Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Mehefin 25ain, 2017

Haf 2017

Yr hunan-fomiwr ym Manceinion, yr ymosodiadau ar Bont Llundain a Marchnad y Borough, hunllef y tân yn Nhŵr Grenfell, yr ymosodiad ar Fwslemiaid wrth iddynt adael Mosg Parc Finsbury ac, i raddau llai efallai, yr ansicrwydd ynghylch ein dyfodol yn y DU yn sgil Brexit ac oblygiadau’r sefyllfa wleidyddol fregus ar ôl yr etholiad – dyna rai o’r pethau sydd wedi cyfrannu at y ffaith mai hwn yw un o’r hafau mwyaf gofidus a phryderus ers blynyddoedd.

Mewn grŵp trafod y bum i ynddo yr wythnos ddiwethaf y gerdd dan sylw oedd ‘Ofn’ gan y Prifardd Hywel Griffiths. Yn e-fwletin wythnosol olaf Cristnogaeth 21 dros fisoedd yr haf, fe’ch gadawn chi gyda’r gerdd hon. Ynddi cawn ein hannog i beidio a gadael i dristwch, trallod a thywllwch ein hamgylchiadau drechu goleuni gobaith.

Gelwir arnom i wrthod gadael i ragfarnau’r wasg a thwyll gwleidyddion i reoli’n barn a’n meddyliau. Yn hytrach mynnwn yr asgwrn cefn i feddwl yn wreiddiol a meithrin yr annibyniaeth barn hwnnw a’n gwna ni’n rhydd; yn rhydd i wrthwynebu twyll a gormes, yn rhydd i arddel grym y pethau bychain, yn rhydd i garu ein gilydd.

               Ofn 

Pan fo holl rym tywyllwch dros y byd,
a rhyddid wedi’i fygwth ar bob tu,
pan fo cysgodion ar y ffyrdd i gyd
a phob un cornel stryd yn gysgod du,
pan nad oes dim ond dychryn ar y sgrin
a dim ond nos yr ochr draw i’r llen,
pan fo pob ffrind yn sinistr a blin
a’r rhai mewn grym yn gweld y byd ar ben,
diffoddwch y teledu am y tro,
agorwch lenni’r lolfa led y pen,
cofleidiwch yr anwybod, ewch ag o
tu allan ar y stryd fel cyllell wen
i dorri drwy hualau’r ofnau sydd
yn cadw pawb yn saff rhag bod yn rhydd.

                        Hywel Griffiths                                                        

Mae dwy fideo wedi eu paratoi i gyd-fynd â’r gerdd uchod:

https://www.youtube.com/watch?v=qSHKZw8VKTo;

https://www.youtube.com/watch?v=9OYzBOYDGlc

Byddwn yn ail-ddechrau dosbarthu’r e-fwletin ym mis Medi. Yn y cyfamser, fe fydd y wefan yn cael ei diweddaru’n gyson, gan  gynnwys cyhoeddi erthyglau newydd yn yr adran ‘Agora’, ein cylchgrawn digidol.

 

E-fwletin Mehefin 18fed, 2017

Bydd rhai ohonom, mae’n debyg, wedi treulio diwrnod neu ddau yn ystod y tridiau diwethaf mewn cyfarfodydd enwadol blynyddol: Yr Annibynwyr yng nghylch capeli Rhydaman ac Undeb Bedyddwyr Cymru wedi dathlu’r 150 yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn, gyda tua 200 yn bresennol a 50 ohonynt yn blant, ond y mwyafrif yr ochr anghywir i 55! Dathliad llawen. Cafwyd awr arbennig yng nghwmni Mererid Hopwood a Tecwyn Ifan.

Tybed faint o sylw gafodd Y Tyst a’r Seren, heb anghofio bod gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru Y Goleuad, a’r Gwyliedydd deufisol gan Yr Eglwys Fethodistaidd? Roedd yna hefyd gyhoeddiad o’r enw Y Llan i’w gael unwaith gan Yr Eglwys yng Nghymru…

Wyddoch chi faint sy’n derbyn yr enwadol wythnosol erbyn hyn? Clywais yn gymharol ddiweddar o lygad y ffynnon taw 900 yw cylchrediad Y Goleuad, gyda thua 50 yn llai i’r Tyst a Seren Cymru wedi disgyn i ychydig dros 500.

Tybiaf fy mod yn eithriad, oherwydd medraf gael golwg ar y 3 uchod mewn llyfrgell ganolog amser cinio bob dydd Gwener. Maen nhw yno yn ddieithriad bron ar y sillffoedd. Ffordd arall o ddweud nad oes fawr neb yn eu cymryd na’u darllen!

Credaf fy mod yn darllen un ohonynt ers hanner canrif bellach. Roedd yna golofn wythnosol gan weinidog digon amlwg yn ei ddydd, dan deitl tebyg i ‘Cartref…ac oddi cartref’ oedd yn cyfeirio at amrywiol gapeli, emynwyr, cyfansoddwyr… Dyna, mae’n debyg, lle dechreuodd fy niddordeb mewn pethau o’r fath ym mlynyddoedd fy arddegau. Rydw i’n dal i ddangos diddordeb. Ond pwy sy’n cyflawni gwaith fel hyn heddiw? Faint o ddarllenwyr yr enwadol sydd yr ochr cywir i 60?

