Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin 14 Tachwedd 2021

Dewiswch fywyd

Y dyddiau yma teimlaf fy mod wedi fy ngorlethu gydag anghenion cymdeithas a byd – anghenion sy’n pentyrru ym mhob man.  Nifer y teuluoedd sydd angen bwyd yng Nghymru yn tyfu a straeon effaith Cofid ar ein pobl a’n plant yn amlhau.   Yna deddfau ar y gweill  i’w gwneud yn anoddach protestio,  croesawu’r ffoadur, diogelu gwasanaethau iechyd a sicrhau ein hiawnderau.

Yn rhyngwladol mae iawnderau dynol mewn perygl mawr a does dim ond angen enwi Israel/Palestina,  yr Uighurs a Myanmar …  Mae democratiaeth mewn peryg – yn America,  Hwngari, Tsieina, Rwsia …Mae newyn yn cynyddu, ac anghyfiawnder yn amlhau.

Arferwn deimlo fod pethau’n gwella er yn lawer rhy araf .  Ond beth welaf?  Banciau bwyd ymhob tref ym Mhrydain; mwy o gwmnïau yn elwa o afiechyd; ofn dieithriaid o’n cwmpas; tlodi’n  gwaethygu; hil-laddiad yn cynyddu.  A dwi ddim wedi sôn am argyfwng y Cread ei hunan!

Mae bron pob sgwrs y dyddiau yma am yr angen a’r boen.

Nid wyf erioed wedi deall pam roedd angen i Deuteronomiwm ddweud ‘Dewiswch fywyd nid marwolaeth’.  Pwy fyddai yn dewis marwolaeth yn lle bywyd?  Ond sylweddolaf faint o bobl a sefydliadau sy’n gwneud hynny.  Oherwydd fod yna arian i’w wneud wrth ein cyflyru i ofni cymaint, yn ein hofn yr ydym yn ynysu rhag eraill – a dewis marwolaeth.

Yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd teimlad o bopeth yn dod i ben ac argyfyngau lawer yn wynebu’r byd.   Yng Nghymru bu farw tua 40,000 o ddynion ifanc yn y brwydro ac yna, yn fuan wedyn amcangyfrifwyd colli tua 10,000 o Gymry i’r ffliw. Roedd y cyfan yn ofid a gwae.

Ynghanol hyn i gyd trefnwyd Apêl gan wragedd Cymru.  Yn 1924 arwyddodd bron i 400,000 o wragedd Cymru Apêl Heddwch at fenywod yr Unol Daleithiau, yn erfyn arnynt i berswadio eu llywodraeth i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.  Yn sgil y Rhyfel roeddynt yn ceisio cyfeillgarwch rhwng cenhedloedd er mwyn osgoi rhyfel arall. 

Mae grŵp bychan Heddwch Nain/Mam-gu wedi cydio yn yr hanes hwn a bellach yn rhan o bartneriaeth ehangach i ddathlu a choffau canmlwyddiant y digwyddiad hanesyddol hwn.

Heddiw, yn sgil pandemig rhyngwladol, fe wynebwn ninnau fygythiadau i heddwch, iechyd a dyfodol ein byd.  Fel gwragedd, rydym yn ddyddiol yn dioddef  effeithiau tlodi, afiechyd, anghyfiawnder, eithrio a thrais.  Mae angen llawer mwy  na choffâd a dathliad ac yr ydym, fel grŵp o ferched  am geisio herio ein hunain ar sut i wireddu breuddwyd gwragedd 1924 am fyd di-ryfel.

Roedd gallu’r gwragedd i gasglu bron i 400,000 llofnod mewn cwta chwe mis, ac mewn oes heb ryngrwyd, ffôn na cheir, yn golygu gweledigaeth a gwaith caled.    Bu cannoedd yn cerdded a chnocio drysau a chafwyd cefnogaeth eglwysi, capeli, grwpiau gwragedd, grwpiau hanes a grwpiau heddwch yn eu plith.  Trefnasant fod y llofnodion yn cael eu hebrwng i’r Amerig  lle cyflwynasant yr Apêl i 300 o fudiadau gwragedd ac i’r Arlywydd Coolidge.

Sbardunwyd fi yn ystod y pandemig gan hanes ein cyn-neiniau.  Mae’r angen yn parhau i ‘ddewis bywyd’ heb wybod yn iawn beth mae hyn yn mynd i’w olygu. Ond y mae’n siŵr o olygu  gobaith er gwaethaf popeth.

Gwahoddwn ni chi i ymuno.  Mae criw ohonom yn fodlon siarad â phobl ac â mudiadau i rannu’r hanes ac i weld yma ffordd y gallwn ddewis bywyd yn y Gymru gyfoes. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â   heddwchnain.mamgu@gmail.com

 

 

E-fwletin 7 Tachwedd, 2021

Hedfan i mewn i’r gwynt

Mae’n siŵr bod yr “Ail Eseia” wedi ymweld â rhyw fferm ar ddiwrnod cneifio, ac wedi rhyfeddu fel y byddai “dafad yn ddistaw yn llaw’r cneifiwr” (53.7). Mae’r darlun yn hollol gywir ac yn fyw i mi. Ond rwy’n cofio meddwl unwaith na allai’r awdur hwnnw fod wedi cael ei fagu ar fferm, neu ni fuasai wedi dweud “Nyni oll a grwydrasom fel defaid: troesom bawb i’w ffordd ei hun” (53.6). Petai erioed wedi gorfod trafod y creaduriaid hynny fe fyddai wedi dysgu drwy brofiad chwerw nad crwydro i’w ffordd ei hun a wna dafad, ond mynd ar gyfeiliorn drwy ddilyn rhyw ddafad fentrus o arloesol. Honno fyddai wedi gweld y bwlch bach yn y clawdd ac wedi ffroeni ei ffordd drwodd, a’r lleill i gyd yn dilyn. Felly nid un ddafad golledig a gaech chi ond praidd colledig wedi gadael eu cynefin. Peth anarferol iawn yw dafad golledig.

