Duw a’r Degawd Newydd

Duw a’r degawd newydd

Ymateb i erthygl Yr Athro Densil Morgan yn Cristion Rhifyn 158, Ionawr 2010

“A fedrwn roi cynnig ar ddiwinyddiaeth ar gyfer y ddegawd nesaf ?” Dyna un o amryw gwestiynau Densil Morgan yn ei erthygl. Cwestiwn rhethregol ydyw, oherwydd mae’r awdur yn credu fod yn rhaid gwneud hynny. Wedi olrhain ein sefyllfa ar ddiweddi degawd agoriadol y ganrif a sôn am rai enghreifftiau ymarferol clodwiw – o ‘gyflwyno’r efengyl yn fentrus ac yn llawn dychymyg i gymuned ôl-ddiwydiannol mewn ffordd sy’n gweddu i ofynion yr 21ain ganrif’ yn ogystal â rhybuddio rhag cynnig ‘atebion slic, parod’ y mae Densil yn gwneud y datganiad hwn:

Yr hyn a’m trawodd yn bwerus iawn llynedd oedd y ffaith nad oes gennym ddiwinyddiaeth sy’n bwrpasol i’r sefyllfa newydd hon. Mae gennym yr hen ddiwinyddiaeth yr 20fed ganrif boed yn geidwadol, yn ‘efengylaidd’ neu yn fwy rhyddfrydol gymdeithasol……

Y syndod yw na sylweddolodd Densil hyn tan y llynedd. Ydi, mae diwinyddiaeth yn heneiddio dros y canrifoedd oherwydd mae diwylliant yn newid, mae’r byd yn newid ac er nad yw anghenion dyn ei hun yn newid, mae esbonio a rhannu’r Efengyl yn dasg dyngedfennol na allwn ei hymddiried i’r ‘un hen iaith’, neu’r un hen ddiwinyddiaeth. Cafodd rhai eu hargyhoeddi o hynny yn eu galwad i wasanaethu eu Harglwydd mewn cyfnod o drai ar grefydd gyfundrefnol a dieithrwch y diwylliant a’r iaith grefyddol. Nid mater o fod yn berthnasol ydyw, ond o fod yn ystyrlon. O gyfathrebu. Mae rhai wedi credu yn angerddol eu bod wedi eu galw i gyflwyno’r efengyl mewn iaith ystyrlon, nid yn unig i’r eglwys ac i’r saint, ond i’w cyfnod a’u cenhedlaeth.

Dyna pam fod y paragraff hwn yn gymaint o siom yn erthygl Densil :

Mae yna leisiau i’w clywed eisoes yn y Gymru Gymraeg sy’n dweud mai’r unig ffordd i wneud hynny yw trwy ddiberfeddu’r ffydd o’i chynnwys athrawiaethol – duwdod Crist, natur wrthrychol Duw ei hun, natur Drindodaidd Duw yn Dad, Fab ac Ysbryd Glٟân, yr ymgnawdoliad fel ffaith unigryw, yr iawn, yr atgyfodiad fel gweithred hanesyddol, gwyrthiau’r Testament Newydd ac yn y blaen – dyna, mae’n ymddangos, farn selogion y wefan Cristnogaeth 21. Gan gydnabod yr awydd canmoladwy i ysbarduno trafodaeth agored, frawdol, olau ac iach, ein busnes yw bod yn berthnasol, ie ond trwy gymhwyso ac nid trwy ddileu’r ffydd a roddwyd unwaith ac am byth i’r saint.

Fe hoffwn bwysleisio dau beth yn unig mewn ymateb. Fe fydd eraill yn ymateb yn uniongyrchol i Cristion efallai ac ymateb personol yw f’ymateb i, gan nad oes i Gristnogaeth 21 lais swyddogol.

1. Yn dilyn y cyhuddiad hwn y mae Densil yn mynd ymlaen i ddweud mai’ r ‘neges’ sydd gan y Cristion i’w chyhoeddi yw’r kerygma, sef pregethu’r eglwys fore sy’n barhad o neges Iesu o Nasareth. Dyma’r stori am Iesu – iddo fyw, iddo farw, iddo Atgyfodi, iddo lefaru geiriau’r bywyd, iddo gyhoeddi fod Teyrnas ei Dad wedi dod. Y mae Densil yn gwybod yn well na neb mai gwir radicaliaeth yr efengyl ar hyd y canrifoedd yw’r Iesu hwn, yr Iesu y mae’r awdur ei hun yn dweud ei fod wedi mynd ar goll yn niwylliant a bywyd yr eglwys. Fe ŵyr Densil hefyd fod Iesu wedi mynd ar goll mewn athrawiaethau diweddarach sydd ymhell o awyrgylch y Testament Newydd. Dyma’r athrawiaethau (ac y mae Densil wedi eu rhestru) nad ydynt yn ddealladwy i fyd a diwylliant sydd mor, mor wahanol i’r oes a’u lluniodd a’r amgylchiadau a’u ffurfiodd. Daeth y gair yn gnawd, meddai’r bardd Albanaidd, George Mackay Brown, ‘and we turned it back into words again’. Mae cyhuddo’r rhai sydd yn chwilio am iaith gymwys i’r athrawiaethau hyn o ‘ddiberfeddu’r ffydd’ yn gyhuddiad cwbwl annheg ac yn camarwain aelodau ein heglwysi. Eu dadbacio, ie, mae hynny’n rheidrwydd arnom, er mwyn Iesu a’i Efengyl. Ond nid eu diberfeddu. Nid yr ymdrech i ddadbacio sydd wedi glastwreiddio’r efengyl yn ôl honiad llawer, ond gwrthod gwneud hynny sydd wedi dieithrio sawl cenhedlaeth bellach o galon y Duw byw yn Iesu. Gwelodd Iesu’r Gyfraith yn mynd yn faich dianghenraid ar y bobl. Mae hynny wedi digwydd gyda iaith ein crefydda hefyd. Mae iaith Iesu a iaith y Beibl yn llawer mwy deinamig ac agored na’r iaith athrawiaethol sy’n cau yn hytrach nag agor, yn gwahardd yn hytrach na chroesawu, yn cyfyngu yn hytrach na datgelu.

