‘Diwinydda yng Nghymru Heddiw’ Adroddiad Vivian Jones

(Dyma’r ail adroddiad o un o’r grwpiau trafod yn ystod cynhadledd Cristnogaeth 21 yn y Morlan, Aberystwyth ar Ebrill 24, 2010.)

1. Mae tair prif garfan ddiwinyddol yng Nghymru. Un yw’r efengylwyr ceidwadol. Credant hwy fod angen ffyrdd newydd o gyflwyno’r neges Gristnogol mewn byd cyfnewidiol, ond mynnant mai’r un yw elfennau hanfodol y neges ei hun bob amser, ac iddynt hwy mae’r elfennau hynny ynghlwm wrth y gred bod y Beibl yn llythrennol wir – cred gymharol newydd yn hanesyddol. Ond mewn gwirionedd detholiad yw’r elfennau hynny nad ydynt heb gysylltiad â diwinyddiaeth John Calfin. Tuedda eu dull o esbonio’r Beibl i arwain at ffyrdd ceidwadol iawn o ymateb i rai cwestiynau cymdeithasol, fel lle’r fenyw mewn byd a betws.

Gwna eu hagwedd at awdurdod Beiblaidd hi’n anodd iddynt drafod eu safbwynt â Christnogion eraill, a geilw’r ysgolhaig Beiblaidd Walter Brueggemann yr agwedd honno’n ‘coercive’. Weithiau ysgrifennant at bapur enwadol, ond yn fy mhrofiad i, pan gant ymateb, ni fyddant yn ymateb wedyn. Mae’r agwedd honno’n golled i ni i gyd: oni bai amdani dichon y gallem oll ddysgu oddi wrth ein gilydd, a chydweithio efallai, er lles i’r efengyl yng Nghymru.

2. Mae carfan o Gristnogion traddodiadol hefyd, sy’n fodlon ar ba ffurf bynnag ar y ffydd a gawsant rywbryd. Yn aml, ni fydd gymaint â hynny o wahaniaeth rhwng eu credo hwy a chredo’r efengylwyr ceidwadol. Gwnânt rinwedd moesol weithiau o lynu at ‘gredoau’r tadau’, a gwnânt ddefnydd o ymadroddion fel ‘Iesu Grist heddiw, yfory ac yn dragywydd’. Nid yw dysgu rhwydd y tu hwnt iddynt, sef ychwanegu at yr hyn a gredant eisoes, ond bydd dysgu anodd, dysgu sy’n golygu dad-ddysgu rhai hen gredoau, yn drech na hwynt fel arfer. Heb berchenogi credo bersonol rymus eu hunain gall eu diwinyddiaeth fod ar drugaredd crefydd boblogaidd, gan ddisgyn yn rhwydd i hunanfoddhad os nad ofergoel, gyda Duw sy’n ateb gweddïau am fân gymwynasau hunanol os nad dibwys.

3. Ond mae’r drydedd garfan yn gweld fframwaith diwinyddol y ddwy garfan uchod yn dadfeilio yn wyneb bywyd cyfoes a gwybodaeth newydd, a chredant fod yr eglwysi’n methu yn eu hymateb i’r sefyllfa. Mynycha rai o’r rhain le o addoliad o hyd, ond mwy mewn gobaith na disgwyl. Cadwa eraill ohonynt oddi wrth le o addoliad, eto heb golli diddordeb mewn ffydd. Cefais wahoddiad pa ddydd, gan feddyg nad yw’n mynychu lle o addoliad mwyach, i ymuno â grŵp a fydd yn trafod pynciau crefyddol. Pobl agored i ymatebion newydd, neu’n chwilio amdanynt, yw’r garfan hon.

Mae awduron sy’n cynnig ymatebion felly heddiw. Ysgrifennant mewn cywair gwahanol i gywair yr hen ddiwinydda. Mae mabwysiadu’r cywair hwnnw’n help, os nad yn amod, gallu croesawu’r ymatebion newydd. Gwedd o’r cywair hwnnw yw derbyn nad oes heddiw gymaint o atebion ag a feddai ein cyndadau yn y ffydd, a’n bod yn llai siŵr o’r hyn yr ydym yn siŵr ohono nag oedd ein cyndadau. Gwedd arall ohono yw derbyn bod amrywiaeth o atebion ym myd ffydd heddiw, a bod yr amrywiaeth hwnnw i’w groesawu. Gwedd arall eto yw amharodrwydd i wneud hawliau terfynol, fel y gwnâi Cristnogaeth y gorffennol, a fyddai yn amlach na pheidio yn gystadleuol os nad yn imperialaidd ynghylch eu cred.

