Pa fath ddiwygiad (2)

Pa fath ddiwygiad (2)

Un arall a oedd yn amlwg yn y cyfnod yn arwain at y Diwygiad oedd Seth Joshua. Roedd ef a’i frawd Frank wedi eu hachub yn un o gyfarfodydd Byddin yr Iachawdwriaeth, ac yn eu gweithgarwch cenhadol cynta yn gweddïo, a chanu a gwerthu beiblau. Byddai yn erbyn rhoi gormod o bwys ar athrawiaeth. Roedd pobol wedi blino, meddai, ar gael diwinyddion yn gwisgo’r efengyl mewn dillad athrawiaethol newydd. Mae yna lawer porth i’r deyrnas meddai. Ac roedd Seth Joshua o hyd yn uniongyrchol ei ddull a pharod ei ateb. Mae hanes amdano fe’n gofyn yn sydyn ryw noson i’w wraig: “Mary, wyt ti wedi cael dy achub?” “Wel Seth bach,” mynte hi, “rwyt ti’n gwybod mod i wedi cael fy nghonffirmo yn yr eglwys.” “O, rwy’n gwybod hynny,” meddai Seth, “ac rwy’n gwybod dy fod ti wedi cael injection at TB hefyd, ond beth ofynnes i yw a wyt ti wedi cael dy achub?”

Fe ddaeth e â’i deulu i Gaerdydd, i ardal Splott. Ac fe aeth ati i godi pabell ar ddarn o dir yn ymyl fel lle i efengylu. Tra’r oedd e wrthi’n codi’r babell, daeth rhyw ddyn ifanc a gofyn iddo fe, “Oes na boxing match i fod ̕ma?” “Oes,” meddai Seth . “Pryd mae’n dechre?” “Bore fory.” “Ond mae fory’n ddydd Sul.” “Sdim gwahaniaeth,” meddai Seth, “better the day better the deed.” “Pwy sy’n bocsio, te?” gofynnodd y dyn. “Fi sy’n ymladd y rownd gynta,” meddai Seth. “Pwy sy’n dy erbyn di?” “Rhyw foi o’r enw Beelsebub,” meddai Seth. “Chlywais erioed amdano fe,” meddai’r dyn ifanc. “O mae’n un peryg,” meddai Seth, “mae e’n Heavyweight. Dere di i’w weld e bore fory.” “ Fe fydda i ̕ma,” meddai’r dyn.” “Ac fe ddaeth,” meddai Seth, “a phan lediais i’r emyn cynta roedd e’n gwybod ei fod e wedi cael ei ddal. Fe fwriwyd Beelsebub dros y rhaffau gan Dduw, ac fe achubwyd y brawd yna y bore hwnnw.” Fel y medrwch ddychmygu, pregethu grymus a heriol oedd nodwedd amlyca Seth Joshua. Ond roedd yntau’n sylweddoli, gyda chefndir Byddin yr Iachawdwriaeth, beth oedd gwerth y gân a’r emyn.

Rhwng Hydref 1904 a Mawrth 1905 y parhaodd grym mawr y Diwygiad. Ond yr oedd yna rai defnynnau wedi disgyn cyn hynny. Yn y Cei Newydd yn Sir Aberteifi yr oedd yna weinidog o’r enw Joseph Jenkins wedi trefnu cyfarfodydd arbennig dros y Calan yn Ionawr 1904. Hanner cant ar y mwyaf oedd yn y rheini, ac ni chaed canu na gorfoleddu, dim ond chwilio’r calonnau. Yna wedyn ym mis Chwefror, wedi oedfa pan bregethodd y gweinidog ar 1 Ioan 5.4: “Hon yw̕r oruchafiaeth a orchfygodd y byd: ein ffydd ni,” fe wnaeth rhyw ferch ifanc o’r enw Florrie Evans ddilyn Joseph Jenkins i’w gartre. Dyma hi’n mentro curo’r drws, a chael ei gwadd mewn atyn nhw. “Bûm yn disgwyl amdanoch yn y lobi,” meddai hi, “gan obeithio ddwedech chi rywbeth wrtha i, ond wnaethoch chi ddim. Mi es i atoch chi ar yr hewl, ond wnaethoch chi ddim sylw ohona i, dim ond dweud nos da. Rwy wedi bod yn cerdded lan a lawr o flaen y tŷ am hanner awr, ac yn y diwedd roedd yn rhaid i mi alw, oherwydd mae mater fy enaid i bron â’m lladd i. Gwelais y byd yn y bregeth heno. Rwy dan ei draed e. Alla i ddim byw fel hyn.” Joseph Jenkins yn gofyn iddi, “A allwch chi ddweud ‘Fy Arglwydd’ wrth Iesu Grist?” “Na,” meddai Florrie, “Rwy’n gwybod beth mae yn ei feddwl, ond alla i ddim ei ddweud e. Sa i’n gwybod beth ofynnai fe i fi ei wneud. Rhywbeth anodd ̕falle.” “Ie, O, ie,” meddai Joseph Jenkins, mae e’n gofyn pethe anodd – porth cyfyng sy’n arwain i hedd a llawenydd yr efengyl.”

Y bore Sul canlynol gofynnodd Joseph Jenkins a oedd gan rywun air o brofiad. Wedi i rai siarad fe gododd Florrie Evans, a dweud yn grynedig, “Rwy’n caru Iesu Grist â’m holl galon.” Dyna pryd y torrodd yr argae yn y Ceinewydd. Aeth geiriau Florrie fel trydan drwy’r rhai oedd yn bresennol. Fe afaelodd yr Ysbryd mewn dwy arall, Maud Davies a Mag Phillips, a’r rheini fel Florrie yn gantoresau. Fe ddechreuon nhw grwydro ymhlith eglwysi’r fro. Fe gynhaliwyd cynhadledd arall yn Aberaeron ddiwedd Gorffennaf, ac yna yn y Ceinewydd ym mis Medi, a Seth Joshua wedi ei wahodd yno. Am y Sul cynta, 18 Medi, meddai, “Mae’r lle yma, yn llawn ysbryd diwygiad. Mae’n hawdd pregethu fan hyn!” Wythnos ryfeddol oedd honno, gyda phob cyfarfod bob nos yn orfoleddus gan weddïo a chanu a thystiolaethu, a rhyw ddeugain wedi eu hachub.

JGJ

(i’w barhau)