Gwrth ddweud?
A dyma’r gwrth-ddweud yn erthygl Densil. Pan â ymlaen yn y paragraff hwn i sôn am ‘gynnwys athrawiaethol y ffydd’ – duwdod Crist, natur Drindodaidd Duw, yr iawn, yr ymgnawdoliad a.y.b. – nid son am y kerygma ac am Iesu y mae, ond am y mynegiant o athrawiaethau diweddarach Cristnogaeth gan gredu, wrth gwrs, eu bod yn gwbwl ganolog i Gristnogaeth glasurol athrawiaethol ac efengylaidd. Ond nid athrawiaeth yw’r ymgnawdoliad – ac y mae Densil ei hun yn dweud hynny – ond hanfod ymwneud Duw â ni yn Iesu. Mae’r Beibl yn llawer mwy cyffrous, bywiog a pherthnasol na’r athrawiaethau astrus hyn ac y mae’n gyfrifoldeb a galwad arnom i’w dehongli a’u cyfathrebu. Mae hynny yn gofyn am ddychymyg, parodrwydd i fentro a pharodrwydd i ollwng gafael ar yr ‘hen ganiadau’ os oes raid.

Y mae nifer o bobl, fel Densil, sydd yn barod iawn i ddweud fod yn rhaid ‘cymhwyso’ a bod angen ‘diwinyddiaeth sy’n bwrpasol’. Ond o’r holl athrawiaethau y mae Densil yn cyhuddo C21 o’u dileu nid yw yn mentro un enghraifft o’u cymhwyso mewn iaith newydd er iddo ddweud fod gwir angen gwneud hynny. Beth yw ystyr athrawiaeth yr iawn i’n hoes (a pha athrawiaeth) ? Pam mynnu cywirdeb athrawiaeth y Drindod (nad yw yn athrawiaeth Feiblaidd) os yw byw’r Drindod yn gwbwl naturiol i’r Cristion? Mae’n hawdd iawn y dyddiau yma i gael ein perswadio mai dulliau cyfoes sy’n cymhwyso neu’n creu’r ddiwinyddiaeth bwrpasol honedig. Ond os nad yw’r dulliau cyfoes yn gwneud dim mwy nag ail adrodd yr hen iaith ystrydebol, yna nid oes cymhwyso, nid oes cyfathrebu. Mae’n ffordd i Gristnogion o gyffelyb fryd ag anian gyfathrebu â’i gilydd, wrth gwrs, ond go brin ei bod yn iaith gymwys i’r rhai ag y mae’r Beibl a’n diwylliant crefyddol, yn gwbwl ddieithr iddynt.

2 Gair amdanom ni, ‘selogion’ C21 (disgrifiad Densil). Mae ein datganiad o fwriad ar ein tudalen gartref yn gwbwl glir. Mae’n wir mai criw o weinidogion a lleygwyr ydym a ddaeth i sylweddoli fod gwir angen trafodaeth eang a chyfrifol ar natur ein Cristnogaeth yn yr 21ain ganrif. Er i ni fwriadu ysgrifennu nifer o erthyglau daeth yn amlwg yn fuan mai’r Bwrdd Clebran/Seiat yw rhan bwysicaf y wefan. Bu llai o erthyglau felly ond yr ydym yn barod i dderbyn erthyglau na fyddai pawb o fewn C21 yn cytuno yn llwyr â’u cynnwys efallai, ond ei fod yn egwyddor sylfaenol i roi lle a llais i amrywiaeth dystiolaeth y Ffydd. Wedi’r cyfan, mae gormod o eglwysi na fyddai llawer ohonom yn cael gwahoddiad i gynnal trafodaeth, heb sôn am bregethu, ynddynt. Ac y mae’n drist cydnabod fod yna rai o bwyslais mwy ceidwadol a thraddodiadol sydd wedi mynegi na fyddent yn trafferthu trafod ar wefan C21. Mae yr un mor drist i gydnabod mai pobl ifanc o argyhoeddiadau a phrofiadau mawr yn eu perthynas â Iesu yw nifer o’r rhain – ar wahân i un enghraifft glodwiw. Ar yr un pryd mae nifer o Gristnogion sy’n barod i ymwrthod ag argyhoeddiadau dwfn a llwyddiant y dystiolaeth efengylaidd gyfoes, sydd yn gwbwl lugoer, diog a di-ymrwymiad yn eu tystiolaeth i’w Gwaredwr nes codi amheuon dwfn ynglŷn â dyfnder eu cred. Nid ydynt yn gwybod am fodolaeth Cristnogaeth 21 heb sôn am gyfrannu i’r wefan! Ai gorau cael eich cyhuddo o ddiberfeddu neu eich anwybyddu yn llwyr, sydd yn fater o farn!

