Iesu

Ers blynyddoedd bellach, wrth bregethu ac wrth ddarlithio, byddaf yn teimlo rhyw barchedig ddychryn wrth drafod yr Arglwydd Iesu. A’r rheswm am hynny yw mod i yn gynyddol yn sylweddoli nad yw’r darlun sydd gen i ohono yn yr un ffrâm â’r darlun traddodiadol Gristnogol. Oherwydd hynny rwy fel Jwdas, fel y gwelai ef ddiwedd yr achos yn dod, yn teimlo fy mod yn bradychu’r Iesu. Ond, ar yr ochr arall, rwy’n dod yn fwy a mwy argyhoeddedig mai pedlerwyr uniongrededd yr eglwys Gristnogol ar hyd y canrifoedd sydd wedi gwneud cam difrifol a sylfaenol â’r Iesu.

Yn hynny o beth rwy wedi teimlo mod i mewn cytgord ag aelodau y Jesus Seminar a sefydlwyd ynghanol yr wythdegau gan Robert Funk a John Dominic Crossan. Wrth iddyn nhw atgyfodi’r hen ymchwil am Iesu hanes fe ddaeth hi’n gynyddol amlwg i mi fod cymhlethdod y dylanwadau crefyddol yn y ganrif gynta a’r ail ganrif wedi gosod y “Ffydd Gristnogol” ar lwybr hollol gyfeiliornus. Y mae mwyafrif y rhai a fu’n gysylltiedig â’r Jesus Seminar dros yr ugain mlynedd diwethaf yn gweld Iesu yn bererin arbennig o ddoeth a galluog. Nid dyn dwyfol a fu farw fel pridwerth dros bechaduriaid. nac ychwaith yn ail berson y Drindod a atgyfodwyd o farw’n fyw. Ond dyn a bregethodd efengyl rhyddhad cymdeithasol, a hynny mewn damhegion a gwirebau syfrdanol. Dywedodd bethau a fyddai’n dramgwydd i’w wrandawyr, nes bod rhai o’i syniadau yn cael eu galw weithiau yn “ymadroddion caled”. Mae’n ddyn a ddibynnai’n llwyr ar Dduw drwy ei weddïau, a byddai dro ar ôl tro yn portreadu Duw fel tad trugarog a chariadlon.

Gwelant yr efengylau fel gweithiau hanesyddol yn cynnwys rhai o union eiriau’r Iesu, a hanes llawer o’i weithredoedd, yn ogystal ag ychwanegiadau awduron, a chreadigaethau ac addurniadau’r gymuned Gristnogol gynnar. Nid ydynt yn parchu’r canon, gan weld er enghraifft yn Efengyl Thomas fwy o ddeunydd dilys nag yn Efengyl Ioan.

Arhoswch am eiliad meddech chi. Mae hyn yn tanseilio holl Ffydd Gristnogol yr ugain canrif hyn! A beth bynnag y mae yna rai lleisiau hereticaidd ar hyd y canrifoedd, o’r ganrif gynta i Undodwyr Allt y Blaca, wedi bod yn lleisio’r un amheuon am berson Iesu. Pwy yw rhyw ddau gant o ysgolheigion hunandybus yn niwedd yr ugeinfed ganrif i herio mawrion feddyliau athronwyr a diwinyddion y canrifoedd? Ydy’r ddau gant modern yna yn mynd i ddweud fod meddylwyr mawr yr eglwys wedi cael eu camarwain? Wel ydyn, yn union fel y gwnaeth Galileo herio corff y ddysgeidiaeth wyddonol a fu ar gyfeiliorn ymhell dros ddau fileniwm o’i flaen.

Y foment y cychwynnwyd ar daith athrawiaethol yr eglwys gan bobol megis yr Apostol Paul, fe aed ati i lunio’r canon, gan gynnwys y pentwr o ysgrythurau Iddewig yr oedd hyd yn oed Iesu ei hun wedi dangos eu bod yn anghyflawn ac yn aml yn gyfeiliornus. Wedi hynny rhoesant ryw gysegredigrwydd i’r “ysgrythur” yr oedd dynion wedi ei dethol fel na allai neb ei herio. Yna, ar sail yr “ysgrythur”, ac weithiau yn hollol annibynnol arni, aed ati i lunio gwe o ddogmâu a chredoau o gwmpas person a gwaith Iesu. O fewn i’r eglwys ar hyd y Canol Oesoedd datblygwyd syniadau astrus amdano. Roedd llawer ohonyn nhw, fel rhai yn gysylltiedig ag athrawiaeth yr Iawn, a’r syniadau am bridwerth dros bechod, yn gwbl wrthun ac absẃrd, mor absẃrd â theoreiddio ffansïol Karl Barth ar Athrawiaeth y Drindod yn yr ugeinfed ganrif.