Yn ystod y Pandemig hwn fe welwyd ambell ddafad od yn mynnu hau celwyddau yn erbyn brechu nes creu amheuaeth ym meddyliau defaid eraill, a’r rheini yn rhy barod i’w dilyn. Cofiwch, mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gennyf barch at yr anghydffurfiwr: y meddwl unigolyddol hwnnw sy’n mynnu aredig ei gŵys ei hun. Bellach rwy’n fwy parod i weld nad hwnnw efallai sy’n iawn bob tro. Hwyrach i Donald Trump, o ddifyr goffadwriaeth, faglu i mewn i’r gwirionedd pan gawliodd, mewn araith yn Philadelphia, rhwng “herd immunity” a “herd instinct”. Fe all greddf yr haid, yn ogystal ag imiwnedd yr haid, fod weithiau yn fuddiol iawn.

Y mae gan rai ifanc yn ein teulu ni ddiddordeb mewn seiclo, a pheri i ryw greadur disymud fel fi ddysgu rhywbeth am y gamp. Pan fyddant yn cystadlu mewn tȋm byddant yn trefnu fod pob aelod am ryw hyd yn mynd ar y blaen i dorri drwy rym y gwynt, gan arbed egni gweddill y tȋm. Bydd hynny’n golygu gwell cyfle i’r tȋm cyfan wedyn groesi’r llinell derfyn ar y blaen, ac ennill y ras. Fe welsom o hydref i hydref heidiau o adar yn hedfan gan drefnu eu hunain yn yr un modd, a greddf yr haid yn sicrhau y bydd hyd yn oed y gwannaf yn cyrraedd gwlad yr addewid.

Beth fydd pawb a derbyniodd frechlyn ac a wisgodd fasg yn ei wneud ond cymryd rhan o’r baich er mwyn y tȋm. Beth a wna pob gweithiwr iechyd, a gweithwyr mewn cartrefi gofal, ond cymryd eu tro i gysgodi’r bregus. A dyna bwrpas eglwys: modd i ni oll yn ein tro i hedfan i ddannedd y gwynt er mwyn eraill.

E-fwletin 31 Hydref 2021

Beth yw’r cysylltiad rhwng teisen a thrên a gweledigaeth?
Dewch gyda mi ar daith y meddwl!

’Sgen i ddim i’w dweud wrth Galan Gaeaf. Anwybydder y pantomeim a goleuo cannwyll ddweda’ i.

Ond sawl un ohonom sy’n cofio mynd ar drên bach ysbrydion mewn ffair a chael ofn enbyd? Yn y foment honno, roedd yr arswyd yn real, a’r cryndod ym mêr yr esgyrn yn rhywbeth cyffyrddadwy. Ar hyn o bryd rydym yn teithio drwy gyfnod o ofid. Mae gweld dirywiad yn nifer mynychwyr ein heglwysi yn destun pryder ac mae ceisio dirnad sut mae rhwydweithio cariad Duw, mewn modd byw a ffyddiog, yn daith yr ydym yn ymrafael â hi’n barhaol erbyn hyn. Wyddoch chi mai’r gair ‘gweddi’ oedd y gair mwyaf poblogaidd ar safle chwilio’r we yn ystod mis Mawrth 2020 a bod y nifer oedd yn chwilota ystyr y gair wedi codi dros 50% o fewn mis yn ystod dechrau’r cyfnod clo? Ydy, mae’r angen am Dduw yno o’n cwmpas ac mae’n wirioneddol real.

Clywais rywun yn ddiweddar, oddi fewn i furiau capel, yn dilorni’r syniad o ail-ddechrau cwrdd gweddi. Hawdd fyddai digalonni o glywed ebychiad o’r fath a phenderfynu neidio oddi ar drên ein teithio fel capelwyr. Gallwn fod wedi dyfynnu’r gân ‘The Warning’ sydd, gyda llaw, yn ymdebygu’n agos i’r gân ysbrydol ‘The Gospel Train’, – ‘Behold your station there, Jesus has paid your fare, Let’s all engage in prayer, Be in time!’

Ond mae digon o gecru’n digwydd ymysg ein gilydd fel pobl, fel enwadau, fel cyfranwyr gwefannau cymdeithasol, i lenwi trên i ebargofiant a pwy sydd eisiau bod ar y trên hwnnw? Nid y fi.

Adnabyddir Crewe yn Sir Caer fel tref ddiwydiannol ac mae’r gweithfeydd cynnal-a-chadw trenau yno’n enwog. Ar arfbais y dref yn wreiddiol yr oedd y geiriau ‘Never Behind’, ond penderfyniad cyngor y dref yn y saithdegau oedd ei newid i ‘Always Ahead’ neu ‘Semper Contendo’ fel sydd ar yr arfbais; yn ogystal penderfynwyd ychwanegu’r geiriau ‘Semper Progrediamur’ i arfbais bwrdeistref Crewe & Nantwich sef ‘Always Progress’ neu beth am hyn:  ‘Dewch bois bach! Gadewch inni symud ymlaen!’ Ebychiad arall sydd i’w glywed yn aml.

