Gwneud Iawn

Prin fod teulu yng Nghymru heb brofiad o afael dinistriol alcohol a chyffuriau ar fywydau anwyliaid. Dyma’r nawfed mewn cyfres o erthyglau gan Wynford Ellis Owen, Cyfarwyddwr Ystafell Fyw Caerdydd, ar egwyddorion a phrofiad 12 cam yr AA

 GWNEUD IAWN

 Yn y nawfed cam byddwn yn canolbwyntio ar wyleidd-dra, cariad a maddeuant. Deilliodd y gwyleidd-dra o edrych ar y niwed achoson ni i eraill a derbyn cyfrifoldeb amdano. Cydnabyddwn i ni ein hunain: “Ie, dyma’r hyn a wnes i. Fi sy’n gyfrifol am y niwed a achosais, ac rwy am gywiro’r niwed hwnnw.” Efallai fod y broses o weithio’r camau blaenorol wedi dwysáu’r ymdeimlad o wyleidd-dra. Neu efallai i ni gael ein harwain at ymwybyddiaeth ohono drwy’r profiad o weld rhywai yn eu âdagrau yn disgrifio’r niwed a achoson ni iddynt.

Mae’n llawer haws ymarfer yr egwyddor o gariad yng Ngham 9, gan i ni fod yn ei ymarfer, fwy neu lai, drwy gydol ein hadferiad hyd yma. Erbyn hyn, byddwn wedi dileu llawer o’r agweddau niweidiol a’r teimladau drwg oedd gennym, a chreu lle i gariad yn ein bywydau. Wrth i ni gael ein llenwi â chariad, mae’n anorfod ein bod yn ei rannu drwy feithrin gwell perthynas ag eraill, a thrwy rannu ein hadferiad, ein hamser, ein hadnoddau ac uwchlaw popeth ein rhannu ni ein hunain gyda’r rhai hynny sydd yn dal mewn angen.

Wrth i ni brofi grym maddeuant yn ein bywydau, dechreuwn weld gwerth mewn cynnig hynny i eraill. Cawn ein hysgogi i ymarfer yr egwyddor ysbrydol o faddeuant mor aml â phosib. Drwy dderbyn ein dynoldeb ni ein hunain, rhydd hyn y gallu i ni faddau i eraill ac i beidio bod mor feirniadol ag y buom yn y gorffennol. Daw’n ail natur i ni roi’r fantais mewn unrhyw amheuaeth i’r person arall. Fyddwn ni ddim mwyach yn amau bod cymhellion ffiaidd a chynllwynion sneclyd ar waith ym mhob sefyllfa lle nad oes gennym reolaeth lwyr drosti. Sylweddolwn ein bod yn meddwl yn dda, gan mwyaf, ac felly estynnwn y gred honno i eraill. Pan mae rhywun yn ein niweidio, sylweddolwn nad yw dal dig ond yn dwyn oddi arnom ein tawelwch meddwl ni ein hunain, felly tueddwn i faddau ynghynt yn hytrach na’n hwyrach.

Nid yw gwneud iawn bob amser yn brofiad annymunol ac arteithiol. Yn aml teimlwn gynnwrf wrth feddwl am y rhyddhad a gawn o adfer perthynas gyfeillgar â rhywun. Ond, i’r rhan fwyaf ohonom, mae gwneud iawn i rai o’r personau ar ein rhestr yn creu’r ymdeimlad o ofn. Ofnwn, er enghraifft, na fydd gennym ddigon o arian i’n cynnal i’r dyfodol os bydd gwneud iawn yn golygu ad-dalu dyled sylweddol. (Cofiwn nad dim ond personau fydd ar ein rhestr; mae sefydliadau hefyd, megis banciau.) Neu efallai fod arnom ofn cael ein gwrthod, ofn dial neu rywbeth arall.

Mae’n bwysig deall nad yw’r ffordd yr ydym yn teimlo o reidrwydd yn golygu mai dyna’r ffordd y mae pethau. Nid yw’r ffaith ein bod yn teimlo’n ofnus yn golygu bod rhywbeth i’w ofni mewn gwirionedd. Ar y llaw arall, ni fydd teimlo’n hapus neu’n gynhyrfus chwaith, o reidrwydd, yn adlewyrchu realiti’r ‘gwneud iawn’. Mae’n well, felly, peidio cael unrhyw rhag-ddisgwyliadau wrth weithio Cam 9.

Rydym yn awr yn barod i wneud iawn. Rydym wedi trafod cynnwys ein rhestr gyda’n noddwr, ein cwnsler neu rywun profiadol ac mae gennym gynllun ynghylch sut y bwriadwn weithredu. Rydym wedi siarad gyda Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef neu Hi, ac rydym wedi gweddïo am barodrwydd, tangnefedd, dewrder, a’r doethineb i fwrw ’mlaen – i fwrw ’mlaen nid yn unig gyda’r iawn ei hun ond i barhau i addasu ein hymddygiad ac i gadw at bob ymrwymiad rydym yn debygol o’i wneud i’r bobl, neu’r sefydliadau, ar ein rhestr.

Dyma pryd y gall pethau fynd yn anodd – dyw gwneud iawn ddim yn broses gyfforddus. Ond adferodd fawr neb wrth deimlo’n gyfforddus – teimlo’n anghyfforddus yw hanfod pob adferiad. Mae’n werth cofio na thyfodd fawr ddim mewn anialwch lle mae’n haul a hindda o hyd; mae angen ambell storm o wynt a glaw i bethau dyfu. Nid ydym ni fel meidrolion ddim gwahanol. Down yn well pobl drwy wynebu ambell storm – gan gofleidio ochr ddu’r enaid a derbyn rhai gwirioneddau anghyfforddus ac annifyr amdanon ni ein hunain.

