Yr Adfent – Straeon y Nadolig, Straeon I Blant?

Mae’r Nadolig yn ymyl. Cyn hir gwelwn luniau o’r straeon ynghylch geni Iesu ar gardiau, a gwelwn blant yn eu hactio mewn capel ac eglwys. I lawer, straeon plant yw’r rhain. Digon tebyg fu barn ysgolheigion Beiblaidd yn y gorffennol. Yn wir, ofnent drafod y straeon hyn rhag iddynt golli eu henw da wrth ysgrifennu am bethau ‘anniwinyddol’ fel angylion a seren a doethion o’r Dwyrain.

Dadlennu Eu Cyfoeth.

Yna, ym 1977, ysgrifennodd Pabydd, Raymond Brown, lyfr, The Birth of the Messiah, yn dadlennu’r cyfoeth hynod ynddynt. Llyfr o 594 tudalen (!) ar bedair pennod yn unig – oherwydd ceir straeon y Nadolig i gyd yn nwy bennod gyntaf Efengylau Mathew a Luc.

Pam Mewn Dwy Efengyl Yn Unig?

Hanes yn mynd tuag yn ôl yw deall y Cristnogion cynnar o pryd yn hollol y cafodd Iesu ei arddel gan Dduw fel Mab iddo. Yn ôl pregethau cyntaf yr Eglwys (Actau 5.30-31), pan atgyfodwyd ef y digwyddodd hynny. Ond gydag amser daeth Cristnogion i gredu bod Duw wedi ei gydnabod yn Fab iddo cyn hynny mae’n rhaid, o ddechrau ei weinidogaeth gyhoeddus o leiaf. Felly dechreuodd yr efengyl gyntaf i gael ei hysgrifennu, Efengyl Marc, a’i fedydd gan Ioan Fedyddiwr, pan ddisgynnodd colomen o’r nef a dweud ‘Hwn yw fy annwyl Fab…’ Erbyn ysgrifennu’r efengylau nesaf, Mathew a Luc, credai Cristnogion fod Duw wedi arddel Iesu fel Mab iddo o’i eni, a dechreuant hwy eu hefengylau felly â dwy bennod yr un yn ymwneud â geni Iesu. (Erbyn ysgrifennu Efengyl Ioan, credai Cristnogion bod Duw wedi arddel Iesu mewn modd unigryw hyd yn oed cyn ei eni, felly adnod gyntaf Ioan yw – ‘Yn y dechreuad yr oedd y Gair…a’r Gair a wnaed yn gnawd.’)

‘Efengylau Bach’

Mae’r straeon am eni Iesu’n orlawn o gyfeiriadau at yr efengylau sy’n eu dilyn. Er enghraifft, yn rhestr achau Iesu ar ddechrau Efengyl Mathew, caiff pedair menyw eu henwi, ac nid Iddewon oedd tair ohonynt – y pedair ohonynt efallai. Hoffai Iddewon restru eu hachau, ond ni fyddent byth yn cyfrif menywod yn eu hachau, nac unrhyw un nad oedd yn Iddew! Ond rhagfynegi’r lle a gaiff menywod a rhai nad ydynt yn Iddewon yng ngweddill ei efengyl y mae Mathew. Mae cymaint o gyfeiriadau ym mhenodau cyntaf Mathew a Luc at yr efengylau sy’n eu dilyn, fel i Raymond Brown alw’r penodau hyn yn ‘mini-gospels.’

Amcanion Y Straeon

Bwriadai Mathew a Luc wneud sawl peth yn eu straeon. Er enghraifft, erbyn iddynt hwy ysgrifennu eu hefengylau, yr oedd Cristnogion yn gofyn, ble cafodd Iesu ei eni, felly dywed Mathew a Luc ble. Gofynnai rhai, ai cychwyn newydd oedd ‘yr efengyl’, a dengys Mathew a Luc y gwrthwyneb, fod Iesu’n ail-fyw hanes ei bobl. Er enghraifft, fel yr oedd Joseff y siaced fraith – mab Jacob, yn yr Hen Destament, yn freuddwydiwr a aeth i waered i’r Aifft, felly hefyd mae Joseff tad Iesu’n cael breuddwydion, ac yn mynd a’i deulu bychan i’r Aifft.

