Crist Radical

Os ydych chi rywbeth yn debyg i ni yr Annibynwyr, fe fyddwch chi’n wynebu sefyllfaoedd heddiw na fyddech chi wedi breuddwydio y byddech yn eu hwynebu ddeugain mlynedd yn ôl. Mae’r ddaear yn symud o dan ein traed ni. Yng Nghymru dros gan mlynedd yn ôl, yr oedd ein hen dadau ni yn agor capel newydd bob pythefnos. Erbyn hyn yr ydym ni yn cau capel bob pythefnos. Fe ddaeth hi’n ddydd o brysur bwyso, ac un o’r pethau y bydd yn rhaid i ni ei ystyried yn ddifrifol yw beth yw’r hanfodion. Beth sy’n hollol hanfodol ar gyfer gwaith Teyrnas Dduw yn y ganrif sydd o’n blaenau ni.

Un o’r pethau pwysig i’r Eglwys Babyddol yw fod pawb yn credu yn yr un ffordd.
Roedd Paul yn credu’n hollol bendant mewn uniongrededd, sef yr uniongrededd yn ôl Paul, a gwae neb a ddysgai’n wahanol. Fel yn Galatiaid 1.8: “…Petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o’r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy’n groes i’r Efengyl a bregethasom ni ichwi, melltith arno!” Dyna i chi ddweud mawr! A dyn hyderus iawn yw’r un sy’n medru dweud wrth angylion y nef ble maen nhw wedi mynd yn rong.

Breuddwyd gwrach yw uniongrededd Cristnogol. Oherwydd mae’n rhaid holi ar unwaith wedyn, “Pa uniongrededd”? Pa uniongrededd yw hi i fod heddiw? Ai uniongrededd y Pabyddion, yr Anglicaniaid, neu’r gwahanol ganghennau eraill sy’n perthyn i Brotestaniaeth?

Delfryd llawer crefydd neu gangen o grefydd yw cael uniongrededd ymhlith ei haelodau, ac mae Cristnogaeth draddodiadol yn un ohonyn nhw. Felly o’r dechrau fe gaed yr awydd mewn gwahanol garfanau i fynnu fod pawb yn meddwl yr un peth. O fewn i brif ffrwd yr hen eglwys Gatholig fe gaed seintiau gloyw eu gweledigaeth ond anuniongred eu daliadau, a doedd yna ddim byd amdani ond eu torri nhw mas o’r eglwys. Yn wir mewn llu o achosion, eu lladd nhw, neu eu llosgi nhw’n fyw, fel y gwnaeth John Calfin â Servetus am iddo wadu athrawiaeth y Drindod a dwyfoldeb Iesu. A does dim rhaid i ni fynd i’r Cyfandir. Dyna i chi John Roberts Trawsfynydd a laddwyd gan Eglwys Loegr am iddo fod yn Babydd. Fel y dywed Waldo yn ei gerdd fendigedig:

John Roberts Trawsfynydd. Offeiriad oedd ef i’r tlawd,
Yn y pla trwm yn rhannu bara’r unrhawd,
Gan wybod dyfod gallu’r gwyll i ddryllio’i gnawd.

Hereticiaid
Yn y canrifoedd cynnar mae’n debygol iawn mai Cymro Cymraeg, oedd un o’r disgleiriaf ymhlith yr hereticiaid, sef Pelagiws, gyda’i argyhoeddiad am ryddid ewyllys yr unigolyn. Ond yn ei ddydd fe dagwyd llais Pelagiws yn ddidrugaredd gan Awstin a’i ddilynwyr gyda’u hymlyniad hwythau wrth athrawiaeth y pechod gwreiddiol. Fe frigodd daliadau amrywiol i’r golwg yn syniadau llawer o feddyliau ac eneidiau gorau’r eglwys dros y canrifoedd dilynol. Ond druain ohonyn nhw fe gawson nhw eu gwasgu’n ddim gan stîm-roler yr Eglwys. Ac o ganlyniad chafodd fawr neb weld disgleirdeb eu syniadau nhw. Fe gawn hynny’n digwydd hyd yn oed heddiw. Ple bynnag y cewch chi hyd yn oed enwadau bach sy’n meddwl fod credu llythyren rhyw ddogma yn holl-bwysig, allan nhw ddim goddef unrhyw lais gwahanol. Os oes yna feddyliau gwahanol i’n barn ni, torrwch nhw mas!