Seren Cymru, – dyna detl amheus. Buasai Seren i 500 yn agosach ati! Sylwais rai misoedd yn ôl, yn wahanol i bob enwadol a chylchgrawn arall, nad oes unrhyw gyfeiriad at bwy sy’n argraffu’r Seren. Rydw i wedi bod yn holi ers dechrau mis Ebrill, gan fod safon y lluniau (sydd wastad mewn du a gwyn) yn amrywio o ran safon ac weithiau’n llai derbyniol. Ond  mae’n gyfrinach! Meddyliaf weithiau y byddai mwy o bosibilrwydd i’r Pab yn Rhufain ddysgu Cymraeg na chlywed unrhyw un ar y cyfryngau, neu mewn cylchgrawn arall, yn cyfeirio at yr enwadol wythnosol. Maen nhw rhywsut yn anweledig, ac yn anghlywadwy! Gwrandewch ar Catrin Beard ar y Post Prynhawn unrhyw brynhawn Gwener!

Sylwaf fod gan Y Tyst rhyw ddwsin o unigolion sy’n cyfrannu darnau golygyddol yn eu tro. Rydw i yn mwynhau darllen nifer o’r rhain a cheir amrywiaeth braf o safbwyntiau gwahanol. Diolch am rywbeth i feddwl amdano wedi gadael drysau’r llyfrgell.

Efallai taw diolch am y copiau print ddylen ni tra eu bod nhw dal yn ein dwylo. Yn amlwg does  fawr o ddyfodol gan bod trwch y darllenwyr dros 60. Glywoch chi am unrhyw un gweddol ifanc yn talu am yr enwadol ers dechrau’r ganrif hon? Os oes yna rywrai ifainc yn darllen?  Buasai’n ddiddorol clywed ganddynt beth yw’r atyniad.

Bydd yr enwadol ar gael ar lein yn unig rhywbryd rhwng 2020-2030. Rwy’n fodlon mentro sawl punt neu ewro!

E-fwletin Mehefin 11eg, 2017

Drannoeth y drin etholiadol, mae llawer iawn ohonom yn dal i drafod y canlyniadau rhyfeddol. Mae’r bleidlais a drefnwyd i greu sicrwydd wedi esgor ar gyfnod newydd o ansefydlogrwydd pryderus.

Pan alwyd ni i’r blychau pleidleisio, roeddem ni eisoes mwn cyfnod anodd yn sgil yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion. Teimlai amryw ohonom y byddai’r erchyllterau hynny, o orfod, yn arwain at newid natur cymdeithas wrth i ni ddiogelu ein hunain.  Lleiafrif bychan iawn a leisiodd eu gwrthwynebiad i bresenoldeb plismyn arfog ar faes Prifwyl yr Urdd, er bod y mwyafrif yn ei weld yn ddatblygiad chwithig tu hwnt.

Rhwng y cyfan, bu’r wythnosau diwethaf yn gyfnod o ddiflastod ac anobaith, er inni brofi llawenydd wrth weld y cariad a’r cyfeillgarwch yn llifo ynghanol y blodau yn Albert Square a Borough Market. 

Ac yna, wrth i’r llwch setlo yn sgil yr etholiad, cafwyd rhagor o resymau dros fod yn obeithiol am y dyfodol.

Yn y lle cyntaf, gwelwyd pobl wrth eu miloedd yn troi tu min tuag at y wasg Saesneg, adain dde. Fore’r etholiad, roedd hi’n amlwg fod yna ysbryd newydd ar gerdded wrth i’r cyfryngau cymdeithasol annog pobl i brynu hynny a fedren nhw o’r papurau pennau coch er mwyn eu taflu i’r bin sbwriel neu hyd yn oed eu llosgi.

Ac nid dyna unig gyfraniad y cyfryngau cymdeithasol i ddadleuon yr etholiad. Roedd yna ail ddatblygiad cyffrous a daniodd ddychymyg ein hieuenctid ymhob cwr.

Daeth Facebook, Twitter ac Instagram yn fyw wrth i’r bobl ifanc gael eu cynhyrfu i chwarae rhan fwy amlwg nag a wnaethon nhw erioed o’r blaen. Dyma’r etholiad lle y gwelwyd y nifer mwyaf o bobl yn bwrw’u pleidlais ers ugain mlynedd, a’r awgrym yw fod y genhedlaeth ifanc rhwng 18 a 25 oed wedi tyrru i’r gorsafoedd pleidleisio.

