Y Beibl – Gair Duw?

Y BEIBL
Hei Gymro!Os wyf yn Gymro da rwy’n rhwym o barchu’r Beibl. Pam? Am ei fod wedi bod yn gyfrwng i sefydlu, cryfhau ac felly, diogelu fy iaith. Mae wedi rhoi safon gyfoethog i’m parabl ond, yn bwysicach fyth, mae wedi rhoi safon arbennig i’m bywyd ac i fywyd fy nghenedl. Roedd adnodau ar gof ein cenedl yn gymorth i roi trefn ar brofiadau a mynegiant i’r hyn oedd yn corddi yn yr enaid ac y maent yn dal i wneud hynny.Byd NewyddA oes lle i’r Beibl yng nghanol bywyd heddiw? Erbyn hyn mae nifer o ddisgyblaethau yn cystadlu am hawl i esbonio pwy y’m ni a beth yn y byd mawr yw bywyd. Mae ‘na esboniadau cymdeithasegol, seicolegol, biolegol ac yn y blaen, a’r cyfan yn ffitio’n dwt o dan y pennawd “gwyddonol”. Ond y mae poblogaeth y byd yn dal i bwyso’n drwm (yn ffodus neu’n anffodus) ar un neu arall o’r esboniadau diwinyddol a hynny efallai’n gymaint os nad yn fwy nag erioed. Felly, ai rhywbeth sy’n perthyn i hen hen hanes yw’r Beibl? Tybed?

Y Beibl a’n Hoes –

Mewn stryd o dai yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan mae pob tŷ’n cynrychioli cyfnod. Erbyn dod i’r tai sy’n cynrychioli’r ugeinfed ganrif does dim Beibl ynddynt. Mae’r Beibl wedi diflannu o’r tai hyn yn Sain Ffagan ond, nid dyma ddiwedd y stori, y mae hefyd wedi diflannu o lawer cylch arall.

Yr Ysgolion Sul

Onid ychydig iawn o blant sy’n eu mynychu a’r mwyafrif mawr o’r mynychwyr yn gadael eu rhengoedd pan fyddant wedi hen syrffedi ar dynnu lluniau a chanu caneuon plentynnaidd. Felly, y mae’n debygol fod y Beibl wedi diflannu o’n bröydd oherwydd bod yr ysgolion Sul wedi gwanychu.

Y Capel neu’r Eglwys

Y mae perygl nad oes fawr o ddyfnder yn ymwneud llawer o eglwysi a’u Beibl. Ar y cyfan, un oedfa yw’r nod a honno’n oedfa fer a chyfansawdd. Rhaid gwasgu popeth i mewn i’r awr honno sydd yn nwylo un person ac yn debyg o ddelio ag un adnod yn unig a hynny’n aml mewn ffordd digon ffansïol. Nid oes o fewn y drefn fawr o amser i esboniadaeth gyson. Wedyn, y mae perygl fod yr ychydig eglwysi sy’n sicrhau lle ac amser i astudiaeth wirioneddol yn darllen eu Beibl o fewn canllawiau athrawiaethol cyfyng gan ddarllen i mewn i’r Beibl eu sustem feddyliol a hynny yn fwy nag astudio’r Beibl ei hun.

Erbyn hyn does ond ychydig o drefn hyd yn oed o fewn yr eglwysi i astudiaeth fanwl o’r Beibl o fewn ei gefndir gan ddilyn datblygiad y llenyddiaeth a’i syniadau. Bu hyn yn achos trafferth i lawer o’r hen athrawon ysgrythur (nad ydynt yn bod bellach yn ein hysgolion) wrth ymwneud â rhai o blant ffyddlona’r eglwysi oedd yn dweud rhywbeth fel “glywais i ddim am y nonsens yma yn yr eglwys/capel rydw i’n mynychu”.

Yr Ysgolion

Gwelwyd newid mawr ers saithdegau’r ugeinfed ganrif yn ymwneud ysgol â’r Beibl. Mae crefydd, sef, maes astudio’r ysgolion erbyn hyn yn dipyn lletach na’r Beibl ac felly, ar y gwahanol lefelau mae’r sylw arbenigol a roddwyd i’r Beibl hyd at chwarter canrif yn ôl wedi teneuo’n fawr iawn. Mae’r Beibl felly, i raddau helaeth wedi diflannu o’r ysgolion hefyd.

Yr Her i’r Eglwysi

Gwaith yr eglwysi yn y pen draw yw esbonio’r Beibl. Os nad ydynt yn ymwneud â’u gwaith o ddifri gyda’u haelodau, ac os na fydd iddynt allu sicrhau trefn gadarn i gyflwyno’r Beibl i’w cymunedau, nid oes dim i’w ddisgwyl ond cynnydd mewn anwybodaeth o’r Beibl yn ein gwlad.

Y Beibl a’n Hoes – Problem!

