Egin Eglwys – Adroddiad Tecwyn Ifan o’r Gynhadledd

Bwriadwn gyhoeddi adroddiad o bob un o’r grwpiau trafod a gynhaliwyd yn ystod cynhadledd Cristnogaeth 21 yn y Morlan yn ddiweddar. Dyma’r cyntaf o’r adroddiadau hynny, sef adroddiad Tecwyn Ifan o’r grŵp “Egin Eglwys” (Emerging Church)

Mae’n debyg y byddai llawer yn cytuno bod i eglwys bedair prif nodwedd sydd yn ei gwneud hi’n eglwys, sef ei bod hi:

• Yn cyhoeddi neges
• Yn addoli
• Yn gwasanaethu
• Yn gymdeithas

Ond mae ffurf y nodweddion hyn yn gallu amrywio a newid. Mae angen iddynt newid oherwydd bod y byd yn newid, ac er mwyn bod yn berthnasol i’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas, dylai’r eglwys hefyd fod yn newid ac addasu ei ffurf a’i ffordd o wneud pethau’n gyson.

Mae lle i gredu mai ymgais i ymateb i’r angen hwnnw yw sefydlu ‘Egin Eglwys’. Lle yr eglwys, a pherthynas yr eglwys â’r diwylliant y mae hi’n bodoli ynddo yw un o brif ddiddordebau yr egin eglwys.

Mae’n ceisio mynd i’r afael â’r cefnu a’r cilio a fu o’n sefydliadau crefyddol dros y blynyddoedd. Nid yn ddamweiniol neu ar hap y mae’r trai a’r pellhau crefyddol wedi digwydd. Mae yna resymau ymarferol a dilys drosto – mae’n fater o achos ac effaith.

Mae yna agweddau negyddol wedi datblygu ym meddyliau llawer o bobl yn eu perthynas â’n sefydliadau crefyddol traddodiadol. Mae pobl wedi colli diddordeb yn yr hyn sydd gan y sefydliadau hyn i’w gynnig bellach, neu mae’r sefydliadau hynny wedi colli eu gafael ar lawer yn y gymdeithas am iddynt fynd yn amherthnasol i fywyd cynifer o bobl, neu bod ffurf a chynnwys eu cyfarfodydd wedi mynd yn ddiflas a diddychymyg.

Gall y rhesymau am y cefnu fod yn gyfuniad o’r pethau hyn – ond y peth sy’n rhaid i ni ei dderbyn yw bod yna resymau drosto, a ddaw yna ddim lles o wadu bod gyda ni ran yn y rhesymau hynny dros y cefnu.

Fe fyddwn i hefyd yn dadlau nad agweddau negyddol yn unig sydd i’r pellhau yma. Oherwydd ymhlyg yn y trai y mae awydd i weld rhywbeth arall, rhywbeth gwell rhywbeth amgenach yn datblygu. Mae yna awydd a dyhead i weld newidiadau yn digwydd yn y patrymau ac yn yr arferion crefyddol.

A falle taw yn fanna rhywle rydyn ni heddiw. Anfodlonrwydd ar sefyllfa pethau fel ag y maent yn ysbrydol/grefyddol, gan arwain at golli diddordeb a chefnu, a hynny wedyn yn ei dro yn arwain at ymdeimlad o ryw angen am rywbeth dyfnach na’r materol arwynebol, ac i’r adwy yna y daw yr Egin Eglwys.

Ond yn y sefyllfa yma nid ymgais i ennill y lliaws digrefydd yn ôl i gorlan yr eglwys yw nod EE. Yn hytrach ceisio canfod rhyw dir cyffredin lle y gellir cynnal deialog a rhannu syniadau a safbwyntiau ar faterion ysbrydol/crefyddol. Ac mae creu’r gofod yna lle gall pobl ofyn cwestiynau a datgan amheuon mewn awyrgylch anfeirniadol a chynhwysol yn un o brif gymwynasau’r EE.

I’r diben hynny dyw arweinwyr yr eglwysi amgen ddim yn honni bod gyda nhw’r atebion i’r cwestiynau a’r gofynion sydd o gonsyrn i’r mynychwyr, ond mae parodrwydd yn ei plith i fentro gyda’i gilydd ar daith neu ar ‘gwest’ ysbrydol, yn y gred y gallant o bosib, ddod o hyd i rai o’r atebion a’r hyn y maent yn chwilio amdano ar eu pererindod gyda’i gilydd.

Pobl ‘grefyddol’ yn ôl EE yw’r rhai sy’n chwilio am atebion; lle yn draddodiadol y bobl grefyddol oedd y rhai yr oedd yr atebion gyda nhw. Ond am fod EE yn tueddu i gael eu gyrru o’r gwaelod lan – gyda lleisiau’r bobl yn cael ei glywed a’i adlewyrchu yn yr hyn sy’n digwydd yn y cyfarfodydd e.e. o ran ffurf a chynnwys a chyfeiriad, mae cael unffurfiaeth barn a chredo yn anodd.

Mae rhai yn gweld yr EE fel rhywbeth sy’n mynd yn ôl at y gwreiddiau – at Iesu Grist a’r math o genhadaeth y mae nhw’n gweld oedd gydag ef, yn galw, nid am ymrwymiad i sefydliad nac i restr o ofynion penodol, ond yn hytrach galwad i ddod i berthynas â Duw ac â phobl eraill. Mae pwyslais yr EE yn fwy ar Efengyl y Deyrnas nag ar Efengyl Iachawdwriaeth.

