DIRYWIAD?

‘Rydym yn clywed hyd syrffed y dyddiau hyn am ddirywiad mewn crefydd. Beth yn union sy’n dirywio? Yn sicr nid yr Efengyl. ‘Rydym yn mesur y dirywiad trwy gyfeirio at y lleihad yn nifer aelodau eglwysig a mynychwyr gwasanaethau, a hynny yn arwain at gau capeli. Fe gyfeiriwn hefyd at brinder y rhai sy’ncynnig eu hunain i’r weinidogaeth. Ond a ydy hyn yn fesur dilys o lwyddiant neu aflwyddiant crefydd? Yr hyn sy’n dirywio yw trefn bresennol yr eglwys, ac y mae lle mawr i amau a ydyw’r drefn bresennol yn gyfystyr â chrefydd. Yr hyn sy’n digwydd yw newid, newid enfawr y mae’r Esgob Spong yn dweud fod y Diwygiad Protestannaidd yn bitw o’i gymharu ag e’, newid a ddechreuodd mor bell yn ôl â’r Dadeni Dysg. Y cwestiynau y mae’n rhaid inni eu gofyn yw “Beth yw crefydd? I beth mae e’ dda?”
Gadewch inni fwrw golwg frysiog dros hanes crefydd. ‘Roedd ein cyndeidiau cyntefig yn ymwybodol iawn o freuder eu bywydau, a pha mor ddibynnol oedden’ nhw ar adnoddau’r ddaear i’w cynnal, boed yn anifeiliaid i’w hela neu allu’r ddaear i gynhyrchu cnydau. ‘Roedd dŵr yn hanfodol; dŵr glaw, nentydd, afonydd, llynnoedd a ffynhonnau; tân hefyd wedi iddyn’nhw ddarganfod sut i’w gynnau. Fe allai awel fod yn fendithiol, ond gwynt stormus yn andwyol, yn distrywio cnydau a chartrefi. ‘Roedden’ nhw’n parchu rhain i gyd, ac yn tybio fod yna ysbrydion, duwiau neu dduwiesau ynddyn’ nhw. ‘Roedden’ nhw’n cyfeirio at y fam ddaear, yn addoli’r haul, a’r duwiau eraill, gan geisio sicrhau trwy ddefodau a seremonïau eu bod yn parhau i’w cynnal, neu beidio gwneud dim byd andwyol fyddai’n peryglu’u bywydau a bodolaeth eu cymunedau. Ond nid rhywbeth ar wahan i fywyd oedd eu crefydd; ‘roedd crefydd a bywyd yn un.
Yna yn y cyfnod o tua 800 i 300 CC, y cyfnod a elwir yn Saesneg yn Axial Age, fe ddaeth crefyddau newydd i fod, rhai a alwn ni yn grefyddau mawr y byd, ac sy’n dal i fodoli mewn rhyw ffurf neu’i gilydd: e.e. Bwdhiaeth yn India, crefydd Confucius yn Tsieina, ac Iddewiaeth. Yn ddiweddarach fe darddodd Cristnogaeth ac Islam o Iddewiaeth. Y cyfnod hwn hefyd oedd oes aur Athroniaeth Groeg. Mae Karen Armstrong wedi olrhain hanes y datblygiad hwn yn hanes crefydd yn ei chyfrol feistrolgar The Great Transformation.
Un nodwedd a ddaeth i’r amlwg bryd hynny oedd deuoliaeth; Nef a Daear, Corff ac Enaid er enghraifft. ‘Roedd Plato yn dysgu fod y byd hwn, y byd materol, yn afreal, bod popeth sydd ynddo yn dod i ben. ‘Roedd yna fyd arall, byd haniaethol, ysbrydol, ac ynddo ffurfiau yr oedd pethau’r byd hwn yn gopïau israddol ohonyn’ nhw. Hwnnw oedd yr unig fyd real, nad oedd diwedd iddo.
