Dechrau – mytholeg ac esblygiad

MYTHOLEG AC ESBLYGIAD YMDDYGIAD

 Gareth Wyn Jones

 ‘Heb ei fai, heb ei eni’, ys dywed yr hen ddihareb: yn rhannol, ffrwyth doethineb a sylwgarwch ein hynafiaid ond hefyd, mi gredaf, dystiolaeth i’r ffordd yr ymdreiddiodd y credoau a’r storïau Cristnogol i’n hisymwybod Cymreig. O fodio trwy unrhyw lyfr emynau, prin fod pwnc yn denu mwy o sylw na’n beiau a’n pechodau. ‘Cudd fy meiau rhag y werin’; ‘Os gwelir fi, bechadur, ryw ddydd ar ben fy nhaith’; ‘yn farwolaeth i bechadur, heb gael iawn o drefniad Duw’.

Mae i bob gwareiddiad ei ymdrechion i esbonio’r byd o’i gwmpas, natur y cread ei hun a lle dynoliaeth ynddo. Hefyd, gwelwyd yr angen i ddeall cymhlethdodau ac amwysterau’r natur ddynol. Am dros fil o flynyddoedd y Beibl oedd prif ffynhonnell ein dehongliadau a’n deall o hyn oll, yng Nghymru fel yng ngweddill Ewrop. 

Yn Llyfr Genesis ceir hanes y Cwymp yng ngardd Eden. Yn ôl y stori, roedd Adda ac Efa yn byw yng ngardd Eden yn gytûn mewn diniweidrwydd hapus, dilychwin. Ond, yn groes i ddymuniad y Duw a’u creodd, cawson nhw’u temtio gan sarff i fwyta ffrwyth o bren gwybodaeth da a drwg. Chwalwyd eu diniweidrwydd ac fe’u hesgymunwyd o’u hawddfyd i fyd o boen, pryderon a phechod: byd yr ydyn ni, un ac oll, yn dra chyfarwydd ag o. Yn ôl y stori Feiblaidd, Efa a swynwyd yn gyntaf gan y sarff ac, yn ei thro, hi a anogodd Adda i fwyta’r ffrwyth gwaharddedig ac felly achosi’r Cwymp. Mae’n werth pwysleisio mai anufudd-dod i Dduw oedd y pechod gwreiddiol, a chanlyniad yr anufudd-dod oedd pechod, poen a drygioni yn y byd hwn ac yn ein bywydau bob dydd. Dyma sut y ceisiodd yr hen Israeliaid egluro cymhlethdod y natur ddynol a’n tueddiadau at ddrygioni yn ogystal â daioni. Fel ymestyniad o Iddewiaeth mabwysiadwyd y myth a’i oblygiadau gan Gristnogaeth.

Yn y ffydd Gristnogol, o ganlyniad i’n hystad bechadurus, cyfyd yr angen am iachawdwriaeth o’n pechodau – yr Iawn y cyfeirir ato yn y dyfyniad o emyn Ann Griffiths uchod. Daeth y gobaith am achubiaeth i ddynoliaeth golledig trwy aberth Crist ar y Groes.

Canlyniad arall i’r cwymp gwreiddiol oedd y syniad i ddynion a merched yn mhob oes gael eu geni yn bechadurus. Hynny yw, rydyn ni oll, yn ôl y ddamcaniaeth, wedi etifeddu pechod gwreiddiol Efa ac Adda. Cododd y gred fod Duw wedi ‘dal dig’ dros y blynyddoedd ac, os nad oedd plentyn wedi ei fedyddio, roedd ei bechod gwreiddiol, yn ôl rhai, yn ei gondemnio i uffern! Heb amheuaeth, achosodd y ddamcaniaeth hon wewyr a phoen mawr i lawer o’n hynafiaid.

Maddeuwch y talfyriad annigonol hwn o ddiwinyddiaeth gymhleth a soffistigedig.