Yr ydym ni yng Nghymru, rai ohonom ni, yn ymneilltuwyr oherwydd un o’r hen hereticiaid herfeiddiol yna a fu’n ddraenen yn ystlys yr Eglwys Babyddol, sef Martin Luther. Nawr petai’r eglwys yn gorff iach fe fyddai hi wedi gadael iddi hi ei hun gael ei diwygio a’i datblygu gan syniadau hereticiaid fel hwnnw. Ond yr unig ymateb gafodd e oedd bygwth ei ladd e.

Roedd yr un peth yn wir am grefydd yr Iddew. Fe gâi y cwlt yn Israel ei galw i gyfri dro ar ôl tro gan leisiau’r proffwydi. Meddyliwch er enghraifft am system yr aberthau a’r defodau yn y deml. Fe glywid lleisiau yn protestio yn erbyn y pethau hynny hyd yn oed yn Llyfr y Salmau, ac yna yn well wedyn ym mhennod gynta Eseia:

1.11 “Beth i mi yw eich aml aberthau?” medd yr ARGLWYDD. “Cefais syrffed ar boethoffrwm o hyrddod a braster anifeiliaid; ni chaf bleser o waed bustych nac o ŵyn na bychod. Peidiwch ag aberthu rhagor o aberthau ofer; y mae arogldarth yn ffiaidd i mi.

Fe ddylai’r grefydd honno fod wedi derbyn cael ei diwygio gan rybuddion yr hereticiaid proffwydol hyn. Ond roedd ceidwadaeth yr hen drefn yn llawer rhy gadarn, a dal i aberthu anifeiliaid ac adar wnaethon nhw, a dal at eu sabothau a’u newydd loerau, er mwyn ennill ffafrau Duw.

Dylai Cristnogaeth hithau dros y canrifoedd fod wedi manteisio ar weledigaeth ei seintiau hereticaidd er mwyn cywiro eu chamgymeriadau. Ond os seiliwch chi eich holl system ar awdurdod uniongred, a draddodwyd un waith ac am byth, mae’n amhosib i awdurdod felly dderbyn ei gywiro. Ac ymlaen y rhygnodd yr eglwys am ddwy fil o flynyddoedd.

Y Diwygiad Protestannaidd
Beth am y Diwygiad Protestannaidd meddech chi: roedd rhan helaeth o’r hen Eglwys wedi dod mas ac wedi dilyn gweledigaeth newydd. Yn anffodus i ni roedd hyd yn oed gweledigaeth Luther a Calfin yn gyfyngedig. Er mwyn ymosod ar gaer gadarn yr Eglwys roedd yn rhaid iddynt hwythau gael craig wahanol o dan eu traed, a’r un a oedd wrth law yn gyfleus oedd y Beibl. Felly wrth gael gwared ar ddelwaddoliaeth y Pabyddion, a oedd wedi gwneud awdurdod yr Eglwys yn ddelw ac yn dduw, fe wnaeth y Diwygwyr y Beibl yn ddelw ac yn awdurdod terfynol. Fe drwciwyd anffaeledigrwydd yr Eglwys a’r Pab am anffaeledigrwydd oesol yr Ysgrythur. Ac mae ysgolheictod y canrifoedd dilynol bellach wedi dangos mai traed o glai oedd i’r ddelw honno hefyd, ac na ddylai hithau ychwaith gymryd lle Duw. Beth yr ydwy i yn ei chael hi’n anodd ei egluro i rai pobol yw fod Duw i mi yn fwy na’r Beibl. ’Dyw Duw ddim wedi tewi wedi ysgrifennu adnod ola Llyfr Datguddiad. Mae Ysbryd Duw yn dal i ysgrifennu ar lech y galon, a’i neges yn medru’n syfrdanu ni wrth ddod o fannau cwbwl annisgwyl.

Dymuniad Iesu yw ein dwyn ni at Dduw. Ond os yw crediniwr o Fwslim yn cael ei ddwyn at Dduw drwy’r Corán, ardderchog! Byddai’n anodd iawn i mi, yn fy anwybodaeth i am grefydd Islam, ddweud wrth Fwslim am beidio gwneud Allah yn dduw iddo. Fe ddylem ddiolch am bob Mwslim defosiynol am ei fod yn gweld fod yna ddimensiwn ysbrydol i fywyd. Nid Islam yw ein gelyn mawr ni, ond y fateroliaeth ddi-dduw sy’n llechu yn ein calonnau ni ein hunain y funud hon.