Mae’r ymatebion a gynigia’r awduron hyn yn ymgasglu o gwmpas themâu megis anian a natur Duw, bywyd daearol Iesu, blaenoriaeth y moesol dros y gwyrthiol, ac ysbryd cynhwysol. Dyma enghreifftiau o ymatebion ynghylch un o’r themâu hynny, bywyd daearol Iesu, agwedd o’i hanes berson a esgeuluswyd yn ddirfawr yn y gorffennol.
(a) Yn A History of Christianity, cyfrol y seiliwyd cyfres deledu ddiweddar arni, dengys Diarmod MacCullogh, Athro Hanes yr Eglwys yn Rhydychen, cymaint y dibynnodd Cristnogaeth y Gorllewin ar lythyron Paul, nad oes son ynddynt am fywyd daearol Iesu – ar wahân i’r cofnod am sefydlu’r Swper Olaf.
(b) Dangosodd Pryderi Llwyd Jones yn ‘Iesu’r Iddew’, fel yr anghofiodd Cristnogion hyd yn oed mai Iddew oedd Iesu, a gwneud Gorllewinwr ohono nid yn unig o ran pryd a gwedd ond hefyd o ran ei ymatebion. Ni fyddai ef ei hun, medd Pryderi, yn adnabod y person a greodd yr Eglwys ohono, a chwyd Pryderi y cwestiwn o ba fath berthynas a fyddai’n bosibl i Iesu, fel Iddew, ei harddel a’i Dad.
(c) Cymdeithas o ysgolheigion Americanaidd, ynghyd a rhai fel Don Cupitt a Karen Armstrong o Loegr, yw’r Jesus Seminar, sy’n ceisio dysgu mwy am yr Iesu daearol. Dechreuodd ymchwil am yr Iesu hwn ddwy ganrif yn ôl, ond ymdawelodd wedi The Quest For The Historical Jesus Albert Schweitzer. Ailgododd y Jesus Seminar yr ymchwil drwy ddefnyddio dulliau na wnaeth neb o’u blaen.

Mae gwahaniaethau rhwng llawer o’r ysgolheigion hyn, ond cytunant ar rai materion, megis gwerth ambell efengyl, fel efengyl Tomos, na chafodd le yn y Testament Newydd, a lluosogrwydd agendau yr efengylau canonaidd, a phwysigrwydd y moesol ym mywyd Iesu rhagor y gwyrthiol, ac mai’r peth sicraf yn yr efengylau yw rhai o’r damhegion. Nid oes angen cytuno â phopeth yn eu gwaith i gredu, fel y dywedodd Daniel Jenkins un tro am gynnwys Honest to God yr Esgob John Robinson, a’r ymateb iddo, bod yma syniadaeth sy’n hawlio ystyriaeth sobr.

Does dim eisiau gofidio am yr hen fodelau Cristnogol a gynrychiolir gan efengylwyr ceidwadol a chredinwyr traddodiadol. Y modelau hynny sy’n cael y flaenoriaeth yn rhwydd ac o ddigon yn y Gymru Gristnogol anghydffurfiol o leiaf bellach – ei phulpudau, ei cholegau diwinyddol, ei mudiadau, ei chylchgronau, hyd yn oed ambell gyfarfod enwadol. Safbwynt yr efengylwyr ceidwadol yn arbennig yw’r default option mewn sawl man. Ond lle mae’r hen fodelau’n cael rhwydd hynt, mae llawer o rwystrau yn ffordd y modelau newydd sy’n ymddangos heddiw.

