DUW NEWYDD

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006, a’r rhyfel trasig rhwng Israel a Hesbolah ar dir Libanus yn ei anterth, lluniodd tîm Beirdd y Byd englyn a ddyfarnwyd yn englyn gorau’r wythnos yn y Babell Lên:

Corwynt
Nid duw bach meddal ei galon – na duw
Ofn dial ar ddynion
Yw duw blin yr heldrin hon:
Hen dduw yw Duw’r Iddewon.

Y mae ‘hen dduw’ yn y llinell olaf yn awgrymu bod rhai cysyniadau am Dduw yn annerbyniol, bellach, a bod ar ein byd angen dybryd am Dduw ‘newydd’. Fe gofiwn anogaeth y Salmydd: “Cenwch i’r Arglwydd gân newydd”(149: 1). Yng ngoleuni hyn, dyma drafod dau gwestiwn:

1 Bodolaeth Duw.

Ai syniad, damcaniaeth neu ddelfryd ym meddwl dyn yn unig yw Duw? Ai Duw a greodd ddyn, ynteu dyn a greodd Dduw? Bu’n arfer ceisio lleoli Duw, a’i bortreadu fel bod goruwchnaturiol yn eistedd ar ei orsedd i fyny fry yn y nefoedd, rhywle uwchben y cymylau. Mewn cyfnod pan gredid, mewn anwybod-aeth, mewn bydysawd gwastad, trillawr (y nefoedd uchod; y ddaear isod; a Sheol oddi tanodd – a’r cyfan yn cael ei gynnal gan golofnau enfawr yn nofio ar fôr diwaelod) dichon i hyn fod yn bosibl. Yn rhyfedd iawn, mae’n arferiad gennym o hyd wrth sôn am Dduw (hyd yn oed gan y pregethwr yn ei bulpud!) i bwyntio bys i fyny i’r awyr. At bwy yn union y cyfeiriwn? A’n gwybodaeth am ffurf y bydysawd erbyn hyn yn gywirach (a’n dyled yn fawr i arloeswyr megis Copernicus a Galileo, a’u safiad dewr yn erbyn eglwys a fynnai lynu’n ystyfnig wrth y gosmoleg draddodiadol, gyfeiliornus), mae’n amlwg nad yw’r hen syniadau confensiynol am Dduw yn gwneud y tro.

Yn ei chlasur, A History of God, y mae Karen Armstrong yn dadlau fod a wnelo Duw:
(i) “â dyfnder yn fwy nag uchder.” Fe gofiwn i Paul Tillich ddiffinio Duw fel ‘gwreiddyn bod’, ac y dylid meddwl amdano nid fel ‘bod’ ond fel bodolaeth ei hun. I Tillich, nid gwrthrych yw Duw, ond dyfnder bodolaeth ei hun.
(ii) “â’r dychymyg yn hytrach na dogma.” Yn ôl Armstrong, y dychymyg yw un o’r cyneddfau ysbrydol pwysicaf. Cymharer gosodiad Aled Jones Williams: “Telyneg yw duw, nid traethawd. Ffynhonnell crefydd yw’r dychymyg.” (Oerfel Gaeaf Duw, t. 32)
(iii) “â ffydd yn hytrach na phrawf.” Ofer yw ceisio prawf empiraidd am fodolaeth Duw. (“Ni welodd neb Dduw erioed”…) Nid yw credu yn Nuw yn gyfystyr â derbyn cyfres o fformiwlâu anffaeledig, ond yn hytrach ag ymrwymiad ac ymroddiad, tebyg i’r hyn a geir oddi mewn i’r cyfamod priodas.

