CRISTNOGAETH 21

Yn wyneb yr argyfwng economaidd presennol mae`r ddelw o`r llo aur yn dal yn frawychus o fyw, ond y mae delw arall sydd yr un mor frawychus: ffwndamentaliaeth. I`r delw-addolwr, mae`r ddelw yn cyfleu yr elfen dragwyddol, ddi-gyfnewid. Mae pob peth arall yn newid ond nid y ddelw. Pan oeddwn i yn weinidog yn Llanberis ddiwedd y chwedegau, cefais gyfle i groesawu Cymry o Lanberis yn wreiddiol oedd wedi mudo i America. Roedden nhw wedi clywed pregeth y Sul cynt oedd yn eu hatgoffa o bregethu Cymru pan adawson nhw hanner can mlynedd ynghynt. Doedd dim wedi newid. Er yn y cyfamser y caed dau ryfel byd a chwmwl madarch uwchben ein byd.

Pam brawychus? Daeth llyfr allan yn ddiweddar sydd yn awgrymu mai ffwndamentaliaeth biau`r unfed ganrif ar hugain: “Shall the Religious Inherit the Earth?” Demography and Politics in the Twenty-First Century gan Eric Kaufmann, (Gwasg Profile Books.) Nid yw`n honni bod yn anffyddiwr ond y mae`n ddi-grefydd. Mae ganddo gydymdeimlad â chrefydd gymhedrol, y brif-ffrwd, sydd yn cael ei gwasgu oddeutu gan seciwlariaeth ar un llaw a ffwndamentaliaeth ar y llall. Yr hyn a olyga wrth grefydd gymhedrol yw crefydd anffwndamentalaidd.

Carn ei ddadl yw “.. across the western world the fertility rate of religious conservatives outstrips that of non-believers, so much so that Europe, North America and the Middle East will eventually become dominated by fundamentalists as mainstream Christianity, Islam and Judaism are squeezed by secularism and religious extremists.”

Yn wyneb ffwndamentaliaeth ar un llaw a secwlariaeth ar y llaw arall, fe garwn dynnu eich sylw at ddau arwydd gredaf fi sydd yn gymorth i ni symud ymlaen:

Gwefan C21
1. Un arwydd yw`r wefan sydd yn dwyn yr enw Cristnogaeth 21 sy`n trafod y ffydd Gristnogol mewn ffordd sy’n cydnabod y newidiadau hynny yn y byd eglwysig, crefyddol ac yn y byd o`n cwmpas. Datgan gweinyddwyr y wê: “Credwn fod lle i drafod y ffydd heb ddisgwyl unffurfiaeth. Ymdrech yw “Cristnogaeth 21” i gynnal fforwm i roi llais i ystod eang o safbwyntiau diwinyddol Cristnogol er mwyn miniogi a chyfoethogi meddylfryd Cristnogol Gymraeg”. Siom fawr yn ddiweddar oedd clywed lleisiau yn datgan nad oes gwerth i wefan o`r fath. Nid oes groeso i haearn hogi haearn. Ymddengys yn gam neu`n gymwys fod “Y Gwirionedd” uwchlaw trafodaeth. Onid o ran mewn drych y gwelir y gwirionedd beth bynnag? A`r her yn feunyddiol ydyw beth a olygwn wrth ystyried y Ffydd a roddwyd unwaith i`r Saint a`r ffydd honno sydd yn ceisio byw o eiliad i eiliad, o sefyllfa i sefyllfa, ac o her i her. Mae`r Ffydd yn agored i drafodaeth. Mae ffydd yn fyw.
Caeredin 2010
2. Arwydd arall yw Cynhadledd Caeredin 2010 a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn a`i phwysigrwydd ar gychwyn yr unfed ganrif ar hugain. Cynhaliwyd hi gan mlynedd union ar ôl cynhadledd gyffelyb yn 1910 yn yr un ddinas, ac yn yr un neuadd; un yn wynebu her yr ugeinfed ganrif, a`r llall yn wynebu her yr unfed ganrif ar hugain. Roedd cryn wahaniaeth rhwng y ddwy gynhadledd – canrif o wahaniaeth: yn hanes yr Eglwys Gristnogol ac yn hanes y byd.
– Yn 1910 cynhadledd Brotestannaidd, Ewropeaidd a chroenwyn oedd hi`n bennaf. Yn 2010 roedd yr Uniongred, y Pabyddol, yr Efengylaidd, y Pentecostaidd a`r Ecwmenaidd o bedwar ban byd yn bresennol. Yn 1910 roedd dros 1000 yn cynrychioli rhan fach o`r Eglwys, ond yn 2010 roedd llai (tua 300) yn cynrychioli`r Eglwys gyfan, yr eglwys yn fyd-eang.
– Yn 1910, un ganolfan oedd i`r Gynhadledd, ond eleni yr oedd y cynrychiolwyr wedi cyfarfod mewn canolfannau ledled byd wrth baratoi ar ei chyfer, ac roedd modd dilyn y gweithgareddau ar y wê. Ond Caeredin oedd canolfan y canolfannau, er i`r gynrychiolaeth o`r De holi pam na ellid bod wedi ei chynnal yn eu rhan nhw o`r byd. Yr ateb a gafwyd oedd; Caeredin oedd y ganolfan gan mlynedd yn ôl.

