Ymateb i raglenni teledu diweddar ar ddilysrwydd hanesion yn yr Hen Destament.

A oes gair yn y Gymraeg yn cyfateb i’r Saesneg ‘sensationalism’ ? ‘Cyffrogarwch’ a geir yng Ngeiriadur yr Academi, ond nid yw’n ymddangos yng Ngeiriadur y Brifysgol. Felly, meddwl oedd yn brif symbyliad cyfres o dair rhaglen deledu ar yr Hen Destament a ddangoswyd yn ddiweddar.
Cyflwynwyd y rhaglenni hyn gan Ysgrifennydd Cymdeithas Efrydu’r Hen Destament ym Mhrydain, Dr. Francesca Stavrakopoulou, sy’n uwch-ddarlithydd yn Astudiaethau’r Beibl Hebraeg ym Mhrifysgol Caerwysg. Mae hefyd am gyhoeddi mai anffyddwraig ydyw. Mae’n amlwg bod Adran Grefydd y BBC ym Manceinion wedi gwario llawer ar y rhaglenni hyn gan fod y gyflwynwraig wedi manteisio ar y cyfle i’n tywys i fwy nag un gwlad yn y Dwyrain Canol ac wedi dangos nifer o leoliadau yno y tybid eu bod yn berthnasol i’w dadleuon. Y modd yr aeth o’i chwmpas hi i gyflwyno’i safbwynt ar y testunau y dewisodd eu trafod oedd, mae’n rhaid imi gyfaddef, yn fy anesmwytho i.
Ei dull oedd gosod llythrenolwr, a hwnnw fel arfer yn Iddew, o flaen y camera gan wrando arno’n datgan i’w ddisgyblion y gellid credu pob manylyn a geir yn yr Hen Destament. Hwn felly oedd y cocyn hitio, ac aed ati yng weddill y rhaglen i wrthod ei safbwynt yn gyfangwbl. Yn y rhaglen gyntaf trafodwyd a oedd yr adroddiadau am y brenin Dafydd yn hanesyddol wir, a cheisiodd brofi drwy ein tywys at enghreifftiau o safleoedd archaeolegol nad oedd tystiolaeth hyd yn oed am fodolaeth y fath frenin, ac yn arbennig un a lywodraethai ar ymerodraeth yn ymestyn ar draws y Dwyrain Canol fel yr awgryma’r Beibl. Cymerodd, felly, safbwynt y ‘minimalists’, fel y’u gelwir, sy’n honni nad oes modd dibynnu ar gywirdeb y ffeithiau yn yr Hen Destament am hanes Israel cyn y Gaethglud .Ânt ymlaen i haeru mai wedi’r Gaethglud y cyfansoddwyd yr adroddiadau am gyfnod y frenhiniaeth yn Israel. Ond dylid dweud yn y fan yma bod gormod o’r enwau a’r manylion a geir yn yr Hen Destament yn gweddu’n well i gyfnod cynharach ac na fyddent yn hysbys i genedlaethau diweddarach i’w dyfeisio ganddynt.
Un peth â’m blinodd i oedd yr argraff a roddwyd mai yn gymharol ddiweddar y taflwyd amheuaeth ar ddilysrwydd hanesion yr Hen Destament am Ddafydd a’i debyg. Yn sicr nid peth newydd yw beirniadaeth o’r deunydd Beiblaidd: â yn ôl o leiaf ganrif a mwy. Eithr nid yw’r darlun a gyflewyd yma o ddau begwn ar y mater, a hynny’n unig, yn gwneud cyfiawnder â’r ddadl gyfoes ar y pwnc o bell ffordd. Mae’n fater llawer mwy cymhleth na hynny ac yn hawlio trafodaeth lawer mwy trylwyr nag a gafwyd ar y rhaglen deledu hon. Yn y cyswllt hwn carwn ddyfynnu geiriau Hugh Williamson, Athro’r Hebraeg ym Mhrifysgol Rhydychen, wrth iddo mewn erthygl yn The Expository Times yn Hydref,2007,ymateb i’r Cymro o Brifysgol Sheffield ac un o arweinwyr y ‘minimalists’, yr Athro Philip Davies. Gellir dadlau, meddai, dros y gosodiad ‘that talk of a crisis in the study of Israelite history is itself just hype in the academic media. Publishers and editors thrive on such talk, and unfortunately there are too many scholars on all sides who play up to this market by writing in ever more extreme and defamatory style about the iniquities or gullibility (as the case may be) of those with whom they disagree. Scandal can gain a momentum of its own, and in scholarship this is deleterious. People feel that they are being pushed into a corner in which they are obliged to take up more extreme positions and express them more stridently than they otherwise would wish. Only the extremes get a hearing, but truth seldom lies there.’ Atgoffa’r geiriau hyn fi o’r ddadl boethaf a mwyaf anghysurus a hefyd mwyaf personol imi wrando arni mewn deugain mlynedd o fynychu Cymdeithas Efrydu’r Hen Destament. Digwyddodd hynny mewn cyfarfod yng Nghaeredin; ie, a’r pwnc dan sylw oedd, gwerth hanesyddol y gyfrol honno.