Ceisia Dawkins, Dennet a Hitchens, a’u cydwrthgrefyddwyr, ein hargyhoeddi bod y cysyniad o Dduw nid yn unig yn gamarweiniol ond hefyd yn ddianghenraid, gan fod Darwiniaeth yn cynnig esboniad cyflawn o’r modd y datblygodd bywyd ar wyneb y blaned Daear – heb Dduw. Prin y gellir amau proses esblygiad (er gwaeth-af protest y creadyddion), ond o ystyried fod bywyd ei hun yn ffenomen mor syfrdanol; fod y bydysawd, o ran ei faint, ei fanylder a’i gymhlethdod, mor rhyfeddol; a’r ffaith ein bod yma o gwbl (pam fod rhywbeth yn hytrach na dim?) mae’n anodd iawn gwadu bodolaeth realiti llawer uwch na dyn. Ar ôl holi ynghylch Darwiniaeth, “In what sense does this principle explain the emergence of complex conscious life-forms from much simpler unconscious organisms?”, â Keith Ward yn ei flaen i ddadlau bod bodolaeth Crëwr yn ei gwneud hi’n llawer mwy tebygol fod un gell greiddiol wedi esblygu, ymhen amser, i mewn i fod dynol, moesol, cymhleth na phe na bai Crëwr yn bod (God, Chance and Necessity, t. 66). Yr anhawster a’n hwyneba, wrth gwrs, yw sut y gall iaith ddynol, feidrol, ffaeledig ddisgrifio’r hyn sy’n anfeidrol, y tu hwnt i amgyffrediad dyn? Dyma’r cwestiwn a drafodir yn ddeheuig ac yn feistrolgar gan John Macquarrie yn God-Talk.

2 Cymeriad Duw.

Ochr yn ochr â’r ddadl ynghylch bodolaeth Duw y mae cwestiwn cymeriad Duw. O gredu mewn Duw, pa fath o Dduw yw’r hwn y credir ynddo? Yn ôl Beirdd y Byd fe’i gwelir gan ryfelwyr ffwndamentalaidd y Dwyrain Canol yn nhermau duw dialgar, a fyn ymyrryd o blaid ei bobl etholedig er mwyn sicrhau buddugoliaeth iddynt ar faes y gad, a difa eu gelynion. Dyma’r duw na fu’n edifar ganddo weld boddi’r Eifftiaid yn nyfroedd y Môr Coch; a yrrodd allan “y Cananeeid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebusiaid” allan o wlad Canaan er mwyn i’r Hebreaid feddiannu’r tir (Josua 3: 10 – un o’r enghreifftiau cynharaf o lanhau ethnig); a roes orchymyn i lwyr ddinistrio’r Amaleciaid am iddynt rwystro’r Hebreaid ar eu taith i fyny o’r Aifft (1 Samuel 15: 2) – ac a ffromodd wrth Saul am iddo arbed Agag, brenin Amalec, ynghyd â “phopeth o werth” a berthynai i’w bobl . Dyma Arglwydd y Lluoedd, “yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel” (24: 8), a’i fryd ar ddifetha’r anghyfiawn a’r pechadurus. Mae’n rhyfedd meddwl, o gofio am y cyffyrddiadau tyner a thadol a geir mewn cynifer o’r Salmau, y ceir ynddynt hefyd, mewn llawer man, ddisgrifiadau o Dduw sy’n ei ddarostwng i fod yn ddim mwy na theyrn didostur. Oni fyddwn yn gwingo wrth ddarllen adnodau clo Salm 137, lle mae’r awdur yn annog Duw Israel i ddial ar Fabilon am alltudio ei bobl, ac i gipio ei phlant a’u “dryllio yn erbyn y graig”?

Na fyddwn or-awyddus i feirniadau’r Iddew eithafol-genedlgarol, a’i Ysgrythurau, oherwydd y mae gan y Cristion hefyd le i edifarhau. Onid yw’r syniad am Iawn cosbol, a Duw (megis Shylock barus) yn mynnu bod ei Fab yn cael ei arteithio ar arw groes er mwyn bodloni amodau ei gyfiawnder, yn hollol wrthun a grotesque? Mae’n rhyfedd sut y byddwn yn dal i ganu gydag afiaith,”A’r Tad yn gwaeddu ‘Bodlon’/Yn yr Iawn”. A fyddwn yn ystyried ymhlygiadau yr hyn a genir? A beth am y modd y defnyddiodd Gwledydd Cred “dduw” ar hyd y canrifoedd (nid yw’r Croesgadau ond un enghraifft) er cyfiawnhau eu polisïau rhyfelgar, imperialaidd? Dyma ddyfynnu englyn arall – y tro hwn o waith Dafydd Wyn, Aberangell – a’r ymosodiad ar Irac yn gefndir amlwg iddo:

Duw, cariad yw
Ai gwir fod Duw sy’n gariad – wedi bod
I Bush yn ysgogiad
A’i annog i fynd i’r gad?
A yw’n siwr pwy sy’n siarad?