Dilyn yr hen arfer o ymweld â beddau hynafiaid ar Ddygŵyl Eneidiau, sef yr ail o Dachwedd, wna’r ffilm animeiddiedig ‘Coco’ gan Pixar/Disney; mae’n werth ei gweld, a byddwn yn argymell teuluoedd i eistedd a’i mwynhau gyda’i gilydd. Traddodiad Catholig ydyw yn fwy na dim wrth gwrs, ond mae’n parhau gyda’n cyfeillion Ewropeaidd hyd heddiw.

Dros Glawdd Offa hefyd, ers talwm, byddai Teisennau’r Enaid yn cael eu pobi ar gyfer y cantorion hynny a arferai deithio o gwmpas yr ardal ar Noswyl yr Eneidiau yn cynnig gweddïau am y danteithion. Beth bynnag a gredwch chi ynglŷn ag eneidiau ym mhurdan neu yn y nefoedd, mae modd inni i gyd gofio a rhoi diolch am yr hyn a gyflawnwyd gan ein hynafiaid a’r modd y bu iddynt ymdrechu ymlaen yn wyneb caledi o bob math.

Beth am i ninnau ymroi, wrth i’r clociau symud nôl a’r nosau’n hir, i ymddatod ein heneidiau oddi wrth ddigalondid, i osgoi beirniadu ein gilydd, ond yn hytrach i gyd-weithio, trafod yn ddi-ofn, cyd-weddïo, ac yn bennaf oll i barhau ar y daith.

Ymlaen ar y trên gyfeillion!

E-fwletin 24 Hydref, 2021

Mae’r Pab Francis, druan, wedi ei amgylchynu â phobl sy’n arddel awdurdod y Pab ond yn brwydro yn ei erbyn. Bu’n sgwrsio gydag aelodau o’i Urdd ei hun, yr Iesuwyr, gan gyfaddef bod yna aelodau o Eglwys Rufain oedd yn deisyf i’w salwch diweddar fod yn angheuol. “Mae ar bobl ofn rhyddid,” meddai. “Maen nhw am ffoi i’r gorffennol gan feddwl bod yno ddiogelwch di-sigl”.

Beth wnaeth e? Cyfyngu ar ddefnydd o’r hen Offeren, ‘Dridentaidd’.

Ers cyfnod adnewyddiad Fatican 2 mae ffurf yr offeren wedi ei chymhwyso’n ddiwinyddol a bellach yn cael ei gweinyddu yn ieithoedd y bobl heddiw. Ond mae ‘na offeiriaid ifanc, newydd eu hordeinio, sy’n awyddus i ddefnyddio’r hen wasanaeth. Gofynnodd dau ohonyn ‘nhw i’w hesgob am ganiatâd i astudio Lladin. Dywedodd yr esgob wrthynt fod angen iddyn nhw ddysgu Sbaeneg yn gyntaf, gan fod cymaint o bobl yn eu hesgobaeth yn siarad yr iaith honno. “Wedyn” meddai “dewch nôl ata’i, ac fe ddywedai wrthoch chi faint o bobl yn eich esgobaeth sy’n siarad iaith Fietnam. A phan fyddwch chi wedi dysgu’r iaith honno dewch yn ôl ata’i am yr hawl i astudio Lladin.” Ychwanegodd bod angen ar yr offeiriaid ifanc i gadw’u traed ar y ddaear.

Mae cadw traed ar ddaear yn anodd am fod yr amgylchiadau ar hyn o bryd mor heriol, a gwawd y di-ffydd yn dibynnu ar yr hyn y gellir ei brofi’n wyddonol a materol.

Pleser felly yw darllen traethodau gan Marilynne Robinson, y nofelydd hynod o America, yn llefaru’n ddi-dderbyn-wyneb dros ei ffydd yn wyneb dirmyg y deallusion balch. Mae hi’n cymryd yn ganiataol nad ydi’r asgell dde geidwadol – a Trump pan fu’n chwifio’i Feibl o gwmpas – yn ddim ond llurguniad o’r ffydd. Yn ei chyfrol ddiweddaraf What are we doing here? (Gwasg Virago £9.99) mae hi’n herio ‘hanes’ poblogaidd America mewn ffordd ddeifiol iawn: “Beth bynnag yw ‘realiti hanes’, gwelwn pa mor bwysig yw hanes pan yw’r stori a adroddir ynddo yn ffug”.

Mae’n demtasiwn i bawb, y crefyddol a’r seciwlar eu bryd, i wrthod ail-ddehongli eu hanes a glynu wrth fytholeg sy’n cyfiawnhau eu rhagfarnau. Rydyn ni’n pigo a dewis ein ‘hanes’ i gyfiawnhau’n teyrngarwch, ein gwleidyddiaeth, ein moesau neu’n henwad.

Yn ei chyfrol ar O. M. Edwards mae Hazel Walford Davies yn dinoethi casineb O.M. at Eglwys Rufain. Ond mae propaganda Oes y Tuduriaid yn dal yn gryf yn ein bryd. Ymladd hen ddadleuon – ac roedd angen diwygio’r Babaeth yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r pymthegfed. Ond mae angen cofio mai un o sgil effeithiau rhoi rhyddid i ddehongli’r Beibl i’r bobl fu dau gan mlynedd o ryfel yn Ewrop. Bu’r casineb a enynnwyd yn wenwyn hyd ein hoes ni.