Peth peryglus yw barn wedi ei seilio ar anwybodaeth neu hyd yn oed ar wybodaeth arwynebol. Os yw’r eglwys am esgeuluso’r wybodaeth sydd wedi ac yn dod i’r wyneb wrth astudio’r Beibl ac os nad yw hi’n alluog ac yn barod i ddygymod a gwybodaeth gyfoes, mae’n peryglu ei bywyd ei hunan ac yn tlodi’r gymdeithas ehangach. Mae’n rhaid ystyried yn agored a manwl yr hyn sy’n dod i’r wyneb. Beth yw natur yr ysgrifennu? Beth oedd amcanion yr awduron a’r golygyddion? Beth yw’r dulliau llenyddol sydd wedi eu mabwysiadu wrth ysgrifennu? Nid yw un hen ddull o astudio’r Beibl yn abl i drin y cwestiynau mawr. Y dull hwn yw astudio fesul adnod gan chwilio am adnod i brofi pwnc. Roedd y dull yma (ac nid yw’n farw o hyd) yn magu gwybodaeth o adnodau unigol heb fod iddynt gyd-destun na gwerthfawrogiad o brofiad creiddiol yr awduron, e.e. cam ddehongli “llygad am lygad” er mwyn cyfiawnhau safbwynt wleidyddol. Gall hyn greu anffyddwyr, ond yn fwy na hynny, mae’n cynnig arf i alluogi person i wawdio’r cyfan. Mae’r neges a’r profiad sydd mewn darn o dan sylw yn mynd i’w golli ac y mae modd i bawb wneud eu detholiad cyfyng eu hunain. Faint o enwadau a sectau sy’n bodoli ar sail adnod neu ddwy neu dair? Dyma wrth gwrs yw’r perygl o droi adnod yn athrawiaeth a chwilio am awdurdod y Beibl yn fwy na cheisio dod o hyd i ysbrydoliaeth y Beibl.

O ganlyniad i hyn daeth llyfr o’r wasg – “What They Don’t Tell You – A Survivor’s Guide to Biblical Studies”. Mae’r llyfr hwn yn ceisio helpu person sy’n teimlo’n ddryslyd oherwydd ei fod yn darllen am bethau na soniodd yr eglwysi amdanynt. Dyma hefyd gwyn un o ddiwinyddion pennaf ein hoes. “Y mae lleygwyr ar y cyfan yn anymwybodol fod astudio ysgolheigaidd manwl wedi bod ar waith ym maes dadansoddi beiblaidd….cynrychiola hyn weithgarwch cywrain a dyfal dros dair canrif. Mae’r gwaith hwn wedi dringo pinaclau uchaf dysg. Y Beibl o bell ffordd yw’r llyfr a astudiwyd fwya o holl gynhyrchion llenyddol mwya’r byd.” (Hans Kung – The Religious Situation of Our Time).

Her fawr i arweinwyr eglwysig heddiw yw pontio rhwng yr hyn y mae Kung yn sôn amdano a’r eglwysi ar lawr gwlad.

Y Beibl o Dan Chwyddwydr Dysg

Bu astudio ar y Beibl a chodwyd cwestiwn ar ôl cwestiwn. Beth yw natur llenyddol rhyw ddarn ohono? Chwedl? Cân? Dameg? Cyflwyno safbwynt? Cyflwyno profiad? Stori arwrol? Molawd? Llythyr? Anogaeth? Wedyn mae cwestiynau fel sut oedd darn yn berthnasol o fewn cyfnod yr ysgrifennu a’r golygu? Sut casglwyd y darnau ynghyd? Beth oedd yr atyniad o’u cadw a’u trosglwyddo? Beth yw’r elfennau a’r haenau gwahanol sy’n rhan o’r gwaith fel y mae erbyn hyn? Sut ddaeth yr Hen Destament i’w ffurf presennol? Sut cyfansoddwyd yr efengylau a beth yw perthynas yr efengylau â’i gilydd? Eto, gallwn ofyn beth yw’r haenau a’r ffynonellau sydd wedi dod ynghyd i sicrhau bodolaeth llyfrau’r Beibl fel y ma nhw heddiw. Sut oedd y “llyfrau” ‘n berthnasol i fywyd y genedl neu’r eglwys? Beth yw arweiniad a her y llenyddiaeth i ni heddiw? Mae’n ddiddorol dilyn astudiaeth o seicoleg rhyw awdur a gweld olion tyfiant a datblygiad. Mae rhai yn credu mai ffordd i golli ffydd yw taclo’r cwestiynau yma. Ar yr un pryd mae modd i berson arall fethu a dod i ffydd am nad ydyw yn cael ateb i’r cwestiynau yma. Mae rhoi i’r Beibl deitl fel “Gair Duw” yn gallu creu caethiwed, ofn ac euogrwydd pan fydd rhywun yn bwrw ati i astudio a manylu. Yn aml bydd anfodlonrwydd wrth dderbyn stori fel stori, â’i esbonio fel stori. Bydd hyn yn rhwystr i alluogi rhywun i weld gwerth y stori ac yn codi pob math o gwestiynau dianghenraid. Mae hyn i’w weld pan fydd rhywun yn ei chael yn anodd i dderbyn stori fel stori gan ddweud “felly, dim ond stori yw hi”. Onid trwy stori gyflwynodd Iesu ran helaeth o’i ddysgeidiaeth? Felly, pwy feiddia ddweud “dim ond stori yw hi”?

