Cadw’r Ffydd
- garethioan1
- Mar 9
- 3 min read
Un nodwedd hollbwysig o arddel y ffydd Gristnogol a dilyn Iesu yw cynnal defosiwn personol, sef meithrin a chynnal perthynas â’r Duw byw cariadus. Mae troi naill ochr a threulio amser tawel mewn gweddi a myfyrdod yn hollol ganolog i’n bywyd o ffydd. Mae cydaddoli hefyd yn rhan hanfodol bwysig o’r hyn a wnawn – dod ynghyd, plygu mewn gostyngeiddrwydd, rhyfeddu, moli Duw a chael ein galw i fyw yn ôl ei ewyllys.
‘Byddwch yn weithredwyr y gair’, meddai Iago. Dyma’r ail nodwedd hollbwysig sy’n rhan o fywyd unrhyw un sy’n dilyn Iesu. Mae defosiwn yn golygu tyfu mewn ymwybyddiaeth ddyfnach o’i gariad a cheisio ei fyw yn fwy llawn. Mae’n golygu llawenhau yn y gwirionedd cariadus hwnnw, gan fynd â’r neges honno i’r byd a gweithio i greu byd lle mae cariad yn teyrnasu.
A ninnau newydd ddathlu gŵyl ein nawddsant cawn ein hatgoffa mai dyma’r ffordd a ddangoswyd i ni gan Dewi a’r seintiau eraill a droediodd tir Cymru bymtheg canrif yn ôl. Roedd y mynachod hynny yn byw bywyd syml o weddi a defosiwn. Roedden nhw’n hollol ymroddedig a disgybledig, yn byw bywyd heddychol, ac yn gofalu am y tlodion. Roeddent yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu egwyddorion y ffydd ac astudio’r ysgrythurau.
Am dros ddwy ganrif, wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, llwyddodd y mynachod hyn i ledaenu’r Efengyl ar draws Cymru, gan fyw a rhannu eu ffydd. Buont yn sefydlu cymunedau, llefydd cysegredig, wedi’u siapio gan yr Efengyl. Roedd cenhadaeth wrth galon yr hyn a wnânt ac mae eu neges a’u dylanwad wedi parhau ar hyd y cenedlaethau.
Oes mae gennym dreftadaeth gyfoethog wedi’i hadeiladu ar seiliau cadarn yr Efengyl ac ar egwyddorion Cristnogol. Ond beth am heddiw?
Fe wyddom am y dirywiad dychrynllyd gyda chapeli’n cau wrth y dwsinau. Ond beth amdanom ni’r ‘ffyddloniaid’ sy’n parhau i gadw’r drysau ar agor? Faint o ddefosiwn a gweddi bersonol sy’n digwydd heddiw tybed? Dwi wedi cael rhai sgyrsiau efo ‘ffyddloniaid’, pobl sydd i’w hedmygu am gadw oedfaon yn gyson mewn cyfnod o ddirywiad, a chael fy syfrdanu o ddeall nad ydynt byth yn gweddïo, heb sôn am agor eu Beiblau.
Oes yna bwyslais ar ddysgu egwyddorion y ffydd, ac astudio’r Ysgrythur heddiw fel y bu?
Oes 'na fentro mas mewn ffydd i helpu’r newynog, y tlodion a’r digartref, ac i groesawi’r dieithryn? A ydym yn gwneud safiad ac yn hyrwyddo neges cyfiawnder a heddwch? Yn sicr mae ‘na eglwysi sy’n gwneud hynny, ond mae llawer iawn nad sy’n gwneud hynny, gyda rhai hyd yn oed yn feirniadol o’r tlodion, y digartref a’r dieithryn.
‘Ubi caritas et amor’. Mae geiriau’r emyn hynafol hon yn rhoi'r neges yn glir i ni, ‘Ble bynnag y mae cariad y mae Duw yno’. Ceir yr un neges glir yn yr hen Eglwys yn Llanfair-ar-y-bryn yn Llanymddyfri lle ffeindiwch chi ffenest fach gul ddinod. Ffenest yw hi lle fyddai’r gwahangleifion gynt yn cael gwylio’r Cymun. Heddiw mae yno ffenest liw, rhodd arbennig gan John Petts i’r Eglwys, i gofio'r gwrthodedig, y dieithryn, y rhai alltud a’r rhai dienw.
Os ewch yno ar brynhawn heulog braf fe welwch olau’r haul yn goleuo’r llawr a bwrdd y Cymun fel fflam goch o liw gwaed a’r ddau air sydd wedi’u cerfio yn y gwydr yn rhoi gorchymyn Duw yng Nghrist i ni heddiw: Car Di…
“Byddwch lawen a chadwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac y welsoch gennyf i. ….a cerddaf y ffordd yr aeth ein tadau iddi".
Llunos Gordon
9 Mawrth 2025
Comentários