Archif Tag: teyrnged

Nid llenwi bwlch

Nid llenwi bwlch …

Diolch, Elfed.

 Mae Epilogau’r Ifanc, a gyhoeddwyd yn 1969 gan Elfed ap Nefydd Roberts, yn gyfrol arwyddocaol iawn. Mae’n wir iddi ennill gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol am arweiniad i weithgarwch ieuenctid yn yr eglwysi, ond ffrwyth naw mlynedd o weinidogaeth mewn eglwys Saesneg yn Llanelli ydoedd mewn gwirionedd. Hon oedd yr eglwys gyntaf yng ngweinidogaeth Elfed. Roedd yr epilog ar ddiwedd y Clwb Ieuenctid yn bwysig iawn iddo. Mae’n siŵr i’w arweinaid yn yr addoli o Sul i Sul fod yn gyfoethog a’i fod yn bregethwr arbennig yn y cyfnod cynnar hwnnw – ond ni chyhoeddwyd ei bregethau, a dim ond yr epilogau sy’n aros. Ac yn Gymraeg, wrth gwrs. Erbyn cyhoeddi’r gyfrol yr oedd Elfed wedi dechrau ei weinidogaeth yn Nhwrgwyn, Bangor, cyn cael ei alw i’r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth.

Fe fydd nifer o deyrngedau wedi eu cyflwyno yn gwerthfawrogi cyfraniad mawr Elfed i fywyd yr eglwysi a’r dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru, yn ogystal â’i enwad ei hun. Does dim amheuaeth nad yw Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi colli arweinydd a fyddai, er wedi ymddeol, wedi medru parhau i arwain yr eglwys gyda chadernid tawel. Roedd Elfed yn boblogaidd ymysg ei bobl, yn annwyl i’w bobl, yn llawn hiwmor, yn Athro Bugeiliol profiadol i’w fyfyrwyr ac yn fugail eneidiau. Yn fwy na dim, yr oedd yn ŵr Duw gyda gweledigaeth gynhwysol, gyfan a chlir o Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist. Aeth ei alwad ag ef o weinidogaeth hyfforddi gweinidogion yn ôl i weinidogaeth yr holl saint yn Wrecsam a Licswm. Dyma, i Elfed, yw bod yn eglwys – yr eglwys sydd yn addoli ac yn byw yn lleol, fel y mae’n byw yn lleol drwy’r byd. Mae’n lleol ac yn ecwmenaidd yr un pryd.

Ar wahân i’w gyfraniadau fel hanesydd i wahanol gyhoeddiadau, a’i arbenigedd yn y maes bugeiliol ac i’r Eglwys Bresbyteraidd yn benodol, roedd ei gyfraniadau mewn astudiaethau Beiblaidd ar ôl gadael y coleg yn sylweddol iawn drwy’r gyfres ‘Dehongli …’ I Aled Davies a Chyhoeddiadau’r Gair y mae’r diolch am y cyfrolau hyn oherwydd, yn wreiddiol, yr oeddynt ar gyfer yr ysgol Sul fel Maes Llafur yr Oedolion (bu Elfed yn ysgrifennu esboniad i’r Cymro yn wythnosol am flynyddoedd hefyd). Ond, yn ôl y cyflwyniad i’r cyfrolau diweddaraf, daethant hefyd i gynnig arweiniad i grwpiau o fewn yr eglwys oedd yn gwneud yr hyn sy’n gwbwl allweddol i unrhyw eglwys, sef darllen, myfyrio, gweddïo ac adeiladu’r eglwys ar sylfeini ac arweiniad y Gair. Mae wyth o’r cyfrolau hyn yn benodol ar y Testament Newydd, o Dehongli Damhegion Iesu (2008) i Dehongli Meddwl Paul (2016), ac i’r olaf, Dehongli Timotheus (2018).