Llenwi bwlch ?
Ac y mae hynny yn fy atgoffa o rywbeth arall, llai pwysig. Mae’r mwyafrif llethol ohonom a aeth ati i sefydlu C21 wedi rhoi blynyddoedd i wasanaethu ein Harglwydd yn y Gymru hon: i rai bu’n flynyddoedd o bregethu’r Gair, myfyrio yn y Gair, esbonio’r Gair, bugeilio pobl Dduw a gwasanaethu ein Gwaredwr. Ffaith syml yw hynny, nid hunan ganmoliaeth. Oherwydd bu’n flynyddoedd o fethiant hefyd. Nid oes lle i ganmoliaeth – buom ninnau yn rhan o’r dirywiad. Fe fu’n fraint ac yn gyfrifoldeb mawr, wrth gwrs, er bod llawer ohonom yn anghyfforddus o fewn y cyfundrefnau crefyddol y buom yn eu gwasanaethu. Loes i ni, er enghraifft, yw clywed o dro i dro (ac yn ddiweddar eto) na fu Crist y Rhyddfrydwyr yn ddim ond ‘gweithiwr cymdeithasol’. Ond, fel plant ein cyfnod, mae’n rhaid i ni fyw gyda hynny ac mae ‘rhyddfrydol’ erbyn hyn, yn air drwg. Ond nid yw ein galw yn ‘ryddfrydwyr’ yn gywir chwaith, oherwydd mae’n ddisgrifiad rhy gamarweiniol, fel pob label. Ond oherwydd mai addoli’r Duw byw yw canol ein bywyd – ac arwain eraill i wneud hynny fu gwaith pwysicaf ein bywyd – yna nid athrawiaethau yw’r Drindod neu’r iawn neu’r atgyfodiad yn gyntaf inni, ond perthynas sy’n cael ei dyfnhau mewn cymuned â’r Duw byw hwnnw. Nid criw bychan sy’n peryglu’r ffydd ydym, ond rhan o dystiolaeth rymus gyfoes ac yn cael ein hysbrydoli gan gorff eang o ddiwinyddiaeth, gweithgarwch cenhadol, ysgolheigion a hir fyfyrdod yn y Gair. Yn anffodus prin yw’r dystiolaeth hon i’w chlywed yng Nghymru (am wahanol resymau) ac y mae hynny hefyd yn arwydd o Gristnogaeth ddi-liw a difywyd. Nid oes neb yng Nghymru, er enghraifft, wedi cynnal deialog adeiladol fel y gwnaeth Marcus Borg a Tom Wright gyda’i gilydd. Rhan o fwriad C21 yw gwneud cyfraniad bychan i lenwi’r bwlch. Ond rhaid peidio â’n cyhuddo o ddiberfeddu’r ffydd. Nid yw hynny yn sail gadarn i drafodaeth nac i arweiniad yr Ysbryd.

Rwy’n cymryd yn ganiataol fod Densil wedi darllen yr erthyglau sydd ar wefan C21 ac wedi dilyn ambell drafodaeth ddiddorol ac adeiladol ar y Bwrdd Clebran. Yn well fyth, fe fyddai ef a’i gydweithwyr ym Mangor yn anrhydeddu C21 trwy gyfrannu tuag at y wefan. Fe allai hynny fod yn help i gau’r bwlch sydd yn aml rhwng yr eglwys a’r academi, neu hyd yn oed, rhwng y pulpud a’r gynulleidfa yn ogystal â’r eglwys a’r gymdeithas. Yr ydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei gyfraniadau cyfoethog iawn a phob un o’i gyfrolau wedi goleuo’r meddwl Cristnogol a dyfnhau ein gwreiddiau Cristnogol yng Nghymru. Mewn cyfnod pan yw Cristnogaeth Cymru yn crebachu, nid yn unig o safbwynt bywyd yr eglwysi, ond – ac yn bwysicach – o safbwynt y crebachu a’r caethiwo a’r cyfyngu sydd ar Efengyl gynhwysol, adnewyddol a chwyldroadol Iesu, mae gennym i gyd dasg gyffrous a braint aruthrol.

Pryderi Llwyd Jones

Ionawr 2, 2010