Archifau Categori: Uncategorized

E-fwletin 13 Hydref 2019

Dychymyg

Dwi wastad yn rhyfeddu at ddychymyg plant a’r modd mae’n cael ei ymestyn, yn enwedig wrth chwarae.

Gwnaeth Albert Einstein gryn enw i’w hunan oherwydd ei wybodaeth eang a’i allu meddyliol rhyfeddol fel gwyddonydd a ffisegwr. Daeth ei theorïau, a’i ddarganfyddiadau, ynghyd a’i ddaliadau, yn enwog yn fyd-eang. Ond – fe ddywedodd rhywbeth annisgwyl iawn, sef bod dychymyg yn fwy pwerus na gwybodaeth. Heb ddychymyg, meddai, ni fyddai wedi llwyddo.

Gallwn gael ein cyfyngu gan ffeithiau a gwybodaeth, ac mi awn yn ddibynnol ar yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu. Ond does dim ffiniau na chyfyngiadau i’r dychymyg. Gall dychymyg rhoi cyfle a chyfeiriad ehangach i bethau sy’n ymddangos yn amhosibl, gan arwain at bethau nad ydym yn ei wybod. Mae’r dychymyg yn gweld posibiliadau yn y sefyllfaoedd mwyaf annhebygol.

Heb ddychymyg ni fyddai unrhyw arloesi na datblygiad newydd. Mae dychymyg yn rhoi hawl i ni weld y tu hwnt i’n llwybrau dyddiol. Oni bai amdano ni fyddai gennym lawer o’r pethau sydd gyda ni. Onid dychymyg yw ffynhonnell bron yr holl o ddyfeisiadau a datblygiadau arloesol dyn? Ail adrodd ffeithiau caled rydym eisoes wedi eu dysgu mae’r meddwl. Mae’r dychymyg yn fodd i gamu tu hwnt i wybodaeth

Yn y Bregeth ar y Mynydd mae Iesu yn cychwyn ei weinidogaeth gyda gweledigaeth o ba mor dda gall pobol dduwiol fod. Mae’n eu galw’n oleuni’r byd, gan ddweud taw nhw sydd agosaf at deyrnas nefoedd. Ar y diwedd mae’n dymchwel yr hyn a oedd yn wireb y dydd, sef llygad am lygad a dant am ddant. Rhaid gwrthod y ddysgeidiaeth o ddial a thalu drwg am ddrwg. I’r gwrthwyneb, dyma gynnig ffordd newydd o ymddwyn trwy ddweud y dylen ni garu gelynion. Tyfodd hyn o’i ddychymyg. Onid o’r dychymyg y llifa holl elfennau creadigol bywyd?

Yn anffodus, o’r union fan honno hefyd y llifa llawer o’n trafferthion, gan esgor ar pob math o ofnau. Mae hyn wedi cael ei ecsploetio drwy hanes. Mae’r cyfryngau yn hoffi bwydo arno ac mae gwleidyddiaeth yn gwneud hynny hefyd. Nid yw dwylo crefydd yn lân chwaith. Mae crefyddwyr wedi manteisio ar ofnau pobl ac wedi chwarae ar y syniad fod yna rhywbeth ‘anghywir’ ynom i gyd – hynny yw, ein bod i gyd yn sylfaenol bechadurus a drwg.

Dwi’n hoffi’r stori ddychmygol honno o draddodiad y Cherokee am dad-cu’n dysgu gwersi i’w ŵyr. Meddai’r tad-cu, “Mae yna frwydro tu fewn i bawb, megis dau flaidd yn ymladd â’i gilydd. Mae un yn ddieflig, yn llawn casineb, eiddigedd a thrachwant; mae’n drahaus a thwyllodrus. Mae’r llall yn dda – llawn llawenydd a chariad, mae’n haelionus a charedig”.

Gofynnodd yr ŵyr pa un sy’n debygol o ennill? Yr ateb: “Yr un rwyt ti yn ei fwydo fwyaf”.

Cawn ein rhybuddio yn barhaus ynghylch pa fwyd i beidio a’i fwyta a beth sy’n dda neu’n ddrwg i’r corff. Onid felly y dylai hi fod gyda’n dychymyg hefyd? Parhawn i’w ddefnyddio ym materion ffydd, gan adael iddo fywiogi a sirioli ein bywyd ysbrydol.

 

E-fwletin 16 Mehefin 2019

Meddwl gormod?