Wedi dweud hynny, rhaid i ni fod yn ofalus eithriadol am yr honiadau hyn, gan nad ydyn nhw wedi eu profi eto. Clywsom Sky News yn mynnu bod cymaint â 72% o bobl ifanc wedi defnyddio eu hawl i fwrw’u coelbren, ond does dim sail i gasgliad o’r fath hyd nes y cyhoeddir y gwir ffigurau.  Roedd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yr un mor barod i wneud cyhoeddiad tebyg, ac er bod arolwg barn gan y New Musical Express yn awgrymu ffigwr llawer is, sef 53%, mae’r swm yn dal i fod yn rhyfeddol o gofio mai dim ond 44% o’r genhedlaeth hon a drafferthodd i bleidleisio yn 2015.

Boed y ffigwr yn 72% neu 53%, fe erys y ffaith bod yr etholiad hwn wedi dal dychymyg ein pobl ifanc, ac fe ddylai hynny fod yn destun llawenydd i bob un ohonom. Yng Ngheredigion, Gogledd Caerdydd a Chaergaint, fel mewn degau o etholaethau eraill, dywed yr ymgeiswyr llwyddiannus fod y bleidlais ifanc wedi bod yn ddylanwadol tu hwnt.

A ninnau mewn cyfnod mor bryderus, fe ddylai fod yn fiwsig i glustiau unrhyw un i glywed fod y genhedlaeth nesaf wedi torri ei chwys ei hun, gan anwybyddu rhagfarnau’r papurau newyddion adain dde, a dewis chwarae rhan amlwg yn y broses ddemocrataidd drwy wneud safiad dros eu hegwyddorion.

 

 

E-fwletin Mehefin 4ydd, 2017

E-fwletin Mehefin 4ydd, 2017

Delweddau llawn llawenydd, hwyl a chyffro a gafwyd yr wythnos diwethaf yng ngweithgarwch plant ac ieuenctid Eisteddfod yr Urdd ym Mhencoed. Dyma wrthgyferbyniad llwyr i’r hyn a welwyd yn hwyr neithiwr yn Llundain, a’r wythnos flaenorol ym Manceinion, wrth i deuluoedd alaru ar ôl colli plant, ieuenctid ac oedolion. Creodd y ddwy weithred erchyll ofnau dybryd.

Roedd y ddau ymosodiad fel ei gilydd yn agos i adref nes gwneud i ni deimlo’n ofnus. Beth bynnag yw lefel y bygythiad terfysgol, boed uchel neu isel,  sut allwn ni berswadio a darbwyllo pobl, a’n plant yn arbennig, i beidio â byw mewn ofn? Yn anffodus, does na’r un ateb cywir. Y cam cyntaf yw eu lapio mewn cariad. Yn anffodus does gan blant diniwed ddim imiwnedd rhag ymosodiadau tebyg. Nid yw plant Syria, Afghanistan a Lybia yn ddiogel rhag ein bomiau ni yng ngwledydd y Gorllewin.

Beth sydd yn ein hatal rhag dianc i hafan ddiogel?

Dyma’r gwir:-

  1. Nid yw ofn yn atal marwolaeth; ond mae’n atal bywyd.
  2. Ni allwn guddio rhag angau, os felly pam cuddio rhag bywyd? 
  3. Pa ddaioni sydd mewn bywyd os yw’n cael ei dagu gan ofn?

Dywedir sawl gwaith yn y Testament Newydd am inni gyfeirio’r ofn ar hyd ffordd arall. ‘Nac ofnwch, ond carwch. Carwch Dduw a charwch ddyn oherwydd y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn.’

Llun:BBC

Cariad sy’n rhoi cyfeiriad i’r egni a wastreffir pe bai’n ei gyfeirio ar hyd llwybrau ofn. Fe’i meistrolir drwy osod ein hunain o dan rym cariad. ‘Yr hwn sy’n ofni nid yw mewn cariad perffaith.’

Byddwn yn ofni rhai pobl neu bethau am ein bod yn eu casáu. Ar y llaw arall, byddwn yn casáu rhai am ein bod yn eu hofni. Ofn a chasineb sydd gyda’i gilydd yn difetha bywyd. Dyna sydd wrth wraidd drygioni mwyaf cymdeithas – rhyfeloedd rhwng gwledydd, cweryla rhwng unigolion, cwympo mas rhwng cymdogion, ymrannu rhwng pobl a chymdeithas – ofn yn troi’n gasineb.

Ofn sy’n adeiladu llongau rhyfel, tanciau a drylliau, yn codi gwrthgloddiau rhwng gwledydd. Mae’n gorfodi pobl i sbïo a thwyllo, tra mae cariad yn adeiladu ysbytai ac ysgolion. Mae ofn yn paratoi croes a choron o ddrain tra mae cariad yn paratoi croeso a choron y bywyd.

Ni all ofn a chariad gyd-dynnu. Lle mae ofn nid oes cariad a lle mae cariad bydd ofn yn cael ei liniaru. Dyna frwydr fawr bywyd.

Dysgwn a dangoswn sut i wneud y byd yn lle gwell. Cofiwn: am bob person drwg, mae llawer mwy sydd yn dda. Am bob gweithred ysgeler, dywyll, mae llawer o rai caredig sy’n llawn golau. Trwy ledaenu’r pelydrau hynny gellir trechu’r tywyllwch. Mae hi i fyny i ni i geisio cael y perffaith gariad i fwrw allan pob ofn.