Mae pob un yn gyfrol gyfoethog, glir a thrylwyr, gyda cwestiynau trafod ar ddiwedd pob pennod, ac mae’r llyfryddiaeth yn dangos ehangder ei ddarllen a’i baratoi manwl . Mae’r gair ‘Dehongli’ yn allweddol, ac mae’r gyfrolau’n rhoi arweiniad teg a chytbwys i ddehongli yr Ysgrythurau. Onid yw Iesu ei hun yn annog ei ddisgyblion i wneud hynny? Mae’r gyfres hon o gyfrolau yn siŵr o fod y gyfres orau a baratowyd dros un cyfnod a chan un awdur sydd i’w chael yn y Gymraeg. Maent yn llenwi bwlch allweddol i ddyfodol yr eglwys ac yn gyfrolau sylweddol Cymraeg, cyfoes eu hysgolheictod a hawdd eu darllen. Mae ein diolch yn fawr iawn iddo. Ni all unrhyw eglwys Gymraeg anwybyddu’r cyfrolau hyn os yw’r eglwys honno am dyfu ac aeddfedu. Ar un cyfnod, pan oedd yn Brifathro yn y coleg, soniodd Elfed mor anodd oedd ceisio perswadio rhai myfyrwyr oedd yn sicr eu cred ac o ganlyniad yn mynnu nad dehongliad yw’r efengyl ond y gwirionedd, nid geiriau i’w dehongli ond Gair Duw yn awdurdod anffaeledig.

**********************

Ond nid dyna gyfraniad mwyaf Elfed i fywyd ac ansawdd y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru. Cyhoeddodd tua deg cyfrol o weddïau sydd naill ai’n weddïau gwreiddiol neu wedi eu casglu gan Elfed, ac mae’n debyg y bydd mwy yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol. Mae’n drist meddwl fod yna rai o hyd sy’n teimlo’n anhapus pan fo gweinidogion anghydffurfiol yn ‘darllen’ gweddi, fel petai ‘gweddi o’r frest’ yn hanfod Anghydffurfiaeth. Efallai fod yna rai hyd yn oed yn credu mai cyfrolau i lenwi bwlch ydynt am fod ‘gweddïwyr cyhoeddus’ yn brin. Nid disodli na llenwi bwlch y maent, wrth gwrs, ond rhoi cynnwys a chyfeiriad i weddïau cyhoeddus rhag i’r weddi gyhoeddus fynd yn weddi bersonol neu’n fyfyrdod, os nad yn bregeth. Dyrchafu Duw a chyfoethogi addoliad y mae cyfrolau gweddïau Elfed ap Nefydd Roberts.

Mae’r gweddïau’n cynnig arweiniad i’r weithred fawr o addoli. Maent yn ein cadw rhag i’n haddoli fod yn ddim mwy na rhygnu ar yr un tant, rhag bod yn denau o gynnwys, a rhag bod yn gyfyng ei orwelion. Er mor boblogaidd ydoedd fel pregethwr, ni wn am unrhyw gyfrol o bregethau a gyhoeddodd. Ond fe fydd y gweddïau yn aros am mai dyna yw hanfod addoli ac yn mynd i galon ein hangen mwyaf fel eglwysi ac addolwyr. Y galw ers blynyddoedd bellach yw am addoli mwy bywiog a hwyliog, y cyfryngau’n weladwy a lliwgar, ac mae hynny’n rhywbeth i’w groesawu, wrth gwrs. Ond mewn llawer o eglwysi nid oes hyd yn oed amrywiaeth heb sôn am newid i batrwm yr addoli ers canrifoedd erbyn hyn, a hynny yn eglwysi Traddodiad yr Addoli Rhydd. Ond i Elfed, er y newidiadau allanol mewn addoli a cherddoriaeth band a sgriniau mawr, fe all cynnwys yr addoli fod yn ystrydebol, y neges yn feichus a’r addoli drwyddo draw yn ysbrydol ddiddychymyg ac yn arwynebol. Mae gweddïau’r cyfrolau – drwy’r Ysbryd – yn adnewyddu’r rhai sy’n addoli.