Bu Cristnogaeth yn arf yn llaw’r rhai oedd yn hapus i elwa ar feddiannu caethion. Darllener nofel ddeifiol newydd Jerry Hunter Safana.

Awn ni ddim ar ôl problemau’r Pab Francis druan, ond mae ei anawsterau ef yn ddameg i agweddau digon tebyg ymhlith Protestannaidd. Sut mae diwygio heb gynnau coelcerth o gweryl?

E-fwletin 17 Hydref, 2021

Airey Neave, Robert Bradford, Syr Anthony Berry, Ian Gow, Jo Cox, Syr David Amess.

Mae’n syfrdanol meddwl bod chwech o Aelodau Seneddol San Steffan wedi’u llofruddio yn ystod yr hanner can mlynedd ddiwethaf a thristwch o’r mwyaf oedd clywed brynhawn dydd Gwener am lofruddiaeth erchyll y diweddaraf ohonynt, sef Syr David Amess. Ychydig wedi hanner dydd y trywanwyd Aelod Seneddol Southend wrth iddo gyfarfod â’i etholwyr yn Eglwys Fethodistaidd Belfairs, Leigh-on-Sea, Swydd Essex.

Disgrifiwyd Syr David Amess gan aelodau o bob un o’r pleidiau gwleidyddol fel person caredig a chyfeillgar a oedd bob amser yn barod i gynorthwyo eraill. Roedd hefyd yn Gristion o argyhoeddiad. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’i deulu a’i gydweithwyr yn y golled lem a boed i’r Duw byw gynnal eu breichiau yn eu hiraeth a’u galar. 

Yn sgil y llofruddiaeth sbardunwyd trafodaeth am ddiogelwch Aelodau Seneddol ynghyd â’r staff sydd yn eu cynorthwyo wrth iddynt gyfarfod wyneb yn wyneb â’r cyhoedd.  Yn y flwyddyn 2000 llofruddiwyd Andrew Pennington, cynorthwyydd yr Aelod Seneddol Nigel Jones. At hynny, mae gofid mawr am y modd y mae Aelodau Seneddol yn derbyn negeseuon bygythiol a budr dros y cyfryngau cymdeithasol, yn bennaf gan unigolion dienw sy’n cuddio y tu ôl i enwau ffug. Yn ystod yr ymgyrch ar gyfer etholiad 2017 cyfeiriodd Amess at y modd yr oedd pobl o bob oed yn defnyddio iaith anweddus wrth siarad ag ef ac fel yr oeddent yn barod i roi’r bai ar y gwleidyddion am bob dim oedd yn mynd o’i le yn eu bywydau. Ym mis Mawrth eleni adroddwyd bod Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, wedi derbyn negeseuon bygythiol dros y cyfryngau cymdeithasol am ei bod fel petai’n cysgu yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn San Steffan. Ac ym mis Gorffennaf ymgasglodd cannoedd o brotestwyr oedd yn gwrthwynebu mesurau Covid-19 y tu allan i gartref Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yng Nghaerdydd. Yn sicr mae’r llofruddiaethau, y casineb a’r diffyg parch yn annerbyniol.

O ganlyniad i lofruddiaeth David Amess mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi gofyn am adolygiad llawn o’r trefniadau diogelwch ar gyfer Aelodau Seneddol ac awgrymodd un Aelod y dylid gwahardd cyfarfodydd wyneb yn wyneb am y tro.  Yn ddi-os mae’r cyfle i gyfarfod gyda’n cynrychiolwyr mewn syrjeri, garddwest, neu ar fws neu drên, wedi bod yn rhan bwysig a gwerthfawr o’r drefn ddemocrataidd a go brin y byddai unrhyw un ohonom yn awyddus i ildio’r cyfleoedd hyn a derbyn trefn fwy cyfyngedig.   

Ym marwolaeth drasig a chynamserol David Amess cawn ein hatgoffa eto o’r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn adeiladu a chreu cymdeithas wâr a chyfiawn a fydd yn parchu democratiaeth: cymdeithas lle gall Aelodau Seneddol gyfarfod â’u hetholwyr heb ofni ymosodiadau ffiaidd a negeseuon bygythiol a budr dros y cyfryngau cymdeithasol. Ie, cymdeithas sydd yn cynnal rhinweddau o gwrteisi, caredigrwydd a goddefgarwch er lles pob yr un ohonom.

Deled dy Deyrnas.   

 

E-fwletin 10 Hydref 2021

Er fy mod yn dablan (fedra i ddim meddwl am air gwell, ac mae hwn yn cael sêl bendith Geiriadur Gomer) ar “Twitter” o bryd i’w gilydd, does gen i fawr o amynedd gyda’i frawd mawr “Facebook”. Rhan o’r rheswm mae’n siwr yw nad wyf erioed wedi deall y cyfrwng yn iawn, ond rhan arall yw’r amheuaeth fod y creadur wedi tyfu i fod yn fwystfil allan o reolaeth. Neu, a bod yn fwy manwl, wedi tyfu i fod yn fwystfil sy’n rheoli bywydau biliynau (ie, nid miliynau) o bobol ar draws y byd – gan gynnwys y chi a fi wrth gwrs.