Wrth adolygu cyfrol Sam Harris, Letter to a Christian Nation: A Challenge to Faith, medd Rod Liddle: “No other developed nation can match America for her piety. away from the coasts God holds dominion – and He is not a terribly pleasant God, either, but one consumed with an obsessive vengeance and prone to acts of despotic violence”. Ysywaeth, nid yn America yn unig yr arddelir syniadau o’r fath.

Yn bersonol, wrth ystyried y ddau gwestiwn uchod, fe’m cynorthwyir yn fawr gan y tri diffiniad o Dduw a geir yn llên Ioan yn y Testament Newydd, sef:

3 Goleuni yw Duw.

Fel goleuni y mae’n ffynhonnell bywyd a daioni. Ac y mae goleuni yn symbol o’r dirgelwch a berthyn, yn anorfod, i’r duwdod.

4 Ysbryd yw Duw.

Felly, y mae sôn amdano mewn termau corfforol, ffisegol yn hollol gamarweiniol, e.e. y mae darlunio Iesu yn esgyn yn gorfforol i’r nef yn gysyniad abswrd. Oni ddywed y Beibl ei hun na fedr cig a gwaed etifeddu teyrnas nefoedd? Nid mewn ystyr gofodol y defnyddir y termau “esgyn” a “dyrchafu” yn y cyswllt hwn, ond mewn modd ansoddol, i ddynodi bod Iesu yn un â Duw. Mae’n bwysig cofio nad o’r nef y daeth corff Iesu yn wreiddiol, ond o groth Mair. Y Gair a ddaeth o’r nef, nid y corff.

5 Cariad yw Duw.

Dyma’r gosodiad sylfaenol, a chalon y datguddiad o Dduw yn
Iesu. Y mae pob gwedd arall ar ymwneud Duw â dynion – ei sancteiddrwydd, ei gyfiawnder, ei ofynion moesol a’i farn – yn deillio o’i gariad, a’i awydd i ddwyn dyn, yn wir y greadigaeth oll, i gymod ag ef ei hun. Sut, felly, y gall y Duw hwn, Duw a Thad ein Harglwydd Iesu sydd â’i gariad yn “anchwiliadwy” (yn ôl yr emynyddes Mary Owen), dynghedu yr un o’i blant i gosb dragwyddol, ac i fflamau uffern? Y ffaith amdani yw nad ydym, hyd yma, wedi dechrau amgyffred hyd a lled, uchder a dyfnder cariad Duw; yn wir, yr ydym ymhell o sylweddoli beth yw ymhlygiadau’r cariad hwn i fywyd dyn ar y ddaear, ac i’n hymwneud â’n gilydd fel unigolion ac fel cenhedloedd.

Y Duw hwn sydd â’i gariad hollgynhwysol yn amgylchynu’r holl fyd, yw’r unig Dduw sydd yn ddigon mawr i gyfarfod ag angen dyn heddiw. Dyma’r Duw newydd, nad yw mewn gwirionedd ond Duw fel ag y bu erioed, ond iddo gael ei gamddehongli yn drychinebus gan ddynion a chenhedloedd fel y’i gilydd yn ystod cwrs hanes. Dyma’r Duw – Duw cariad, gras, tosturi a chymod, y Duw dioddefus sy’n ei uniaethu ei hun yn llwyr â phoen a gwewyr y byd (onid dyma wir ystyr y Groes?) – y mae o’r pwys mwyaf ein bod yn ei ddarganfod o’r newydd yn ein dydd a’n hoes. Dyma Dduw fel y gwelwyd ef yn Iesu.

Desmond Davies

Llyfrau:
Karen Armstrong, A History of God (Vintage Books, London, 1999)
Karen Armstrong, The Battle for God (Harper Collins, London, 2001)
Francis S. Collins, The Language of God (free Press, London, 2006)
John Cornwell, Darwin’s Angel (Profile Books, London, 2007)
Richard Dawkins, The God Delusion (Bantam Press,London, 2006)

John Humphreys, In God We Doubt (Hodder & Stoughton, London, 2007)

John Macquarrie, God-Talk (SCM Press, London, 1967)

Alister McGrath, The Dawkins Delusion? (S.P.C.K. London, 2007)

Keith Ward, God, Chance and Necessity (Oneworld Publications, Oxford,
1996)
Robert Winston, The Story of God (Bantam Press, London,2005)