Ar adegau fe sylweddolodd rhai pobol fod pethau wedi mynd dros ben llestri, fel y gwnaeth y Protestaniaid yn nechrau’r cyfnod modern. Ond lle y ceision nhw chwalu awdurdod delwaddoliaeth yr hen eglwys a’i defodau, fe aethon nhw ar eu pen i ddelwaddoliaeth arall sef delwaddoliaeth yr ysgrythur, gan greu eto ryw deml o athrawiaethau am Iesu a oedd yn eu golwg hwy yn gwbl hanfodol i iachawdwriaeth, a’r groes hyd yn oed yn bwysicach na Iesu. Y cam nesa wedyn oedd inni weld Cristnogaeth, fel llawer o grefyddau eraill, yn suddo i ofergoeliaeth ronc. Fel pan fu menyw, yn weithwraig gyflogedig ar awyren, yn mynnu fod cario rhyw drincet o groes arian am ei gwddf yn hanfodol i’w ffydd, gydag esgobion yn ei chefnogi. Pa obaith sydd gennym i argyhoeddi pobol o grefyddau eraill mor wrthun yw ofergoeliaeth felly. Fel pan welsom fam rhyw ferch, yn perthyn i ffydd arall, yn martsio i’r ysgol i ddweud fod gwisgo breichled yn hanfodol i’w ffydd hi. A hynny pan wyddom yn iawn fod Iesu wedi llefaru mor groyw yn erbyn y phylacterau a’r gwisgoedd llaes yn enw crefydd. Rydym yn sylweddoli fwy bob dydd mor bell mae’r eglwys wedi crwydro oddi wrth hanfodion neges Iesu.

Y mannau lle y deuthum gyntaf i gyffyrddiad â’r ysgol newydd hon o Americanwyr oedd drwy astudiaethau Robert Funk ar y damhegion. Roeddent yn dangos mor ddifrifol o gyfeiliornus oedd dehongliadau’r eglwys wedi bod o’r dechrau’n deg. Ac os gall yr eglwys ei cholli hi’n llwyr gyda phethau mor syml â damhegion, pa ryfedd ei bod hi wedi colli’r ffordd gydag enwadaeth a dogmâu ac athrawiaethau, ac yn sicir gyda pherson Iesu.

Mi glywa i chi’n gofyn: ble mae’r byd ysbrydol yn hyn i gyd? Fy ateb i yw mai yn ôl at Dduw y dylem ni i gyd droi. A pha arweinydd gwell y gallem ei gael na’r Iesu a oedd yn adnabod Duw yn fwy na neb y gwyddom amdano. Nid Iesu’r dogmâu a’r athrawiaethau a’r enwadaeth a’r ofergoeliaeth, nad ydyw hyd oed neiniau ein hieuenctid digapel yn eu deall nac yn credu ynddynt, ond yr Iesu hwnnw a gerddodd drwy Jwdea a Galilea gan ddysgu am Dduw, a gwneud daioni, gyda gweddi yn gonglfaen ei fywyd. Yr Iesu a ddangosodd fod y byd ysbrydol yn ein herio ni i garu yn y byd hwn nes ei chwyldroi.

Mae’n siŵr mai’r argyfwng presennol, o weld ein heglwysi wedi colli eu gafael ar o leiaf un, os nad dwy, genhedlaeth gyfan o Gymry ifanc, a ysgogodd yr ymateb hwn ynom. O adnabod aelodau presennol ein heglwysi gwelaf nad yw yr athrawiaethau a’r dogmâu traddodiadol am Iesu yn ddealladwy iddynt nac yn berthnasol i’w bywyd, heb sôn am gredu ynddynt mewn “cyffes ffydd”. Ond fe wyddant am eiriau heriol a gweithredoedd iachusol a thrugarog Iesu, gan deimlo anwyldeb tuag at ei berson. Felly yr hyn y buaswn i yn ei annog ar addolwyr a hyfforddwyr ein heglwysi heddiw yw gadael i Iesu ei hun unwaith eto siarad â ni fel y siaradodd a phechaduriaid ei oes ei hun. Nid drymio athrawiaeth yr Ymwacâd, athrawiaeth y Geni Gwyrthiol, athrawiaeth y Drindod, athrawiaeth yr Iawn neu athrawiaeth y Purdan i mewn i bennau ein cyd-Gristnogion, ond gadael i’r Iesu ein herio â’i neges chwyldroadol a’n cysuro â’i neges am faddeuant Duw. Gadael iddo ein harwain gydag ef i fyd gweddi, a’i ddibyniaeth lwyr ar Dduw. Gadael i’r Iesu hwnnw gerdded unwaith eto ar hyd llwybrau bywydau’r ddynoliaeth, a gadael i ddisgyblion cenhadol Iesu gerdded i’r byd heb y baggage.

John Gwilym Jones

Darllener: Iesu’r Iddew, Pryderi Llwyd Jones a Iesu, drama ysgytwol Aled Jones Williams.
Fel enghraifft o waith y Jesus Seminar gellid darllen The Resurrection, Geza Vermes.