‘Pan fydd grym cariad yn disodli cariad at rym – dyna pryd bydd cariad’. Priodolir y geiriau yna i Jimmy Hendrix, er bod William Gladstone  wedi dweud rhywbeth tebyg yn ei ddydd: ‘We look forward to the time when the Power of Love will replace the Love of Power. Then will our world know the blessings of peace.’

 

E-fwletin Mai 29ain, 2017

Sul y Dyrchafael

Wythnos union ar ôl y gyflafan ym Manceinion, rydym yn dal i glywed straeon am ddewrder a charedigrwydd y bobl gyffredin hynny a fu’n ceisio helpu’r rhai a anafwyd, ac a fu’n rhoi lloches i unigolion a theuluoedd yn eu dychryn. Fedrwn ni ond edmygu’r meddygon, y nyrsys ac aelodau eraill o staff yr ysbytai oedd mor barod i fynd yr ail filltir i gynnig cysur ac ymgeledd. Gwelsom gymuned aml-ffydd yn tynnu at ei gilydd i rannu cariad a thosturi, er mwyn dangos bod y da yn drech na’r drwg.

Llun: BBC

Yn naturiol, roedd yr ofn a’r petruster yno o hyd ynghanol yr holl gymwynasau. Does dim dwywaith nad oedd rhai’n teimlo’n unig ac yn anghofiedig. Medrwn ddeall sut y gall erchylltra o’r fath fod yn ddigon i siglo ffydd ambell un wrth i’w byd chwalu’n chwilfriw o golli rhywun annwyl mewn modd mor greulon. Ond fedrwn ni byth ddeall yn iawn pa mor enbyd o boenus oedd y profiad hwn i’r rhai a ddaliwyd yn ei ganol.

Ddoe, a hithau’n Sul y Dyrchafael, clywsom am yr Iesu’n gadael ei ddisgyblion i esgyn i’r nefoedd ar ddeheulaw Duw. Mae hi’n ddelwedd bwerus, yn perthyn i oes pan oedd pobl yn credu mewn bydysawd tri llawr, gydag uffern oddi tanom a’r nefoedd uwch ein pennau. Ac wedi i’r Iesu eu gadael, bu’r disgyblion hwythau’n teimlo’n unig ac yn anghofiedig am rai dyddiau hyd nes iddyn nhw gael nerth i dystio amdano.  Go brin y medrwn ni ddeall yn iawn beth oedd maint y golled y bu iddyn nhw ei theimlo wrth i’r Iesu eu gadael.

Ond fe ddylem ni gofio, efallai, mai delwedd neu drosiad yw hanes yr esgyniad, ac nid bwletin newyddion. Nid cyflwyno ffaith hanesyddol am fywyd Iesu Grist yw bwriad awdur Llyfr yr Actau o gwbwl. Fel y dywedodd John Calfin ei hun, stori am swyddogaeth yw hi, ac nid am le, a’r swyddogaeth yn yr achos hwn yw arbenigrwydd Iesu Grist. Honni rhywbeth am ffydd y mae Luc, sef bod Iesu Grist yn fwy arbennig na neb arall welodd y byd erioed, a pha ffordd well i ddarlunio hynny na dweud ei fod wedi esgyn i’r nefoedd ar ddeheulaw Duw. O’r diwedd mae’r darnau yn cwympo i’w lle wrth i’r disgyblion ddeall gwir arwyddocâd gweinidogaeth yr Iesu a dod i’w adnabod am yr hyn ydyw mewn gwirionedd, sef yr un a ddatguddiodd gariad Duw ar gyfer y ddynoliaeth i gyd, yn ddi-wahân ac yn ddi-amod.

Wrth inni edrych yn ôl dros ddigwyddiadau wythnos mor alaethus yn ein hanes, fe ddaw cysur o neges Sul y Dyrchafael,  Bydd y gwerthoedd yr oedd yr Iesu’n eu harddel fyw am byth.  Bydd y cariad a’r tosturi a ddangoswyd ganddo yn cynnig gobaith i bobl hyd ddiwedd amser. Oherwydd y cariad hwnnw, bydd y daioni yng nghalonnau pobl dda Manceinion – o bob ffydd – yn drech nag unrhyw fygythiad i geisio hau hadau casineb yn ein plith.

E-fwletin Mai 21ain, 2017

 

E-fwletin Mai 21ain, 2017

Ddoe, cafodd tua 40 ohonom y fraint o wrando ar y gwyddonydd, y diwinydd a’r awdur o Awstralia, Dr Val Webb, yn traddodi dwy ddarlith yng nghynhadledd Cristnogaeth 21 yn Efail Isaf.