Weithiau mae’n bosibl meddwl gormod am bethau. Dyna ymateb un cyfaill ar ôl rhyw drafodaeth arbennig o ddwys yn ddiweddar. Ac ar ddiwedd cynhadledd ddiwinyddol ddiweddar cyfraniad un aelod amlwg o’r gynulleidfa oedd mai cymdeithas yr eglwys sy’n bwysicaf o ddigon. Bod yn gartrefol ac yn gyfforddus, bod yno’n gefn i’n gilydd.

Fe drawodd hynny fi unwaith eto’n ddiweddar. Rŵan, dwi ddim am i chi feddwl gormod am hyn ond sefyll yn y gawod oeddwn i yn syllu ar droed y bath. Wrth droed y bath roedd yna 17 o boteli plastig yn dal pob math o sebonach, potel i’r bath, potel arbennig i’r plant a photel arbennig i’r wraig, potel i’r gawod, potel i olchi gwallt a photel i feddalu’r gwallt. Poteli di-ri a phob un yn blastig.

Ac yno, yn y bath i Ddamascus, y penderfynais bod rhaid i mi drio gwneud rhywbeth am y peth. Beth ddigwyddodd i fariau sebon fy mhlentyndod? Ddes i o hyd i un ar silff waelod yr adran sebonach yn yr archfarchnad. Ac os oes modd defnyddio bar sebon ar y corff oes modd defnyddio un ar y gwallt? Wel oes cofiwch, mae modd gwneud hynny hefyd. O chwilio ymhellach mae yna’r fath beth a thabledi past dannedd a brwshys bambŵ.

Dyna fy mhoteli i wedi diflannu o ben y bath. Dwi eto i weld a fydd y teulu yn dilyn fy esiampl. Rhyw dair potel yn llai efallai? Go brin y bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth. Diferyn dryw yn y môr mawr sy’n tagu o blastig. Fyddai’n cael dim effaith. Ond be arall fedra’i wneud? Alla’i wneud dim ond dechrau wrth fy nhraed a chamu ymlaen.

Ella’n wir y bydd y teulu yn dilyn fy esiampl. Ella y bydd y pwt hwn yn ysbrydoli un ohonoch chi i wneud rhywbeth yn debyg. Ac ella nad dryw bach fydda’i rhagor ond un o’r miloedd drudwyod rheiny sy’n cyfareddu pobl Aberystwyth. A leciwn i ddim gweld cawod yn gollwng o’r cwmwl hwnnw!

Felly, ella bod rhywun yn meddwl gormod am bethau, a thra bod meddwl gormod yn siŵr o fod yn well na meddwl dim, weithiau mae’n werth cadw pethau’n syml. Darllenais yn ddiweddar am rhywun benderfynodd ddweud helo wrth bobl yr oedd o’n cerdded heibio iddyn nhw yn y bore. Dim byd mawr. Dim ond gwenu, edrych i fyw llygaid pobl a dweud ‘bore da’. Mini-missions oedd y person yma yn eu galw nhw.

Er bod hyn wedi gwneud iddo deimlo ychydig yn anghyfforddus, roedd canolbwyntio ar wneud i bobl eraill deimlo’n well yn haws na meddwl pa mor anghyfforddus oedd o. Weithiau mae’n dda gyrru eich hun i rhywle lle’r ydych chi (fymryn) yn anghyfforddus. Wnaeth neb edrych yn wirion arno, fel petai o’n colli arni. Dydy caredigrwydd syml ddim yn cael ei werthfawrogi. Mae’r ymddygiad yn gallu lledaenu.

Felly be amdani? Wnewch chi byth waredu’r môr o blastig. Ond fe allwch chi wneud yr hyn allwch chi. Wnewch chi byth orfodi neb i wenu, ond ella mai nid gorfodaeth sydd angen ond esiampl.

Dach chi’n annhebygol o ddatrys dirgelion mawr duw a dyn, ond efallai mai’r hyn allwch chi wneud yw trin eraill (a’r ddaear) fel y byddech chi’n hoffi cael eich trin eich hun. Rŵan lle dwi wedi clywed hynny o’r blaen?!

 

(Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol ar Orffennaf 6ed eleni, yng nghapel Salem, Caerdydd. Y cyfranwyr fydd Elin Royles, Aled Eirug a Gethin Rhys. Mae rhagor o fanylion wedi ymddangos ar y wefan. Cadwch y dyddiad yn rhydd!)