Cofiwch, mae gan Fwslemiaeth yr un anhawster â ni, sef y ffwndamentaliaeth ddall sy’n troi rhai yn annioddefol o unllygeidiog. Rwy’n gobeithio i’r byw y bydd yna rai hereticiaid o fewn i Islam a fydd yn eu rhybuddio hwythau na ddylen nhw wneud y Corán na Mohamed yn dduwiau iddyn nhw. Ond os byddwn ni fel Cristnogion yn mynnu glynu wrth lythyren ein Beiblau ni fel petai’n gyfystyr â Duw, fydd yna ddim traed oddi tanom ni i argyhoeddi’r Mwslim eithafol i beidio â gwneud hynny gyda’i “Feibl” ef.

Paul yr Iddew
Mae traddodiadaeth a cheidwadaeth yn gadwyni cadarn iawn ym meddylfryd y ddynoliaeth. Anodd iawn torri’n rhydd ohonyn nhw. Ac er gwaetha hyd yn oed y Diwygiad Protestannaidd fe etifeddwyd tomen yr hen athrawiaethau eglwysig fel athrawiaeth y Drindod, nad oes iddi sail hyd yn oed yn y Beibl, athrawiaeth yr ymwacâd, a’r geni gwyrthiol, athrawiaeth y disgyn i uffern sy’n rhan o gredo’r apostolion, ac athrawiaeth y purdan. Doedd hyd yn oed athrawiaeth yr Iawn ddim yn rhan o gred y Cristnogion cynnar tan iddi ddechrau cael ei llunio gan Paul.

Iddew arbennig o alluog oedd hwnnw, ond un a drwythwyd yn hen syniadau rhyfedd yr aberth dros bechod. Ni lwyddodd y profiad ar y ffordd i Ddamascus dynnu’r hen elfennau Iddewig yna o’i enaid e. Ac mae’r uniongrededd Brotestannaidd wedi ei chlymu ei hun druan ynghanol clymau dryslyd hen gredoau Paul ac eraill a’i dilynodd.

Yr wrtheb syfrdanol o ryfedd i mi yw fod hyn wedi digwydd yn enw Iesu a oedd wedi gweld oferedd llwyr yr addoliad aberthol lle’r oedd yr unigolyn yn medru ennill ei achubiaeth bersonol ar sail aberth. Yn wir roedd Iesu wedi gweld mor ffug a dibwrpas oedd llawer o addoliad y deml gan ddweud mai mewn ysbryd a gwirionedd y byddai gwir addolwyr yn addoli Duw, nid mewn addoldy.

Yn waeth na’r cyfeiliorni dybryd sydd wedi digwydd dros yr holl ganrifoedd, yr ydym fel eglwys wedi gwneud camgymeriadau affwysol yn y ffordd yr ydym wedi trin Iesu. Drwy roi’r pwyslais i gyd ar ddwyfoldeb Iesu fe’i tynnwyd yn llwyr allan o gyswllt â’n cyflwr meidrol ni yng nghanol ein bywydau. Trwy roi’r pwyslais ar farwolaeth ac atgyfodiad Iesu, a’r Iawn a dalodd i Dduw drosom ni bechaduriaid colledig, fe’n hudwyd i feddwl fod achubiaeth bersonol drwy gredu mewn bwndel o arthrawiaethau yn gwneud ein hoblygiadau moesol yn amherthnasol. “Pecca fortiter”, “pechwch yn hyderus” meddai Luther, ” mae Iesu wedi marw drosoch chi.”

Nid Iesu fel yna a welwn ni yn yr Efengylau. Iesu’r chwyldröwr a welwn ni yno. Yr un oedd yn herio awdurdod gwag pedlerwyr crefydd, ac yn herio materoliaeth a bydolrwydd: un a heriai ei ddilynwyr i garu’r tlawd a’r diamddiffyn, un a orchmynnai i’w ddisgyblion garu eu gelynion, ac i droi’r rudd arall pan gaent eu treisio; un a orchmynnai i’w ddilynwyr faddau i’r eitha, fel y mae Duw yn maddau.
Torri’r rhwymau
Pan anfonodd Iesu ei ddisgyblion o gwmpas y wlad i bregethu’r efengyl, beth oedd yr efengyl honno? Dweud wrth bobol fod yn rhaid iddyn nhw gredu yn y creu yn ôl Llyfr Genesis? Credu yn athrawiaeth yr Ysbryd Glân? Credu yn athrawiaeth y Drindod? Chreda i fawr. Beth fyddai ei ddisgyblion yn ei bregethu fyddai hawl a her dyfodiad Teyrnas Dduw. Cyhoeddi dyfodiad Teyrnas Dduw fydden nhw yn ei wneud, fel y clywodd rhai ohonyn nhw hi yn cael ei chyhoeddi gan Iesu yn y Synagog yn Nasareth neu yn y Synagog yng Nghapernaum. Pregethu perthynas fywiol â Duw a fyddai’n rhoi cyfeiriad newydd i fywyd.