– Eglwysi ynghyd yn yr Alban a Phrifysgol Caeredin oedd yn gyfrifol am ei threfnu. Yn 1910, cenhadon oedd y cynrychiolwyr a`u consyrn oedd cenhadaeth y gwahanol eglwysi yn y byd. Yn 2010, academyddion oedd y cynrychiolwyr yn bennaf (dyna feirniadaeth arall ar y gynhadledd). Cenhadaeth yr eglwysi oedd consyrn 1910 ond cenhadaeth Duw oedd consyrn 2010 a rhan yr eglwysi yn y genhadaeth honno. Un genhadaeth ond sawl mynegiant ohoni; y cyfriniol, y gwleidyddol, y profiadol, yr ysbrydol a`r teuluol. Bu`r blynyddoedd o baratoi ar gyfer y gynhadledd yn ogystal â`r gynhadledd ei hun yn gyfle i ddeialog, sgwrsio, a thrafod rhwng y gwahanol draddodiadau.

– Roedd hyn yn arwain at drafod Cenhadaeth Duw yng nghyswllt amgylchiadau amrywiol gwahanol rannau o`r byd: tlodi, diwylliant lleiafrifol, crefyddau eraill ac amgylchiadau cymharol gyffyrddus, aml-ddiwylliant ac aml-ffydd y Gorllewin y mae Cymru yn rhan ohono.

Yn yr astudiaeth gyntaf o naw ar gyfer y gynhadledd y pwnc oedd sail ein cenhadaeth yng ngoleuni`r Beibl a`r byd sydd ohoni. Daeth tair agwedd ar y genhadaeth i`r amlwg:
– rhyddhad (iachadwriaeth) – yn nhermau`r dyn cyfan, yn gorff, meddwl ac ysbryd. Cyflawnder.
– deialog yn hytrach na chyhoeddi o bulpud aruchel, chwe troedfedd uwchlaw beirniadaeth. Gostyngeiddrwydd.
– cymod sef trwsio bywydau unigolion a chymunedau clwyfus a thoredig. Meddyginiaeth.

DEIALOG

Tair agwedd ydyn nhw sy`n pwysleisio ein perthynas â`r person arall a`r gymuned arall. Ond yr agwedd y carwn i ei bwysleisio heddiw ydy DEIALOG a chenhadaeth fwy gostyngedig. Gallwn uniaethu ein hunain â`r elfen o ostyngeiddrwydd a goddefgarwch sydd ynghlwm wrth ein diwylliant ôl-fodernaidd cyfoes yn ogystal ag â`r elfen hyfyw, hylifol sydd yn eiddo iddo heb orfod ildio i`w gasgliadau nac ildio ein argyhoeddiadau. Pererinion ydym ar gromen dysg. Ystyr deialog yw bod y naill ochr a`r llall yn dweud eu stori, ond hefyd yn gwrando ar stori`u gilydd.