Ffynonellau Mathew a Luc

Yr oedd ganddynt nifer o ffynonellau, ambell atgof gan Mair efallai – ‘roedd hi’n aelod o’r Eglwys Fore (Actau 1.14). Rhai ffeithiau hanesyddol hefyd – ‘yn nyddiau Herod frenin‘. A chwedlau a ymgasglodd o gwmpas hanes y geni, fel stori’r doethion. (Gan ei fod yn ysgrifennu pan oedd y Cenhedloedd – pobl nad oeddent yn Iddewon – yn dechrau llifo i mewn i’r Eglwys, defnyddiai Mathew stori’r doethion o wlad bell i ddangos bod y Cenhedloedd hefyd yn rhan o gynllun Duw o’r dechreuad.) Ond ffynhonnell bwysicaf Mathew a Luc o ddigon oedd yr Hen Destament.

Geni Iesu

Prif amcan y straeon, wrth gwrs, oedd dangos fod Duw wedi arddel Iesu mewn modd unigryw ar hyd ei fywyd, hyd yn oed yn ei eni felly. Gwelsai’r disgyblion ac eraill fedydd Iesu, a’i groeshoeliad, a’i ymddangosiadau wedi iddo atgyfodi, ond ni welsai neb ei eni. Sut oedd ysgrifennu am ei eni felly?

Pan fynnai’r Hen Destament bod dyn wedi bod o bwys mawr yng ngolwg Duw, dywedai bod ei eni wedi ei gyhoeddi ymlaen llaw, a bod rhywbeth anghyffredin ynghylch ei eni. Dywedodd Duw wrth Abraham y cai ei wraig fab, er bod Sara’n rhy hen i gael plant, (Genesis 18), a ganed Isaac iddi. Daeth angel at wraig Manoa, a oedd ‘yn ddi-blant’, a dweud wrthi ‘byddi’n beichiogi’ (Barnwyr 13) – a ganed Samson iddi. Yr un fel am eni Samuel (I Samuel 1).

Gan ddilyn arfer yr Hen Destament, dywedodd Mathew a Luc fod geni Iesu hefyd wedi ei gyhoeddi ymlaen llaw gan angel, a bod rhywbeth anghyffredin ynghylch ei eni yntau. Ond yr oedd arnynt hwy eisiau dangos bod geni Iesu’n fwy anghyffredin na phob geni arall – yn arbennig geni Ioan Fedyddiwr, oherwydd credai rhai bod Ioan yn gydradd â Iesu, os nad yn bwysicach. Rhydd Luc hanes geni Ioan yn union o flaen hanes geni Iesu felly, i bobl gael gweld y gwahaniaeth (Luc 1.5-25).

Arbenigrwydd Geni (Cenhedlu) Iesu

Sut allai geni Iesu fod yn wahanol i bob geni arall? Yr oedd genedigaethau i famau rhy hen i gael plant, ac i famau na allai gael plant, wedi digwydd yn barod. Ond yr oedd y genedigaethau hynny i gyd yn naturiol, yn yr ystyr bod gŵr yn rhan o’r proses. Eithr byddai geni Iesu yn wahanol, yn wahanol i eni Ioan Fedyddiwr hyd yn oed. Byddai Mair yn geni plentyn, medd Mathew a Luc, heb ‘gael cyfathrach a gŵr’. ‘Daw’r Ysbryd Glân arnat’, meddai’r angel Gabriel wrthi.