 

Cynhadledd Dechrau o’r Newydd

CRISTNOGAETH 21
Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
URDD GRADDEDIGION PRIFYSGOL CYMRU

Cynhadledd Dechrau o’r Newydd

29-30 Mawrth 2019

Festri Capel Seion a Chanolfan Merched y Wawr Aberystwyth

Beth yw ystyr bod yn Gristion yng Nghymru’r 21fed ganrif? Sut mae cysoni credo grefyddol â byd-olwg gwyddonol? Ai yn nhermau myth y mae deall crefydd, a’r stori Gristnogol yn benodol? Beth o’n treftadaeth a’n defodau cyfarwydd y mae’n bwysig ei gadw ac i ba raddau mae’n rhaid dechrau o’r newydd?

Dyma rai o’r cwestiynau a ysgogodd gynnull y Gynhadledd hon

 Rhaglen Ddrafft

Nos Wener (yn festri Capel Seion, Stryd y Popty)

6.30 Bregus, sef cyflwyniad/perfformiad am fenywod yn y capel yng ngofal Rhiannon Williams a Lowri Davies

Sadwrn (yng nghanolfan Merched y Wawr)

Cadeirydd; y Canon Enid Morgan, cadeirydd Cristnogaeth 21 

9.30 Cofrestru a Choffi
10.00 Cynog Dafis: Croeso a chyflwyniad: Pam ŷn ni yma?
10.15 Arwel Jones: Achos i faddau, achos i feddwl: pererindod bersonol
11.00 Seibiant
11.15 Catrin Williams: Agweddau ar ‘Ffydd’ a ‘Chredu’
12.00 Gareth Wyn Jones: Mytholeg Feiblaidd ac Esblygiad ein Hymddygiad

12.45 Cinio

1.15 Huw Williams: Dechrau newydd i ddyneiddwyr: troi ’nôl at grefydd?
2.00 Cynog Dafis: Crynhoi’r trafodaethau
2.30 Bord Gron
3.15 Beth Nesaf (os rhywbeth)?

Tâl cofrestru £15 i’w dalu ar y dydd. I gofrestru cysyllter â Cynog Dafis: cdafis@me.com neu 07977093110

 

E-fwletin 30 Rhagfyr, 2018

Rhyw loetran wrth y cownter oeddwn i yn disgwyl fy nhro. Roedd gen i lond whilber o nwyddau. Roedd y Nadolig yn nesáu. Fyddwn i ddim wedi prynu’r holl focsys siocled fel arfer na’r domen o dwmbwriach tymhorol, yn ysgewyll a chnau, a phlwm pwdin a datys.

Roedd y cwsmeriaid o’m blaen yn llenwi eu bagiau nes bod y troliau yn gwegian. Gwenai’r ddynes wrth y til a hithau’n gwisgo capan Sion Corn fel arwydd o awydd y cwmni corfforaethol i gydymffurfio â’r ddefod flynyddol a ddaw i rym ddechrau mis Rhagfyr. Trawid y garden ar draws y teclyn talu neu ei gosod yn ei grombil. Canys gwneir mwy o ddefnydd o gardiau talu na chardiau cyfarch erbyn hyn ar drothwy’r ŵyl.

Tra oeddwn yn disgwyl rhown gip o amgylch y sgubor o archfarchnad. Gwelwn wynebau. Unigolion yn bennaf a thipyn o straen a thyndra i’w weld ar eu hwynebau. Dychmygwn eu buchedd. Llawer efallai heb gâr na chydnabod i rannu’r ŵyl. Eraill eisoes mewn dyled oherwydd y wasgfa arnyn nhw i wario. Prin oedd y rhai a darai sgwrs. Doedden ni ddim yn adnabod ein gilydd.

Roedd yna fynd a dod. Teithio i fyny ac i lawr yr esgynnydd. Deuai wynebau newydd i’r golwg rhwng yr aleau. Diflannai eraill. Brasgamai gweision a morynion y cwmni o fan i fan i ddelio â mân argyfyngau. Yn sydyn fe glywais sŵn chwerthin.

Roedd e’n sŵn chwerthin afieithus ac aflywodraethus. Roeddwn i’n glustiau i gyd. O ba le y deuai? Deuai’n nes. Yn sydyn fe’u gwelais a’u clywed ar ben un o’r aleau. Tair rhoces a chrwt mewn gwisgoedd ysgol yn tynnu wrth siaced eu tad yn ei siwt a’i dei ddu yn edrych fel pe bai wedi bod mewn angladd.

