Efallai na ddylem ganolbwyntio ar Gaza ar draul yr holl ryfeloedd eraill sy’n digwydd ar hyd a lled y byd – rhai hyd yn oed na chlywn fawr ddim amdanyn nhw. Enghreifftiau o’r rheini yw’r rhyfel cartref sy’n datblygu ym Myanmar a’r ymladd sy’n rhygnu ymlaen ers blynyddoedd yn Yemen a Sudan. I’r rhai diniwed sy’n dioddef rhyfel yw rhyfel, a does dim un yn waeth na’i gilydd. Unwaith yn unig y medrwch chi golli eich cartref, ac unwaith yn unig y gall y bomiau lofruddio eich teulu. Ond i ni Gristnogion, mae’r hyn sy’n digwydd yng ngwlad Iesu yn taro’n boenus o agos at adref – ac yn codi pob math o gwestiynau.
Bellach, mae gwledydd eraill a’r Llys Iawnderau Rhyngwladol, wedi tynnu sylw at y tor-cyfraith difrifol sy’n digwydd yn Gaza. Maen nhw wedi mynnu bod Benjamin Netanyahu ac arweinydd Hamas, Ismail Haniyeh, yn wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyfel. Mae hyd yn oed yr UDA fawr wedi ei hysgwyd i awgrymu y gallai dorri ar yr arfau y mae’n eu harllwys i grombil peiriant rhyfel Israel. Ond mae ymateb Netanyahu, hyd yn hyn, yn parhau mor drahaus a phenderfynol ag erioed: “Mi awn ni ymlaen â’r bomio hyd yn oed os bydd raid inni wneud hynny ar ein pennau ein hunain”. Mae Prif Weinidog Israel fel pe bai wedi cloi ei hun mewn byncar i barhau’r rhyfel doed a ddelo, beth bynnag yw barn y byd.
Fel cefnlen i’r drychineb a’r lladd sy’n digwydd yn Gaza a mannau eraill, mae mwy a mwy o sôn a thrafod am hiliaeth, a’r cynnydd mewn hiliaeth ar hyd a lled y byd. Gellir mynd mor bell a dweud mai hiliaeth sydd wrth wraidd pob rhyfel – hynny yw, casineb rhwng gwledydd â’i gilydd, neu gasineb rhwng crefyddau gwahanol, neu gasineb sy’n codi o wahaniaethau diwylliannol a gwleidyddol.
Ond peth cymharol ddiweddar yw cymhwyso’r syniad o hiliaeth at ragfarn yn erbyn grwpiau gwahanol o bobol – ac yn hyn o beth gallwn ni fel Cymry honni ein bod wedi dioddef o hiliaeth ers cenedlaethau. Mater mwy dadleuol – ac anghyfforddus i ni’r Cymry – yw’r posibilrwydd ein bod ninnau yn gallu bod yn euog o hiliaeth yn ein hagwedd tuag at Saeson.
Y perygl yn hyn oll yw bod cyhuddo rhywun o hiliaeth yn gallu tynnu oddi wrth feirniadaeth deg o agweddau gwrthun. Mae lle i ofni fod pobol fel Netanyahu yn Israel wedi cael rhyddid i ddatblygu eu hagweddau gormesol tuag at y Palestiniaid oherwydd bod unrhyw feirniadaeth ohonynt wedi cael ei weld fel hiliaeth a gwrth-semitiaeth. A dyma ble mae gofyn inni fod yn dra gofalus a thynnu llinell glir rhwng beirniadaeth gyfiawn ar y naill law a beirniadaeth sy’n codi o ragfarn hiliol ar y llaw arall.
Yn fy marn i, mae Jeremy Corbyn, er enghraifft, wedi cael ei bardduo heb reswm digonol; a hynny yn bennaf am ei fod wedi sefyll dros hawl Palesteina i gael ei thrin fel gwladwriaeth annibynnol. Ar y llaw arall, wrth gwrs, mae agwedd Hamas yr un mor unllygeidiog tuag at hawl Israel i fod yn wladwriaeth annibynnol. Ond nid mater o hiliaeth yw hyn, ond mater o gyfiawnder sylfaenol, ac y mae’n dda bod y Llys Iawnderau Rhyngwladol bellach wedi ymyrryd yn y sefyllfa dorcalonnus yn y Dwyrain Canol.
Yn nes adref, clywyd awgrym bod y feirniadaeth ar rai o benderfyniadau Prif Weinidog newydd Cymru yn deillio o agweddau hiliol. Dylid ymwrthod â’r fath gam-resymu gan ei fod yn tynnu oddi wrth ein hawl i feirniadu gwleidyddion heb ystyried lliw croen na chrefydd na chefndir personol. Gwers Iesu yn un o’i ddamhegion pwysicaf oedd na ddylem ragfarnu yn erbyn neb, boed yn Lefiad a gerddodd heibio’r claf, neu’r Samariad a blygodd i’w ymgeleddu. Dewisodd Iesu un o blith y bobol fwyaf dirmygedig i fod yn arwr ei stori, a hynny’n gwbl fwriadol, er mwyn ein rhybuddio rhag y pechod peryglus o ragfarnu yn erbyn pobol ar sail eu hil, eu crefydd, neu liw eu croen.
Dafydd Iwan
Комментарии