Yn ei ddrama Racing Demon mae David Hare yn ymwneud â thensiynau sydd ynghlwm wrth ddweud stori`r ffydd, heb sôn am wrando ar stori rhywun arall. Drama am bedwar o offeiriadon Eglwys Loegr yw hon yn ymwneud â`u perthynas neu eu diffyg perthynas â Duw ac â phobl. Radical rhyddfrydol yw Lionel sydd yn medru siarad efo pobl ond yn methu â siarad efo Duw na`i wraig ei hun. Efengylwr yw Tony sydd yn medru siarad efo Duw ond yn fethiant llwyr efo pobl. Ucheleglwyswr hoyw yw Harry ac Ewan yn gariad iddo. Perthynas hapus a ddaeth ag anhapusrwydd iddo pan wnaed y berthynas yn hysbys (“outed”) gan iddo golli ei swydd. Cymeriad rhadlon, cymdeithasol a diddiwinyddiaeth yw Donald yn llawenhau gyda`r rhai sy`n llawen . Yn y ddrama ceir dau Esgob yn cynrychioli awdurdod Eglwys Loegr. Diplomat amwys a chyfawddawdus yw Esgob Kingston, ond Ceidwad y Ffydd yw Esgob Southwark gan nad ei farn ef sydd yn bwysig ond awdurdod ei eglwys.

CYDADDOLI A CHYDWEITHIO

Cymwynas Caeredin 1910 oedd peri bod yr enwadau Cristnogol er mwyn Cenhadaeth Duw yn closio at ei gilydd, yn siarad efo`i gilydd ac yn sgîl hynny yn dod i adnabod eu gilydd ac yn dod i berthynas aeddfetach â`i gilydd. Fe ddaeth cyd-drafod, cydaddoli a chydweithio yn fwy cyffredin yn ein mysg yn hytrach na chystadlu am eneidiau a sathru traed ein gilydd, gartref ac oddi cartref – dwyn defaid! Ar y bererindod hon fe ddaethom fel enwadau i weld mai dim ond darn o`r gwirionedd sydd gennym, ac nid y gwirionedd i gyd ac mai un teulu ydym.

Ond un peth yw siarad ym mysg ein gilydd, beth am siarad efo personau a chymunedau sy`n wahanol i ni. Un peth yw siarad ond pa fath o siarad? Deialog yw`r ateb eto. Mae deialog yn allweddol i`r ddau ddimensiwn arall mewn dwy ffordd wahanol. Wrth roi bwyd i`r newynog corfforol, ysbrydol a meddyliol, rhoi gwasanaeth iechyd i`r afiach, a chael cyfiawnder i`r gorthrymedig agorir drysau i ddeialog. Os am greu greu cymod mewn perthynas â`r person arall, y gymuned arall, ac yn arbennig bellach, cymuned o ffydd arall, mae deialog yn allweddol. Nid yw hynny yn golygu ein bod yn glastwreiddio ein argyhoeddiadau fel cydweithwyr Duw.

CYNHADLEDD 1910

(i). Y nôd a osododd cynhadledd 1910 iddi ei hun oedd “Lledaenu`r efengyl i`r holl fyd o fewn cenhedlaeth” mewn geiriau eraill mynd â Christnogaeth i fyd di-Gristnogaeth, yn sicr nid i fyd di-gred ond i fyd lle roedd pob math o grefyddau mawr a bach, cyntefig a datblygedig yn bodoli. Ond deialog unochrog ydoedd. Yr amcan oedd troi pobl oddi wrth eu ffydd gynhenid at y Ffydd Gristnogol. Un stori oedd i`w thrafod, ein stori ni a oedd i ddisodli eu stori nhw. Ond yng Nghaeredin 2010 rhoed y pwyslais ar rannu nid un stori, ein stori ni, ond ar rannu dwy stori; ein stori ni a`u stori nhw.

