mae’r rhuddin yn parhau.

Yno mae’r dewrder sy’n dynerwch,

Bywyd pob bywyd brau.’

 

Yn gysylltiedig â hynny ail-ddarganfuwyd y weledigaeth oesol o Dduw yn bresennol yn undod pob peth, yn enwedig undod y ddynoliaeth. Waldo Williams eto:

 

‘Mae rhwydwaith dirgel Duw

Yn cydio pob dyn byw:

Cymod a chyflawn we

Myfi, Tydi, Efe.

 

Mae’n gwerthoedd ynddo’n gudd,

Ei dyndra ydyw’n ffydd:

Mae’r hyn fo’n gaeth yn rhydd….

 

Cymod a chyflawn we

Myfi, Tydi, Efe,

A’n cyfyd uwch y cnawd…’

 

 

Mae KA yn cyfeirio at syniad Lonergan sy’n apelio’n arbennig ataf i. Mae’r dwyfol i’w ganfod, meddai fe, yn ymdrech dyn i wthio ffiniau deall sy’n golygu ei fod yn codi uwchlaw, neu’n ei ‘drosgynnu’, ei hunan.  Ond i fod yn berthnasol i ragor nag elît deallusol, mae angen cymhwyso syniad Lonergan i feysydd eraill yng ngweithgarwch dyn. Pa le bynnag y gwelir dyn yn ymgyrraedd y tu hwnt i’w gyfyngiadau naturiol, wrth ofalu, wrth chwarae, wrth greu, wrth werthfawrogi, wrth fyfyrio, wrth weithio – mae’r rhestr yn un hirfaith – gellid dweud bod dyn yn ymgyrraedd at y dwyfol. Hanfod crefydd meddai KA yw’r ymdeimlad o barchedigaeth sy’n ymgodi ynon ni pan syllwn ni ar ddirgelwch bywyd.

Y cwestiwn, i gloi, yw p’un a yw’r gair ‘Duw’ yn addas ar gyfer y diffiniadau arbrofol hyn. Neu a ddylen ni am y tro roi seibiant i’r gair?