Does yna ddim llawer o barch tuag at sefydliadau, enwadau, arweinwyr crefyddol na chredoau ymhlith llawer o’r EE. Mae nifer yn ei gweld hi fel ‘eglwys y bobl’. Cyngor un grŵp o Ddyfnaint i rywrai sy’n meddwl am ddechrau cangen o EE yw ar iddynt fwynhau’r rhyddid i ddychmygu ac i siapio pethau. “Wrth drafod – dros goffi, dros beint, dros bryd o fwyd, mwynhewch greadigrwydd cyffrous yr achlysur” medd Ian Adams Gweler y wefan. www.emergingchurch.info/

O ran y pedair nodwedd eglwysig a nodwyd ar y dechrau, mae gan EE:

• neges i’w chyhoeddi, a honno’n neges gynhwysol, gyda phwyslais ar y Deyrnas yn hytrach nag ar yr unigolyn;
• mae yn addoli – ac yn gwneud hynny mewn amrywiaeth mawr o ffyrdd;
• mae yn gwasanaethu – mae consyrn dros bobl yn sylfaenol iddi; ac
• mae yn gymdeithas – mae’r dod ynghyd yn bwysig iddi, a does ganddi ddim obsesiwn gyda niferoedd sy’n dod ynghyd!

Mae Egin Eglwys felly yn Eglwys!

Gwefannau o ddiddordeb:
www.zacsplace.org
www.emergingchurch.info
www.smallfire.org/

Yn y drafodaeth a gafwyd i ddilyn, nodwyd bod rhai yn ei chael hi’n anodd i dderbyn y pecyn crefyddol llawn, ac yn wyneb y diffyg arbrofi o fewn ein capeli ei bod hi’n naturiol bod rhai yn gadael y system.

Mae’n anodd gwybod sut mae mynd ati i gasglu criw o bobl at ei gilydd i drafod sefydlu Egin Eglwys. Cymharwyd yr hyn sy’n digwydd yn Sgwrs Nos Sul yn Llangernyw ac yn y Morlan. Gwelwyd tebygrwydd mewn rhai nodweddion, e.e. y parodrwydd i roi gofod i drafod amheuon mewn awyrgylch anfeirniadol ac i drafod pynciau sydd yn dod â phobl wahanol iawn at ei gilydd. Mae’r un math o drafodaeth yn digwydd ymhlith grŵp sy’n cyfarfod yn Llangower unwaith yn mis. Yn Llandysul mae pwyslais y grŵp sy’n cyfarfod yno ar drafod rhannau o’r Beibl. Does yna ddim unffurfiaeth i’r grwpiau hyn a nodwyd y byddai’n dda iddynt gymharu nodiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Nodwyd bod angen gallu arbrofi ac agor trafodaeth ar faterion crefyddol heb greu dicter a ffrae. Ond mae hi’n gallu mynd yn broblem rhwng cenedlaethau, gyda’r rhai hŷn yn fodlon ar bethau fel ag y maent, tra bod y rhai iau yn ymwybodol iawn o’r angen i newid. Gall hyn greu tensiynau mewn capeli.

Nodwyd bod ‘Egin Eglwys’ yn enw da, yn awgrymu rhywbeth newydd radical, gyda rhai yn ei weld yn awgrymu rhywbeth gwrth-gyfundrefnol, a bod hynny’n rhan o’i apêl o bosib i genhedlaeth sydd wedi ei dadrithio gan gerfydd sefydliadol.

Roedd nifer o’r cynadleddwyr yn hoffi’r pwyslais mewn EE ar drafod ein ffydd. Mae’r patrwm traddodiadol o bregethwr fel un person yn ganolbwynt i’r gwasanaethau, a’r gynulleidfa ond yn wrandawyr goddefol, yn mynd yn groes i bwyslais yr oes hon ar rhyngweithio a derbyn mewnbwn gan wahanol bobl. Mae trafod yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth i bobl ar oedfaon. Ond er mwyn i hyn ddigwydd rhaid i weinidogion fod yn barod i ollwng eu gafael a’u rheolaeth ar yr hyn sy’n digwydd mewn oedfa. Mae llawer o weinidogion ddim yn barod i wneud hynny – nifer o ‘control freaks’ yn ein pulpudau! Angen cael mwy o ffydd yng ngallu’r Ysbryd Glân i ennyn ymateb.

Dyw’r newidiadau hyn ddim yn mynd i ddigwydd yn ein heglwysi a’n cymunedau ni dros nos – mae’n broses o ddod yn gyfarwydd â ffurfiau newydd o wneud pethau dros gyfnod o amser. Mater o dreialu pethau, a methu weithiau – mae hynny’n rhan o’r broses o chwilio.

Ar y cyfan roedd yr ymateb yn bur gadarnhaol i’r syniad o Egin Eglwys, er yr hoffai rai weld bod lle mwy pendant i’r Beibl yn y cyfarfodydd.

Mewn cyfnod pan bod rhai cylchoedd eglwysig yn gweithredu math o system apartheid diwinyddol, a lle mae perygl i rai o fewn ein henwadau ddechrau cynnal rhyw fath o ‘witch-hunt’ yn eu plith i’w “glanhau” rhag tueddiadau radical, mae diogelu man trafod cynhwysol yn hanfodol. Diolch I Cristnogaeth 21 am wneud hynny gyda chynhadledd fel hon, a diolch am gael bod yn rhan ohoni.

Tecwyn Ifan