Fe ddylanwadodd athroniaeth Plato yn drwm iawn ar Gristnogaeth. Fe gawsom ni ein dysgu fod y byd hwn yn gwbl ddrwg, a bod bodau dynol wedi’u carcharu ynddo dros dro. Y nefoedd yw’r unig fyd real tragwyddol, a’n bwriad a’n cyfrifoldeb ni yw ceisio cyrraedd y lle delfrydol hwnnw ar ôl marw. Fe ddywedodd un awdur “The Earth is like a huge airport terminal where we spend what seems to be an unduly lengthy period, overcrowded and a little bored, waiting for the plane to heaven to take us away.” Yn gysylltiedig â hyn fe ddaeth y gred mewn bydysawd tri llawr i fod; nefoedd, daear ac uffern. Fe gyrhaeddodd y cyfan ei anterth yn ystod yr Oesoedd Canol, ond ar waethaf popeth, mae’n parhau yn fyw yn y Gristnogaeth draddodiadol hyd heddiw.
Wedyn fe ddown at y Dadeni Dysg. Yn ôl rhai dyma ddechrau’r ail Axial Age, pan drodd pethau o fod yn theosentrig i fod yn homosentrig. Dechrau oes y dyneiddwyr oedd hon, pan drodd pobl o edrych ar bopeth o safbwynt Duw i safbwynt dyn. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus efallai yw Copernicus a Galileo, a wrthododd dderbyn dysgeidiaeth yr eglwys am y bydysawd ond yn hytrach dystiolaeth eu synhwyrau a’u meddyliau eu hunain. Fe welson’ nhw nad y ddaear oedd canolbwynt y bydysawd, ond ei bod yn blaned ymhlith planedau eraill oedd yn troi o gwmpas yr haul. Dyma ddechrau tanseilio awdurdod yr eglwys. Wedi’r dechrau hwn ‘roedd yna rwydd hynt i wyddonwyr eraill megis Isaac Newton i ymchwilio i wirioneddau’r bydysawd.
Dyma hefyd ddechrau cyfnod athroniaeth ddiweddar; dechrau gyda Renee Descartes, a oedd yn Gristion, ond ar yr un pryd yn amau popeth hyd nes iddo ddod o hyd i brawf a’i bodlonai fod rhywbeth yn wir. ‘Roedd yn amau hyd yn oed ei fodolaeth ei hunan hyd nes iddo sylweddoli ei fod yn meddwl, ac felly rhaid ei fod yn bod. Cogito ergo sum, meddai.
Cwta ganrif yn ddiweddarach daeth yr Oleuedigaeth, oes rheswm. (Diddorol yw gweld yng Ngwyddoniadur diweddar Prifysgol Cymru na chyffyrddodd yr Oleuedigaeth fawr ddim ar Gymru.) Cododd nifer o athronwyr mawr bryd hyn, megis David Hume yn yr Alban, ac yn fwyaf arbennig Immanuel Kant yn yr Almaen. ‘Roedd ef yn gwahaniaethu rhwng pethau fel y maen’ nhw a phethau fel yr ŷm ni’n eu gweld nhw. Mae’n amhosibl felly inni weld pethau fel y maen’ nhw, gan ein bod ni’n gweld popeth trwy ein llygaid ein hunain. Mae’n dilyn na all popeth fod yn gwbl wrthrychol; nid oes dim byd absoliwt; nid oes Duw absoliwt, dim ond Duw fel yr ŷm ni’n ei weld e.