Yn reddfol mae modd inni fyw yn glyd o fewn swigen emosiynol gan wrthod yn chwerw neu bod yn ddirmygus o unrhyw wybodaeth sy’n anghyfleus i safbwyntiau a goleddwn. Y mae’r reddf geidwadol yma yn dod yn rhwydd i’r mwyafrif mawr ym mhob oes. Ceisiodd Eglwys Rhufain roi stop ar ddatblygiadau ym myd astudiaeth feiblaidd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd yr astudio’n herio traddodiad yr eglwys. Ar y llaw arall roedd y byd Protestannaidd wedi torri’n rhydd o awdurdod y Pab ac wedi pwyso’n drwm felly ar awdurdod y Beibl. Erbyn troad yr ugeinfed ganrif roedd pob hen awdurdod yn cael eu herio, ac felly, teimlodd rhai bod yr astudio’n herio awdurdod y Beibl. Yn y cyfnod hwn, cyhoeddwyd “The Fundamentals” gan garfan Brotestannaidd. Sefydlwyd mai un o’r hanfodion oedd dwyfol ysbrydoliaeth yr ysgrythurau sy’n ddatguddiad llythrennol o Air Duw. Roedd hi’n gyfnod i roi croeso i gludwch y groth yn hytrach na byw’n beryglus ynghanol stormydd y byd mawr bygythiol. Mae anwybyddu a gwrthod datblygiadau’r oes fel y gwnaeth carfannau o’r eglwys yn costio’n ddrud iawn heddiw.

Y Beibl fel Ffenest

Dilynwn ddau ddiwinydd sy’n defnyddio’r ddelwedd o’r Beibl fel ffenest. Yn ôl un diwinydd dylanwadol (Barth) mae’r ysgrythurau fel ffenest, a darllen y Beibl fel edrych drwy ffenest ar ryw bobl yn y stryd islaw. Maen nhw’n cysgodi eu llygaid gyda’u dwylo tra’n edrych i’r entrychion. Maen nhw’n edrych ar rywbeth sy’n wirioneddol llachar ond sydd allan o olwg y person sydd tu fewn i’r ffenest. Mae darllen y Beibl fel ceisio uniaethu gyda’r hyn sy’n digwydd a chael rhyw ran o’u profiad.

Yn ôl Frederick Buechner (awdur Americanaidd cyfoes) mae astudio’r Beibl fel edrych ar ffenest. Wrth edrych drwyddi byddwn efallai yn gweld fod baw arni a rhyw grac bach lle tarodd ffrisbi rhyw blentyn yn ei herbyn. Os edrychwn drwy’r ffenest mae modd gweld y byd sydd y tu hwnt iddi. Dywed Buechner fod darllen y Beibl yn peri i ddyfnder eneidiau’r gorffennol lefaru wrth ddyfnder ein bodolaeth ni heddiw. Yn y dyfnder hwn gallwn glywed lleferydd y Bod Mawr ac i Gristnogion, y mae modd gweld y Tad yn y cyflwyniad sydd gennym o’r Mab. Er hynny, yn ôl yr Apostol Paul cawn ddarlun arall sy’n sôn am ryw wydr pan ddywed “yn awr gweld mewn drych yr ydym, a hynny’n aneglur”.

Gwefr y Beibl yw bod themâu mawr ein bodolaeth yn cael eu portreadu ac yn taro nodyn wrth inni geisio deall, synhwyro a theimlo ingoedd a gorfoledd ein bodolaeth.

D. Eirian Rees

Llyfrau
Karen Armstrong The Bible, A Biography (Atlantic Books)

Maes Trafodaeth
A oes gwahaniaeth rhwng trafod y Beibl yn llenyddol yn hytrach na’n llythrennol?
Ble mae’r ffin rhwng gwerthfawrogi’r Beibl ag ofergoeliaeth?
Does dim o’r fath beth a ffwndamentalwyr llythrennol mewn gwirionedd. Onid yw pawb yn dewis a dethol rhyw ddarnau gan sefydlu eu prif athrawiaethau nhw ar eu darn nhw o’r jig-so?
Ydy stori Jona’n wir? Onid yw aros ym mol du y pysgodyn mawr yn cuddio’r weledigaeth o Dduw sy’n cael ei bortreadu?
Nid llyfr ar gyfer plant yw’r Beibl.
Beth yw ystyr darllen y Beibl trwy lygaid Iesu?
Sut gall ein heglwysi fwrw ati i astudio’r Beibl mewn ffordd wnaiff sicrhau ei fod yn berthnasol i ni heddiw?