Cultura Dei
- garethioan1
- Mar 16
- 3 min read
Updated: Mar 17
"Cry 'Havoc!', and let slip the dogs of war", meddai Mark Anthony yn nrama Shakespeare, Julius Caesar. A dyna fu’r gri yn rhy aml yn ddiweddar, fel ag erioed. Mae penawdau’r newyddion yn llawn o’r trychinebau cyfredol – boed hynny yn Wcrain, Gaza, Sudan, Yemen, Syria a degau o lefydd eraill ar draws y byd. Deued heddwch yn ddiymdroi yw ein gweddi.
Ond mae’r platfformau newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol yn llafar iawn ynghylch rhyfeloedd o fath arall hefyd – rhyfeloedd diwylliannol. Brwydr syniadol yw rhyfel ddiwylliannol. Cyfeirio mae’r term at yr ymgiprys parhaus sy’n bodoli rhwng carfannau cymdeithasol, gwahanol eu byd-welediad, i hawlio’r tir moesol mewn cymdeithas. Y nod yw sicrhau bod eu byd-welediad hwy, eu gwerthoedd hwy, eu moeseg hwy, yn lliwio ymwneud cymdeithasol ac yn llywio polisi cyhoeddus.
Mae’r frwydr fel rheol yn cael ei darlunio (a’i gorsymleiddio) yn un ddeuol. Mae’n frwydr rhwng carfannau ceidwadol, ar yr un llaw, sy’n ceisio cynnal yr hyn maen nhw’n ei ystyried yn ‘werthoedd traddodiadol’, a charfannau rhyddfrydig a blaengar (progressive), ar y llaw arall, sy’n ceisio newid y status quo a’r berthynas rym o fewn cymdeithas o blaid pobl sy’n cael eu hymylu, eu hynysu, eu hanwybyddu a'u gormesu gan y drefn hanesyddol. Mae’n densiwn oesol.
Mae’r term yn cylchredeg ers rhyw ganrif ond daeth i’r amlwg yn y degawdau diweddar o ganlyniad i gyhoeddi cyfrol gan y cymdeithasegydd J. D. Hunter o Brifysgol Virginia, Culture Wars: the Struggle to Define America, yn 1991. Dadleuodd Hunter bod cymdeithas yr UDA yn cael ei bolareiddio’n gynyddol o gwmpas rhai pynciau cymdeithasol penodol a bod hynny’n dod yn fwy o nodwedd o fewn y gymdeithas na’r gwahaniaethau sydd rhwng pobl ar sail dosbarth, hil, crefydd neu blaid wleidyddol. Ymysg y pynciau ‘botwm coch’ (hot-button) hyn rhestrodd erthylu, yr hawl i gario drylliau, hawliau pobl hoyw, y defnydd o gyffuriau meddal, sensoriaeth, preifatrwydd a pherthynas yr eglwys a’r wladwriaeth. Mae eglwysi efengylaidd sydd ar adain dde gwleidyddiaeth America wedi bod yn flaenllaw yn hyrwyddo’r ‘brwydrau’ hyn wrth i agweddau rhyddfrydig ennill tir.
Erbyn heddiw mae’r term ‘rhyfeloedd diwylliannol’ wedi lledu i wledydd eraill ar draws y byd. Ac mae’r pynciau wedi amlhau hefyd. Maen nhw bellach yn cynnwys pynciau megis cynhesu byd-eang, brechlynnau, hawliau pobl trawsrywiol a hawliau dynol yn gyffredinol. Fe glywch pleidiau a charfannau ar y dde ym Mhrydain yn aml yn gwisgo lifrai’r ‘rhyfel ddiwylliannol’ i hyrwyddo eu safbwyntiau ceidwadol nhw.
Yn UDA un amlygiad diweddar o’r rhyfeloedd hyn yw ymosodiad yr Arlywydd cyfredol ar bolisïau DEI y wlad honno. Saif yr acronym DEI am diversity, equality and inclusion. Yng ngwledydd Prydain rydyn ni’n fwy cyfarwydd â’r termau ‘cydraddoldeb’ a ‘chyfle cyfartal’ yn y cyd-destun hwn. Byddwn yn sôn am barchu amrywiaeth a sicrhau ein bod yn gynhwysol yn ein hagweddau a’n gweithredoedd. Mae’r etheg honno wedi hen ennill ei phlwyf o fewn ein diwylliant. Fodd bynnag, ymddengys bod hynny’n anathema i’r Arlywydd a’i ddilynwyr. Daw'n gynyddol amlwg mai cynnal unffurfiaeth, anghydraddoldeb a pholisïau sy’n allgau grwpiau di-rym yw’r polisi llywodraethol.
Mae’r Arlywydd a’i ddisgyblion bellach hyd yn oed yn hawlio bod polisïau sy’n ceisio unioni’r dafol rym hanesyddol anghyfartal yn gwahaniaethu’n hiliol yn erbyn pobl gwyn, heterorywiol, cyfforddus eu byd – fel profwyd gydag ymosodiad yr Arlywydd ar bolisïau adfer cydraddoldeb gwladwriaeth De Affrica yn ddiweddar. Yn anffodus, mae lleisiau hyglyw yng ngwledydd Prydain ac yng Nghymru sy’n barod iawn i atseinio safbwyntiau tebyg.
Yn yr iaith Ladin ffurf berthynol (genitive case) ar yr enw ‘duw’ yw dei. Hynny yw, mae’n nodweddu’r hyn sy’n perthyn i dduw (deus). Yn y rhyfel diwylliannol sydd ohoni mae’n hanfodol bod ein heglwysi a’n henwadau a phob un ohonom ni yn gwbl glir ar ba ochr i’r ddadl mae’r diwylliant dwyfol – y cultura dei. A rhag bod unrhyw amheuaeth, nodweddion y diwylliant hwnnw yw cariad, trugaredd, goddefgarwch, cyfiawnder, cydraddoldeb, cynwysoldeb a pharch cyffredin.
O Arglwydd, clyw ein cri!
Gareth Ioan
16 Mawrth 2025
Comments