Tawent am getyn cyn ail-gydio eto wrth daro yn erbyn ei gilydd a chwerthin nes eu bod yn driflo. Beth oedd wedi’u meddiannu? Doedd bod mewn man cyhoeddus ddim yn tarfu arnyn nhw. Roedden nhw’n ddall a byddar i bawb a phopeth o’u hamgylch. Caent hwyl yn eu byd bach eu hunain. Neu hwyrach eu byd mawr eu hunain.

Daeth fy nhro i ddidoli fy nwyddau. Ond cadwn lygad arnynt a mireiniwn fy nghlustiau i’w clywed. Ni fedrwn beidio â gwenu. Wel, roedd yr afiaith yn cydio. A doedden nhw ddim yn ceisio tynnu sylw eraill. Doedd yna ddim o’r ‘drychwch arnon ni’ o’u cwmpas.

Wrth i minnau daro fy ngharden i grombil y peiriant talu dychmygwn fy mod yng nghanol hysbyseb fawr. Gweddnewidiodd y sgubor fawr. Gwelwn heidiai o angylion yn hedfan o ale i ale, gwŷr yn cydio mewn ffyn ac eraill mewn gwisgoedd llaes drudfawr yn cludo anrhegion a godwyd o’r silffoedd. Yn sydyn gwelwn y rhocesi yn anwylo a chofleidio baban a godwyd o wely o wellt ac yntau hefyd yn ymuno yn y chwerthin. Roedd yno lawenydd.

Euthum allan i’r nos. Roedd y gwynt yn chwyrlio a’r glaw yn pistyllio tu fas. Ond am eiliad gwelais gip o’r gobaith tragwyddol. Roeddwn wedi fy nghynhesu trwof. Byddaf yn ail-fyw’r eiliad bob tro y bwytâf y siocledi. 

 

Eiconau

EICONAU

Daeth criw bach chwilfrydig ynghyd i’r Morlan yn Aberystwyth ar Dachwedd 6ed i glywed am Eiconau’r Eglwys Uniongred. Daeth y Tad Deiniol o Flaenau Ffestiniog i egluro sut y mae eiconau’n cael eu defnyddio mewn eglwysi ac mewn cartrefi, pam nad ydyn nhw’n ‘realistig’, a sut y mae’r traddodiad tra hynafol hwn yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

Erbyn hyn gwelir eiconau mewn eglwysi Rhufeinig ac Anglicanaidd a hyd yn oed mewn capeli ymneilltuol. Sut mae eu deall a beth yw eu hamcan? Cawsom noson hynod gyfoethog mewn lluniau ar sgrin, mewn eiconau ‘go iawn’ ac mewn atgynhyrchiadau a adawyd yn arddangosfa fechan am yr wythnos ganlynol.

Dyma rai pwyntiau a wnaed a allai fod o help i’r rheini sy’n eu gweld yn ddieithr ac annealladwy.

  1. Mae sawl haen o ystyron i sylwi arnynt. Yr eiconograffydd enwocaf o bell ffordd oedd Andre Rublev ac yr oedd yn ei fwriad lunio eicon ar thema’r Drindod. (Dydi enwau eiconograffwyr ddim fel arfer yn hysbys.) Ond mae gwaharddiad ar dynnu lluniau o Dduw ei hun oherwydd ‘ni welodd neb Dduw erioed’. Ond o fyfyrio ar yr ysgrythur fe sylweddolodd Rublev fod yn stori lletygarwch Abraham (Genesis 18:1–15) ‘deip’ neu fodel o stori y gellid ei deall fel sythwelediad o natur Duw. Yn y darlun felly mae’r tri ‘dyn’ a ddaeth a chael croeso gan Abraham dan y dderwen yn Mamre. Yn y testun Beiblaidd mae’r tri yn cael eu hannerch fel ‘Arglwydd’ ond mae’r annerch yn amrywio o unigol i luosog. Felly mae’r darllun o dri ‘angel’ i’w dehongli fel awgrym o natur Duw’r Drindod. I’r genhedlaeth hon a dilynwyr C21, byddai’r awgrym o Dduw fel cymuned gariadus o gariad yn llifo o’r naill i’r llall. NID ar unrhyw gyfri’n hen ŵr ar gymwl!
  2. Fe sylwch nad yw’r lluniau’n dilyn ‘persbectif’ traddodiadol. Nid am fod y rhai sy’n eu ‘hysgrifennu’ ddim yn gwybod am bersbectif, ond am eu bod yn defnyddio ‘persbectif tu chwith’. Mae’r pethau sydd bellaf i ffwrdd yn fwy na’r pethau agos atoch.