Mae gwneud iawn i bobl sydd wedi’u niweidio yn rhan annatod o wellhad unrhyw alcoholig neu rywun sy’n gaeth i unrhyw sylwedd neu ymddygiad niweidiol arall. Mae’n bwysig gwneud iawn i’r bobl hynny sydd wedi marw, hefyd, yn ogystal ag i’r rhai sy’n dal yn fyw. Roedd Mam a Dad ar fy rhestr i. Ond, fel gyda fy nghyn-brifathro (disgrifiais y broses honno yng Ngham 8 y mis diwethaf), mae’n bwysig bod yn onest a delio â rhai agweddau annifyr o’r gorffennol cyn y gellir adeiladu perthynas o’r newydd.

Roeddwn i’n flin gyda Mam am rai pethau – am ddefnyddio’i salwch i’m rheoli, am wneud i mi boeni cymaint amdani ac am ofyn yr holl gwestiynau nad oedd gen i atebion iddynt a thrwy hynny fy rhoi ar y droed ôl a gorfod amddiffyn fy hun drwy’r amser. Ro’n i’n flin hefo ’nhad, hefyd – am ddisgwyl i mi fod yn rhyw fath o giwrad iddo, ac am roi pwysau arna i i fod yn rhywbeth nad oeddwn i ddim. Dim ond wedi i mi fod yn onest fel hyn y medrais i wneud iawn i’m rhieni – derbyn eu maddeuant a dechrau eu caru go iawn. Roedd fy rhieni yn ffaeledig fel pob un arall ohonon ni – meidrolion ydyn ni, wedi’r cyfan. Ac fe wnaethon nhw’r gorau i mi gyda’r hyn oedd ganddyn nhw i’w gynnig ar y pryd. O weld eu ffaeledigrwydd, dechreuais eu caru’n iawn.

Heddiw, mae gen i’r berthynas orau posib â’m rhieni. Mae’n un o gariad angerddol, diamod, ac o barch absoliwt.

Dyma ddyfyniad o Lyfr Mawr yr AA:

Os ydym yn ddyfal ynglŷn â’r rhan hon o’n datblygiad yng Ngham 9, byddwn wedi ein synnu cyn i ni gyrraedd hanner ffordd. Byddwn yn adnabod rhyddid newydd a hapusrwydd newydd. Ni wnawn ddifaru’r gorffennol na dymuno cau’r drws arno. Down i ddeall ystyr y gair tangnefedd, a daw heddwch i’n rhan. Does dim ots pa mor isel y gwnaethom syrthio, cawn weld sut y gall ein profiadau fod yn gymorth i eraill. Bydd y teimlad o fod yn ddiwerth, a’r hunandosturi, yn diflannu. Collwn ddiddordeb mewn pethau hunanol a magu diddordeb yn ein cyd-ddyn. Daw hunan-gais i ben. Bydd ein holl agwedd a’n golwg ar fywyd yn newid. Bydd yr ofn – ofn pobl ac ansicrwydd ariannol – yn ein gadael. Byddwn yn gwybod yn reddfol sut i ddatrys sefyllfaoedd a arferai ein trechu. Sylweddolwn yn sydyn fod Duw yn gwneud drosom yr hyn na allem ei wneud drosom ni ein hunain.

Ydy’r rhain yn addewidion anghyraeddadwy? Dw i ddim yn credu hynny. Maent yn cael eu cyflawni yn ein bywydau – weithiau’n gyflym, weithiau’n araf. Cânt bob amser eu sylweddoli wrth i ni weithio amdanynt.’

‘Rhyddid’, felly, yw’r gair sy’n disgrifio hanfod Cam 9 orau. Mae’n cwmpasu’r rhyddhad oddi wrth euogrwydd a chywilydd rydym yn ei deimlo, y lleihad yn yr obsesiwn â ni ein hunain, a’r gallu cynyddol i werthfawrogi’n llawn yr hyn sy’n digwydd ar y foment o’n cwmpas. Dechreuwn weld ein gorffennol, yn arbennig ein dibyniaeth, fel ffynhonnell o brofiadau cyfoethog i’w rhannu â’r rhai hynny yr ydym yn ceisio’u helpu, yn hytrach nag fel cyfnod tywyll rydym eisiau ei anghofio. Yn wyrthiol, dechreuwn weld y bendithion yn ein bywydau yn hytrach na’r melltithion.

Gwyddom, os ydym am gadw’r teimlad hwn o ryddid, y bydd raid i ni barhau i weithredu’r hyn rydym wedi ei ddysgu yn y camau blaenorol. Mae Cam 10, y byddwn yn ei astudio fis nesaf, yn ein galluogi i wneud hynny.

I grynhoi: mae Cam 1 yn rhoi mynediad i ni i’r ‘rhaglen ddyddiol o adferiad’; mae Cam 2 hyd at Gam 9 yn ein paratoi ni at y ‘rhaglen ddyddiol o adferiad’; Camau 10, 11 a 12 yw’r ‘rhaglen ddyddiol o adferiad’. Y tri cham olaf hyn yw’r rhai y mae’n rhaid i ni eu gweithredu’n ddyddiol er mwyn cynnal a meithrin ein hadferiad a dwysáu ein ffydd a’n hymddiriedaeth yn Nuw, fel yr ydym yn ei ddeall Ef neu Hi. A dyma’r tri cham y byddwn yn eu hastudio yn ystod y misoedd nesaf.