Archif Tag: Mererid Hopwood

Triw

Triw

Honnodd Wittgenstein bod ffiniau ei iaith yn nodi ffiniau ei fyd, ac yn sicr mae’r cysylltiad rhwng ein hiaith a’n ffordd o weld ac o ddirnad yn un dyrys. Tu hwnt i’r geiriau unigol a ddefnyddiwn i ddynodi ein hamgylchfyd, o’r pry’ i’r planedau, o’r cerrig i’r cestyll, rydym hefyd yn gwau geiriau at ei gilydd i ffurfio brawddegau a delweddau mewn pob math o ddulliau, a hynny er mwyn ceisio rhannu ein meddyliau ag eraill – ceisio dod mas â’r hyn sydd mewn. Fel arfer, trown at briod-ddulliau parod pa bynnag iaith a siaradwn ar y pryd i wneud hyn. Pan fyddwn ni’n siarad Cymraeg er enghraifft, dywedwn fod yr ‘haul yn gwenu’, ond ddwedwn ni ddim ‘the sun is smiling’ wrth siarad Saesneg, er mor bert fyddai hynny. Cofiwch, rwy’n siwr ein bod i gyd fel bodau dwy-ieithog ryw dro neu’i gilydd wedi drysu rhwng ieithoedd. Rwy’n cofio taeru bod fy ffrind wedi cyflawni camp ‘on her own lute’ a meddwl bod y golwg syn ar y gwrandawyr yn arwydd o anghrediniaeth ei bod hi mor lew yn hytrach na diffyg dealltwriaeth.

Tu hwnt i’r delweddu wedyn, mae’r gystrawen yn aml yn cyfleu ffordd benodol o ddeall pethau. Ystyriwch y gwahaniaeth rhwng y berthynas ag eiddo sydd gennym wrth siarad Cymraeg a Saesneg. Yn Saesneg dywedwn ‘I have X’ ond yn Gymraeg dydy hynny ddim yn bosib, dywedwn ‘mae X gyda fi’ neu ‘mae gen i X’ , sydd yn fynegiant o rywbeth rywfaint yn wahanol, ac yn y ‘rhywfaint yn wahanol’ hwnnw, mae cryn arwyddocâd, dybiaf i.

Does ryfedd felly bod swyddfa cymaint o gyfieithwyr yn dangos poster sy’n eu rhybuddio am y berthynas agos rhwng traduttore a traditore – y cyfieithydd a’r bradychwr. Pa bryd bynnag mae mynegiant mewn geiriau, yn enwedig pan fo’r mynegiant hwnnw wedi ceisio cario geiriau o un iaith i iaith arall, mae peryg o gamddealltwriaeth. Ar bob cam o’r daith, rhaid i’r cyfieithydd ddewis a dethol â phob opsiwn yn cynnig rhyw fagl neu’i gilydd.

Yn rhifyn Mai-Mehefin yr e-gyfnodolyn hwn, mewn cyfraniad treiddgar am yr ‘Ysbryd Glân’, bu John Gwilym Jones yn pendronni dros darddiad yr ymadrodd gan dynnu sylw at y modd y dewiswyd ‘glân’ ac nid ‘santaidd’ i ddisgrifio’r Ysbryd yn y fersiwn Gymraeg. Cwestiwn ar yr un trywydd fyddai’r un sy’n holi am darddiad yr ymadrodd ‘gwyn eu byd’; rhaid ei fod ar lafar y Cymry cyn iddo gael ei ddefnyddio mor addas i gyfleu’r syniadau sydd yn Mathew 5.

Eto i gyd, wrth ddarllen gweithiau’r Beibl, dydyn ni ddim bob amser yn cofio mai trosiad o drosiad yw’r geiriau sydd ynddynt, ac yn credu’n dynn mai’n fersiwn ni yw’r gwir i gyd. (Mae hyn yn sicr yn wir yn ein hachos ni Gymry, a ninnau, wedi’r cyfan, yn gwybod yn ffaith mai iaith y nefoedd yw’r Gymraeg!)

Pan aeth y Pab ati fis diwethaf felly i ddatgan bod angen edrych eto ar union eiriad Gweddi’r Arglwydd, does dim rhyfedd fod yr ymateb wedi bod yn chwyrn. Ymhellach na’r dudalen, mae’r geiriau cyfarwydd wedi eu hargraffu ynom ni, ac mae meddwl am eu newid – a thrwy hynny gynnig ystyr gwahanol – yn ein hanniddigo. Ond efallai nad peth drwg i gyd yw sbardun i weld ystyron newydd, neu o leiaf, i ddeall bod ysbryd ystyr yn aml iawn y tu hwnt i’r llythrennol.

Dydw i ddim yn gymwys i ddatgan barn ar gynnig y Pab, ond wrth gloi, rwyf am fentro rhannu trosiad o’r drydedd Salm ar hugain. Lyn Lewis Dafis pia’r trosiad gwreiddiol i dafodiaith Mynachlog-Ddu, a finnau wedyn wedi cael cais i roi blas tafodiaith Pencaer arni. (Wedi’r cyfan, mae cario geiriau dros bellter o ugain milltir yn newid peth arnynt!) Roeddwn yn falch o’r cyfle i wneud. Tan hynny, doeddwn i ddim wedi sylweddoli sut y mae’r ‘Fe’ yn rhan gyntaf y Salm yn troi’n ‘Ti’ erbyn yr ail. ‘When the going gets tough’ mae’r cymorth yn dod yn nes.

Ac nid cyfieithiad o ‘true’ yw ‘triw’.

I Bigel Da

 Ma’r Arglwidd in figel i fi,
A achos hini bydd ddim byth ishe dim arna’ i;
Mae e’n gadel i fi orwe in i perci glas,
Mae e’n i’n arwen i dat ir afon,
Fan lle ma’r dŵr in lloni
A neid in mowyd i in newi siwrne to.

Mae e’n driw i enw,
A’n in hebrwng i lawr i feidir gowir.

Pan wen i’n cered trw’r cwm towill, dansherus,
We ddim ofon arna’ i,
Oblegid oet ti gida fi,
A we ffon figel a phastwn da ti in di law
I nghadw i in saff.

Wit-ti wedi paratoi ffest i fi fita
Wrth in elinion i jwst sefill na a drychid.
Wit-ti wedi’n hala i i deimlo fel rhowin sbeshal
Wrth lenwi’n ddish dat i fil.

Byddi di wostod in ffein wrtha’ i,
Trw’n mowyd i gyd,
Byddi di’n i ngharu i bob dydd,
A bidda i’n byw am byth
In di dŷ di, O Arglwidd.

Addasiad Mererid o waith Lyn Lewis Dafis