Pan welwch fwrdd, mae’r ochr bellaf yn lletach yn y llun na’r ochr agosaf atoch. Felly, yn lle bod llinellau’r persbectif yn cwrdd yng nghalon y llun, maen nhw’n cwrdd yng nghalon yr un sy’n edrych ar y llun.

  1. Nid addurn yw’r llun ond drws i mewn i’r tragwyddol, ac mae gwahoddiad i’r un sy’n gweddïo o’i flaen i gamu i mewn trwyddo i fyd tu hwnt i le ac amser.
  2. Nid dangos sut olwg oedd ar ryw unigolyn yw’r amcan ond cyfleu rhywbeth o natur ei sancteiddrwydd – ac mae confensiynau i gyfleu gwahanol wirioneddau.
  3. Gwelir weithiau eicon o unigolyn ac o gwmpas y llun olygfeydd o fywyd y sant yn ystod ei oes yn y cnawd.
  4. Nid delwau i’w haddoli sydd yma ond cwmni i’w cadw, a dyna paham y mae cymaint ohonyn nhw i’w gweld mewn eglwysi uniongred.

Gol.

 

E-fwletin 12 Tachwedd 2017

Gwerth ei ddarllen:

A Bigger Table – Building a Messy Authentic and Hopeful Spiritual Community  (John Pavlovitz :  Westminster and John Knox Press)

Daeth y llyfr i’m dwylo ar yr un pryd a chyflwyniad “Y Byd ar Bedwar” ar fywyd crefyddol Cymru.  Roedd y rhaglen deledu yn ddarlun o barlys, ofn a digalondid.  Bu darllen y llyfr yn help i’m ysbrydoli ac i ymwroli.

Y mae’r llyfr yn dechrau gyda Pavlovitz yn ŵr galarus o ganlyniad i ethol Donald Trump.  Mae’n siomedig yn bennaf oherwydd bod cymaint o greulondeb a chasineb wedi dod i’r golwg ymhlith y boblogaeth a’r cyfan wedi digwydd gyda thipyn o help o’r byd crefyddol.

Roedd Pavlovitz yn fachgen oedd yn sicr o’i hunaniaeth o fewn diwylliant llwythol y byd Eidalaidd/Americanaidd.  Aeth i goleg gan gyfarfod â phobl agored a chariadus.  Arweiniodd hyn ymhen blynyddoedd iddo ddod “yn weinidog i bwy bynnag” (all people pastor).

Datblygodd ei ffydd mewn ffordd oedd yn anturus, gwefreiddiol ac yn llawn menter peryglus: “roeddwn yn dod i gyffyrddiad gyda phersonau nad oedd gen i ddim yn gyffredin â nhw ond yn raddol dihunais i’r ffaith fod gen i a nhw dir cyffredin, sef, ein dynoliaeth”.

Bu Pavlovitz yn chwilio am ysbryd eangfrydig o fewn yr eglwys ond yn rhy aml yn darganfod bod cymunedau ffydd yn “gentrified, sanitized and homogeneous”.  Roeddent  yn cadw ar wahan i’r “tlawd, pobl y chwith neu unrhyw un sydd am ryw reswm yn anodd i ddelio â nhw”.

Y mae’r llyfr yn ysbrydoli ac yn herio gan gyfeirio at rhywbeth sy’n fwy na chrefydd oedfa (awr yn unig) sydd o dan reolaeth gaeth.  Mae’n tywys tuag at “fwrdd mawr” croesawus sy’n rhy fawr i’w gario trwy ddrws capel nac eglwys.  Nonsens iddo yw “Duw mawr a bwrdd bychan” ac y mae angen ceisio deall a delio â’r hyn sy’n cyfyngu ac yn elyniaethus i efengyl gras a chariad, gan gynnwys yn rhy aml pobl a’u syniadau tra crefyddol.

Dyma broblem i ni Gristnogion Cymraeg – sut mae cysoni brwydr dros yr iaith gyda bwrdd eang?