Ychydig yn yr oes bresennol sy’n credu yn llythrennol yn stori’r Cwymp yn Eden. Fe’i hystyrir yn enghraifft ragorol o fyth – myth dadlennol a chreadigol, ond myth neu ddameg, nid disgrifiad ffeithiol. Myth gyda’i ragoriaethau ond hefyd ei wendidau mawr, pellgyrhaeddol eu heffeithiau. Er enghraifft, yn y myth priodolir i Efa y prif gyfrifoldeb am y cwymp. Bu hyn yn esgus dros ganrifoedd lawer i ddibrisio ac i ddifrïo merched. Wrth gwrs, gan i’r myth ddatblygu mewn cymdeithas batriarchaidd, does dim syndod ei fod yn adlewyrchu ac yn cadarnhau rhagfarnau ei oes.

Dadlennol yw cymharu’r myth gyda chanlyniadau’r ymchwil diweddaraf ar ddatblygiad ac ymddygiad dynoliaeth a’n lle ni yn y byd a’r ffyrdd rydym yn ymddwyn, yn gymysgedd o dda a drwg, fel y dywed yr hen air.

Yn gwbl groes i fytholeg yr Eden berffaith – ‘Yn Eden cofiaf hynny byth, bendithion gollais rif y gwlith; syrthiodd fy Nghoron wiw’ – olrheinir esblygiad dynoliaeth yn ôl i’n hynafiaid cyntefig a oedd, yn ôl pob tebyg, yn fwy gwyllt na ni. Yn sicr roedden nhw’n byw fel helwyr a chasglwyr mewn amgylchiadau hynod o anodd, heriol a bregus. Trwy broses ddidostur detholiad naturiol, ac yn araf iawn, esblygodd ein rhywogaeth ni  Homo sapiens – o hominidau mwy cyntefig. Ceir tystiolaeth o H. sapiens ei hun yn byw tua 200,000 i 350,000 o flynyddoedd yn ôl yn yr Affrig. Ond mae hanes Homo erectus, oedd yn meddu ar lawer o’r un nodweddion â ni, i’w olrhain yn ôl 2 filiwn o flynyddoedd. Tan yn lled ddiweddar – tua 40–50,000 o flynyddoedd yn ôl, mae’n debyg – mae’r dystiolaeth baleontolegol, anthropolegol a genetegol yn dangos ein bod ni, y dynion doeth – y sapiens – yn cyd-fyw ag o leiaf dair rhywogaeth Homo arall, sef Homo neanderthalensis, Homo denisova a Homo floresiensis (gwelir cysgodion o ‘ddynion’ eraill yn rhai o’n genynnau ni ond nid yw’r dystiolaeth amdanyn nhw’n gadarn hyd yn hyn). Yn dipyn o glec i’n balchder a’n hunan-dyb, rydyn ni yn Ewrop wedi etifeddu canran fach (2–4%) o’n genynnau oddi wrth H. neanderthalensis. Felly, nid yw’r neanderthaliaid yn llwyr ddiflanedig! Diddorol a sobreiddiol yw’r dystiolaeth fod cyfaint ymennydd y neanderthaliaid yn fwy na’r un a berthyn ar gyfartaledd i’r ddynoliaeth bresennol. Hefyd, yn groes i’r pictiwr poblogaidd, datblygodd ein cefndryd y ddawn i reoli tân, i goginio, i greu gwaith artistig ac i gynnal cymdeithasau cymhleth.  Yn ddiddorol ac eto yn gwbl groes i rediad myth “diniweidrwydd’ a rhagoriaeth bywyd yng ngardd Eden, dengys gwaith Richard Wrangham a’i gyfeillion i’n llwybr esblygiadol fagu creaduriaid mwy dof a chymodlon eu natur na’n cyndeidiau hominid – yn union fel rydyn ninnau wedi bridio anifeiliaid mwy dof a haws eu trin i gynnal ein hamaeth. Credir i esblygiad dynoliaeth ddilyn llwybr tebyg. Hawdd deall sut y byddai natur or-ymosodol yn tanseilio unrhyw ymdrech gan gymdeithasau bach cyntefig i oroesi; roedden nhw’n gyd-ddibynnol ac yn pwyso’n drwm ar gydweithio. Ar y llaw arall, roedd angen dewrion i amddiffyn y llwyth a’r teulu oddi wrth anifeiliaid gwyllt a thylwythau eraill oedd yn chwenychu eu hadnoddau. Felly, credir i’n hesblygiad a’n llwyddiant (cymdeithasol a rhywiol) ni ddibynnu ar gydbwysedd sigledig rhwng cystadleuaeth a chydweithrediad; ambell dro byddai trais ffiaidd a thwyll yn bwysig i oroesiad y llwyth. Sut bynnag, ac am ba reswm bynnag, sapiens a enillodd y ras esblygiadol, ac rydyn ni’n etifeddion o’i gryfderau a’i wendidau; nodweddion, da a drwg yn ôl ein safonau modern, oedd yn angenrheidiol mewn byd tra gwahanol i’r un presennol.