(ii). Os mai Caeredin 1910 oedd croth y babi Ecwmenaidd, fe roddodd yn y man enedigaeth i Gyngor Eglwysi`r Byd. Er na lwyddodd Caeredin 1910 i gyrraedd ei nod, fe lwyddodd yn yr ystyr fod pob rhan o`r byd bellach o fewn clyw i`r dystiolaeth Gristnogol. A Christnogaeth yw`r grefydd fwyaf niferus o hyd er nad oes gynnydd yn ei rhif, er gwaethaf y cynnydd yn y De. Y dirywiad syfrdanol yn y Gogledd yw`r rheswm am hynny. Ffrwyth deialog yn y gynhadledd hon oedd gweld gweision ac nid meistri yn y byd di-Gristnogaeth yn rhannu yr Efengyl yn hytrach na`I gorfodi. Drwy`r Cyngor sefydlwyd perthynas rhwng enwadau dros y byd gan osod llwyfan i ddeialog barhaus.

(iii).Eto, fel y gwelir oddi wrth y thema ni lwyddodd cynhadledd 1910 i ymddihatru`n llwyr oddi wrth ysbryd imperialaidd y ganrif flaenorol. Gwelid “pob cyfandir is y rhod yn eiddo Iesu mawr” trwy droi pobl oddi wrth eu ffydd frodorol at y ffydd newydd. Ymddengys mai`r nod oedd adeiladu Teyrnas yn hytrach nag agor y drysau i fynd i mewn iddi. Tybed a aeth yr eglwys yn gam neu`n gymwys yn gyfystyr â`r Deyrnas yn hytrach nag yn arwydd bywiol o`i phresenoldeb yn y byd? Ond ganrif yn ddiweddarach daeth newid ar fyd. Thema`r Wythnos Weddi ar ddechrau`r flwyddyn a thema cynhadledd 2010 oedd “Chwi yw`r tystion.” Roedd y pwyslais ar dystio yn osgoi defnyddio cenhadu â`i gysylltiadau imperialaidd o`r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Credai penseiri`r gynhadledd fod tystio yn fynegiant mwy gostyngedig o`n tasg yn y byd.

(iv). Roedd ein perthynas â chrefyddau eraill yn bwnc yn y gynhadledd gyda phwyslais arbennig ar greu deialog rhwng y crefyddau â`u gilydd. Beirniadaeth un diwinydd oedd yn ymwneud â`r maes yng nghyfnod y paratoi oedd na chafodd cynrychiolwyr o`r crefyddau eraill gyfle i fod yn bresennol, i arsylwi ac o bosibl i ymateb i`r hyn oedd yn cael ei ddatgan yn y gynhadledd. Nid yw`r ddeialog rhwng crefyddau yn newydd. Fe gychwynnodd y ddeialog ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn cynhadledd yn Chicago. Datblygodd y ddeialog yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf i gymharu cred, addoliad a threfn y naill grefydd a`r llall – crefydd gymharol; canfod y tebyg a`r annhebyg. Ond erbyn i mi fynd i`r coleg roedd y pwyslais wedi symud o gymharu crefyddau i fod ar hanes crefyddau. A`r cwestiwn mawr oedd beth yw`r berthynas rhwng Cristnogaeth â`r crefyddau eraill. Roedd y ddeialog yn y ddau gyfnod yna rhwng academyddion â`i gilydd.

Ond erbyn hyn, nid pwnc pell, academaidd ydyw, gan fod y crefyddau eraill wrth garreg ein drws, nid yn unig yn ein dinasoedd a`n trefi, ond hefyd yng nghefn gwlad Cymru. Yr ydym yn y cyfnod hwnnw sydd yn her i`r academydd i siarad nid yn unig wrth academyddion eraill ond wrthym ni Gristnogion. Ond ble mae pobl fel Islwyn Blythin a Cyril G. Williams heddiw i wynebu`r her hon ac i barhau y ddeialog mewn ffordd ystyrlon yn y Gymru gyfoes, gan fod y ddeialog erbyn hyn yn digwydd ar lawr gwlad ar lefel bywyd bob dydd ac ar lefel gymdeithasol y tu allan i`r cylchoedd academaidd. Ar ba lefel bynnag, bydd deialog yn ein gwneud ni yn agored i her ysbrydol y grefydd arall, yn union fel y gobeithiwn ninnau eu herio hwythau wrth dystio i`r Ffydd Gristnogol.