Mae cyfrolau ‘Dehongli’ Elfed yn gyfoethog, yn gytbwys ac yn gwbwl ddiogel i ni ymddiried yn llwyr yn ei arweiniad. Cyfrolau ysgolhaig Beiblaidd yn nhraddodiad gorau esboniadau Proestannaidd ydynt, ond bod eu maes yn ehangach na’r esboniadau arferol.

Ond yn y gweddïau y mae Elfed y diwinydd ar ei orau. Mae addoli’r oesoedd, tystiolaeth y canrifoedd, dehongliadau’r diwinyddion a’r proffwydi, a Iesu ei hun yn ein casglu ynghyd i un lle i blygu yn ostyngedig i ddathlu ein ffydd, ac i feithrin ufudd-dod. Dyna yw addoli’r eglwys. Mae Elfed yr awdur toreithiog, y pregethwr grymus a llwyddiannus dros 60 mlynedd ledled Cymru, yn ein hatgoffa mai yn y gweddïau y mae’r drws i lex orandi, lex credendi. Ystyr y dywediad hwnnw, sydd bron yn apostolaidd o hen, yw: ‘mesur ein gweddi neu ein haddoli yw mesur ein ffydd neu ein cred’. Dyna Elfed: addoli yw credu.

Yn ôl at Epilogau’r Ifanc – y munud i feddwl, yr ymdawelu ac yn arbennig, y weddi ar ddiwedd clwb ieuenctid swnllyd, llawn gweithgareddau. Yna, yn allweddol, y plygu. Yng nghanol prysurdeb ei weinidogaeth yn nyddiau Bangor bu Elfed yn golygu’r Goleuad. Ffrwyth y cyfnod prysur hwnnw oedd cyhoeddi Yn ôl y Dydd ( 1991 ), sef ei golofn wythnosol yn Y Goleuad, o adnodau, gweddïau a dyfyniadau gan arweinwyr Cristnogol drwy’r byd. Dyma ddechrau ei gyfnod o gyhoeddi’r gweddïau dros y blynyddoedd oedd i ddilyn, a hynny i unigolion ac eglwysi mewn cyfnod o dlodi mawr ym mywyd ac addoli ein heglwysi, yn union fel y bu’n paratoi ar gyfer pobl ifanc y clwb yn Llanelli ar ddechrau ei weinidogaeth. Diolch i Dduw amdano ac am ei gyfraniad a’i arweiniad.

P.Ll.J.

 

 

Cofio James Cone

Yr Athro James H Cone, Union Theological Seminary, EfrogNewydd.

Cofio James Cone

 – a fu ‘o fewn munudau i adael yr eglwys’

Bu farw’r diwinydd James Cone ar 28 Ebrill yn 79 oed. Fe’i penodwyd yn Athro Diwinyddiaeth yng Ngholeg Union, UDA, yn 1969 ac yr oedd yn parhau i ddarlithio, ysgrifennu a phregethu i’r diwedd, bron. Roedd yn weinidog yn Eglwys Fethodistaidd Esgobol Affrica. Go brin y bydd ei enw yn golygu fawr ddim i’r mwyafrif o Gristnogion Gymru, ond fe fydd pawb yn gwybod am yr un a gafodd y dylanwad mwyaf arno, sef Martin Luther King. Bu Malcolm X yn ddylanwad arno hefyd. Cone yn fwy na neb, yn wir, a adeiladodd ar waith King a datblygu i fod yn broffwyd y ‘dystiolaeth ddu’ mewn gwlad o ‘Dduw gwyn’.

Mae Jim Wallis, arweinydd mudiad y Sojourners, wedi cyhoeddi cyfrol yn ddiweddar sy’n awgrymu mai ‘hilyddiaeth yw pechod gwreiddiol Americanwyr’ ac wedi cydnabod mai dylanwad James Cone sydd y tu ôl i ddatganiad dadleuol, ond proffwydol, o’r fath.

