top of page

Ein ffydd yn y GIG

Ar 5 Gorffennaf 2023 cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch yng Nghadeirlan San Steffan i ddathlu sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) 75 mlynedd ynghynt. Nodwyd yr achlysur gyda seremoni urddasol a gynhaliwyd gan uchel-gynrychiolwyr y wladwriaeth ym mhresenoldeb y frenhiniaeth Brydeinig. Tra gwahanol oedd y gefnogaeth sefydliadol wrth i lywodraeth Clement Attlee sefydlu’r gwasanaeth iechyd newydd ym 1948. Cafwyd gwrthwynebiad gwleidyddol a phroffesiynol chwyrn o gyfeiriadau ceidwadol.


Pensaer y GIG, wrth gwrs, oedd Aneurin Bevan, AS Glyn Ebwy. Mab i löwr oedd Bevan a fu’n gweithio tan ddaear ei hun am rhyw chwe mlynedd cyn iddo gydio mewn gyrfa wleidyddol. Yn sosialydd digymrodedd, disgrifir Bevan gan rai sylwebwyr fel anffyddiwr a dyneiddiwr rhonc. Fodd bynnag, yn ôl ei weddw, Jennie Lee, dydy hynny ddim yn gwneud cyfiawnder â gwerthoedd a daliadau crefyddol ‘amwys’ ei gŵr.


Magwyd Bevan ar aelwyd Anghydffurfiol a Rhyddfrydol. Mae’n wir iddo droi cefn ar draddodiad y capel yn ifanc ac i egwyddorion sosialaidd gael y blaen yn ei feddylfryd. Serch hynny, fe barhaodd ei barch at grefydd a daliadau crefyddol amrywiol pobl eraill gydol ei oes. Mewn araith yn 1959 dywedodd Bevan, “Rydw i’n falch o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’n ddarn o sosialaeth go iawn; mae’n ddarn o Gristnogaeth go iawn hefyd”. Diddorol nodi hefyd mai’r gweinidog Methodistaidd radical, Parch Donald Soper, a lywyddodd wasanaeth coffa Bevan yn dilyn ei farwolaeth yn 1960.


Os mai ‘amwys’ oedd ei ddaliadau crefyddol does dim dau nad oedd yr egwyddorion Cristnogol y bu’n dyst iddyn nhw ar ei aelwyd ac yn y gymdeithas lofaol o’i gwmpas yng Nghwm Sirhowy a maes glo’r De yn ddylanwad ffurfiannol ar yr Aneurin ifanc. Mewn llythyr at olynydd Bevan fel AS Glyn Ebwy, Michael Foot, dywedodd Lee: “Roedd yn ddyneiddiwr mawr. Ei grefydd oedd caru ei gyd-ddyn a cheisio eu gwasanaethu”. Dyna egwyddor Gristnogol sylfaenol, onid e?


Cafodd Bevan ei fodel ar gyfer adeiladu’r GIG gan Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar. Byddai sylfaenwyr y gymdeithas gydweithredol honno, fel Bevan ei hun, yn ymwybodol iawn o arfer yr Eglwys Fore ‘i ddal pob peth yn gyffredin’ ac o bwyslais yr Efengyl Gristnogol ar iachau pawb a hynny’n ddiwahân. Meddai Bevan, “Ni all yr un gymdeithas honni ei bod yn wâr os rhwystrir person sâl rhag cael cymorth meddygol o achos diffyg modd i dalu amdano”.


Mewn cyfweliad teledu diweddar yn dathlu sefydlu’r GIG mynegodd y bardd a’r awdur Michael Rosen ryfeddod y gweddnewidiad a fu i fywydau pobl gyffredin yn sgil sefydlu’r GIG. Oedd, roedd pawb yn bellach yn medru holi am ddoctor, meddai, ond roedd sefydlu’r GIG hefyd yn arwydd bod modd cyflawni unrhyw beth o’i wneud ar y cyd.


Erbyn heddiw mae’r egwyddor greiddiol o ddarparu gwasanaeth meddygol am ddim i bawb ar sail eu hangen wedi dod yn gredo sylfaenol. Nododd y cyn-Ganghellor, Nigel Lawson, rhywdro mai’r GIG oedd y peth agosaf a oedd gan Saeson at grefydd. Wn i ddim am hynny, ond honnir i Bevan ddweud y bydd y GIG yn parhau cyhyd a bod yna bobl â digon o ffydd i ymladd drosti.


Hyd yn hyn, mae’r gefnogaeth i’n GIG rhyfeddol wedi parhau’n gadarn. Ond wrth i fwy a mwy, fel y Bevan ifanc, droi cefn ar Gristnogaeth sefydliadol mae’r cwestiwn yn codi: o ble daw’r egwyddorion i gynnal y ‘ffydd’ a ysbrydolodd Bevan yn y lle cyntaf?


コメント


bottom of page