Yn 1698 gadawodd mintai o Grynwyr Meirionnydd am dalaith Pennsylvania ar gyfandir anferth Gogledd America. ‘Criw Y Bala’, oedd yr ail gwmni o Grynwyr i adael Cymru, yn dilyn ‘Criw Dolgellau’ a oedd wedi mynd un mlynedd ar bymtheg ynghynt.
Roedd y William Penn enwog, breintiedig ei diroedd, yn awyddus i weld Crynwyr o Gymru yn dod ato. Caent gyfle i fyw mewn gwlad ‘newydd’, lle na chaent eu gorfodi i ymuno â byddin, a lle caent ryddid i addoli fel Crynwyr.
Mae Mary, fy ngwraig, yn ddisgynnydd uniongyrchol o’r ymfudwyr hynny, o ardal Y Bala, Penllyn, Meirionnydd. Trwy’r exodus pellach hwn o Feirion collwyd cenhedlaeth o arweinwyr cymdeithas, amaethwyr da oedd yn denantiaid i Stad y Rhiwlas. Roedden nhw’n weddol dda eu byd yn barod, ond yn awyddus i brynu tir a ‘gwella’ eu bywydau ymhellach. Yn ogystal â’r ffermwyr, ymfudodd arweinwyr crefyddol, athrawon, crefftwyr, cyfreithwyr, meddygon a’u tebyg. Bu hyn yn golled fawr i fro gyfan.
Sefydlodd y carfannau o Gymru yn ardal Philadelphia – dinas y ‘Cariad Brawdol’. Mae enwau Cymraeg yn frith o’ch cwmpas yno hyd heddiw – Me(i)rion, Gwyned(d), Penllyn, Bala-Cynwyd, Uwchlan a Brynmawr, i enwi dim ond dyrnaid.
Nid yw teulu Mary’n Grynwyr ers canrifoedd bellach, ond y mae ‘Tŷ Cyfarfod
Gwyned’ ar agor ac yn cyfarfod yn Saesneg. Bedyddwyr America yw’n ‘henwad’ ni heddiw. Mae’n enwad cynhwysol, cartrefol, croesawus a’i gwnaeth hi’n hawdd iawn i mi deimlo’n rhan o’r gynulleidfa.
Bu cyfraniad y Cymry a’u disgynyddion yn amlwg iawn yn hanes America. Mae’r nifer fawr o Gymry (16 allan o 56) a arwyddodd y Datganiad Annibyniaeth yn Philadelphia ym 1776 yn tystio i hynny.
Efallai mai â’r Gweriniaethwyr y cysylltwyd y Cymry yn fwy aml na pheidio dros y blynyddoedd. Donald Trump yw eu hymgeisydd nhw yn y ras am yr Arlywyddiaeth ar 5ed o Dachwedd eleni. Mae’r Trump herfeiddiol nad oes ganddo lawer o barch i’r gwir nac i reswm, fel y meddyliwn ni amdanyn nhw, yn ei gysylltu ei hun ag enwad ceidwadol ‘culach’ Bedyddwyr y De. Mae’r enwad hwnnw yn un y caf i, yn bersonol, anhawster i ddeall llawer o’u hegwyddorion ‘Cristnogol’ trwy ymgyrchu Trump!
Mae ffrindiau Mary a minnau (rhai a fyddai’n debyg o fod yng nghorlan ffrindiau Cristnogaeth 21) bron yn ddieithriad yn cefnogi Kamala Harris, ymgeisydd y Democratiaid. Tyfodd ein ffydd ynddi yn gyson. Eto, mae’r Unol Daleithiau mor fawr a rhanedig. Mae Kamala Harris o leiaf yn ceisio bod yn eirwir a diffuant, ac os oes yna gyfiawnder rydw i’n gweddïo am weld ei amlygu yn y canlyniad.
Yr hyn sydd o ddiddordeb ychwanegol yw bod ein talaith ni, Pennsylvania fawr, bob tro’n allweddol yng nghanlyniad yr etholiad Arlywyddol. Yr ymgeisydd sy’n ennill yma yw’r un sydd fel arfer yn cyrraedd y Tŷ Gwyn.
Rydw bob amser yn gwneud fy ngorau i fyw mewn cariad a chadw’n ffydd. Y tro yma yn yr UDA, i Mary a minnau a miliynau eraill, mae cadw’n gobaith am gyfiawnder yn fyw yn bwysig ryfeddol hefyd.
Edward Morus Jones
27 Hydref 2024
Comments