Diwrnod bant yn y gogledd

Diwrnod bant yn y gogledd

Margaret Le Grice

Ar ôl taith hir o Gaerdydd, cefais fwyd da a llety cyffyrddus yn Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg. Drannoeth, 1 Tachwedd 2017, Gŵyl yr Holl Saint, cyrhaeddodd pobl o bob cwr o Gymru, dau o Loegr ac un o Madrid, sef ein siaradwr, y diwinydd disglair a’r offeiriad Catholig James Alison. Trefnwyd y diwrnod gyda James gan y Parchedig Ganon Enid Morgan, sy’n arwain y grŵp trafod Cristnogaeth21 yn Aberystwyth. Ychydig amser yn ôl, cyflwynodd Enid waith James i’r grŵp, cyn iddi gyhoeddi’r ddwy gyfrol sy’n addasiad a chyfieithiad o gwrs James o’r enw Y Ddioddefus sy’n Maddau.

Ar ôl paned, croeso a gweddïau, dechreuodd James ei ddarlith ar y pwnc, “What does it mean to be taught by Jesus in the midst of a world in meltdown?” Ond nid darlith ffurfiol oedd hon. Siaradodd James mewn dull anffurfiol, eithaf araf a meddylgar, er mwyn i ni gael amser i feddwl ac, weithiau, i ymateb neu ofyn cwestiynau. Dywedodd ei fod eisiau rhannu, nid darlithio. Nid oedd yn bwriadu diffinio “world in meltdown”. Mae pawb yn deall beth mae hynny’n ei feddwl. Ond beth yw ystyr – cael ein dysgu gan Iesu? Yn draddodiadol, bu dwy ffordd o wneud hynny – trwy ddarllen y Beibl, neu drwy athrawiaeth yr Eglwys. Mae’r ddwy ffordd yn dod o’r tu allan i ni drwy awdurdod sy’n “gwybod”.

Roedd James eisiau gofyn – sut ydyn ni yn gallu cael ein dwyn i fodolaeth er mwyn gallu derbyn dysgeidiaeth Iesu? Cyfeiriodd at Jeremeia 15:16 – “Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi; daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon; canys galwyd dy enw arnaf, O Arglwydd Dduw y Lluoedd.” Yr ydyn ni yn cael ein galw ar enw Duw, nid ar ein henw ni ein hunain. Enw’r Arglwydd sydd yn ein dwyn ni i fodolaeth. Mae’r awdurdodau allanol yn diflannu, am fod enw Duw yn creu hanfodau gyda’i gilydd, mewn cymuned. Iesu sy’n rhoi eglurhad i ni. Mae bywyd Duw yn peri bod yr hen ddewis ysgrythur/eglwys yn dymchwel, ac yn ei le crëir cymuned newydd, heb hierarchiaeth, a heb ffiniau cryf rhwng “ni” a “nhw”.

Trwy astudio Mathew 21 a 22:41–6, dangosodd James sut yr aeth Iesu ati i ddysgu’r swyddogion Iddewig, nid fel gwrthwynebwyr (mae eu cwestiynau’n berffaith resymol) ond fel y rhai sy’n dymuno gwybod pwy yw Ef, yr un sy’n cyflawni’r addewid am olynydd i’r Brenin Dafydd. Esboniodd James yr adnodau mewn cyd-destun Iddewig, a dangosodd sut mae Iesu yn arwain y prif offeiriaid a’r henuriaid, drwy eu diwylliant cyffredin, at y gwirionedd amdano fe ei hun. Roedd dehongliad James yn dra gwahanol i’r dull hanesyddol-beirniadol y cafodd rhai ohonom ni yn y grŵp ein hyfforddiant ynddo, ddeugain mlynedd yn ôl. Roedd yn ddyfnach ac yn gyfoethocaf, ac yn llawn cywirdeb deallus.

Roedden ni’n dipyn bach yn hwyr am ginio, mor felys oedd y sgwrs!

Yn ystod y prynhawn, siaradodd James am “The sceptical mind and Church tradition – a personal approach”. Soniodd am y gwahaniaeth rhwng gwaith Duw a thraddodiad dynol mewn ‘diwylliant’. Ym Marc 7:13, mae Iesu yn dweud wrth y Phariseaid, “Yr ydych yn dirymu gair Duw trwy’r traddodiad a drosglwyddir gennych.” Mae Duw yn ein tynnu ni i mewn i’w gariad, ac felly rydyn ni’n gallu ymlacio. Ffrwyth ffydd yw amheuaeth. Ffydd, nid gosodiadau, sy’n rhoi gofod i amheuaeth. Presenoldeb Crist, wedi ei groeshoelio a’i atgyfodi, yw presenoldeb Duw sy’n difetha’r drefn ddynol ac awdurdodau allanol. Pan ydym yn cydymffurfio â’r rhain, yr ydym yn lladd Duw. Dylen ni ollwng gafael ar ein hymdeimlad o ffug ddaioni, ac yn ei le, ymlacio yn Nuw, a darganfod drosom ein hunain sut i fod yn dda.