Cawsom ein hatgoffa ganddi nad peth newydd yw cwestiynu a mynegi amheuon wrth ymdrin â chrefydd, ac aeth ati i olrhain hanes yr eglwys drwy’r canrifoedd gan ddangos bod diwinyddiaeth yn newid yn gyson, a’r pendil yn gogwyddo o’r naill begwn i’r llall dro ar ôl tro. Mae sylweddoli hynny’n tanlinellu’r ffaith na fu’r fath beth â dim ond un gwirionedd erioed, ac mae meddwl mai dim ond un fersiwn o Gristnogaeth sy’n bodoli yn syniad cwbl gyfeiliornus. Cafodd athrawiaethau a wreiddiwyd yn niwylliant y Rhufeiniaid eu gwarchod a’u gwthio arnom drwy greu awyrgylch haearniadd, gaethiwus, nes peri i liaws o bobl ddewis diwinydda gyda’u traed, a throi cefn ar yr eglwys er eu bod yn parhau i chwilio am berthynas gyda’r dwyfol.

A hynny, wrth gwrs, a barodd i ni, sefydlwyr Cristnogaeth 21, ddod at ein gilydd yn y lle cyntaf. Braf felly yw cael cadarnhad o dro i dro fod pobl o gyffelyb anian i’w cael dros y byd i gyd, sef rhai sy’n awyddus i annog trafodaeth agored, onest, a rhoi lle i wyntyllu syniadau newydd, blaengar. Roedd Val Webb am bwysleisio nad ‘mudiad’ yw’r Gristnogaeth flaengar hon, ond yn hytrach, mae hi’n ffafrio disgrifiad ei chydwladwr, John Bodycomb, a soniodd am y ‘momentwm’ sydd fel afon o syniadau’n gorlifo dros y crindir, yn rhoi bywyd newydd i ambell i egin gwyrdd.

Does dim disgwyl cael cytundeb ynghylch y syniadau newydd a ddaw yn sgil yr ymchwilio, yr holi a’r stilio, gan y bydd gwahanol agweddau’n bwysig i wahanol bobl, a bydd grwpiau o gefndiroedd gwahanol yn dehongli pethau yn eu ffyrdd eu hunain. Y peth pwysig yw fod aelodau lleyg yn mynnu gofyn cwestiynau treiddgar am y traddodiad eglwysig er mwyn dehongli’r gwirioneddau ar gyfer ein hoes ni, gan gymryd i ystyriaeth beth ddywed crefyddau eraill am Dduw, a hwnnw’n Dduw real yn ein plith ni heddiw. I Val Webb, mae’r syniad o leygwyr yn creu diwinyddiaeth newydd, berthnasol, yn gyffrous am ei fod yn ein rhyddhau o’r hen hualau.

Fe soniodd sawl un o’r cynadleddwyr mor werthfawr y bu’r holi a’r ateb ar ddiwedd y ddwy ddarlith, lle bu’r siaradwraig yn ymateb o’r frest i nifer o gwestiynau craff. Pan ofynnwyd iddi beth oedd cnewyllyn Cristnogaeth iddi hi’n bersonol ar ddiwedd y broses o ddadansoddi credoau, datgymalu dadleuon diwinyddol a threiddio i grombil gwirioneddau clasurol y ffydd draddodiadol, ei hateb oedd mai’r hyn sy’n bwysig iddi hi yw byw a dilyn llwybr yr Iesu. Ac wrth ateb cwestiwn arall ar derfyn yr ail ddarlith, fe awgrymodd efallai y bydd y dehongli a’r deall yn haws i’r genhedlaeth ifanc, sydd heb gael eu boddi mewn môr o euogrwydd fel y cafodd y cynulleidfaoedd hŷn. Yn aml iawn ar ei theithiau, yr hyn mae hi’n ei weld yw cynulleidfaoedd sydd angen cael eu hadfer i deimlo cynhesrwydd diwinyddiaeth gariadus yn hytrach na’u bod yn dal i ddioddef effeithiau’r Gristnogaeth ddi-gwestiwn y magwyd hwy ynddi.

A dyna’n gobaith ninnau yn Cristnogaeth 21, ein bod yn medru creu trafodaeth a fydd yn ein hannog i “fyw a dilyn llwybr yr Iesu”.

E-fwletin Mai 14eg, 2017

Yn ddiweddar roedd fy ngwraig a minnau ar ymweliad ag un o blastai moethus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Swydd Warwick, pan welsom ni rywun yn pwyntio at ddarlun o waith yr arlunydd Pieter Bruegel gan ddweud, “Dw i’n siŵr i mi weld y llun yna ar gerdyn Nadolig rywdro.”  Eglurodd y tywysydd nad oedd hynny’n debygol. Er bod sawl un o luniau’r arlunydd wedi eu defnyddio ar gardiau Nadolig yn y gorffennol, doedd hwn ddim yn eu plith. Ar yr olwg gyntaf, edrychai’n ddarlun digon prydferth, gyda phlanced o eira glân yn gorchuddio’r ddaear, ond o syllu’n fanylach arno, roedd yn amlwg nad oedd yn addas i fod ar gerdyn Nadolig.