Cofier bod ein hynafiaid oll yn byw fel helwyr a chasglwyr tan y Chwyldro Amaeth, gwta 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Ac er i amaethu ymledu yn araf ac i’r Chwyldro Diwydiannol ddigwydd ar ddechrau’r 19fed ganrif, nid oedd bywydau canran sylweddol o Homo sapiens wedi newid llawer tan yn ddiweddar iawn. Bu dwy fil o flynyddoedd ers Iesu a dau gan mlynedd ers y Chwyldro Diwydiannol. A bwrw bod pob cenhedlaeth ddynol yn cyfateb, ar gyfartaledd, i 25 o flynyddoedd, gwelir felly nad oes ond 8 cenhedlaeth ers dechrau’r ddeunawfed ganrif a chychwyn y Chwyldro Diwydiannol. Dim ond 80 cenhedlaeth sydd ers dyddiau Iesu. Cyfnod bywydegol ac esblygiadol byr iawn yw hwn o ystyried mor araf y mae sapiens yn cenhedlu. (Gwerth nodi, wrth basio, y gall y bacteriwm enwog Escherichia coli genhedlu/dyblu mewn llai na hanner awr a chwblhau wyth cenhedlaeth mewn tua tair awr a hanner). Dim syndod felly y tybir i’n hymarweddiad a’n hymddygiad creiddiol gael eu ffurfio dros y miloedd o flynyddoedd y buom yn byw fel helwyr mewn llwythau bach cyntefig, nid yn y canrifoedd diweddaraf.

Beth felly a gynigir nawr i esbonio a deall yn well amwysedd y natur dynol? Mae gwaith ymchwil ar yr ymddygiad dynol cyfoes wedi datblygu’n rhyfeddol ers y saithdegau. Dangoswyd ein bod yn greaduriaid mympwyol rhagfarnllyd, yn gyndyn iawn i ymdawelu ac i ymresymu yn bwyllog – er yn meddu ar alluoedd arbennig. Neidiwn yn reddfol i benderfyniadau heb ystyriaeth ofalus gan ddefnyddio’r ychydig ffeithiau amlwg sydd gennym i ddod i gasgliadau pellgyrhaeddol ac i weithredu. Nid dyma’r lle i drafod yn fanwl yr holl wybodaeth a ddaeth i law dros yr hanner canmlynedd diwethaf. Am arweiniad i’r maes, mae’n werth darllen llyfrau Damasio, Diamond, Kahnmann, Haidt a Scheinde (gweler isod).  I grynhoi ychydig o’r wybodaeth yn fras iawn, dengys y gwaith ein bod yn dueddol o fod yn blwyfol, yn ddrwgdybus o’r ‘arall’, yn fodlon ymladd i amddiffyn ein manteision, ond hefyd yn gynhenid ymwybodol o degwch ac yn cydymdeimlo â thrallodion eraill. Hynny yw, rydyn ni, un ac oll, wedi etifeddu elfennau daionus a drygionus oddi wrth ein cyndeidiau a’n cyn-neiniau. Fersiwn gwyddonol o ‘bechod gwreiddiol’ o bosib? Ond, yn bwysig, mae’r profion modern ar ein hymddygiad hefyd yn awgrymu’n gryf fod safonau a moesau ein cymdeithas yn effeithio’n drwm ar ein ffyrdd o feddwl a’n dewisiadau a’r ffyrdd rydym yn ymddwyn. Mewn gwlad sy’n goddef llygredd a thrais, mae tuedd i’r bobl gyffredin dderbyn ymddygiad gwael. Eto, nid yw’r casgliad hwn yn llawer o syndod.

