Gan ddilyn trywydd y golofn olygyddol y mis hwn, a hithau hefyd yn Ddydd Gŵyl Dewi, nid drwg o beth fyddai inni edrych o’r newydd ar neges Bardd yr Haf yn ei soned enwog.

Llun: Iestyn Hughes
Cymru 1937
Cymer i fyny dy wely a rhodia, O Wynt, Neu'n hytrach eheda drwy'r nef yn wylofus waglaw; Crea anniddigrwydd drwy gyrrau'r byd ar dy hynt, - Ni'th eteil gwarchodlu teyrn na gosgorddlu rhaglaw. Dyneiddia drachefn y cnawd a wnaethpwyd yn ddur, Bedyddia'r di-hiraeth â'th ddagrau, a'r doeth ailgristia; Rho awr o wallgofrwydd i'r llugoer tu ôl i'w fur, Gwna ddaeargrynfeydd dan gadarn goncrit Philistia: Neu ag erddiganau dy annhangnefeddus grwth Dysg i'r di-fai edifeirwch, a dysg iddo obaith; Cyrraedd yr hunan-ddigonol drwy glustog ei lwth, A dyro i'r difater materol ias o anobaith: O'r Llanfair sydd ar y Bryn neu Lanfair Mathafarn Chwyth ef i'r synagog neu chwyth ef i'r dafarn. R.W.P.