Daeth hyn yn fwy clir yn ddiweddar pan fu Facebook (a’i blant niferus Whatsapp, Instagram ac ati) ar stop am oriau. Roedd yr esboniad am y digwyddiad yn ymylu ar ffars – sef bod Facebook yn rheoli cymaint o agweddau ar y rhithfyd digidol nes ei fod wedi cau ei hun allan o’i gartref ei hun! A’r ateb yn y pen draw oedd i rywun orfod teithio cannoedd o filltiroedd efo goriad i agor drws oedd yn caniatau mynediad i’r peiriannau oedd wedi cael eu diffodd gan Facebook ei hun, ond am nad oedd eu hebyst yn gweithio, doedd y neges ddim wedi ei derbyn. Mae’n siwr nad yw’r esboniad hwn yn hollol gywir gen i, ond siawns fod yma destun pregeth i rywun yn rhywle!

Ers y gyflafan hon (a gostiodd £6 biliwn i Mark Zuckerberg mae’n debyg, ond na phoenwch, mae ganddo £117 biliwn yn weddill), mae pethau go hallt wedi eu dweud am y modd y mae Facebook yn rheoli bywydau, ac yn enwedig bywydau pobol ifanc, a merched ifanc yn fwya penodol. Un o’r pethau mwyaf damniol a ddywedwyd – a hynny gan bobol hyddysg iawn yn y maes – oedd fod y cwmni yn ymwybodol iawn o’r peryglon hyn, ond am fod holl ethos y cwmni yn cael ei arwain gan algorithm sy’n gosod gwneud elw uwchben pob ystyriaeth arall, doedd dim modd – neu’n sicr ddim ewyllys nac awydd – i newid pethau. Gwneud elw, a mwy o elw yw’r duw sy’n rheoli.

Ond sut y mae’r cwmni anferthol hwn yn rheoli bywydau? Dyna yw’r cwestiwn y dylem bawb fod yn ei ofyn, er mwyn ceisio deall y grymoedd sydd ar waith yn well. Mae pob peth a ysgrifenniwn ar ddalennau Facebook , ac yn fwy brawychus fyth – pob peth a ddwedwn ar ein ffonau clyfar (neu hyd yn oed o fewn cyrraedd y ffonau hyn pan fyddan nhw ynghwsg!), a phob “like” a gliciwn, a phob nwydd a archebwn, yn mynd i mewn i fol y cyfrifiadur mawr canolog fel ei fod yn gwybod am ein cudd feddyliau a’n dyheadau oll. Ac o ganlyniad, mae negeseuon  – personol, masnachol a gwleidyddol – yn cael eu hanfon atom yn ddigymell, a hynny, yn ddiarwybod inni, yn penderfynu sut y byddwn yn siopa, sut y byddwn yn ymateb i ddigwyddiadau a syniadau, a sut y byddwn yn pleidleisio. Ond efallai mai’r gofid mwyaf yw fod y grymoedd cudd holl-bresennol hyn yn dylanwadu ar bobol ifanc a phobol unig a phobol ddiymgeledd nes achosi poen meddwl a cham-drin emosiynol.

Mae’n hawdd gorymateb i’r pethau hyn wrth gwrs, ac y mae’n hawdd i’r cyfan droi yn baranoia peryglus. Ond os yden ni o ddifri am geisio deall pam y daeth Donald Trump i rym, a sut y mae Boris Johnson yn dal mewn grym, efallai y dylem feddwl eto am ein cyfaill Facebook.

 

E-fwletin 3 Hydref 2021

TROI PROBLEM YN GYFLE

Nos Fawrth, cytunodd Cyfarfod Blynyddol Cristnogaeth 21 i gyfrannu i’r drafodaeth mewn sawl man o Gymru am ddyfodol capeli ac adeiladau eglwysig gweigion a sut i ddiogelu nad yw eu gwerthu yn ychwanegu at broblem ail gartrefi a chodi prisiau cartrefi parhaol yn ein cymunedau.

Hawdd bod yn sinicaidd – fe drowyd capel Tresaith i fod yn ganolfan ieuenctid gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a llawer ohonom wedi cael budd ohoni, ond nid ataliodd hynny troi gweddill y pentref yn gartrefi gwyliau. Methodd yr Eglwys â pharhau i’w chynnal a bellach mae’r ganolfan mewn dwylo preifat.

Ond mae yna atebion ar gael – a dyma sôn am ddau ohonynt. Cyfeiriwyd yn y cyfarfod at Housing Justice Cymru. Hyd yn ddiweddar, delwedd Saesneg ei hiaith fu iddi, ond mae hynny yn newid, a mae ganddynt staff yng Nghymru sydd yn llywio rhaglen Ffydd mewn Tai Fforddiadwy, sy’n defnyddio safleoedd eglwysig di-angen i godi tai fforddiadwy i’r gymuned leol. Hyd yma, yng Nghaerdydd a’r Cymoedd y cyflawnwyd rhan fwyaf y prosiectau, gan ddarparu bron i 100 o gartrefi newydd. Mae’r mudiad bellach wedi trefnu partneriaethau gyda chymdeithasau tai ymhob rhan o Gymru – megis Grŵp Cynefin yn y gorllewin.

Nid oes raid cau’r achos er mwyn i’r gymuned fanteisio. Er enghraifft, mae cynllun yn Grangetown yng Nghaerdydd yn cadw gofod i gynulleidfa Eglwys S. Paul ac yn darparu cartrefi i’r gymuned. Er y gall Grangetown ymddangos yn dra gwahanol i bentrefi gwyliau’r Gorllewin, maent yn dioddef rhai o’r un problemau – fel y nododd Leena Farhat mewn erthygl ddeifiol yn The National yn ddiweddar.