Ar ddiwedd diwrnod heriol ac ysbrydoledig, aethon ni i Gapel y Llyfrgell i addoli. Clywon ni eiriau Dietrich Bonhoeffer – “Pwy bynnag ydw i, fe wyddost ti, O Dduw. Dy eiddot ti ydw i.” A chyda hwy eiriau Waldo yn holi yr un cwestiwn: “gwaelod pob gofyn”.

Ar ôl paned, aeth pawb arall adref. Ces i gyfle i ymlacio, i fyfyrio ac i gysgu’n dawel, cyn mynd adref drannoeth.

Diolch, Enid, am drefnu diwrnod mor ardderchog!

(Bu Margaret Le Grice am chwe blynedd yn offeiriad â gofal Llanafan, y Trawsgoed, Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysbyty Ystwyth, Hafod a Llantrisant yng Ngheredigion, a chyn hynny yn gaplan i’r byddar yn Esgobaethau Mynwy a Llandaf. Mae hi bellach wedi ymddeol ac yn byw yng Nghaerdydd.)

 

 

 

 

Geiriau’r Gatalones

Geiriau’r Gatalones

Bydd amryw ohonoch wedi clywed am y Chwaer Teresa Forcades, y lleian o Gatalonia sydd wedi syfrdanu pobl wrth fod yn ffeminydd, yn genedlaetholwraig a diwinydd diflewyn-ar-dafod. Yn y cyfieithiad Saesneg o’i llyfr Faith and Freedom mae hi’n dyfynnu beth ddwedodd hi yn 2010 pan ofynnwyd iddi beth oedd ei chredo.

Faith and Freedom, Teresa Forcades

Rwy’n credu, uwchlaw pobpeth, mewn maddeuant. Rwy’n credu bod mesur ein gallu i faddau yn datguddio’r gwirionedd noeth am fesur ein gallu i garu. Caf fy synnu’n aml wrth gwrdd â’r gallu hwn mewn pobl nad ydw i’n eu hedmygu’n arbennig, ac yn gweld ei absenoldeb mewn pobl eraill rwy’n eu caru’n annwyl. Mwy nag unwaith rwy wedi cwrdd â chryn anhawster i faddau ac wedi cael profiad o’r wyrth o dderbyn maddeuant. Mae’n debyg i gael eich haileni. Cael eich geni o gariad. Dywed yr efengyl wrthym fod y bechadures wedi dangos cariad mawr am fod cymaint wedi ei faddau iddi. (Luc 7:47) Mae’n ein rhybuddio hefyd y gall person y maddeuwyd llawer iddo drin pobl eraill yn grintach a didrugaredd (Mathew 18:23–35).

A dyma ail ran fy nghredo. Rwy’n credu mewn rhyddid; rwy’n credu mewn torri’r gadwyn achos ac effaith am fod hynny’n peri agor y byd i farddoniaeth; mae hefyd yn agor y posibilrwydd o anghyfiawnder damweiniol. Credaf mai maddau yw’r weithred fwyaf o ryddid. Mae’n golygu y gellir maddau popeth, ond na ellir gorfodi neb i faddau. Allwch chi ddim gorfodi maddeuant a fedrwch chi ddim rhag-weld beth fydd ei ganlyniad. Gall y wraig sy’n maddau i’w gŵr am ei cham-drin benderfynu hyd yn oed wrth faddau na allan nhw fyw gyda’i gilydd eto. Duw yn unig all farnu beth yw dilysrwydd a maint gweithred o faddau. Mae maddau yn weithred tra rhesymol am ei fod yn cydnabod bod rhywbeth amgen na pheiriant yn rheoli’r byd. Mae maddau yn weithred sy’n ein galluogi i greu, fel Duw – gweithred sy’n caniatáu i ni ddechrau o’r newydd eto, saith gwaith saith deg (Mathew 18:22)

Enid Morgan

E-fwletin 29 Hydref 2017

Yn ôl i’r dyfodol

Maddau i ni, O Dduw, am gadw tai

    I bydru eistedd ynddynt ar y Sul;

Mae’r meini nadd a’r crefftwaith yn ddi-fai

    Ond mae’r cynteddau’n lleddf a’r pyrth yn gul.

