Agora 44 mis Mawrth-Ebrill 2021

 

Agora rhif 44 mis Mawrth – Ebrill 2021

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

 

Cynnwys

Pa fath ddiwygiad a ddaw nesaf (rhan 3)
John Gwilym Jones

Cristnogaeth Feddylgar
Anna Jane Evans

Eglwys fy mreuddwydion
Anna Jane Evans

Edifeirwch y ddwy ddyletswydd 😉

Pa fath o ddiwygiad a ddaw nesaf (rhan 2)
John Gwilym Jones

Cennad a Thyst
Pryderi Llwyd Jones

Pa fath ddiwygiad a ddaw nesaf? (rhan 1)
John Gwilym Jones

Fe Ddylem fod wedi gwrando ar JP
Pryderi Llwyd Jones

Crefydd, Moeseg a Chyfraith: perygl ceidwadaeth grefyddol
Stephen J Preston

Emyn Gŵyl Dewi
(John Pinion Jones)

 

  • Pa fath ddiwygiad (3)

    Pa fath ddiwygiad (3)

    Ar 13 Medi 1904 yr oedd dyn ifanc o’r enw Evan Roberts wedi cyrraedd Castellnewydd Emlyn yn fyfyriwr yn Ysgol John Phillips, i’w baratoi ar gyfer y weinidogaeth. Fe gafodd letya, ynghyd â chyfaill iddo, Sydney Evans o Gorseinon, yn Tŷ Llwyd gyda dwy chwaer garedig, dwy wraig weddw, Rachel ac Ann Davies. Ond roedd rhyw brofiadau ysbrydol dirdynnol yn gafael ynddo drwy’r wythnos gyntaf fel na allai roi ei feddwl ar wersi. Y Beibl yn unig a roddai dangnefedd iddo. Fe glywodd am y cyffro yn ardal Ceinewydd, a hynny yn cymhlethu ei deimladau.

    Ar Sul, ...

    Rhagor
  • Edifeirwch y ddwy ddyletswydd (gydag ymddiheuriad i Luc 18)

    Edifeirwch y ddwy ddyletswydd (gydag ymddiheuriad i Luc 18)

    Dau ŵr aeth i fyny i’r deml i wneud eu gwaith, y naill yn offeiriad a’r llall yn blisman.

    Yr offeiriad o’i sefyll a weddïodd: “O Dduw, rwy’n diolch nad wyf i fel y plisman hwn, yn ddigywilydd ac yn ddiedifar. Rwy’n arwain gwasanaeth ddwywaith yr wythnos, ac mae hawl gen i i anwybyddu mân reolau dynol am wisgo masg a chadw pellter.”

    Eithr y plisman, wedi iddo fynd yn ôl i’r stesion, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef, eithr efe a gurodd ei ddwyfron a dywedyd wrth ...

    Rhagor
  • Pa fath ddiwygiad (2)

    Pa fath ddiwygiad (2)

    Un arall a oedd yn amlwg yn y cyfnod yn arwain at y Diwygiad oedd Seth Joshua. Roedd ef a’i frawd Frank wedi eu hachub yn un o gyfarfodydd Byddin yr Iachawdwriaeth, ac yn eu gweithgarwch cenhadol cynta yn gweddïo, a chanu a gwerthu Beiblau. Byddai yn erbyn rhoi gormod o bwys ar athrawiaeth. Roedd pobol wedi blino, meddai, ar gael diwinyddion yn gwisgo’r efengyl mewn dillad athrawiaethol newydd. Mae yna lawer porth i’r deyrnas, meddai. Ac roedd Seth Joshua wastad yn uniongyrchol ei ddull a pharod ei ateb. Mae hanes amdano fe’n gofyn yn sydyn ...

    Rhagor
  • Pa fath ddiwygiad a ddaw nesaf?

                        Pa fath ddiwygiad a ddaw nesaf?

                                    (Rhan 1)

    Yn wyneb y chwalfa ddifaol a achoswyd gan yr haint hwn, mae’n rheidrwydd arnom holi beth fydd hynt Cristnogaeth yn ystod y ganrif hon. Un o’r posibiliadau yw y gwelwn eglwysi yn gafael yn yr hanfodion, ac yn wynebu her Iesu i fod yn ddisgyblion a gweision Teyrnas Dduw. Bydd rhai eraill yn fuan iawn yn ystyried posibiliadau diwygiad emosiynol, sy’n medru dod fel corwynt ysbrydol. Dyna paham y gallem ystyried eto beth yw natur y math yna o brofiad. Felly, dyma fynd dros ambell hanesyn o ddwy ganrif ddiweddar ym ...

    Rhagor
  • Crefydd, Moeseg a Chyfraith – perygl ceidwadaeth grefyddol

    Magwyd Steve Preston yn y Beddau, ger Pontypridd, ac yno mae ei gartref o hyd. Wedi gyrfa fel cerddor proffesiynol ar lwyfannau Cristnogaeth Bentecostaidd, gan gynnwys gweithio gyda Mission England, fe aeth Steve i astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers hynny, mae wedi cael gyrfa fel athro ysgol a pherfformiwr, a pherchennog ysgol gerdd a stiwdios cerdd. Mae’n aml yn cyfuno’i ddiddordebau fel cerddor a diwinydd, a thrwy briodas mae ganddo ddiddordeb byw iawn yn yr hyn sy’n digwydd yn yr Unol Daleithiau. Dros y blynyddoedd diwethaf mae e wedi dysgu Cymraeg. Y dylanwadau pennaf arno ...