Yn y cyfraniad byr hwn, ceisiaf danlinellu ychydig o bwyntiau amlwg a ddaw o ystyried y berthynas rhwng ‘y myth’ a’n dealltwriaeth fwy ffeithiol.

a]      Gwerth nodi yn gyntaf sut mae ymchwil ddiweddar yn ein galluogi i sylweddoli’r elfennau cadarnhaol yn ogystal â’r gwendidau yn yr hen fythau, nid eu hwfftio yn gyfan gwbl. Gall y cymariaethau arwain at drafodaethau diddorol a dadlennol.

b]    Er na ellir cyfiawnhau’r syniad diwinyddol o ‘bechod gwreiddiol’, mae’r dystiolaeth yn dangos i ni etifeddu yn ein genynnau dueddiadau a rhagdybiaethau ymenyddol a chymdeithasol sy’n deillio o’n cyfnod hir fel helwyr mewn grwpiau bach yn ceisio goroesi mewn byd tra pheryglus. Yn y byd hwnnw roedd rheidrwydd i amddiffyn buddiannau’r grŵp a’r tylwyth ambell dro trwy drais. O safbwynt anthropolegol cymharol, awgrymir mai swyddogaeth y dynion ifainc oedd y gwaith o amddiffyn y llwyth. Yn fras, po fwyaf y budd, mwyaf yr ymdrech a’r adnoddau a roddid i’w amddiffyn. Ond roedd hefyd yn bwysig i gydweithio o fewn cymunedau ac ardaloedd, yn arbennig wrth wynebu bygythiadau enbyd. Rydym yn ail-fyw yn gyson hyd heddiw y pendilio hwn rhwng yr awydd i gystadlu a’r angen i gydweithio. Amlygir y tyndra hwn ym mholisïau Trump ac yn nadleuon Brexit, ac mae’n drawiadol sut mae rhai gwleidyddion mewn sawl gwlad yn apelio at reddfau cyntefig pwerus a phwysig.

c]    Yn ddiddorol, ac yn gwbl groes i fytholeg y Cwymp, nid oes tystiolaeth am gyfnod diniwed, di-ryw yn hanes dynoliaeth. Os rhywbeth, rydym wedi cael ein dofi yn esblygiadol dros yr oesoedd. Ceir tystiolaeth o’r newidiadau hyn yn ein cyrff. Hefyd, mae ymchwil Steven Pinker yn awgrymu i drais leihau ers y Chwyldro Amaethyddol ac ers i ddynoliaeth ddechrau byw mewn trefi a phentrefi sefydlog. Nid yw ei ddamcaniaeth heb ei feirniaid, ond o bosib rydym yn araf yn mynd yn fwy gwaraidd!

ch]    Nid oes sail i’r myth am ffaeleddau benywaidd honedig. Ond mewn cymdeithasau gyda chyfraddau uchel o enedigaethau a marwolaethau roedd swyddogaethau’r gwryw a’r fenyw yn bur wahanol, gan mai’r ferch oedd yn esgor ar blant, a hynny yn lled aml, ac yn eu bwydo o’r fron am o leiaf flwyddyn. Roedd hynny’n sylfaenol i lwyddiant y llwyth ond yn diffinio bywyd y ferch a’r dyn.