Yna yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth datblygiadau mawr gwyddonol. Y daearegwyr gyntaf yn profi fod y ddaear yn hŷn o lawer iawn na’r ychydig filoedd o flynyddoedd y mae’r Beibl yn ei awgrymu, biliynau o flynyddoedd mewn gwirionedd. Wedyn Darwin yn dangos nad oedd stori’r Creu yn y Beibl yn llythrennol wir, ond fod popeth byw wedi esblygu dros filiynau o flynyddoedd. Yn ystod yr un cyfnod dechreuwyd astudio’r Beibl yn feirniadol, gan ddefnyddio’r un canllawiau ag a ddefnyddir wrth feirniadu unrhyw waith llenyddol. Canlyniad hyn oedd y gyfrol Essays and Reviews a greodd fwy o fraw yn y byd eglwysig a diwinyddol nag a wnaeth The Origin of Species. ‘Roedd hon yn ganrif pan oedd technoleg a diwydiant yn datblygu’n aruthrol o gyflym, gan greu optimistiaeth y byddai hyn yn creu byd a bywyd gwell. Tua diwedd y ganrif fe drefnwyd i bawb gael addysg gynradd, a hyn yn arwain ymhen amser at gyfle i gael addysg uwchradd ac addysg prifysgol. Canlyniad hyn oedd fod pobl yn fwy parod i feddwl a phenderfynu drostyn’ nhw eu hunain, yn hytrach na derbyn yr hyn a ddywedid wrthyn’ nhw gan yr ychydig oedd wedi derbyn addysg. Canlyniad arall oedd y newid mewn cymdeithas: yn hytrach na dau ddosbarth cwbl ar wahan, bonheddig a gwerin, daeth dosbarth canol i fod, y ffiniau rhwng y dosbarthiadau yn mynd yn aneglur, a genedigaeth-fraint bellach ddim yn penderfynu i ba ddosbarth yr oedd rhywun yn perthyn.
Yr ugeinfed ganrif. ‘Rydym i gyd yn gyfarwydd â hi gan ein bod ni wedi byw trwy’r ail hanner. Dyna ddau Ryfel Byd, a chwalodd yr optimistiaeth cynt, ac a sigodd ffydd llawer iawn o bobl. Ond y peth mwyaf chwyldroadol sydd wedi digwydd yw’r datblygiad enfawr mewn cysylltiadau: awyrenau, ffôn, radio, teledu, lloerennau, cyfrifiaduron, a’r cyswllt rhwng y rhain i gyd. Mae’r cyfan yn prysur greu un byd; GLOBAL yw’r gair mawr erbyn hyn. Mae’r cyfan yn newid y ffordd yr ŷm ni’n gweld ein byd yn aruthrol o gyflym. ‘Rym ni’n gweld y pethau sy’n digwydd ben draw’r byd bob dydd, ac yn gallu deall yn well beth yw’r cefndir iddyn’ nhw. ‘Rym ni’n prysur fynd yn ddinasyddion un byd yn hytrach na dinasyddion gwahanol wladwriaethau.
Wedi gwneud ein taith Tardis drwy’r canrifoedd, gan ganolbwyntio ar y pum canrif ddiwethaf, y cwestiwn amlwg sy’n codi yw hyn: a allwn ni ddisgwyl i bobl yn yr unfed ganrif ar hugain ymlynu wrth Gristnogaeth a luniwyd fwy na phymtheg canrif yn ôl, pan oedd dyn yn dal i gredu yn y bydysawd tri llawr, pan oedd pobl yn egluro pethau trwy gyfrwng myth yn hytrach na thrwy resymeg, pan oedd byd pob un yn gyfyng ac America ddim yn bod? A dyma’r Gristnogaeth y mae ein trefn eglwysig wedi’i seilio arni. Mae’r ateb i mi yn gwbl eglur – na fedrwn!
Mae’n rhaid inni felly ailfeddwl ac ailddehongli beth yw Cristnogaeth i ni heddiw. Mae nifer o bobl wedi rhoi cynnig arni, a rhaid inni gofio na all neb ddweud fod un yn iawn ac un arall yn rong. Mae gan bob un hawl i’w safbwynt, ac y mae hynny’n wir am bob un ohonon’ ni.