Un rhwystr yw’r dynfa gref tuag at y gorffennol sy’n nodweddu’r natur ddynol yn gyffredinol, ond a all fod yn gas yn y byd crefyddol. Gall hynny ei gwneud hi’n anodd i arweinwyr crefyddol, sy’n aml o ran eu personau, heblaw gwaddol eu gorffennol, wedi’u cyflyru i gredu mai peidio â tharfu ar neb, mai cadw’r ddysgl yn wastad, yw prif nod arweinyddiaeth eglwysig. Ar goedd felly tuedda llawer ohonynt i fod ymhell y tu ôl i’w gwir argyhoeddiadau. ‘Rwyt ti’n iawn wrth gwrs, ond fyddi di ddim yn dweud hynny mewn pregeth fyddi di?’
Yn ychwanegol at hynny, bydd efengylwyr ceidwadol a rhai credinwyr traddodiadol yn cysylltu syniadau Cristnogol newydd â’r label ‘rhyddfrydol’, label y cafodd un ffurf arno enw drwg dro’n ôl. I osgoi’r gair ‘rhyddfrydol’ felly, geilw rhai rhyddfrydwyr eu hunain heddiw yn progressives. Ond yn ôl Gary Dorrien, olynydd Niebuhr yng Ngholeg Union yn Efrog Newydd, does dim angen cywilyddio am y gair ‘rhyddfrydol’, mae tras anrhydeddus iawn iddo, ac yn ei farn ef mae pob diwinyddiaeth heddiw nad yw’n ffwndamentalaidd yn rhyddfrydol – gan gynnwys, er enghraifft, pob ffurf ar ddiwinyddiaeth ryddhad. Ei gred ef felly yw bod diwinyddiaeth ryddfrydol heddiw’n fyw ac iach iawn.

Ond gall rhyddfrydiaeth fod yn fwy cymhleth yn ddiwinyddol nag yw bod yn efengylaidd geidwadol, er enghraifft. Cofiaf dderbyn cylchlythyr misol ynghylch materion eglwysig, a gweld yn un rhifyn mai ychydig o bwysleisiau diwinyddol hanfodol sydd mewn eglwys efengylaidd geidwadol, ond bod nodweddion diwinyddol posibl eglwys ryddfrydol yn fwy niferus. Un canlyniad i hynny yw, tra bod aelodau eglwysi efengylaidd yn gwybod yn iawn beth a gredant, mae’r safbwynt ryddfrydol yn annelwig ac anniffiniedig i’r mwyafrif mawr o’r duedd honno. Gall hynny beri i aelodau ryddfrydol eu bryd deimlo’n ansicr ac annigonol, ond ni fu ac nid oes fawr o ymdrech yng nghylchoedd rhyddfrydol Cymru i’w helpu i roi llun ar eu cred.

Mae teithi meddyliol y meddylfryd newydd sydd ar gerdded ymhlith Cristnogion heddiw yn codi anawsterau arbennig i rai sy’n perthyn i eglwysi credoaidd (creedal), fel yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Babyddol, a gwelwyd hynny mewn un grŵp ac mewn un anerchiad yng Nghynhadledd ddiweddar Cristnogaeth 21 yn y Morlan yn Aberystwyth. (Mae gen i ffrind o Babydd sy’n hoffi dweud – â gwên – nad yw’n credu’r hanes am y Geni Gwyrthiol yn llythrennol pan fydd yn meddwl amdani’n bersonol, ond y bydd yn ei chredu’n llythrennol pan fydd yn adrodd y Credo Apostolaidd!) Byddai’n ddiddorol clywed oddi wrth Eglwyswr neu Babydd ar wefan Cristnogaeth beth iddo ef neu iddi hi yw bod yn rhyddfrydol yn ddiwinyddol.

Ond tra bod gan efengylwyr ceidwadol eglwysi sy’n galw eu hunain yn eglwysi efengylaidd, a mudiad a chylchgrawn a choleg iddynt eu hunain, nid oes adnoddau ffurfiol yng Nghymru ar gyfer rhyddfrydwyr. Nid oes hyd yn oed eglwysi sy’n disgrifio eu hunain fel eglwysi rhyddfrydol, er bod eglwysi sy’n rhyddfrydol eu hanian – rhai ohonynt a gweinidogion sy’n efengylwyr ceidwadol!