    Rhagor
  • Cristnogaeth Feddylgar

    Cristnogaeth Feddylgar

    Rhannwyd y cartŵn hwn ar dudalen Facebook Mindful Christianity yr wythnos yma. Mae gwirionedd creiddiol ynddo sydd wedi dod yn amlycach i nifer ohonom dros y cyfnod clo estynedig, ein hadeiladau dan glo a ninnau ar wasgar yn addoli drwy’r cyfryngau rhithwir/rhithiol. (Mae’r ddau ansoddair, er yn golygu realiti(?) gwahanol, yn berthnasol i’n haddoli ar-lein, dybia i!)

    Mae wedi bod yn gyfnod heriol i bawb. Ac fel unigolion ac eglwysi rydym wedi bod yn ymrafael â’n hunaniaeth: pwy a beth ydi eglwys Bethel, Caersalem, Seilo ac ati heb yr adeilad ...

    Rhagor
  • Eglwys fy mreuddwydion

    Eglwys fy mreuddwydion

    AJE

    Y diwrnod o’r blaen cefais hyd i’r myfyrdod hwn gan John Milton Moore, a dyma gynnig rhydd gyfieithiad ohono. 

    Hon yw eglwys fy mreuddwydion:
    eglwys y galon gynnes,
    y meddwl agored,
    yr ysbryd mentrus;
    yr eglwys sy’n gofalu,
    sy’n iacháu bywydau briwedig.
    sy’n cysuro’r hen,
    ac yn herio’r ifanc;
    nad yw’n gweld rhaniadau diwylliant na dosbarth;
    dim ffiniau daearyddol na chymdeithasol;
    yr eglwys sy’n holi yn ogystal â honni,
    sy’n edrych ymlaen yn ogystal ag yn ôl;
    eglwys y Meistr
    eglwys y bobl,
    mor uchel â delfrydau Iesu,
    mor isel â’r person mwyaf ...

    Rhagor
  • Cennad a Thyst

    Cenn@d a Thyst

    Gŵyl Ddewi eleni lansiwyd dau gylchgrawn wythnosol Cymraeg. Un oedd Cenn@d, cylchgrawn newydd y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid, yn cyfuno’u papurau enwadol, sef Seren Cymru (1856) a’r Goleuad (1869).

    Yr un wythnos yr oedd yr Annibynwyr yn ail-lansio Y Tyst, eu papur wythnosol, gyda sôn am ddatblygiadau cyffrous ar gyfer y papur a’u gwefan. Nid oeddynt am ymuno â’r Bedyddwyr a’r Presbyteriaid i gyhoeddi un papur wythnosol ar lein.

    Fel arfer, testun llawenydd fyddai cylchgrawn Cymraeg newydd, heb sôn am ddau (er mai ail-lansio oedd un) ond, i’r rhai a ŵyr y cenfndir, cymysgedd o ddiolch heb ddathlu, ...

    Rhagor
  • Fe ddylem fod wedi gwrando ar JP

     

    Fe ddylem fod wedi gwrando ar JP (Lewis Valentine)

    (Meddyliau Gŵyl Ddewi)

     Beth sy’n gyffredin rhwng Martin Luther King, Dorothy Day, Daniel Berrigan, a J. P. Davies? Eu bod yn heddychwyr fyddai un ateb. Ie, ond beth oedd sylfaen eu heddychiaeth? Yr ateb yw mai pobl o ysbrydolrwydd dwfn oeddynt i gyd ac mai o’r ysbrydolrwydd hwnnw y tarddodd eu gweledigaeth o Gristnogaeth fel cerdded y ffordd ddi-drais wrth ddilyn Iesu o Nasareth. Y lleiaf adnabyddus o’r rhai a enwyd (hyd yn oed i Gymry erbyn hyn) yw J. P.Davies. Prin, os o gwbwl, fu’r cyfeiriad ato wrth gofio hanner canmlwyddiant ei farwolaeth ...

    Rhagor
  • Emyn Gŵyl Dewi

    Emyn Gŵyl Dewi

    Bu rhai ohonom sy’n gysylltiedig ag Agora yn ceisio meddwl tybed a oes yna emyn addas at Ddydd Gŵyl Dewi sy’n llai cyfarwydd na’r rhai a gynhwysir yn Caneuon Ffydd, ond eto’n werth cofio amdano.

    Yr un a ddaeth i’r amlwg oedd emyn o eiddo’r Parchedig John Pinion Jones a gynhwysir yn y gyfrol Mil a Mwy o Emynau(Gol: Y Parchg. Ddr Edwin Courtney Lewis) dan y teitl ‘Emyn Dros Gymru’

    Tywynned haul dy gariad, Iesu mawr,
    Ac arwain di ein gwlad â’th lewyrch ...

    Rhagor