top of page
Search

Sul y Blodau

  • cristnogaeth21
  • 17 hours ago
  • 2 min read

 

Sul y Blodau : uchafbwynt y gwrthdaro.

Mae gweddill yr wythnos yn dangos y canlyniad.

 

Dyma ddyddiau’r llygredd,y gormes a’r ecsploitio. Roedd Iesu wedi treuio’i oes yng Nghalilea . Fe wyddai yn iawn sut yr oedd pethau- dyma’r ffordd yr oedd y tlawd a’r gwan yn byw. Jeriwsalem oedd yn rheoli bywyd pobl, yn hawlio eu harian, fel nad oedd dim ar ôl ond eu darn o dir - a hyn drwy rym y fyddin gryfaf yn y byd.Roedd y Drefn yn meddiannu’r tir a deuai’r bobl, nifer yn weddwon ac amddifad, yn dod yn gaethweision.Roedd y weddw yn talu yr hyn oedd ganddi - ei dwy hatling - ond doedd bywyd y cyfoethog yn newid dim.( Marc 12.44 )Nid yn unig yr oedd Galilea yn cael ei ecsploitio, roedd yn cael ei thrin fel pyped hefyd.Bywyd tawel oedd dymuniad llawer o’r bobl,  ond roedd rhai yn barod i gyd weithio â’r awdurodau ac roedd protestwyr yn cael eu cosbi. Roedd eraill yn diflannu.

Roedd angen deffro’r bobl oherwydd nid Galilea yn unig oedd yn dioddef gormes.Roedd angen chwyldro i droi y byd a’i ben i lawr.

Fe gymerodd amser i Iesu weld beth oedd yr angen.Gwnaeth ei hun yn agored i ddoethineb merched (Marc 7.24 ), i bresenoldeb dieithriaid (Mathew 25.35 ) ac i ystyr yr afiechydon o’i gwmpas.

 

Yna, daw wyneb yn wyneb, â’r gyfundrefn lwgwr hon  sy’n cydweithio â’r grym militaraidd. Caiff gyhoeddusrwydd wrth ddod i mewn i’r ddinas, ond nid os unrhyw fygythiad yn ei ddyfodiad – mae’n dangos ar ochr pwy y mae ond ni  fyddai hynny yn dychryn y grymoedd sydd mewn awdurdod.( Marc 11.7 ) Ond mae’n mynd yn rhy bell wrth fynd i galon y ddinas.  Mae’n chwilio am y rhai sydd ynghlwm â’r gyfundrefn ac yn  elwa arni a daw  a’r peiriant gwleidyddol i stop – y peiriant sy’n llawn trachwant ac yn defnyddio crefydd fel twyll ysprydol yn y deml. Mae’n gyfundrefn sy’n allanol  ddeniadol,barchus,  ond yn llygredig oddi fewn.(Marc 11.16 )

 

Mae gan Iesu weledigaeth ddwyfol sy’n ymwrthod yn llwyr â byd sy’n llygru, yn dinistrio’n araf yr  harddwch, y galon, y prydferthwch anghymarol, y tynerwch a’r hyfrydwch sydd yn ein cread.Mae ganddo weledigaeth o gytcord ,cydweithio a chyd-ddeall yn hytrach na chystadleuaeth, rhaniadau, ymwrthod a gwrthdaro. Mae’n weledigaeth ple mae briwiau y gyfundrefn hon yn cael eu hiachau; difrod a dryswch salwch meddwl yn cael ei wella trwy ofal a chefnogaeth a chyfeillgarwch; cyfartaledd a thegwch rhwng merched a dynion; y rhai o hil a chefndir gwahanol – i gyd yn rhan o fyd newydd ,gwahanol.

 

Nid yw’r byd heddiw yn wahanol.’Ewch i Galilea’, meddai’r negesydd,’ yno fe gewch ei weld, nid yma yn y bedd.’

 

John P. Butler.

 

 

 
 
 

Comments


bottom of page