Beth bynnag eich barn am ddadl Leena, mae’r ofn y gwelir cymunedau yn cael eu boddi gan ail gartrefi yn ofn a rennir rhwng y Fro Gymraeg ac ardaloedd megis Bae Caerdydd, lle mae llawer o’r fflatiau ar hyd Rhodfa Lloyd George ac yn y Marina yn gartrefi gwyliau neu’n gartrefi gwaith yn unig, gyda’r perchnogion yn byw gweddill yr amser mewn man arall ac yn cyfrannu fawr ddim i’r gymuned gynhenid. Mae cynllun Grangetown yn darlunio sut y gall eglwysi gynnig rhywbeth (llythrennol) adeiladol i’r sefyllfa.

Nid pob capel segur sy’n addas ar gyfer cartrefi fforddiadwy. Mae rhai mewn mannau sydd wedi diboblogi am nad oes economi leol all gynnal pobl bellach. Mae eraill mewn man sy’n fregus o ran llifogydd neu lle nad yw’r tir yn addas i godi tai. Ond os yw’r safle mwy neu lai yn ddiwerth yn economaidd, oni ellid ystyried cyfrannu at ddatrys argyfwng arall, yr argyfwng natur? Gall rhai o’r safleoedd hyn fod yn ddelfrydol ar gyfer creu hafan i fywyd gwyllt, ac yn aml gall hynny fod yn gydnaws â chadw’r hen fynwent ar agor i’r cyhoedd hefyd, gan helpu disgynyddion y boblogaeth ddynol a byd natur yr un pryd. Mae mudiadau cadwriaethol megis ymddiriedolaethau natur o dro i dro yn chwilio am safleoedd o’r fath.

Felly mae penderfyniad Cristnogaeth 21 yn agor posibiliadau cyffrous i helpu llunio defnydd Cristnogol ar gyfer yr 21ain ganrif ar gyfer hen adeiladau a safleoedd, a throi problem yn gyfle.

A ninnau ar drothwy Diwrnod Cofio Waldo, mae’n addas mai dyna sydd wedi mynd â bryd awdur e-fwletin yr wythnos hon:

Wrth y garreg

Daeth cyfle arall drachefn i draethu wrth y garreg goffa ar gomin Rhos-fach. Cyrhaeddodd y criw camera mewn da bryd yn unol â’u gair. Cafwyd cyfnewid cyfarchion ond ni fu ysgwyd dwylo. Dadlwythwyd yr offer a’i osod yn ei le. Gwrandawyd ar y gwcw yn y pellter. Ni wn beth oedd ei neges. Mae yna wastad rhywbeth i dynnu sylw. Roedd yna eraill wedi parcio yno’n unswydd i wrando ar un o arwyddion y gwanwyn. Roedd yno wynt bach main a’i gwnâi’n ofynnol i wisgo pilyn cynnes.

Fe’m dilynwyd yn cerdded at y garreg bigfain droeon gan y camera. Rhaid oedd i mi sefyll a syllu. Fe’m gosodwyd i eistedd ar garreg. Gyda thrylwyredd y gwnaed yn siŵr bod fy osgo’n gymwys ac ongl y camera yn gwneud cyfiawnder â mi. Llyncais fy mhoeri. Cliriais fy ngwddf a pharod oeddwn i ynganu fy mrawddeg agoriadol. Ond och ac aw tarfwyd arnom.

Cyrhaeddodd hyrdi gyrdi a edrychai fel carafán sipsiwn wedi’i haddasu gyda simne fwg ar ei tho. Roedd yn gartref ac yn declyn teithio i rywrai. Roedd yn swnllyd. Disgynnodd dyn a dynes a rhoces ifanc ohoni. Taerwn nad oedd y ferch yn fwy na seithmlwydd oed. Sgipiai’n hyderus tuag atom yn ei wellintons bawlyd gan dywys ei rhieni. Amgylchynwyd hwy gan wynt mwg coed tân.

Roedd yn amlwg eu bod yn gwybod am fodolaeth y garreg. Oedd y ferch yn cael ei haddysgu adref tybed ac mae rhan o wers y prynhawn oedd ymweld â’r garreg i dalu gwrogaeth? Ni hidient am yr hyn a oedd ar y gweill gennym ni. Mae’n bosib bod teledu yn rhywbeth dieithr iddyn nhw.

Bu’r tri’n panso darllen y plac wrth ymyl. Gallwn fod wedi esbonio mai am fod ymwelwyr o bell wedi dyfalu mai coffau march a wnâi’r garreg ag un enw arni y gosodwyd gwybodaeth bellach ar blac. Ond roeddwn yn awyddus i gyflawni dyletswydd arall. Troes y tri ar eu sodlau, dyfalwn mai acenion cryf y Cymoedd a glywn, wrth iddyn nhw ddringo i’r siarabáng, a diflannu. Gwers y prynhawn ar ben.

Ailgydiwyd yn yr orchwyl gyda’r dyn camera yn llwyddo i greu gwaith celf o ddim byd. I gyflawni’r dasg rhaid oedd canfod coeden i glymu rhubanau ar ei changhennau. Canfuwyd y goeden ddeiliog berffeithiaf erioed wrth fynedfa tyddyn gerllaw. Aed ati i ofyn caniatâd ac esbonio’r bwriad. Syllodd y wraig yn hir a syn o glywed y fath gais anghyffredin.

Esboniwyd bod y bardd roeddem am hongian llinellau o’i eiddo wedi dewis adnod o Lyfr y Datguddiad yn sail ar gyfer teitl ei unig gyfrol. Fe’i syfrdanwyd a hithau’n gwneud dim mwy na chwynnu’r ardd ar y pryd. Tra roedd y camera’n cyflawni ei driciau celfydd diflannodd hithau i’r tŷ.