d]    Yn hanes Eden awgrymir bod Duw yn hollbresennol ac yn barnu a chosbi. Yn y traddodiad Cristnogol credir bod Duw yn gwybod ‘cudd feddyliau’n calon’. Mae’r ymchwil ymddygiadol yn dangos yn glir ein bod yn fwy tebyg o dwyllo a chamymddwyn os ydym yn tybio na fydd ein cymdogion yn gwybod am ein camwri neu ein bod mor rymus fel na ellir ein cyhuddo a’n barnu. Felly, mae lle i ddadlau bod y syniad o Dduw hollwybodol yn un pwerus iawn os am gynnal trefn gymdeithasol ac, o safbwynt yr uchelwyr, yn gyfleus os am gadw’r werin yn eu lle.

dd]    Diddorol yw’r cyfeiriad at fwyta ffrwyth o bren gwybodaeth da a drwg. Mae amwyster gwybodaeth yn bwnc modern iawn. Pallu y mae’r gred mewn datblygiad diderfyn. Rydyn ni’n fwyfwy ymwybodol o’r modd y mae gwybodaeth dechnolegol a gwyddonol yn creu cyfleoedd i ddrygioni, lawn cymaint â daioni. Enghraifft glasurol yw ein dealltwriaeth o natur yr atomau a DNA ein genynnau. Mae hyn yn sail i lawer o driniaethau meddygol ond hefyd i’r bom atomig a phryderon am blant wedi eu ‘peirianyddu’. Felly hefyd y cyferbyniad rhwng y golud a ddaeth i rai oddi wrth ynni hydrocarbon a bygythiadau newid hinsawdd. Yn ddiweddar rydyn ni wedi mopio ar ffonau symudol a’r we, ond bu’r cyfryngau hyn, er eu defnyddioldeb, yn sbardun i ymddygiad ffiaidd (gweler hefyd d] uchod). Pornograffi yw’r busnes mwyaf ar y we ac, fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi mentro cynnig sylwadau ar y we, hawdd iawn yw i bobl ymateb yn sbeitlyd ddienw. A oedd ein hynafiad Iddewig yn ymwybodol o natur Janusaidd gwybodaeth? 

I gloi: carwn bwysleisio, er nad yw’r myth yn wir yn ystyr arferol y gair, y ceir ynddo rai gwirioneddau ac nid yn annisgwyl rai gwallau peryglus a chyfeiliornus. Maen nhw’n adlewyrchu meddylfryd a blaenoriaethau eu hoes. Cyfeiriais at rai ohonyn nhw uchod yn fy nghyfraniad. Ffolineb yw glynu at y mythau fel be baen nhw’n cynnig gwybodaeth amgen ond credaf, o drafod y myth yng ngolau ein gwybodaeth a’n tybiannau presennol, fod modd ehangu ein gorwelion ni a deall yn well deithi meddwl ein hynafiaid.

Cyfeiriadaeth

  1. Antonio Damasio. (2004). Looking for Spinoza. Vintage Books, London a Antonio Damasio. (2018) The Strange Order of Things: Life, Feeling and the Making of Culture. Knopf Doubleday.
  2. Richard Wrangham. (2009) Catching Fire; How Cooking made us Human, Profile Books; ac A. S. Wilkins, R. W. Wrangham and WT Fitch (2014) ‘The ‘domestication syndrome’ in mammals: a united explanation based on neural crest behaviour and genetics’, Genetics 1984, 1771
  3. Walter Scheidel (2017) The Great Leveler: violence and the history of inequality. Princetown University Press
  4. Jared Diamond. (2013) The World Until Yesterday: What we can learn from traditional societies. Penguin.
  5. Steven Pinker. (2012) The Better Angels of our Nature: A History of Violence and Humanity. Penguin. London
  • Daniel Kahneman. (2011) Thinking Fast and Slow, Penguin.
  • Jonathan Haidt. (2013) The righteous mind: Why Good people are divided by politics and religion. Gildan Media