IESU FEL ANGOR

Ar Fryniau Casia ddwy flynedd yn ôl wrth sgwrsio gydag arweinyddion yr Eglwys Bresbyteraidd yno mi soniais fod fy mab ieuengaf wedi priodi merch o Hindŵ. Parodd gryn syndod yn eu plith – Cristion yn priodi Hindŵ! Ymatebais innau gan ddweud nad oedd hynny yn anysgrythurol gan fod Paul yr hen lanc yn argymell i`r Cristion briodi y di-gred yn hytrach na llosgi. Ei obaith wrth gwrs oedd y byddai`r Cristion yn ennill ei bartner i`r Ffydd. Ond yn y sefyllfa gyfoes sydd ohoni mae enghreifftiau o`r gwrthwyneb yn digwydd.

Ein hangor mewn deialog ar lawr gwlad yw Iesu ac nid yr athrawiaethau amdano. I Paul Iesu oedd ei obaith tuag at Dduw a thuag at gyd-ddyn – ie pwy bynnag ydyw a beth bynnag ei amgylchiadau a beth bynnag ei gyflwr; beth bynnag ei ddiwylliant a beth bynnag ei grefydd. A nôd yr Apostol oedd dynoliaeth lawn dŵf. Gall Dawkins y ffwndamentalydd seciwlar a chynrychiolwyr yr holl grefyddau gydnabod Iesu o Fethlehem i`r Groes; i`r Hindŵ mae`n ymgnawdoliad o Dduw, ond yn un ymysg eraill; i`r Mwslim a`r Iddew mae`n broffwyd, ond nid y mwyaf ohonynt, ac i`r Bwdydd mae`n athro ymoleuedig fel y Bwda neu yr un tosturiol. Mae`n fan cychwyn i unrhyw ddeialog, ond peidiwn â meddwl y bydd unrhyw ddeialog yn brin o densiwn.

DIWINYDDIAETH YN ARF

Ar Wefan Cristnogaeth 21 ceir y dyfyniad hwn ymddangosodd ddoe gan un sydd yn galw ei hun yn Bysgodyn Piws:

“Am ganrifoedd bu ymddiddanion rhwng diwinyddion a wnaeth ddim byd ond caledu safbwyntiau. A pham? Am iddyn nhw siarad mewn ofn ac mewn diffyg ymddiriedaeth yn y naill a`r llall, gyda`r awydd i amddiffyn eu hunain ac i goncro eraill. Nid oedd Diwinyddiaeth bellach yn ddathliad pur o ddirgelwch Duw. Aeth yn arf. Aeth Duw ei hun yn arf.” (Patriarch Athenagoras.)

Sylwch nad am athrawiaeth y sonia, ond am ddiwinyddiaeth.

I gloi, mae`n debyg mai T.H.Parry Williams oedd yr un mwyaf praff ei astudiaeth o Lythyrau ac Emynau Ann Griffiths yn ei ysgrif arni yn ei gyfrol “Myfyrdodau”, Yn yr ysgrif deil bod Ann yn rhannu ei hamheuon yn ei llythyrau at John Hughes Pontrobert, ond yn mynegi ei hargyhoeddiad yn ei hemynau. Roedd tensiwn yn ei henaid tanbaid ond am densiwn creadigol ac eneiniedig. A chofiwn mai Parry-Williams a fynegodd yn ei gerdd i John Hughes a`r ferch o Ddolwar Fach y dyhead am

“Gyfnewid holl ddeniadau`r ddaear hon
Am ronyn o eneiniad Ann a John.”

– John Owen,(Agoriad i drafodaeth yn Sasiwn Llanidloes, Mehefin 2010)