Mae’n debyg fod Nietzsche yn cael ei gofio gan bobl yn gyffredin am iddo ddweud fod Duw wedi marw. Mae eraill fel Thomas Altizer wedi dweud yr un peth, a nifer cynyddol yn cytuno â’r gosodiad er efallai nad ydyn’ nhw’n dweud hynny mor blwmp a phlaen. Mae hyn yn amlwg yn nheitlau rhai o’u llyfrau; Taking leave of God (Don Cupitt), Christianity without God (Lloyd Geering), Religion without God (Ray Billington). Yr hyn maen’ nhw’n ei olygu yw nad yw’r Duw theistaidd, Duw fel bod gwrthrychol, yn bod ym mhrofiad dyn bellach. Fe ddywedodd yr Athro J.R.Jones (y dethlir canmlwyddiant ei eni eleni), pan ofynwyd iddo a oedd yn credu yn y bod o Dduw – “Y mae’n bod,ond nid yw yn fod.”
Mae’r Esgob Spong yn cyfeirio at y stori yn Llyfr Exodus am Moses ar fynydd Sinai, lle na chai weld ŵyneb Duw, dim ond gweld ei ôl, gweld y canlyniad a’r effaith wedi iddo fynd heibio. ‘Roedd gan y Duw theistaidd ei gyneddfau, e.e. Duw yn dda, Duw yn gyfiawn, Duw yn gariad. Ond neges yr awduron hyn yw mai’r cyneddfau hyn yw Duw. Dyna yw Duw – ymbersonoliad o’r gwerthoedd uchaf a gorau y mae dyn yn brofiadol ohonyn’ nhw. A’n cyfrifoldeb ni yw rhoi’r gwerthoedd hyn ar waith yn ein byd ac ymhlith ein cyd-ddynion. “Nid oes gan Dduw ddwylo ond ein dwylo ni.” ‘Does yna ddim Duw goruwchnaturiol i wneud y gwaith ar wahan i ni. ‘Does yna ddim goruwchnaturiol. ‘Does yna ond y byd a’r bywyd hwn.
‘Roeddwn i’n sôn yn gynharach am ddeuoliaeth. Enghraifft arall ohono yw’r crefyddol a’r seciwlar. ‘Rym ni’n rhy barod i feddwl am y seciwlar fel rhywbeth sy’n groes i grefydd ac yn gwbl ddrwg. Ond nid dyna yw e. Mae’r gair yn tarddu o’r Lladin saeculum sy’n golygu ‘cyfnod’ neu ‘oes.’ Daw’r gair Ffrangeg am ganrif ohono, siecle. Yr hyn mae’n ei olygu yw ein bywyd bob dydd, ac fel y cyfryw ‘dyw e ddim yn dda nac yn ddrwg. Mae Lloyd Geering wedi ysgrifennu llyfryn In Praise of the Secular. Y peth pwysig i’w gofio yw mai ein crefydd ddylai ein cyflyru i fyw ein bywydau seciwlar yn ôl arweiniad dysgeidiaeth Iesu.
Peth arall i’w gofio yw y dylai ein Cristnogaeth roi ei briod werth ar ddyn. Yn rhy aml o lawer fe glywn am “wael , golledig, euog ddyn,” “llwch y llawr” ac ati. Ond nid felly y dylem ni synied. Mae Geering yn sôn mewn sawl man am Ludwig Feuerbach yng nghanol y 19g. a’i ddehongliad o athrawiaeth yr Ymgnawdoliad. Os yw Adda yn cynrychioli dyn, a’r ddynoliaeth, yna mae’r Ail Adda yn eu cynrychioli yn yr un modd. Felly mae Duw wedi ymgnawdoli, nid mewn un dyn, ond yn y ddynoliaeth gyfan. Felly ‘does dim gwahaniaeth rhwng y dwyfol a’r dynol; mae Duw yn ddynol a dyn yn ddwyfol.