Un ffordd i hyrwyddo rhyddfrydiaeth ddiwinyddol yng Nghymru heddiw, yw i’r rhai sy’n dymuno ei hyrwyddo, ymddisgyblu i ddechrau i hepgor iaith a meddylfryd y carfannau efengylaidd ceidwadol a thraddodiadol. Son am y Beibl, er enghraifft, neu’r Ysgrythurau, yn hytrach na ‘Gair Duw’, neu ‘y Gair’, fel yn ‘bendithied Duw y darlleniad yna o’r Gair’ i ddechrau. A pheidio ag ofni mynegi meddyliau newydd hefyd, mewn sgwrs, neu o bulpud ac mewn anerchiad, neu mewn llythyr neu erthygl i bapur enwadol a chylchgrawn. Er i mi gael fy hen ragflaenu gan Pari Huws o Ddolgellau, cofiaf gymaint o boeri y bu rhaid i mi ei lyncu cyn dechrau gweddi am y waith gyntaf a’r geiriau ‘Ein Mam a’n Tad…’, ond yr oedd ymateb ambell enaid a allai flasu cyffro mor fach yn felys odiaeth. Nid cyhoeddi meddyliau newydd fel y gair olaf, ond er mwyn i bobl wybod nad yr opsiynau efengylaidd ceidwadol a thraddodiadol yw’r unig rai sydd ar gael. Ond dal ati, er hynny, i geisio cadw mewn cyswllt, ac i barchu carfannau eraill. Er na dderbyniwyd mohono, nid oedd yn ddibwys i aelodau Cristnogaeth 21 bod efengylwr ceidwadol yn cael gwahoddiad i annerch yn y Gynhadledd yn y Morlan yn Aberystwyth. (Pan godwyd cwestiwn ynghylch ffwndamentaliaid yn y Gynhadledd, er anghytuno a’u safbwynt, siaradodd y prif siaradwr, Keith Ward dros integriti’r rhai a gredai bod y Beibl yn anffaeledig.)

Un o werthoedd rhyddfrydiaeth ddiwinyddol yw pwysigrwydd cyfnewid profiadau a meddyliau gwahanol. Y rheswm pam mae’r Gorllewin wedi bod ar y blaen i weddill y byd y chwe chanrif ddiwethaf, medd Miroslav Volff, Athro yn Ysgol Ddiwinyddol Iâl yn yr Unol Daleithiau, yw grym syniadau a hogwyd mewn deialogau egniol. Gwneud deialogau felly’n bosibl yn y byd Cristnogol Cymreig cyfoes oedd un o amcanion sefydlu gwefan Cristnogaeth 21.

Gall hynny fod yn fater lletach na chyfarfod ag angen unigolion. Byddai’n braf pe bai pobl sy’n awyddus i hogi eu syniadau diwinyddol gael lle i wneud hynny yn eu heglwys eu hunain. A beth am hybu cyfarfodydd a all fod yn ddigon agored i gynnwys credinwyr (neu anffyddwyr) nad ydynt wedi cefnu’n llwyr ar fenter ffydd ond na theimlant yn gartrefol mewn unrhyw eglwys mwyach.

Un o’r datblygiadau mwyaf addawol o ran ei ansawdd a glywais amdano ers tro yw bod ambell eglwys nawr, drwy drafod agored parchus a helaeth ymhlith ei haelodau, yn ceisio adnabod a rhoi ar gof a chadw pa argyhoeddiadau sy’n eu clymu a’u cadw i gyd at ei gilydd. Gwelais un ddogfen orffenedig, un arall sydd ar y gweyll, a gwn am un sydd ar y gorwel. Ymddiddorais yn yr hyn a ddywed y ddwy gyntaf am Iesu, er enghraifft. Dyma a ddywed un: ‘Mae amrywiaeth mawr yn ein credoau ynghylch Iesu, eithr ceisiwn ddysgu mwy am Iesu’r dyn (sic) ac am y ffyrdd gwahanol y mae rhai mewn cymunedau eraill yn ei weld, ond mynnwn wneud gwersi ei fywyd a’i ddysgeidiaeth yn ganolog, a wynebu’r alwad i’w ddilyn drwy geisio byw y cariad a’r cyfiawnder a ymgorfforwyd ym mywyd a dysgeidiaeth Iesu’. Nid disgrifiad coercive o Iesu diffiniedig yw hynny, ond disgrifiad o Iesu estynedig y cwmni hwnnw o Gristnogion, disgrifiad sy’n parchu integriti cred pob aelod ohoni am Iesu.

Yn sicr, y mae angen i ni sy’n amau bod Duw ei hun yn ceisio dweud rhywbeth newydd
wrthym y dwthwn hwn, gofio’r materion sy’n y fantol. Ymhlith y materion hynny, y mae’r gwirionedd, ein hintegriti ni ein hunain, ein henw da ni yn y byd y tu allan, ein cyfraniad ni i gymdeithas – a phorthi’r praidd, yn enwedig rhai sy’n newynu.

Vivian Jones