Eglwysi gwahanol yn UDA Trump
- garethioan1
- Apr 6
- 2 min read
Pa fath o gwestiynau mae eich cynulleidfa chi yn ymdopi â nhw?
“Sut allwn ni ddenu aelodau newydd, ifanc?”
“Faint mae trwsio'r to yn mynd i gostio?”
“Sut allwn ni ddod i adnabod y bobl dlawd yn ein hardal?”
“Pam mae cymaint o bobl ifanc yn byw ar y strydoedd?”
“Beth ydy ein dyletswydd yn Gaza?”
Rhyw 30 o flynyddoedd yn ôl fe sylweddolodd gweinidog Westminster (capel Presbyteraidd) yn Washington DC, fod datblygiadau yn yr ardal yn golygu nad oedd unman ar gael i hybu diwylliant cerddorol y gymuned. Ers rhyw 30 mlynedd, heblaw am gyfnod Cofid, mae nosweithiau jazz wedi eu cynnal yn y capel bob nos Wener a nosweithiau blues bob nos Lun. Mae Capel Westminster ar y map jazz cenedlaethol!
Rydw i’n aelod yn Westminster, lle mae’r aelodau wedi bod yn ffocysu ar anghenion ymarferol ein bywyd dyddiol. Nid ar achubiaeth bersonol neu ar sicrhau lle yn y nefoedd y seiliwyd ein haddoliad na’n bywyd cymunedol. Mae ein ffydd wedi ei sylfaenu ar esiampl a geiriau Crist, sydd yn ein galw i fwydo’r tlawd, i wasanaethu’r rhai sydd mewn angen a’r rhai sydd ar gyrion cymdeithas ac i garu ein cymdogion - pwy bynnag ydyn nhw. Ac yr ydym yn dod i sylweddoli ein bod ni, fel unigolion a chymdeithas, yn rhan o’r broblem!
Mae’n anodd byw yn Washington DC ar hyn o bryd a’r Capitol yn llai na milltir i ffwrdd o’n capel. Mae nifer sy’n mynychu’r eglwys wedi colli ei swyddi dros nos. Mae hanner y gynulleidfa yn bobl ddu. Mae gennym ffoaduriaid, pobl dlawd, pobl hoyw a thraws, a phobl wyn yn ein plith, fel aelodau, blaenoriaid ac arweinwyr.
Ar draws y wlad mae pobl traws yn dathlu ac yn tynnu sylw at eu bodolaeth. Ar y Sul cyntaf o fis Chwefror eleni ein thema oedd ‘Dathlu'r Gymdeithas Traws’. Arweinydd y gwasanaeth oedd Savanah, aelod o’r capel ers dros ugain mlynedd, ac mae hi wedi agor ein llygaid a’n calonnau wrth rannu ei thaith anodd. Mae’n anesmwyth o onest wrth rannu ei phrofiadau.
Roedd nifer o bobl traws y ddinas wedi dod atom y Sul yna i rannu eu profiadau, a’u hofn o beth a fyddai yn digwydd iddynt o dan yr Arlywydd newydd. Fel y dywedodd nifer ohonynt, “Rydym yn gwybod fod y lle yma yn lle saff i ni…” Tybed beth fyddai Crist wedi ei wneud?
Y tu allan i’r capel mae poster 10 troedfedd o hyd yn dangos geiriau ysgytwol Esgob Budde am drugaredd. Y penwythnos nesaf bydd arddangosfa am dlodi ar draws y byd yn cael ei hongian ar y waliau o gwmpas y capel – yng nghanol ein man addoli.
Mae ein capel yn ganolfan fyw – ac oes, mae twll yn y to!
Mae croeso i chi ymuno ar Zoom ar fore Sul. Y ddolen yw: Westminster Presbyterian Church - Jesus, Justice
Mae cynulleidfaoedd crefyddol tebyg i ni ar draws y wlad. Ydych chi wedi clywed am Gristnogion Matthew 25? https://pcUSA.org/Mattew25 neu am y Poor People’s Campaign – sydd wedi ei sylfaenu ar waith a geiriau Martin Luther King ac sydd yn fudiad ecwmenaidd, ar draws enwadau a thraddodiadau crefyddol eraill.
Diolch i Dduw bod eglwysi gwahanol yn America Trump.
Ann Griffith
6 Ebrill 2025
Comments