Teitl y llun yw “Lladdfa’r Diniwed” ac mae’n darlunio’r olygfa a ddisgrifir yn Efengyl Mathew, lle mae’r Brenin Herod yn gorchymyn lladd pob bachgen o dan ddwy oed.  Ond, yn annisgwyl, nid byddin Herod sy’n cael ei phortreadu yn y darlun hwn gan Bruegel. Yn hytrach, lleolwyd y gyflafan mewn pentref yn yr Iseldiroedd yn y flwyddyn 1567, lle roedd lluoedd Sbaen yn cyflawni erchyllterau yn erbyn y trigolion lleol er mwyn adfer y ffydd Gatholig a cheisio difodi Protestaniaeth o’r tir. Milwyr Philip yr Ail sy’n gyfrifol am y creulondeb yn y darlun hwn, wrth i Bruegel droi’r stori Feiblaidd yn alegori am othrwm y Sbaenwyr ar ei bobl ef.

Roedd y darlun gwreiddiol yn erchyll yn ei fanylion gwaedlyd, yn gymaint felly nes i’r Ymerawdwr Rudolph yr Ail orchymyn ail baentio’r golygfeydd mwyaf eithafol i gelu’r creulondeb. Paentiwyd dros gyrff y plant i ddangos y milwyr yn lladd adar ac anifeiliaid yn lle hynny, ond er yr ymgais i wadu’r gwirionedd, fe erys cysgodion y plant bach ar yr eira ar lawr fel yn y fersiwn wreiddiol, ac mae adwaith eithafol yr oedolion yn gwbl ddisynnwyr oni bai ein bod yn gwybod mai rhieni yn galaru yn eu dychryn am eu plant ydyn nhw.

Dyma’r fersiwn wreiddiol gan Bruegel:

Gwnaeth ei fab, Pieter yr Ieuengaf, sawl copi o’r darlun hwn, ac un o’r rheiny a welsom ni yn y plasty yn Swydd Warwick. Ond mae yna hefyd ragor nag un copi ar gael o’r fersiwn a gafodd ei golygu, gan gynnwys un sy’n rhan o’r casgliad brenhinol yng nghastell Windsor. 

Fe ddywed rhai beirniaid celf fod lluniau Bruegel yn berthnasol i bob oes. Felly, pe bai’r arlunydd yn paentio’r darlun hwn o’r newydd heddiw, ymhle y byddai’n ei osod tybed? Yr Iseldiroedd oedd fwyaf addas yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond tybed ai yn Syria neu Irac y byddai’r alegori wedi ei lleoli yn ein dyddiau ni? Ac onid oes rhai yn dal i geisio gwadu’r erchyllterau drwy baentio dros y gyflafan ym Mosul ac Aleppo?

Ond waeth faint o ymdrech a wneir i gelu’r gwirionedd, bydd cysgodion y plant bach diniwed yn dal yn amlwg ar yr eira gwyn.

Os hoffech chi ddarllen rhagor a gweld enghreifftiau o’r addasu a fu ar y llun gwreiddiol drwy gymharu’r naill a’r llall, cliciwch YMA

E-fwletin Mai’r 7fed, 2017

Roedd enillydd Gwobr Llenyddiaeth Nobel 2016 yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf. Cafodd Bob Dylan y wobr “for having created new poetic expressions within the great American song tradition”.  Siawns na fyddai’n cael llwyfan mewn eisteddfod gylch am ei ganu serch hynny. Ond mae ei gyfraniad a’i ddylanwad fel cyfansoddwr wedi bod yn enfawr ac yn ddadleuol.

Cafodd rhai ohonom ein denu ato gan ei ganeuon protest yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf, ac mae neges o hyd i ni yng ngeiriau ei ganeuon megis “Blowin’ in the Wind” a  “The Times They Are a-Changin’.

Mae’n dal yn enigma ac mae’r cwestiwn pwy a beth yw Bob Dylan mor anodd i’w ateb ag erioed.

Ond mae’n eitha’ amlwg bod crefydd wedi chwarae rhan o ryw fath yn ei fywyd – crefydd yr Iddew a’r Cristion, a llyfrau sanctaidd y ddwy grefydd.

Mae ei ganeuon yn llawn o gyfeiriadau Beiblaidd. [ewch i Google, Bob Dylan and The Bible .]

Mae’n debyg iddo ddod yn agos at golli’i fywyd mewn damwain beic modur yn 1996. Ei albwm cynta’ ar ôl y ddamwain oedd John Wesley Harding, y mwyafrif o’r caneuon wedi’i hysbrydoli gan Y Beibl – 66 o gyfeiriadau Beiblaidd – the first Biblical rock album yn ôl un sydd wedi astudio’r pethe hyn. Dyn drwg oedd John Wesley Harding, ond pan oedd yn y carchar dechreuodd ddarllen llyfrau diwinyddol. Trac arall yw All Along the Watchtower, ac alltudiaeth Babilon, y dychwelyd, ac ail godi Jerwsalem o Lyfr y Proffwyd Eseia yn gefndir.
Wnaeth e ddim canu llawer o’i hen ganeuon yn Arena Motorpoint, na’i gân o’r un albwm I Dreamed I Saw St Augustine – yr Awstin gafodd dröedigaeth yn 386 O.C. ar ôl blynyddoedd o fyw’n afradlon, a ddaeth yn esgob maes o law ac yn sant, ac yn gryn ddylanwad ar hynt a helynt yr Eglwys Gristnogol pe bai ond am ei ddysgeidiaeth ar bechod gwreiddiol, gras Duw a rhagordeiniad – un o dadau’r Diwygiad Protestannaidd i rai. 
 
