‘Paid â gwneud cam â’r estron.’ (Exodus).
Noswyl y dydd olaf o fis Ebrill derbyniodd un o’r ceiswyr lloches sy’n byw yn Arfon wŷs i fynd i swyddfa’r heddlu trannoeth. Wyddai o ddim beth fyddai ei dynged. Roedd o eisoes yn cysylltu’n rheolaidd gyda’r Swyddfa Gartref ond doedd e erioed wedi gorfod cysylltu gyda’r heddlu o’r blaen.
Y bore hwnnw cipiwyd rhai tebyg iddo o bob rhan o Brydain i’r ddalfa yn barod ar gyfer eu hallforio i Rwanda. Ffilmiwyd llawer o’r cyrch hwn a’u ddarlledu’n gyhoeddus i brofi bod y llywodraeth o ddifri. Doedd gan hynny ddim i’w wneud â’r etholiadau lleol oedd yn digwydd y dydd Iau canlynol mae’n debyg.
‘Peidiwch ag anghofio lletygarwch oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion.’ (Hebreaid13:2).
Cristion o argyhoeddiad ydi’r gŵr dan sylw, Cristion sydd wedi ffoi o wlad Fwslimaidd gaethiwus lle mae pob crefydd ar wahân i un gangen o Islam wedi eu gwahardd.
Ymgasglodd tua phymtheg o bobl sy’n perthyn i grwpiau cefnogi lleol y tu allan i swyddfa’r heddlu, rhai yn dod o’u gwaith, i ddangos eu cefnogaeth. Bu’r Aelod Seneddol Hywel Williams yn ceisio holi’r Swyddfa Gartref a chodi cwestiynau.
Wrth gwrs, roedd y ceisiwr lloches wedi dychryn am ei fywyd. Doedd o ddim am i neb dynnu ei lun rhag i’r awdurdodau gartref ddial ar ei deulu agos. Yn ffodus, am y tro, cafodd ei ryddhau ond am ba hyd does neb yn gwybod. Mae llawer o’r ceiswyr lloches hyn yn bobl fregus, amryw ohonynt heb lawer o Saesneg, yn unig iawn ac yn byw mewn ofn.
Mae’r grwpiau cefnogol yn cyfarfod gyda nhw’n wythnosol i sgwrsio, i chwarae gemau ac i drefnu gweithgareddau. Maen nhw hefyd yn codi arian iddyn nhw gael mynediad i gampfa neu’n prynu beiciau fel eu bod yn cael cyfle i ymarfer a bod yn yr awyr iach. Codwyd swm sylweddol yn ddiweddar mewn cyngherddau Cymraeg a drefnwyd gan y mudiad ‘Pobl i Bobl’ yn Pontio.
‘..bum yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf...’ (Mathew 25:35).
Eglwys ym Mangor ydi’r man cyfarfod ac yno mae’r cyfarpar yn cael ei storio. Diolch iddynt. Ond mae aelodau’r grwpiau yn dod o bob cefndir diwylliannol ac ieithyddol. Mae llawer (y mwyafrif efallai) yn ddi-ffydd. Ond feiddiai neb ddweud nad ydyn nhw’n cyflawni Gwaith y Deyrnas – neu beth bynnag y dymunech ei alw.
Pan ddaeth y gŵr allan o swyddfa’r heddlu a mynd i sgwrsio gyda’r cefnogwyr, gafaelodd un yn dynn yn ei law i’w gysuro. Onid oedd honno yn ‘weithred brydferth’ ym mhob ystyr i’r gair?
‘Paid cam drin mewnfudwyr sy’n byw yn eich plith chi. Dylet ti eu trin nhw a dy bobl dy hun yr un fath.’ (Lefiticus, Beibl.net).
Mae llyfr Lefiticus yn llawn gorchmynion rhyfedd ac ofnadwy. Ond wrth ymbalfalu i ddiffinio beth oedd y gwerthoedd gwaraidd priodol i’r genedl ymlynu wrthynt, mae’r gorchymyn hwn yn rhedeg fel llinyn arian trwy’r Hen Destament hyd at y Testament Newydd. Ac mae’n fwy perthnasol heddiw nac erioed.
Alun Ffred
Comments