Darwin a Wallace heddiw

Hanner canrif a mwy yn ôl, un o’r darlithiau cyhoeddus blynyddol mwyaf poblogaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt oedd eiddo’r Canon Charles Earle Raven ‘Crefydd a Gwyddoniaeth’ Cof gen i am un achlysur pan fu raid i’r trefnyddion symud y gynulleidfa gyfan i ddarlithfa fwyaf y brifysgol – gymaint oedd yr awydd i wrando ar neges Raven.. Yn Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, roedd Raven hefyd yn naturiaethwr o gryn fri, yn awdur nifer o lyfrau pwysig ar hanes cynnar bioleg ac yn adarwr ymarferol; cai ei dderbyn felly fel cryn awdurdod yn y ddau faes – crefydd yn ogystal â gwyddoniaeth. Efallai nad oedd ei ddadleuon ‘Paleyaidd’ – gweld ym myd natur arwyddion clir o ymyrraeth Dduwiol – yn llawn daro deuddeg bob amser, ond prin yr amheuai neb ei brif gymhelliad, ei awydd i ddwyn elfen o gymodi i’r trafod.Hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg derbynnid yn lled gyffredinol fod modd i grefydd a gwyddoniaeth gyd-fyw yn ddigon hapus. Roedd y rhan fwyaf o wyddonwyr Ewrop hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn Gristnogion proffesedig (hyd yn oed Priestley, yr Undodwr!) a nifer ohonynt yn argyhoeddedig fod eu gwyddoniaeth yn ategu eu cred ym mhwerau a doethineb Duw a bod arwyddion o’r Duwdod i’w canfod yn eglur yn y greadigaeth.

Cafwyd hyd yn oed yng Nghymru enghreifftiau o deuluoedd a oedd yn gynrychioliadol megis o’r ddau wersyll, a chyfrifid fod hyn yn beth hollol normal. Gŵyr pob Cymro am ymroddiad Howell Harris i hyrwyddo Methodistiaeth tra bu ei frawd Joseph yn awdur llyfrau gwyddonol o beth pwysigrwydd – ei Of the Globes and the Orrery … and the Solar System a’i A Treatise of Optics; bu James Owen o Abernant yn ddiwinydd ac yn awdur cynhyrchiol yn y Gymraeg a’r Saesneg tra oedd ei frawd Charles yn awdur llyfr pwysig An essay towards a natural history of serpents – llyfr a sgrifennwyd, yng ngeiriau’r awdur, i ddangos ‘The Divine Wisdom so variously displayed in the Works of Nature’ .

Ond newidiwyd y cyfan yn 1858 wrth i Charles Darwin a Alfred Russel Wallace gynnig damcaniaeth chwyldroadol i gyfrif am ymddangosiad bywyd ar y Ddaear – a hyn ar yr un adeg ac yn llwyr annibynnol ar ei gilydd. Mae cymharu cefndir a phersonoliaeth y ddau arloeswr hyn yn ddiddorol. Meddai Darwin ar fanteision a weithiai o’i blaid fel naturiaethwr. Yn gefnog, yn aelod o’r Sefydliad Seisneg, yn berchen llyfrgell wych a chanddo gylch o gyfeillion dylanwadol, llwyddodd i fod yn naturiaethwr llawn amser heb orfod poeni dim am broblemau ennill bywoliaeth; ac fel pe bai hyn oll yn annigonol, gallai alw ar ei afiechyd seicosomatig i’w amddiffyn pan fyddai pethau’r byd yn gwasgu’n ormodol.

Roedd Wallace am y pegwn arall. Cafodd ei eni ym Mryn Buga yng Ngwent yn 1823 (dair blynedd cyn marwolaeth Iolo Morganwg – fel pe bai’r naill yn disgwyl am farwolaeth y llall, a’r ddau mor debyg i’w gilydd mewn sawl cyfeiriad !) Am gyfnod bu’n gweithio fel tirfesurydd ym Mhowys ac yn ardal Abertawe a Chastell Nedd. Ni dderbyniodd unrhyw addysg uwch, ac ni lwyddodd ar hyd ei oes i gael unrhyw swydd deilwng o’i alluoedd amlwg. Gorfu iddo wynebu problemau ariannol ar hyd ei oes hir ac oherwydd ei syniadau cymdeithasegol anuniongred bu raid iddo wynebu dirmyg a sen ar law nifer o’i gyd-naturiaethwyr – gymaint yn wahanol i fyd diogel Darwin oedd eiddo Wallace. Dysgodd Gymraeg, mynychai wasanaethau Cymraeg yn y capeli lleol, a bu’n dra phleidiol i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Rhyfedd felly fod dau mor wahanol wedi cyrraedd at yr un eglurhad ar gyfer tarddiad pethau byw ond yn llwyr annibynnol ar ei gilydd. Ac yn fwy fyth o ryfeddod i’r rhai ohonom sy’n cyfrif fod ein syniadau, i raddau helaeth iawn, yn gynnyrch ein hamgylchfyd a’n magwriaeth.