I dreamed I saw St. Augustine
Alive as you or me
Tearing through these quarters
In the utmost misery
With a blanket underneath his arm
And a coat of solid gold
Searching for the very souls
Whom already have been sold

“Arise, arise,” he cried so loud
In a voice without restraint
“Come out, ye gifted kings and queens
And hear my sad complaint
No martyr is among ye now
Whom you can call your own
So go on your way accordingly
But know you’re not alone”

I dreamed I saw St. Augustine
Alive with fiery breath
And I dreamed I was amongst the ones
That put him out to death
Oh, I awoke in anger
So alone and terrified
I put my fingers against the glass
And bowed my head and cried.

Roedd adroddiad am ei wobr Nobel yn y New York Times a’r pennawd yn cyfeirio at Dylan fel un oedd wedi  “ail ddiffinio ffiniau llenyddiaeth.” Roedd Iesu’n ail-ddiffiniwr ffiniau, i’r graddau ei fod wedi ceisio chwalu sawl un. Fe ddaeth llawer ar ei ôl a wnaeth eu gorau glas i godi’r hen ffiniau a ddymchwelodd a chreu rhai newydd yn eu lle. 

E-fwletin Ebrill 30, 2017

E-fwletin Ebrill 30, 2017

Ers talwm roedd hi’n bosib cael rhyw syniad am beth oedd ein cyd-aelodau’n ei gredu wrth wrando ar y trafod mewn dosbarth ysgol Sul neu seiat neu ddosbarth Beiblaidd. Prin yw’r pethe yna bellach. Fe ddaw pobl i oedfa heddiw i ganu’r hen emynau neu ambell gân gyfoes, a mynd trwy ddefod yr addoli, ond does dim rhaid i neb, ar wahân i’r pregethwr, ddweud dim. Er ein bod ni’n rhan o weithred gyhoeddus mewn lle arbennig, yn gwneud rhai pethau arbennig, mae crefydd wedi mynd yn rhywbeth preifat a phersonol iawn i lawer. Fy ffydd i. Fy nghredo i.

Ymarferiad bach i’w ystyried. Ysgrifennu 10 peth (deg gair, deg brawddeg) fyddai’n crisialu’r hyn ‘da chi’n ei gredu. Fydda hynny’n dasg anodd? Ac yna, ar y cyfle cynta’, trefnu cwrdd â rhai o’ch cyd-grefyddwyr i rannu a thrafod y deg gair. Dwi’n siŵr bydda oedfa o drafod yn ddiddorol, dadlennol  a gwerthfawr.  Falle  bydda gwneud hynny’n help i ni weld yn gliriach lle’r ydan ni, beth yw sail a phwrpas y Gristnogaeth yma ‘da ni’n honni sy’n rhoi siâp a chyfeiriad i’n bywydau fel unigolion, ac i fywyd y gymuned Gristnogol boed gapel neu eglwys, neu beth bynnag. Ac os nad trafod mewn oedfa, mae wastad Bwrdd Clebran C21.

Mae llawer ohonom ni, y mwyafrif, pob un ohonom efallai, wedi’n geni i mewn i fyd ffydd a chred,  wedi’n magu, wedi tyfu a heneiddio yn sŵn geiriau fel Duw, Iesu, iachawdwriaeth, pechod, nefoedd, uffern, bywyd tragwyddol. Pa mor aml yda ni wedi meddwl – beth mae’r geiriau yma’n eu golygu?  Duw – beth mae’r gair yna’n ei olygu i ni? Iesu –  beth mae’r gair yna’n ei olygu i ni? Iachawdwriaeth – beth mae’r gair yna’n ei olygu i ni? Nefoedd, uffern. Bywyd tragwyddol – beth yw ystyr hynny?

Mae gen i eiriadur diwinyddol – A Dictionary of Christian Theology. Mae hwnnw’n diffinio’r gair “ffydd” o ddau safbwynt – y Catholig a’r Protestaniaid.

Y diffiniad Catholig i ddechrau: ‘Faith’ in Catholic Theology means mental assent to divinely revealed truth, that is, to ‘the faith’ of which the Church is the custodian and interpreter. A’r diffiniad Protestannaidd: ‘Faith’ in classical Protestant (as in modern biblical) theology means obedient trust or trustful obedience towards God as he is revealed in his Word.

