E-fwletin 24 Chwefror 2019

Tŷ fy Nhad

Pedwar deg a phum mlynedd yn ôl i’r mis yma y bu farw’r diweddar D Jacob Davies yn ei gartref yn Y Mans, Alltyblaca.

Dyma labeli gwahanol y gellir eu rhoi ar awdur geiriau cân genedlaethol Merched y Wawr: arweinydd a beirniad eisteddfodau, bardd, darlithiwr, darlledwr, diddanwr, digrifwr, emynydd, golygydd, gwleidydd, hanesydd, llenor, pregethwr, sgriptiwr, storïwr. Gall y rheina i gyd ddisgrifio D. Jacob Davies gan iddo gyfrannu i bob un o’r meysydd. Ond ei gariad cyntaf oedd bod yn weinidog gyda’r Undodiaid.

Dyn llawn hiwmor oedd Jacob. Bu’n gyflwynydd y rhaglen ‘Penigamp’ ar y radio a’r teledu. Roedd y gallu ganddo i ddefnyddio hiwmor a dychan i gyflwyno’i neges, gan wneud hynny yn effeithiol a grymus. Roedd bob amser yn barod i chwerthin ar ei wendidau ei hunan; arwydd o ddyn mawr. Yn wir, fe awgrymodd Cassie Davies unwaith mai Jacob ei hun oedd gwrthrych y storiâu digrif hynny a luniodd ynghylch y cymeriad dychmygol ‘Defi John’. Yr un oedd y D. J. yn Defi John ag yn D. Jacob, meddai hi.

Os oedd yn ddyn mawr o ran doniau, eto, un bychan oedd o ran corffolaeth. Dwedodd unwaith, wrth siarad ar lwyfan, y byddai yn ddigon parod i godi ar ei draed ond byddai hynny ddim yn gwneud fawr o wahaniaeth.

Ganwyd Jacob fel ‘Dyn Bach o’r Wlad’ mewn tyddyn o’r enw Pen-lon ger Tre-groes. Aeth i ysgol y pentref cyn symud i Ysgol Ramadeg Llandysul. Ymfalchïai yng ngwreiddiau ei deulu a’i fod yn sefyll yn nhraddodiad y bardd gwlad. Cafodd nerth pellach wrth edrych ar gewri ei enwad fel Tomos Glyn Cothi, Iolo Morgannwg, Dafi Dafis Castell Hywel a Gwilym Marles. Dyna’r angor. Ac fel hyn y canodd amdanynt ar y don Franconia. Dyma fel y gwelai gwerth a phwrpas chapel ag eglwys.

                                                        Tŷ fy Nhad

Tŷ cyfeillgarwch yw hwn; hafan heddwch ynghanol ystormydd bywyd. Yma deuwn i’n hannog a’n cefnogi wrth ymdrechu byw.

Tŷ rhyddid yw hwn; yn gofalu am urddas a gwerth pob person a phlentyn. Y mae ei bobl yn dyner eu dwylo a charedig eu geiriau, ac nid oes yma erlid ar neb am farn onest.

Tŷ goddefgar yw hwn; a’i lwyfan yn agored i hwyl a chwerthin iach. Gosododd y Meistr arwyddair ar ei aelwyd, “Byddwch lawen a hyfryd…” 

Cymun bendigaid y tŷ hwn yw’r ymchwil wylaidd am y gwirionedd sy’n goleuo ac am y weledigaeth sydd yn ysbrydoli gweithredoedd da.

Tŷ proffwydoliaeth yw hwn a’i ffenestri yn gweld o bell yr hun a fydd pan garo dyn ei gymydog a phan sefydlir y ffydd yn ffaith.

Crud ein breuddwydion yw’r tŷ hwn a llais cariad fydd ei gerddi. Hwn yw gweithdy’r enaid a’i gynnyrch yw cymeriadau mawr a gwasanaeth diflino.

Yn y tŷ hwn y gorffwys pererinion y Ffordd ar eu taith. Yma yr adnewyddant eu hysbryd ac oddi yma yr ânt i gerdded heb ddiffygion a rhodio heb flino.

Preswylydd y tŷ hwn a ddywed, “Deuwch ataf i a mi a esmwythaf arnoch”. Gwyn eu byd preswylwyr y tŷ hwn”. 

 
(Cofiwch am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar 29 a 30 Mawrth yn Aberystwyth ar y thema ‘Dechrau o’r Newydd’. Bydd cyflwyniad theatrig ar y nos Wener, a darlithoedd ar y Sadwrn gyda Cynog Dafis, Arwel Jones, Catrin Williams, Huw Williams a Gareth Wyn Jones. Mae’r manylion llawn ar ein gwefan https://cristnogaeth21.cymru/newyddion/)