Hanfod damcaniaeth Darwin a Wallace oedd fod man amrywiadau wedi digwydd ymhlith pethau byw a bod rhai o’r amrywiadau hyn yn creu ́΄fersiynau’ a oedd yn fwy addas na’i gilydd ar gyfer goroesi – felly’r cysyniad o ‘oroesiad y cymhwysaf’. Yn y modd hwn datblygodd ein cymhlethdod biolegol a seicolegol presennol, gam wrth gam, oddi wrth yr organebau mwyaf cyntefig posibl. Roedd hyn oll, wrth reswm, yn llwyr groes i’r math o Greu Neilltuol a ddisgrifiwyd yn Llyfr Genesis. Dyna gychwyn felly ar agor gagendor rhwng dau ddehongliad posibl o realiti.
At ei gilydd, bu cryn gytundeb rhwng syniadau’r ddau naturiaethwr. Ond newidiodd pethau. Disgrifio proses fiolegol noeth a wnaeth Darwin. Iddo ef, nid oedd angen dim byd arall i egluro ymddangosiad bywyd ar y ddaear. Nid felly Wallace. Chwap ar ôl iddo lunio ei ddamcaniaeth cyfaddefai Wallace ei fod yn cael anhawster i dderbyn fod esblygiad biolegol yn ddigonol i gyfrif am y cyfan ac yn enwedig am y trawsnewidiad o anifail i ddyn ac fe gyflwynodd nifer o ddadleuon biolegol i ategu ei safbwynt. Awgrymodd fod Llaw Anweledig megis wedi gweithredu yn y cefndir drwy dywys y broses i gyfeiriad rhagarfaethedig a rhagordeiniedig.

Ffromodd Darwin pan glywodd am hyn a chyhuddodd Wallace o fod ‘wedi llofruddio ein plentyn’ Ond daliodd Wallace ei dir. Cyfeiriai bellach at Yspryd a oedd â rhan hanfodol mewn esblygiad ac ymhen ychydig flynyddoedd daeth yn un o brif ladmeryddion Ysbrydegaeth ym Mhrydain. Aeth ymhellach na hyn trwy ddadlau mai rôl foesol a dyletswydd dyn bellach oedd gweithio yn erbyn natur y broses esblygiadol – hynny yw, daeth yn wrthwynebydd cryf i unrhyw amlygiad o ‘werthoedd’ esblygiad mewn cymdeithas ac i’r perwyl yma sgrifennai’n helaeth yn erbyn anghyfartaleddau cymdeithasol, cyfalafiaeth (= ‘goroesiad y cryfaf’), rhyfel, a chynhyrchu arfau; bu’n bleidiol felly i fudiadau megis sosialaeth, pasiffistiaeth, gwladoli’r tir a hunan-reolaeth i Gymru.

Felly, gwedd gyfoes ar y gwahaniaeth rhwng Darwin a Wallace yw llawer o’r dadlau presennol rhwng crefyddwyr ac anffyddwyr – rhwng y gwyddonwyr caeth sy’n cyfrif fod esblygiad biolegol yn hunanddigonol i egluro’r cyfan, a’r rhai sy’n dirnad elfen ysbrydol y tu ôl i’r broses. Mae’r dadleuon traddodiadol sy’n seiliedig ar ganfod man arwyddion o Dduw ar waith ym myd natur, (neu, o chwith, sy’n cynnig Duw fel eglurhad ar gyfer ffenomenau na ellir ar hyn o bryd eu hesbonio o safbwynt gwyddoniaeth), bellach wedi colli peth o’u grym – wedi’r cyfan, mae’r momentwm rhesymegol bob amser yn rhwym o fod o blaid gwyddoniaeth. Bellach, mae’r pwyslais ar annigonolrwydd esblygiad i egluro presenoldeb elfennau moesol yn y byd ac ar arwyddocâd syniadau nad yw gwyddoniaeth yn gymwys i’w trafod.

Sy’n dod â ni, yn ddiddorol iawn, at un o’r dyfyniadau Cymraeg a gynhwyswyd gan Wallace yn ei hunangofiant, a hyn , yn ei eiriau ef, ‘to show the grand nature of the [Welsh] language’ sef, Salm 90, adnod 2: ‘Cyn gwneuthur y mynyddoedd a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb’ Dewis annisgwyl braidd gan un a luniodd ddamcaniaeth esblygiad; ond er hynny, yn ddyfyniad sydd yn ein hatgoffa am ddehongliad deuol Wallace o natur realiti.

R. Elwyn Hughes