Dyna chi wahaniaeth amlwg – ffydd sydd ynghlwm â’r Eglwys, a ffydd ynghlwm â’r Beibl. Dwi ddim yn siŵr faint o help yw hynny, oherwydd mae’n agor y drws i gwestiynau am Eglwys a Beibl.

I rai, mae byd ffydd a chred yn broblem, a’r apêl i’r pen a’r galon yn methu. I eraill, mae byd ffydd a chred yn iawn hyd at ryw bwynt. Ac mae rhai, wrth gwrs, yn medru amenio popeth heb ddim trafferth.

Val Webb

Lle bynnag ‘da ni’n sefyll, fe ddyle fod rhywbeth i bawb yng Nghynhadledd C21 yn y Tabernacl, Efail Isaf ar Mai 20fed, lle bydd Val Webb [www.valwebb.com.au] yn siarad ar y canlynol: Always Progressing and Evolving: present and future progressive directions” a  “Testing Tradition and Liberating  Theology: finding your own voice”.

Gobeithio gallwch weld eich ffordd yn glir i fod yno.

E-fwletin Ebrill 23ain, 2017

Llysenwau

Mae rhai yn hanes wedi cael llysenw.  Rhai hyfryd, fel Dewi Sant, rhai ofnadwy fel Ivan the Terrible. Mae enghreifftiau yn y Testament Newydd.  Mewn wythnos sy’n dilyn y Pasg addas sylwi ar un a dyfodd allan o hanes am yr Atgyfodiad, sef Tomos yr Anghredadun.
 
Yr oedd gan Tomos lysenw’n barod, Tomos yr Efaill, ond ‘yr Anghredadun’ sy’n aros.  Diddorol ystyried a oedd y bobl a gafodd lysenw yn y gorffennol yn ei haeddu.  Beth am Tomos i ddechrau? 
 
Ymddangosodd yr Iesu atgyfodedig i rai o’i ddilynwyr un tro, a Tomos yn absennol.  Pan glywodd Tomos, dywedodd na chredai ef fod Iesu’n fyw heb weld ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a’u cyffwrdd, a rhoi ei law yn ei ystlys. Sawl pregeth a luniwyd ar sail un esboniad o’r hanes hwnnw, yn dangos Tomos fel person materol a fynnai brofi popeth drosto’i hun?  Gwelais erthygl felly mewn papur enwadol yr wythnos ddiwethaf.  
 

“Tomos yr Anghredadun” – Llun enwog Caravaggio

Ond yn ôl rhai ysgolheigion, yr oedd agenda gan awdur Ioan, sydd wedi llywio’r stori am Tomos uchod, a hefyd yr oedd heresi y bu rhaid i’r Cristnogion cynnar ei hymladd, sef y gred mai ysbryd ac nid corff oedd yr Iesu atgyfodedig.  Yn ôl rhai, felly, eisiau sicrhau oedd Tomos, nad Iesu ffug oedd yr Iesu atgyfodedig.  Mae hefyd hanesyn arall sy’n awgrymu nad un gorochelgar oedd Tomos, ond un parod, beiddgar (Ioan 11, 1-16).  A gafodd Tomos gam dros y canrifoedd?
      
Mae llawer yn ei chael hi’n anodd osgoi ffurfio barn am eraill, ac nid yn unig gall eiddigedd a dicter ac agenda personol ac ati fod yn rhan o’u barn, ond fe all eu gwybodaeth am eraill fod yn arwynebol hefyd, felly mae camfarnu dynol yn broses anochel a pharhaol.
 
Nid unigolion yn unig sy’n cael ‘llysenw’.  Pan oeddwn i’n blentyn droeon clywais Iddewon yn cael eu disgrifio fel cenedl ‘ariangar’.  Onid yw’r meddylfryd esgeulus hwnnw’n rhan o bob hilyddiaeth?  Ac onid hilyddiaeth yw un o broblemau arswydus ein byd cyfoes?  Nid yr unig un wrth gwrs.
 
Mae’r Atgyfodiad yn fater aruthrol, ond o 89 pennod yr efengylau, dim ond 4 sy’n trafod yr Atgyfodiad, ac mae eu cymhlethdod yn fwy o broblem na’u byrder.  Ni anela’r awduron at drafod yr hyn a ddigwyddodd yn y bedd, er enghraifft.  (Sut mae trafod rhywbeth na ddaethpwyd ar ei draws erioed cynt?)  Ac nid ceisio rhoi gwarant bersonol i bawb bod bywyd wedi angau a wnai’r awduron.  Yr hyn a anelent ato oedd   rhoi cyfres o ddarluniau’n disgrifio’r hyn a ddeallent hwy orau am yr Atgyfodiad, sef patrymau gwahanol y math ar gymuned newydd a’i dilynodd.   Pan anelwn ninnau at greu cymunedau felly, cymunedau sy’n parchu pob enaid, er enghraifft,  ac sy’n rhoi i bawb ei lawn werth, heb ei fychanu’n esgeulus, yna gallwn ninnau barhau grym yr Atgyfodiad, a chyfrannu at greu gwell byd.