Llond dwrn a ddaw i feimio’r ddefod fud

    A rhygnu drwy’r emynau heb fawr sêl;

Mae’r lleill yn ffyddlon fyth i bethau’r byd,

    I alwad fferm a gardd, y beic a’r bêl.

Ond eto, lle seiada’r ddau neu dri,

    Gan rannu rhin profiadau brith eu taith,

Daw gwres Dy bresenoldeb oddi fry

    Yn egni byw a’u tania at Dy waith.

Rho inni nerth i gau’r hen flychau prudd

A chynnau fflam ar gerrig aelwyd ffydd.

 

 

E-fwletin Mai’r 7fed, 2017

Roedd enillydd Gwobr Llenyddiaeth Nobel 2016 yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf. Cafodd Bob Dylan y wobr “for having created new poetic expressions within the great American song tradition”.  Siawns na fyddai’n cael llwyfan mewn eisteddfod gylch am ei ganu serch hynny. Ond mae ei gyfraniad a’i ddylanwad fel cyfansoddwr wedi bod yn enfawr ac yn ddadleuol.

Cafodd rhai ohonom ein denu ato gan ei ganeuon protest yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf, ac mae neges o hyd i ni yng ngeiriau ei ganeuon megis “Blowin’ in the Wind” a  “The Times They Are a-Changin’.

Mae’n dal yn enigma ac mae’r cwestiwn pwy a beth yw Bob Dylan mor anodd i’w ateb ag erioed.

Ond mae’n eitha’ amlwg bod crefydd wedi chwarae rhan o ryw fath yn ei fywyd – crefydd yr Iddew a’r Cristion, a llyfrau sanctaidd y ddwy grefydd.

Mae ei ganeuon yn llawn o gyfeiriadau Beiblaidd. [ewch i Google, Bob Dylan and The Bible .]

Mae’n debyg iddo ddod yn agos at golli’i fywyd mewn damwain beic modur yn 1996. Ei albwm cynta’ ar ôl y ddamwain oedd John Wesley Harding, y mwyafrif o’r caneuon wedi’i hysbrydoli gan Y Beibl – 66 o gyfeiriadau Beiblaidd – the first Biblical rock album yn ôl un sydd wedi astudio’r pethe hyn. Dyn drwg oedd John Wesley Harding, ond pan oedd yn y carchar dechreuodd ddarllen llyfrau diwinyddol. Trac arall yw All Along the Watchtower, ac alltudiaeth Babilon, y dychwelyd, ac ail godi Jerwsalem o Lyfr y Proffwyd Eseia yn gefndir.
Wnaeth e ddim canu llawer o’i hen ganeuon yn Arena Motorpoint, na’i gân o’r un albwm I Dreamed I Saw St Augustine – yr Awstin gafodd dröedigaeth yn 386 O.C. ar ôl blynyddoedd o fyw’n afradlon, a ddaeth yn esgob maes o law ac yn sant, ac yn gryn ddylanwad ar hynt a helynt yr Eglwys Gristnogol pe bai ond am ei ddysgeidiaeth ar bechod gwreiddiol, gras Duw a rhagordeiniad – un o dadau’r Diwygiad Protestannaidd i rai. 
 
I dreamed I saw St. Augustine
Alive as you or me
Tearing through these quarters
In the utmost misery
With a blanket underneath his arm
And a coat of solid gold
Searching for the very souls
Whom already have been sold

“Arise, arise,” he cried so loud
In a voice without restraint
“Come out, ye gifted kings and queens
And hear my sad complaint
No martyr is among ye now
Whom you can call your own
So go on your way accordingly
But know you’re not alone”

I dreamed I saw St. Augustine
Alive with fiery breath
And I dreamed I was amongst the ones
That put him out to death
Oh, I awoke in anger
So alone and terrified
I put my fingers against the glass
And bowed my head and cried.

Roedd adroddiad am ei wobr Nobel yn y New York Times a’r pennawd yn cyfeirio at Dylan fel un oedd wedi  “ail ddiffinio ffiniau llenyddiaeth.” Roedd Iesu’n ail-ddiffiniwr ffiniau, i’r graddau ei fod wedi ceisio chwalu sawl un. Fe ddaeth llawer ar ei ôl a wnaeth eu gorau glas i godi’r hen ffiniau a ddymchwelodd a chreu rhai newydd yn eu lle.