Newyddion a Digwyddiadau
Encil C21 Porthaethwy
Rhaglen
10.00 Coffi a chofresru
10.30
Arweiniad a chroeso
Y Parchedig Anna Jane Evans (Cadeirydd Cristnogaeth 21)10.45—11.30
Yr Ysbryd sy’n diwygio ac yn adfywio
Yr Archesgob Andy John11.45—12.30
Yr Ysbryd sy’n gwneud pob peth yn newydd
Y Parchedig Sara Roberts, Bethesda12.45—1.45 Cinio bwffe
2.00—3.30
Yr Ysbryd sy’n creu
Manon Llwyd
Aled Lewis Evans
Cefyn Burgess3.45
Myfyrdod ar ddiwedd yr encilCost yr encil £25.00
Talu ar y diwrnod.
I archebu lle cysylltwch â
Catrin Evans
catrin[dot]evans[at]phonecoop[dot]coop
Ffôn: Dim un dau pedwar wyth 680858Erbyn Mai 28ain
Gan nodi unrhyw anghenion arbennig
(Nifer cyfyngedig, felly y cyntaf i’r felin)Lleoliad
Eglwys y Santes Fair
Ffordd Mona
Porthaethwy
LL59 5EAManylion eglwysi Bro Tysilio – https://bangor.eglwysyngnghymru.org.uk/ficerbrotysilio/
Gwirfoddoli
Cristnogaeth 21
Eisiau dod yn rhan o’r tîm? Eisiau gwneud gwahaniaeth?
Galwad am wirfoddolwyr!!
Mae C21 yn elusen sy’n cynnig llwyfan i ddehongliadau radical, rhyddfrydol a blaengar o’r ffydd Gristnogol a thrwy hynny rydym yn hwyluso trafodaeth gyhoeddus a myfyrdod personol ar agweddau o Gristnogaeth heddiw.
Rydym yn awyddus i ehangu’r tîm sy’n cynorthwyo ei gilydd i arwain a datblygu’r elusen. Rydym yn chwilio yn benodol am unigolion sydd â sgiliau da ym maes technoleg gwybodaeth i roi arweiniad a chefnogaeth i’r swyddogion a’r Pwyllgor Llywio. Byddai sgiliau yn y maes clyweledol hefyd o fantais. Does dim tâl ond fe anrhydeddir unrhyw gostau perthnasol.
Os ydych chi’n meddwl y gallech gyfrannu at ddatblygiad C21 yn y modd hwn neu mewn ffyrdd eraill, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r manylion cyswllt canlynol:
Cristnogaeth21@gmail.com 07966 936297
(Elusen gofrestredig: 1011618).
Adnoddau ar gyfer y Grawys
Adnoddau yn y Gymraeg (a’r Saesneg) ar gyfer y Grawys, gan “Churches Together in Britain and Ireland”
Cliciwch ar y llun i fynd i’r wefan. Mae’r adnoddau Cymraeg (pdf, .docx a hygyrch) ar gael ar waelod y dudalen.
Continue reading → Chwefror 17, 2022Cryfhau mesurau COVID yn sgil Omicron
Diweddariad i’r rheoliadau, 22 Rhagfyr 2021
Papur briffio Cytun
COVID 19 – Papur Briffio – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru | Churches Together in Wales (cytun.co.uk)
Datganiad byr Llywodraeth Cymru
Cryfhau’r mesurau i ddiogelu Cymru wrth i don omicron daro | LLYW.CYMRU
Continue reading → Rhagfyr 22, 2021