Dychwelodd gan gadarnhau iddi ganfod yr adnod a chan estyn copi dwyieithog yr un o Efengyl Luc yn fychan ac yn sgleiniog i ni. Rhyw brofiadau annisgwyl felly, yn cadarnhau ei ffydd yn y ddynoliaeth, a ddeuai ar draws Waldo ei hun yn gyson.

E-fwletin 19 Medi 2021

Spong

Yr wythnos hon fe fuodd Yr Esgob John Shelby Spong farw yn 90oed. ‘Nes i erioed gyfarfod y dyn, ond fe newidiodd fy mywyd i.

Fe wnaeth Spong i mi feddwl, a rhoddodd wedd newydd i mi ar Iesu Grist. Rhoddodd yr atebion yr oeddwn i’n chwilio amdanyn nhw pan oedd diwinyddiaeth Ysgol Sul y 70au wedi hen fethu, a minnau wedi rhoi’r gorau i feddwl. Er fy mod mewn eglwys fywiog eangfrydig, doedd gen i fy hun mo’r arfau deallusol i gyfiawnhau fy aelodaeth o’r eglwys i mi fy hun heb sôn am fy ffrindiau yn y dafarn. Ond daeth Spong.

Proffwyd yn ei oes ei hun, ac fel dywedodd rhywun am y gwirionedd, fe’i dilornwyd, ac fe’i gwrthwynebwyd yn ffyrnig nes ei dderbyn yn ddigamsyniol.

Dyrchafwyd Spong er ei waethaf ei hun a heirarchiaeth ei eglwys, yn Esgob. Llwyddodd i gadw’r swydd honno er gwaethaf ei wrthwynebwyr, a’i defnyddio fel llwyfan i gyfathrebu ei neges i’r byd.

Roedd yn ddiwinydd praff a deallus ond yn gyfathrebwr syml a grymus.

I mi eglurodd ffeithiau syml ond chwyldroadol.

Ganwyd Cristnogaeth yn y Synagog ac fe’i magwyd yno am yn hir iawn. Iddew oedd Crist ac fe lapiwyd yr ysgrythurau Iddewig amdano. Wnaeth y Beibl ddim proffwydo dyfodiad Crist. Ysgrifennwyd hanes Crist gyda’r ysgrythurau Iddewig ar agor fel bod y stori honno’n cyflawni’r hyn a broffwydwyd ganddynt.

A’r frawddeg ysgytwol a gaed ganddo’n gyson oedd – ac mae pob ysgolhaig Beiblaidd yn gwybod hyn.

Felly sut nad oeddwn i’n gwybod? Sut nad oedd degawdau o bregethwyr huawdl wedi llwyddo i gyfathrebu hyn i mi? Wrth gwrs byddai rhai yn gwadu hyn. Ond roedd llu o rai eraill yn cadw’n dawel; er mwyn cadw’r ddysgl eglwysig yn wastad, rhai yn ei sibrwd rhwng y llinellau fel bod y rhai oedd eisoes yn gwybod yn ei glywed. Ond doeddwn i ddim yn clywed nac yn deall. Fel maen nhw’n dweud, roedd angen rhywun i sbelio fo allan i mi. A Spong wnaeth hynny.

Ac unwaith mae rhywun wedi deall, ac wedi deall mai’r nod yw dehongli’r gwirioneddau mytholegol yn y stori yn hytrach na chwilio’n ofer am wirioneddau llythrennol – yna mae hanes bywyd a gwaith Crist yn agor o’r newydd ac mor berthnasol ac erioed yn yr 21G. Mae modd edrych ar y geni, y gwyrthiau a’r atgyfodiad a’u deall mewn cyd-destun ysgrythurol, diwinyddol, dilys, heb eu credu’n llythrennol. Roedd hyn yn gymaint o ryddhad i mi – yn llythrennol.

Credai Spong bod yr eglwys wedi ei chaethiwo i oes o’r blaen ac os oedd hi’n perthyn i oes arall roedd hi’n anorfod ei bod yn marw gyda’r bobl oedd yn cofio’r oes bell honno. A chynigiodd ffordd ymlaen.

Gwnaeth wahaniaeth ymarferol. Credai yn lle merched a phobl hoyw yn yr eglwys ac ordeiniodd ddegau o frodyr a chwiorydd yn offeiriaid yn ei enwad. Gwnaeth ei hun yn wyneb cyhoeddus i farn radical, amhoblogaidd. Daeth yn enw, yn arwr, yn gocyn hitio ac yn elyn i lawer. Ond defnyddiodd y sylw ac oes y teledu a’r we i daflu ei lais hyd yn oed ymhellach.

Ysgrifennodd dros ddwsin o gyfrolau ysgolheigaidd ond hygyrch. Dechreuais i gyda ‘Why Christianity Must Change or Die’. Cystal lle a’r un!

Dwi’n gobeithio fy mod yn dweud pader wrth berson, ond dylai pawb sydd yn dilyn Cristnogaeth 21 ddarllen neu wrando ar Spong. Dechreuwch yma:

https://www.youtube.com/watch?v=JrNJR2bZNdA

…  a dilynwch eich trwynau trwy youtube a thrwy ei lyfrau fesul un.

Dywedodd, ei fod, wrth fynd yn hŷn yn credu’n ddyfnach ond fod ganddo lai o gredoau nac erioed.