Mae nodi prif gyfrolau James Cone yn gystal cyflwyniad â dim i’w feddwl a’i waith:

Black Theology and black power (1969)

A black theology of Liberation (1970)

God of the oppressed (1975)

The Cross and the Lynching Tree (2011).

James Cone oedd yn gyfrifol am osod sylfeini Diwinyddiaeth Rhyddhad y Du, diwinyddiaeth a ddatblygodd yn gyntaf ymysg tlodion De a Chanolbarth America yn 60au a 70au yr ugeinfed ganrif ond diwinyddiaeth na chafodd fawr o sylw yng Nghymru, ac eithrio  ymdrechion yr Athro D. P. Davies i wneud hynny.

Daeth Cone i sylweddoli fod hilyddiaeth bersonol a chyfundrefnol wedi meddiannu’r Gristnogaeth wyn, orllewinol ac Americanaidd, ac y mae hynny i’w weld erbyn hyn yn y Cristnogion (honedig) gwyn, efengylaidd, sydd mor gefnogol i Donald Trump. Cafodd Cone ei ddadrithio yn ifanc gan eglwysi efengylaidd America ond daeth i sylweddoli bod hynny yn ddwfn yn holl draddodiad ‘y gwareiddiad Cristnogol’. Yr oedd geiriau fel  ‘Duw y darostyngedig oedd Duw y Beibl’ neu ‘mae cariad tuag at y darostyngedig a’r tlawd, yn ogystal â’r angerdd dwyfol, yn dangos bod cyfiawnder yng nghalon Duw’. Bu Cone ar fin troi ei gefn ar Gristnogaeth, ond clywodd yr alwad – hon oedd ei alwad fawr, wedi’r gyntaf pan oedd yn 16 oed – i ‘lefaru ar ran y di-lais a’r di-rym du yn America, yn enw Iesu, yr un a ddaeth i gyhoeddi rhyddid i’r caethion’.

Mynnai na all ‘Diwinyddiaeth Rhyddid’ fod yn opsiwn mewn coleg diwinyddol nac eglwys leol na chyfundrefnau eglwysig.

Yn y ‘lynching era’ (1880-1940) crogwyd 5000 o ddynion a merched du eu lliw gan Gristnogion gwyn, a hynny’n ein hatgoffa o groeshoeliad Iesu gan y Rhufeiniaid. Ond nid oedd y ‘Cristnogion‘ hyn yn gweld yr eironi na’r rhagrith yn eu gweithredoedd.

(The Cross and the Lynching Tree)

Ni allwn byth ymaflyd ac ymgiprys digon â Duw os ydym yn gwneud hynny gyda pharch at y gwirionedd, meddai Simone Weil, yr athronydd o Ffrainc. Mae’n well gan Grist i ni roi’r gwirionedd o’i flaen ef, oherwydd cyn bod yn Grist, gwirionedd ydoedd. Wrth droi oddi wrtho a mynd ar drywydd y gwirionedd, nid awn ymhell cyn syrthio i’w freichiau.

(The Cross and the Lynching Tree)

Pa siom bynnag a gafodd Martin Luther King, ni pheidiodd â phregethu gobaith gydag angerdd proffwyd. Mae’r freuddwyd yn parhau, meddai, oherwydd ni allwn ddigalonni. Os collwn obaith, fe gollwn yr egni a’r wefr sy’n symud bywyd yn ei flaen, rydym yn colli’r ‘dewrder i fod’, yr ysbryd hwnnw sy’n ein galluogi i fynd ymlaen er gwaethaf popeth.

(The Cross and the Lynching Tree)

Teyrnged yr Union Theological Seminary i’w Hathro (gan gynnwys dolen at recordiad o’i angladd)