Beth bynnag am hynny mae pwyslais cynyddol wedi’i roi ar ddyn dros y canrifoedd. Ychydig amser yn ôl ‘roeddem yn dathlu daucanmlwyddiant diddymu caethwasiaeth. Wedi i’r Chwyldro Diwydiannol fynd rhagddo am nifer o flynyddoedd, teimlwyd rheidrwydd i wahardd cyflogi plant yn y pyllau glo a’r ffatrioedd cotwm. Erbyn hyn ‘rydym yn clywed yn feunyddiol am hawliau dynol, ond nid yw hyn bellach yn seiliedig ar grefydd. Yn wir mae’n well gan rai Cristnogion ceidwadol lynu wrth hen athrawiaethau yn hytrach na rhoi gwerth ar ddyn, e.e. y gwrthwynebiad i fendithio partneriaethau sifil rhwng y cyfunrywiol.
Mae’r ddynoliaeth heddiw yn wynebu’r argyfwng mwyaf yn ei hanes, argyfwng o wneuthuriad dyn, ac sy’n bygwth dileu’r ddynoliaeth oddi ar ŵyneb y ddaear cyn diwedd y ganrif hon, gan adael y ddaear eto yn afluniaidd a gwag. Mae amryw o ffactorau yn cyfrannu at yr argyfwng hwn: gor-gynhyrchu carbon dioxid sy’n arwain at gynhesu’r ddaear a’i effeithiau, gor-boblogi, distrywio rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion, gor-ddefnyddio a dihysbyddu adnoddau’r ddaear na ellir eu hatgynhyrchu, prinder bwyd sy’n arwain at densiynau rhwng gwledydd, difwyno a halogi awyr a dŵr, ymyrraeth cyffredinol ag ecoleg y ddaear, niweidio a lleihau’r haen ozôn sy’n arwain at gynnydd mewn cancr, distrywio fforestydd glaw ac ehangu anialwch.
Beth ellir ei wneud i rwystro’r difodiant sy’n ein hwynebu? I Lloyd Geering mae’n rhaid i’r ateb fod yn un crefyddol. Mae’n rhaid i’r holl bobloedd ddod at ei gilydd i fyw’n gytun mewn harmoni. Rhaid i’r ddynoliaeth gyfan gyda’i gilydd ymdrechu ar raddfa grefyddol i wyrdroi holl achosion yr argyfwng, a hynny gyda sêl a brwdfrydedd crefyddol. Mae e wedi pwysleisio hyn yn gryf mewn dau o’i lyfrau yn arbennig, The World to come a Coming Back to Earth. Dyma un dyfyniad o’i waith:
“The whole earth must become resanctified in our eyes: the holy colour must change from heavenly purple to earthly green. The imperative to care must take precedence over lesser loyalties and over all differences of race, nationality, gender and personal beliefs. It is the kind of love which is ready to sacrifice individual self-interest for the greater good of the whole….This calls for the kind of self-sacrificing love which has long been affirmed in the Christian tradition and symbolised as the way of the cross.”
Mi allwn i ddweud llawer rhagor ond nid yw amser yn caniatau. Ond cyn cloi mi garwn i fynd ‘nôl at y darlleniad ar ddechrau’r cyfarfod, am Ioan Fedyddiwr yn anfon negesyddion at Iesu a gofyn ‘Ai ti yw’r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?’ Atebodd e ddim trwy ddweud ‘Myfi yw, ac fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu’ fel yr honnir iddo wneud ger bron Caiaffas. Na, mae ei ateb i Ioan Fedyddiwr yn arwyddocaol iawn: ‘y mae’r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a’r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.’ Dyma sy’n cyfri; dyma ddylai gael y flaenoriaeth. Yn hytrach na rhoi’r pwyslais sylfaenol ar drefn eglwysig a chred, rhaid byw ein bywyd yn gyfan yn y byd hwn, y byd seciwlar hwn; byw y bywyd hwn ymhlith a chyda’n cyd-ddynion ac er eu mwyn.
Delwyn Tibbott
(Traddodwyd mewn cyfarfod yn Eglwys y Crwys, Caerdydd, 1 Rhagfyr 2011, a’i gyhoeddi yn Y Gadwyn, cylchgrawn yr eglwys , Mawrth 2012)