Y mantra i mi yw: Rwy’n gweld Duw fel ffynhonnell bywyd sy’n ehangu fy ngallu i fyw; i fyw i’r eithaf. Rwy’n gweld Duw fel Ffynhonnell cariad sy’n fy rhyddhau i garu y tu hwnt i unrhyw rwystr; i garu’n afrad. Rwy’n gweld Duw fel Sylfaen Bod sy’n rhoi’r dewrder i mi i fod y cyfan a alla’i fod. Trwy fyw i’r eithaf rwy’n gwneud y Duw sy’n fywyd yn weladwy. Trwy garu’n afrad rwy’n gwneud y Duw sy’n gariad yn weladwy. Trwy fod y cyfan a alla’i fod rwy’n gwneud y Duw sy’n Sylfaen Bod yn weladwy.

Fe lwyddodd. Gobeithio y cawn ninnau ras i ‘sbelio fo allan’ i’n hoes a’n gwlad ninnau. Diolch amdano.

 

E-fwletin 12 Medi 2021

Pigau’r drain

I’r rhai ohonom sy’n byw ar y tir mae mis Medi yn arwyddo dechrau tymor y torri cloddiau. Dyma’r amser rydyn ni’n troi sylw at y ffiniau sy’n cadw trefn rhwng cae a chae, maes a gwndwn. Mae’r drain, y meiri a’r rhosod gwylltion wedi cael penrhyddid dros yr haf ac mae’r tyfiant blynyddol yn ddrysfa bigog erbyn hyn. Ond cyn rhoi’r peiriannau tocio ar waith rhaid mentro i estyn llaw i ganol pigiadau’r drysni a’r drain i gasglu cynhaeaf cyfoethog o eirin duon bach, mwyar a chriafol.

Pigog a dryslyd yw hi yn Affganistan hefyd – a dweud y lleiaf. Ry’n ni gyd wedi gweld y lluniau truenus o faes awyr Kabul wrth i filoedd geisio ffoi am eu bywydau o flaen milwyr y Taliban. Ry’n ni wedi clywed am ofnau pobl am ddychwelyd i drefn gyfreithiol Islamaidd lem. Ry’n ni wedi clywed am ofnau gwragedd a merched y bydd eu hawliau dynol yn cael eu sathru unwaith yn rhagor. Ac mae pryder am ffyniant economaidd y wlad hefyd wrth i gefnogaeth ryngwladol ddiflannu. Bydd tlodi yn siŵr o ddilyn, fel y mae yn sgil pob rhyfel.

Yr hyn sy’n synnu llawer yw pa mor sydyn y bu goruchafiaeth y Taliban. Dywed rhai sylwebyddion mai un esboniad am hynny yw deisyfiad taer gwerin Affganistan am heddwch ar ôl profi 43 mlynedd o ryfela. Ie, 43 mlynedd nid 20. Mae 43 mlynedd ers i’r coup comiwnyddol yn 1978 ysgogi adwaith gan y llwythau gogleddol, gan ysgogi tanciau Rwsia i groesi’r ffin i gefnogi’r llywodraeth a’r mujahadeen i’w herlid hwythau o’r wlad yn eu tro. Yn sgil hynny daeth y Taliban i rym.

Ddoe nodwyd 20 mlynedd ers cyflafan yr 11 Medi 2001 yn Efrog Newydd a Washington. Ni allwn ond cydymdeimlo â phawb a ddioddefodd ac sy’n parhau i ddioddef o ganlyniad i’r ymosodiad erchyll hwnnw. Ymosodiad 9/11 fu’r sbardun i’r Unol Daleithiau a Phrydain oresgyn Affganistan, wrth gwrs. Roedd y Taliban yn rhoi lloches i derfysgwyr eithafol. Rhaid oedd eu canfod a’u dileu. Codi rhyfel yn erbyn terfysgaeth oedd y gri – fel pe bai modd i ennill y frwydr honno drwy rym arfau.

Mae’r rhyfel honno a’r goresgyniad bellach ar ben. A diddorol oedd sylwi yn ddiweddar ar Jonathan Powell, pennaeth staff Tony Blair rhwng 1995-2007, yn cyfaddef mae colli fu hanes y gynghrair orllewinol. Ond y wers nad sy’n cael ei dysgu, meddai, boed hynny o Affganistan neu o Ogledd Iwerddon, yw nad oes modd gorseddu heddwch mewn gwlad heb yn gyntaf estyn llaw a thrafod gyda’ch gelynion. Dydy treched treisied ddim yn gweithio, meddai. Rhaid i heddwch parhaol fod yn gynhwysol ac mae hynny’n golygu cryn dipyn o gyfaddawdu a cheisio gweld pethau o safbwynt pobl eraill.

Mae’r offeiriad a’r awdur o’r Iseldiroedd, Henri Nouwen yn ein hatgoffa: “Yng Nghrist nid oes gwledydd i’w concro, dim ideolegau i’w gorfodi, dim pobl i’w dominyddu. Nid oes ond plant, menywod a dynion i’w caru”. O ystyried y ddrysfa sy’n wynebu pobl Affganistan y dyddiau yma, sut mae rhoi’r cariad hwnnw ar waith? Edifeirwch a maddeuant oedd y llwybr a ddewiswyd gan Desmond Tutu ac eraill yn Ne Affrica.

Maddeuant. “Beth yw maddau?” gofynnodd Waldo, “Cael ffordd trwy’r drain at ochr hen elyn”. Er mor fentrus a phoenus yw’r dasg, dim ond o wneud hynny y daw ffrwythau cynhaeaf Duw i’n dwylo.