Ond fel y dwedodd un brawd yn gyhoeddus wrthyf yn ddiweddar, pwy ydych chi druan bach i ddweud fod mawrion y Ffydd ar hyd yr oesau wedi cael eu camarwain? Nawr mae’n wir fod meddylwyr mawr wedi bod yn ganolog yn hanes yr eglwys ar hyd y canrifoedd, er y buaswn i yn ystyried rhai ohonyn nhw fel Anselm yn fwy o athronwyr na diwinyddion. Ond cofier fod yna gewri hefyd ymhlith y rhai a wrthodwyd gan yr eglwys pobol fel Marcion ac Arius. Ac mae’n drueni na wrandawodd y Diwygwyr Protestannaidd fwy ar Erasmws a Philip Melanchthon a llai ar Calfin yr hen gyfreithiwr.

Ond dyna fe, mae ceidwadaeth crefydd yn cydio’n gryf. Mae’n ddiddorol am y gair Saesneg “religio”, mai’r elfen ganolog yn y gair yna yw “lig”, elfen a gewch chi yn y geiriau “ligament” a “ligature” sef rhwymyn. Rhywbeth sydd yn cadw rhwymau am gymdeithas yw crefydd. Ond pan gewch chi berson fel Iesu yn cerdded i mewn i fywyd unigolyn, dyna i chi dorri’r hen rwymau i gyd. A phan mae efengyl y Deyrnas yn dod i fywyd cymdeithas a gwladwriaeth, dyna i chi weledigaeth diwinyddiaeth rhyddhad.

Y mae yna un anhawster arall yn rhwystr i Efengyl Teyrnas Dduw lwyddo i ddenu’r torfeydd. A dyma yw hwnnw: sôn am achubiaeth bersonol biau’r emosiwn. Doedd yna ddim ecstasi yng nghalon y disgyblion pan glywon nhw y bregeth ar y mynydd. A gyda llaw pregeth dawel i’r disgyblion oedd y bregeth honno. “Pan welodd Iesu y tyrfaoedd efe a esgynnodd i’r mynydd; ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato. A dechreuodd eu dysgu…” Her ddifrifol yw’r bregeth ar y mynydd. Felly nid gorfoledd oedd yng nghalon y deuddeg, ond dos anferth o gydwybod. Gall Billy Graham a’i debyg ofalu am y canu a’r hysteria torfol; bydd Iesu am eistedd gyda’r rhai mae e wedi eu galw i’w ddilyn.

Yn y diwygiad yng Nghymru gan mlynedd a mwy yn ôl, hysteria oedd yn llywodraethu. Doedd gan Evan Roberts fawr o ddiddordeb mewn athrawiaeth, a llai fyth o wybodaeth am athrawiaeth, fel y byddai ei hen athro, John Phillips Castellnewydd Emlyn yn tystio. Ond roedd gydag e garisma a phresenoldeb oedd yn medru cyffroi’r emosiwn. Popeth yn iawn os mai gorfoledd ac ecstasi rych chi’n moyn. Ac yng ngwres yr emosiynau mae’n wir y newidiwyd miloedd o fywydau er gwell o ran moesau eu harferion cymdeithasol. Ond mae yna drannoeth y ffair yn dod wedyn pan ych chi’n gorfod mynd yn ôl at y gaib a’r rhaw. Yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif fe fu’n rhaid inni fyw drwy drannoeth y ffair, ac fe welon ni nad oedd fflamau emosiynau yn para’n hir iawn.

Mae dirywiad yr eglwysi yng Nghymru erbyn heddiw yn fwy o argyfwng nag y gallem ni fod wedi ei ddychmygu ugain mlynedd yn ôl. Ac mae’r cilio yn cyflymu drwy eglwysi gwledydd y gorllewin. Wrth gwrs y gytgan glywn ni y dyddiau hyn yw fod trai a llanw yn naturiol yn hanes y ffydd fel yn natur y môr. Pan mae hi’n drai yn un ochr y byd mae’n llanw yr ochr arall. Felly y mae hi medden nhw gyda Christnogaeth. Mae yna ferw a brwdfrydedd mawr mewn eglwysi yn Asia a rhannau o Affrica. Yng ngwledydd tlota’r byd mae’r eglwysi a’r capeli’n llawn. Peidiwn â thwyllo’n hunain. Arhoswch chi i weld beth fydd hanes y brwdaniaeth yna pan fydd y bobloedd hynny wedi dechrau ymbesgi ar fateroliaeth.