Daeth y gred am enedigaeth wyryfol Iesu (‘cenhedlu gwyryfol’ a bod yn fanwl) yn rhan o ffydd yr eglwys. I rai a fyn bod y Beibl yn llythrennol wir, ac efallai i aelodau eglwysi a wna derbyn y gred yn y cenhedlu gwyryfol yn llythrennol, yn amod aelodaeth ynddynt, mae’r hanes am wyryfdod Mair i’w gredu air am air. Bu gwyryfdod Mair mor bwysig i rai Cristnogion fel iddynt fynnu ei bod yn wyryf yn dragywydd – er i hynny olygu ystyried brodyr a chwiorydd Iesu (Marc 3.32) yn gefndryd a chyfnitherod iddo! I eraill, mae ei genhedlu o wyryf yn rhan o ‘berffeithrwydd’ Iesu.

Ond o bob rhan o’r Beibl, straeon y geni yn Mathew a Luc yw’r rhai lleiaf agored o ran eu naws i gael eu deall yn llythrennol. Ni wyddai Mathew a Luc ddim am ein dadleuon modern ni ynghylch gwyryfdod Mair. Nid oedd hyd yn oed y fath syniad a ‘deddfau natur’ yn bod yn eu byd hwy. Felly nid ‘gynaecological feat’ gan Dduw, ys dywed un diwinydd, oedd geni Iesu iddynt. Amcan Mathew a Luc oedd gwau eu ffynonellau at ei gilydd yn wledd greadigol o dystiolaeth i’w argyhoeddiad bod perthynas Duw a Iesu hyd yn oed yn ei genhedlu, yn un na allai iaith gyffredin ei mynegi, bod galw felly am ddatganiad symbolaidd fel cenhedlu gwyryfol. Nid oedd son am genhedlu gwyryfol yn ddieithr yn yr hen fyd chwaith.

Llwyddiant Mathew a Luc

Ni chaeodd Mathew a Luc ben pob mwdwl yn eu straeon: mae anghysonderau ynddynt. Yn ôl Mathew (2.14-16), ffôdd y teulu bychan o Fethlehem i’r Aifft – pan oedd Iesu o gwmpas dwy flwydd oed? – ond yn ôl Luc (2.39), wedi geni Iesu ym Methlehem, a ‘chyflawni popeth yn unol â Chyfraith yr Arglwydd’, aeth y teulu yn ôl i Nasareth. Eithr nid rhoi hanes manwl a chywir oedd eu hamcan, ond ceisio cyflwyno rhyfeddod y ffaith nad oedd y byd wedi gweld dim erioed fel dyfodiad Iesu i’n daear ni. A barnu oddi wrth yr effaith a gafodd eu straeon ar Gristnogion lawr drwy’r canrifoedd, mewn llên a cherdd a’r celfyddydau cain, heblaw ar ddychymyg Cristnogion cyffredin o bob gradd – mwy nag a gafodd yr un wedd o fywyd Iesu ond ei ddioddefaint – pwy a wâd nad ydynt wedi llwyddo yn eu hamcan.

Gwahoddiad i Ryfeddu

A’r Nadolig hwn eto, gwahodda eu straeon ni i ymateb i’w neges â’r un rhyfeddod. Yn ôl un bardd, dwy dalent sylfaenol sydd gennym, y dalent i ddatrys problemau, a’r dalent i gael ein cyffroi gan ddigwyddiadau mawr. Gwaith addysg yw ein dysgu i ddatrys problemau. Ond gwaith yr Eglwys yw ein cynorthwyo i ddatblygu ac ymarfer y dalent ynom i gael ein cyffroi gan ddigwyddiadau mawr, drwy osod digwyddiadau mawr ger ein bron. A pha ddigwyddiad mwy na’r un y sonia straeon y Nadolig wrthym amdano, dyfodiad Iesu ‘tywysog ein hedd’ i’n daear ni.

Vivian Jones

Llyfrau.

The Birth Of The Messiah (Raymond E. Brown, 1977,Geoffrey Chapman, London) .
Y Nadolig Cyntaf, (Vivian Jones, 2006, Tŷ John Penri, Abertawe.)