Mae’n wir mai prin yw’r dystiolaeth archaeolegol ac ysgrifol o’r tu allan i’r Beibl am gyfnod y brenin Dafydd a’i olynwyr; ond fe’i ceir, ac mae’n werth cofio bod pob cyfeiriad at un o frenhinoedd Israel neu Jwda mewn ffynhonnell felly yn ymddangos gyda’r enw’n gywir, yn y drefn gywir a gyda’r dyddiad cywir.
Pennawd y Radio Times mewn erthygl yn cyflwyno’r rhaglenni hyn oedd ‘The woman who says God was married’. Yn yr ail raglen trafodwyd a oedd y dduwies Ganaaneaidd Astarte yn gymar i Dduw Israel. Nid peth newydd, wrth gwrs, yw ystyried ai amldduwiaeth oedd crefydd yr Israeliaid cynnar, ac mae’r Hen Destament ei hun yn frith o enghreifftiau o’r frwydr rhwng Iafe, Duw arbennig y genedl, a Baal, Duw’r brodorion Canaaneaidd, gyda phroffwydi fel Eleias ar flaen y gâd yn ceisio amddiffyn undduwiaeth. Anghywir i’m tyb i oedd honni mai mor ddiweddar â chyfnod y Macabeaid y daeth undduwiaeth yn gred sefydlog ymhlith yr Iddewon. I’r gwrthwyneb mae’r holl dystiolaeth sydd gennym,a hynny o du mewn i’r Hen Destament yn ogystal ag o’r tu allan iddo ,yn awgrymu bod gwreiddiau’r gred yn Iafe yn tarddu o du allan i diriogaeth Israel ei hun, h.y. i’r De iddi, a hynny o gyfnod cynnar iawn yn ei hanes, fel yr awgryma profiad Moses ei hun.
Hefyd roedd y rhaglen hon fel y gweddill ohonynt yn euog o orsymleiddio’r holl fater: methwyd â gwahaniaethu rhwng undduwiaeth yn yr ystyr o wadu bodolaeth duwiau eraill ac, ar y llaw arall, addoli un Duw yn unig er yn cydnabod y gallai cenhedloedd eraill addoli eu duwiau eu hunain. Y dewis olaf oedd y wir sefyllfa yn Israel, mae’n siwr, am rannau helaeth o’i hanes. Ond nid yw honni hyn yn tanseilio’r gred sylfaenol mewn un Duw, fel yr oedd y rhaglen hon yn ceisio profi.
Yn y rhaglen olaf y cafwyd, yn fy marn i, yr haeriad mwyaf anhebygol i gyd, sef mai y deml yn Jerwsalem yw lleoliad gwreiddiol Gardd Eden ac mai prif amcan yr hanes amdani yw egluro cwymp Jerwsalem a’i theml i Nebuchadnesar oherwydd pechod brenin Jwda. Dechreuodd y rhaglen gyda creadydd (‘creationist’) yn Eryri a honnai, wrth gwrs, bod yr hyn a adroddir ym mhenodau Llyfr Genesis yn llythrennol wir. Uniaethwyd y sarff â Satan – dehongliad sy’n gwbl gyfeiliornus yn fy marn i,ac aethpwyd ymlaen i danseilio’r athrawiaeth Gristnogol am bechadurusrwydd y ddyniolaeth. Gan nad oedd y stori wreiddiol yn gredadwy yn ei barn hi, tarodd y gyflwynwraig nodyn optimistaidd ar ddiwedd ei rhaglen, gan honni nad oedd raid inni fel pobl boeni am helynt pechod.
Yr argraff sylfaenol a adwyd arnaf i beth bynnag gan y rhaglenni hyn oedd bod yr awydd i greu cynnwrf a syndod wedi cymylu gwir ymchwil am y gwirionedd, ac yn wir bod yr holl drafodaeth yn hynod arwynebol ac yn gor-symleiddio materion reit ddyrys yn ddybryd. Wele, gyfle a gollwyd i osod gerbron y cyhoedd ddadleuon o’r naill du yn gytbwys ac yn deg, yn wir ychydig iawn o safbwyntiau gwahanol i’w rhai hi a glywyd ynddynt, er i’r ysgrif yn y Radio Times addo mai hynny fyddai’n digwydd. Mae’n ymddangos felly nad crefyddwyr yn unig all fod yn euog o ragfarn: mae’n gallu llywio safbwyntiau anffyddwyr hefyd !
John Tudno Williams