Tua’r dyfodol – Iesu radical
O fewn i’n henwadau ni fe glywn ni ambell air o gysur am ryw gynhadledd ieuenctid lle bydd yna frawd neu chwaer o’r newydd wedi rhoi ei chalon i’r Gwaredwr. Fi fyddai’r diwetha i ddilorni na dibrisio penderfyniad ifanc fel yna. Ond a ddylem ni wedyn anwybyddu cyflwr y miloedd ar filoedd o ieuenctid eraill sydd heb obaith ac heb Dduw yn y byd?

Dyna yn union lle y dylem fod yn barod i gyflwyno Iesu iddyn nhw, yr Iesu radical. Nid Iesu wedi ei lapio yn iaith gyntefig ein hymadroddion crefyddol ystrydebol ni, nid Iesu wedi ei wisgo’n daclus yn nillad athrawiaethau gofalus a rhesymegol y canol oesoedd, nid yr Iesu esmwyth ar wely cyfforddus yr hen draddodiadau saff a ddefnyddiwyd gan ein tadau a’n cyndeidiau. Ond Iesu’r rebel a’r chwalwr delwau. Yr Iesu peryglus i fod yn ei gwmni. Yr Iesu heriol, real a wynebodd awdurdodau crefyddol ei ddydd a’u gwneud yn ddifrifol o anghyfforddus. Pan gawn ni ein gorfodi i ddod wyneb yn wyneb â’r Iesu hwnnw fe fydd yn ein harwain ni i ddeall o’r newydd beth yw cael ein trawsnewid i fywyd yn ffordd Crist. Y mae hyn yn golygu bywyd mewn cymundeb â Duw.
Ystyr gwreiddiol y gair “credu” yw gafael. Ni ddylai credu yn Iesu olygu ei wneud yn wrthrych addoliad. Roedd Iesu yn gwrthod gadael i bobol i’w alw’n dda hyd yn oed heb sôn am ei addoli. Ni ddylem addoli neb ond Duw. Ond y mae credu yn Iesu yn golygu gafael yn rhywbeth. Na, gwell fyth, “gafael yn rhywun”. Na gwell fyth wedyn, cael rhywun i afael ynoch chi, nes eich bod chi yn rhoi eich calon iddo. A chanlyniad hynny yw bywyd newydd wedi ei drawsnewid yng Nghrist.

Felly ar gyfer ein plant a’n hieuenctid i mewn i’r dyfodol, rhaid inni holi ein hunain yn ddwys: beth yw hanfodion bod yn ddisgyblion Iesu? Ai credu mewn athrawiaethau amdano neu adael i Iesu afael ynom ni? Mae mân athrawiaethau ddoe yn mynd i edrych yn fwy amherthnasol bob dydd wrth imi feddwl am fywydau’r wyrion a’r wyresau. A ddylen ni feichio eu bywydau nhw ag arferion traddodiadol am iddyn nhw fod yn anhepgorol yng ngolwg y tadau? Yr her i mi fel Annibynnwr yw anghofio’r hen egwyddorion am lywodraeth eglwys, a oedd yn ddelwau cysegredig yng ngolwg cewri fy enwad i.

I’r Bedyddwyr, ydi bedydd crediniwr yn beth hollol hanfodol i lwyddiant efengyl y Deyrnas, neu a ddilynwch chi esiampl Iesu, na ffwdanodd fynd â’i ddisgyblion yn agos at afon Iorddonen cyn eu rhoi nhw ar waith? Cofiwch hyn: nid y pethau sy’n ddibwys i chi fydd Iesu am i chi eu gadael nhw ar ôl wrth fynd mewn i’r mileniwm nesaf yma, ond y pethau hynny y bydd hi’n wewyr calon i chi eu gadael nhw ar ôl. Yn wir, meddai Iesu, mae e fel gofyn i rywun adael tŷ ac anwyliaid ar ôl

Ond, byddwch chi’n gofyn, os ydym yn gollwng yr hen arferion a’r hen athrawiaethau eglwysig, beth sydd gyda ni ar ôl. Yr ateb syml yw Duw a’n harglwydd ni, sef Iesu. Iesu nerthol ei ddysgeidiaeth, heriol ei raglen, digyfaddawd ei hawl arnom i’w ddilyn. A Duw uwchlaw’r cyfan i’n cynnal ni, ac un y medrwn ni rannu ein bywyd gydag ef yn ein gweddïau.
John Gwilym Jones